Dewiswch eich iaith
Mae’r rôl yn galw am feddwl annibynnol, cyfraniad adeiladol at drafodaethau strategol, uniondeb ac ymrwymiad cadarn i gydraddoldeb, cynhwysiant a’r Gymraeg. I ddysgu rhagor, ewch i wefan Penodiadau Cyhoeddus Llywodraeth Cymru.
Mae gan gyflogwyr gyfrifoldeb cyfreithiol i sicrhau mai dim ond ymarferwyr cofrestredig sy’n cael eu cyflogi i wneud gwaith sy’n benodol i’w categori cofrestru.
Hwn yw'n clwb llyfrau a chyfnodolion i helpu ein cofrestreion i wneud y mwyaf o’u mynediad am ddim i lyfrgell ymchwil addysg fwyaf y byd, EBSCO. Dysgwch fwy neu tanysgrifiwch i’n rhestr bostio.
Yn yr adran hon, gallwch ddarllen ein cynlluniau a’n hadroddiadau sy’n dangos sut rydym ni’n cyflawni ein prif nodau, sef:
Mae ein Cynllun Strategol 2025-28 yn amlinellu ein gweledigaeth, sef bod yn rheoleiddiwr proffesiynol, annibynnol, dibynadwy sy’n gweithio er budd y cyhoedd i gynnal proffesiynoldeb a gwella safonau yn y gweithlu addysg yng Nghymru. Mae’n amlinellu’r blaenoriaethau a’r amcanion a fydd yn ein helpu i wireddu’r weledigaeth hon a’r gwerthoedd a fydd wrth wraidd ein hymagwedd dros y tair blynedd nesaf.
Darllenwch ein Cynllun Strategol 2025-28.
Rydym ni’n ymrwymo i gydraddoldeb ac amrywiaeth ac am chwarae ein rhan i greu Cymru decach. Mae ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol yn amlinellu sut byddwn ni’n cofleidio ein rôl wrth hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, o fewn ein sefydliad ac (o fewn ein cylch gwaith) ar draws y gweithlu addysg ehangach yng Nghymru.
Darllenwch ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2024-28 .
Mae ein Hadroddiad Blynyddol yn cynnig trosolwg cynhwysfawr o’n cynnydd a’n heffaith dros y flwyddyn ariannol ddiwethaf ac mae’n amlygu rhai o’n cyflawniadau allweddol. Hefyd, mae’n esbonio ein llywodraethiant, ein hadnoddau ariannol a’n cynlluniau at y dyfodol.
Darllenwch ein Hadroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2024/25
Rydym ni’n cyhoeddi adroddiad priodoldeb i ymarfer blynyddol sy’n amlinellu:
Darllenwch ein Hadroddiad Blynyddol Priodoldeb i Ymarfer 2024/25
Rydym ni’n cyhoeddi adroddiad blynyddol ar gydraddoldeb sy’n amlygu’r cynnydd a wneir bob blwyddyn tuag at gyflawni ein hamcanion cydraddoldeb.
Darllenwch ein Hadroddiad Blynyddol ar Gydraddoldeb 2024/25
Mae’r adroddiad hwn yn darparu gwybodaeth am sut rydym ni wedi cydymffurfio ac mae’n amlinellu sut rydym ni wedi gweithredu’r safonau.
Darllenwch ein Hadroddiad monitro blynyddol Safonau’r Gymraeg 2024/25
Darllenwch fwy am sut rydym ni’n cydymffurfio â Safonau’r Gymraeg.
Mae'r Cyngor yn cyfarfod yn gyhoeddus dair gwaith y flwyddyn.
Mae croeso i unrhyw aelod o'r cyhoedd, gan gynnwys ymarferwyr addysg, ddod i arsylwi ar un o gyfarfodydd y Cyngor. I gael rhagor o wybodaeth ac i fynegi eich diddordeb mewn dod i gyfarfod,
Cynhelir cyfarfod nesaf y Cyngor ddydd Iau 19 Mawrth 2026.
Nodwch y gellid newid dyddiadau cyfarfodydd y Cyngor yn y dyfodol.
Mae gan y Cyngor 14 o aelodau, gan gynnwys y Cadeirydd. Mae'r aelodau'n cynrychioli ystod o ddiddordebau ar draws y gweithlu addysg yng Nghymru.
Penodir saith aelod yn uniongyrchol drwy broses penodiadau cyhoeddus Llywodraeth Cymru, a phenodir saith aelod yn dilyn enwebiadau a wnaed gan sefydliadau a enwir yn Atodlen 2 o Reoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Aelodaeth a Phenodi) (Cymru) 2014. Mae tri swydd wag ar gyfer aelodau a benodir yn uniongyrchol ar hyn o bryd.
Cychwynnodd y Cyngor presennol ar eu swyddi ar 1 Ebrill 2023.

Ganed Geraint Williams ym Merthyr Tudful, sydd hefyd yn gartref iddo, ac mae’n Bennaeth a Phrif Weithredwr Coleg Catholig Dewi Sant, Caerdydd. Yn flaenorol rodd yn athro gwyddoniaeth ac uwch arweinydd yno, gyda chyfrifoldeb am lywodraethiant, diogelu, lles a gofal bugeiliol y coleg.
Mae wedi gweithio mewn lleoliadau uwchradd ac addysg bellach yn ystod ei yrfa. Ar ôl graddio mewn cemeg o Brifysgol Caerdydd, aeth Geraint ymlaen i gwblhau cymhwyster TAR ac, yna, MA mewn Addysg ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.
Mae Geraint yn Lywydd ac Ysgrifennydd Cynorthwyol ar gyfer rhanbarth Caerdydd yr Undeb Addysg Cenedlaethol, wedi iddo fod yn gynrychiolydd y gweithle am saith mlynedd.
| Cyflogaeth bresennol | Coleg Catholig Dewi Sant, Caerdydd |
| Cyflogaeth flaenorol | dd/b |
| Perchnogaeth/rhan-berchnogaeth busnes(au) | dd/b |
| Gwaith ymgynghori neu gontract | Arholwr a Safonwr, CBAC |
| Aelodaeth corff llywodraethu ysgol/coleg | dd/b |
| Aelodaeth undeb llafur | Yr Undeb Addysg Cenedlaethol, Aelod Lleyg - rhanbarth Caerdydd |
| Aelodaeth o gyrff cyhoeddus erail | Aelod o'r Gymdeithas Gemeg Frenhinol |
| Rhoddion a lletygarwch | dd/b |
| Unrhyw ddatganiad arall | dd/b |
Mae David Edwards Uwch Arweinydd profiadol iawn yn Hereford Church of England Academy. Mae wedi ei gyflogi gan yr academi am yr 15 mlynedd diwethafr. Yn ystod ei yrfa, mae wedi gweithio mewn lleoliadau cynradd ac uwchradd.
Mae David yn angerddol am sicrhau cydraddoldeb ar gyfer holl aelodau'r gymuned ysgol, waeth bynnag fo'u hil, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, neu gefndir economaidd. Mae'n ganddo diddordeb penodol mewn ymarfer a hysbysir gan drawma i gefnogi pobl ifanc gyda phrofiadau plentyndod anffafriol.
Mae wedi treulio nifer o flynyddoedd yn addysgu yn Ne Affrica yn y system addysg gwladol yn Durban a Cape Town.
Mae David yn Arweinydd Arbenigol Addysg yn Lloegr, ac yn Arweinydd y Dyfodol yr Adran Addysg.
| Cyflogaeth bresennol | The Hereford Church of England Academy |
| Cyflogaeth flaenorol | Uwch Ddirprwy Bennaeth, Ysgol Uwchradd Gwernyfed |
| Perchnogaeth/rhan-berchnogaeth busnes(au) | dd/b |
| Gwaith ymgynghori neu gontract | dd/b |
| Aelodaeth corff llywodraethu ysgol/coleg | dd/b |
| Aelodaeth undeb llafur | Cymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau (ASCL) |
| Aelodaeth o gyrff cyhoeddus erail | Ynad Cymwys, Llys Ynadon Caerdydd, 2006-presennol |
| Rhoddion a lletygarwch | dd/b |
| Unrhyw ddatganiad arall | dd/b |

Mae Kelly Edwards wedi gweithio ym maes addysg, ar draws amrywiol sectorau, ers ugain mlynedd. Buodd yn athrawes Saesneg yn y sector uwchradd, cyn cymhwyso i fod yn gynghorydd gyrfaoedd. Gorffenodd ei MA mewn Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol ym Mhrifysgol Cymru Casnewydd yn 2011.
Treuliodd naw mlynedd mewn amrywiol swyddogaethau ym maes addysg uwch yn hen Brifysgol Cymru, Casnewydd a Phrifysgol Morgannwg a Phrifysgol De Cymru, fel rheolwr prosiect, arweinydd rhaglenni ac uwch ddarlithydd ym maes dysgu seiliedig ar waith. Wedyn, symudodd i'r sector dysgu oedolion yn y gymuned i fod yn uwch ymchwilydd a swyddog polisi yn yr hen WEA YMCA CC Cymru.
Ymunodd Kelly â Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru i fod yn Bennaeth Ansawdd Dysgu Seiliedig ar Waith yn 2016, gyda chyfrifoldeb strategol dros arwain y gwaith o wella ansawdd ar draws y sector dysgu seiliedig ar waith yng Nghymru. Ar hyn o bryd mae’n Gyfarwyddwr Datblygiad Colegau Cymru, yn gyfrifol am arwain y datblygiad o brosiectau sy’n cefnogi codiad a chyfoethogiad cyfarpar AB.
| Cyflogaeth bresennol | Colegau Cymru |
| Cyflogaeth flaenorol | NTfW |
| Perchnogaeth/rhan-berchnogaeth busnes(au) | dd/b |
| Gwaith ymgynghori neu gontract | dd/b |
| Aelodaeth corff llywodraethu ysgol/coleg | dd/b |
| Aelodaeth undeb llafur | dd/b |
| Aelodaeth o gyrff cyhoeddus erail | dd/b |
| Rhoddion a lletygarwch | dd/b |
| Unrhyw ddatganiad arall | dd/b |

Dechreuodd Theresa Evans-Rickards weithio ym maes addysg trwy waith gwirfoddol yn y trydydd sector gyda’r Geidiau, yna trwy weithio mewn canolfannau ieuenctid cyn dechrau ar ei gyrfa fel athrawes. Bu’n athrawes Astudiaethau Busnes, TGCh a Chyfrifiadura mewn nifer o ysgolion uwchradd yng Nghymru a Lloegr, gan ddod yn bennaeth cyfadran ac yn uwch arweinydd.
Yn 2010, daeth Theresa yn ymgynghorydd TGCh a Chyfrifiadura ar draws Torfaen a Sir Fynwy, yna dwy flynedd yn y Consortiwm Rhanbarthol. Yn 2014, symudodd i’r sector ADY gan ddod yn Ddirprwy Bennaeth Ysgol Arbennig 3-19 oed. Ochr yn ochr â hyn, datblygodd a rheolodd Teresa Wasanaeth Ymarfer Cynhwysol Awdurdod Lleol, gan gefnogi ysgolion prif ffrwd, ac enillodd TAR ychwanegol ac MA mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth Addysg.
Mae Theresa yn Gadeirydd Cymdeithas Dirprwy Benaethiaid Ysgolion Arbennig De Cymru, sy'n rhoi cyfleoedd i ddatblygu cydweithredu ym maes arweinyddiaeth ar draws y sector. Daeth yn arolygydd cymheiriaid ar gyfer y sector ADY yn 2018. O ganlyniad i’w gwaith dros y degawd diwethaf, mae Theresa wedi dod yn lladmerydd ADY a’r athrawon a’r staff cymorth sy’n gweithio yn y sector hwnnw.
| Cyflogaeth bresennol | Dirprwy bennaeth, Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent |
| Cyflogaeth flaenorol | Pennaeth Gweithredol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent Cynghorydd TGCh, Cyfrifiadura, a Chymhwysedd, Gwasanaeth Cyflawni Addysg De Ddwyrain Cymru |
| Perchnogaeth/rhan-berchnogaeth busnes(au) | dd/b |
| Gwaith ymgynghori neu gontract | dd/b |
| Aelodaeth corff llywodraethu ysgol/coleg | dd/b |
| Aelodaeth undeb llafur | ASCL (2025-presennol) NAHT (2014-2024) NUT (1998-2014) |
| Aelodaeth o gyrff cyhoeddus erail | Wedi cofrestru gyda CGA |
| Rhoddion a lletygarwch | dd/b |
| Unrhyw ddatganiad arall | dd/b |
Bu Jane yn gweithio fel athrawes, pennaeth ac ymgynghorydd gwella ysgolion yng Nghaerdydd ers dros 30 mlynedd.
Mae Jane wedi treulio ei gyrfa’n gweithio mewn ysgolion dinesig ac mae bob amser wedi cydnabod pwysigrwydd cefnogi lles cymuned gyfan yr ysgol er mwyn sicrhau’r deilliannau gorau i blant. Canolbwyntiodd ei gwaith gyda’r gwasanaeth ymgynghori ar ddatblygu a gweithredu cwricwlwm y Cyfnod Sylfaen, a bu’n lladmerydd cryf erioed dros ddysgu seiliedig ar chwarae a dysgu dilys.
Ers ymddeol, mae Jane wedi bod yn awyddus i fanteisio ar fwy o gyfleoedd i deithio ac mae wedi bod yn gweithio mewn ysgol yn India yn addysgu Saesneg i fyfyrwyr a staff.
| Cyflogaeth bresennol | Wedi ymddeol |
| Cyflogaeth flaenorol | Pennaeth Ysgol Gynradd Moorland, Caerdydd |
| Perchnogaeth/rhan-berchnogaeth busnes(au) | dd/b |
| Gwaith ymgynghori neu gontract | Gwaith ymgynghorol ar gyfer Partneriaeth Dysgu Cymru Athro cyflenwi ar gyfer Cyngor Caerdydd trwy Caerdydd ar Waith |
| Aelodaeth corff llywodraethu ysgol/coleg | dd/b |
| Aelodaeth undeb llafur | NEU (1989-presennol) |
| Aelodaeth o gyrff cyhoeddus erail | dd/b |
| Rhoddion a lletygarwch | dd/b |
| Unrhyw ddatganiad arall | dd/b |

Ganed Geraint Williams ym Merthyr Tudful, sydd hefyd yn gartref iddo, ac mae’n Bennaeth Coleg Catholig Dewi Sant, Caerdydd. Yn flaenorol rodd yn athro gwyddoniaeth ac uwch arweinydd yno, gyda chyfrifoldeb am lywodraethiant, diogelu, lles a gofal bugeiliol y coleg.
Mae wedi gweithio mewn lleoliadau uwchradd ac addysg bellach yn ystod ei yrfa. Ar ôl graddio mewn cemeg o Brifysgol Caerdydd, aeth Geraint ymlaen i gwblhau cymhwyster TAR ac, yna, MA mewn Addysg ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.
Mae Geraint yn Lywydd ac Ysgrifennydd Cynorthwyol ar gyfer rhanbarth Caerdydd yr Undeb Addysg Cenedlaethol, wedi iddo fod yn gynrychiolydd y gweithle am saith mlynedd.
| Cyflogaeth bresennol | Prifysol Metropolitan Caerdydd |
| Cyflogaeth flaenorol | Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant y Coleg, Merthyr Tudful Ltd |
| Perchnogaeth/rhan-berchnogaeth busnes(au) | dd/b |
| Gwaith ymgynghori neu gontract | Arholwr, Pearson Education Arholwr, CBAC Tiwtor, Wolsey Hall, Rhydychen |
| Aelodaeth corff llywodraethu ysgol/coleg | Llywodraethwr Awdurdod addyg lleol, Ysgol Gynradd Newton, Porthcawl Llywodraethwr Cymunedol, Ysgol Uwchradd Cyfarthfa, Merthyr Tudfil (yn flaenorol) |
| Aelodaeth undeb llafur | UCU |
| Aelodaeth o gyrff cyhoeddus erail | dd/b |
| Rhoddion a lletygarwch | dd/b |
| Unrhyw ddatganiad arall | dd/b |
Kathryn yw Prif Weithredwr Addysg Oedolion Cymru. Mae Kathryn wedi gweithio yn y sector addysg ôl-16 ers dros 20 mlynedd ac mae wedi datblygu llawer o bartneriaethau i helpu ehangu addysg bellach a dysgu oedolion yn y gymuned.
A chanddi gefndir mewn Rheoli Adnoddau Dynol, mae Kathryn yn Aelod Siartredig o’r CIPD ac mae ganddi gymhwyster Rheoli AD ôl-raddedig o Athrofa Addysg Uwch Abertawe. Mae’n aelod o Fforwm Penaethiaid Colegau Cymru ynghyd â’u Pwyllgor Archwilio, ac mae hefyd yn aelod o Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC). Mae Kathryn yn ymwneud yn weithgar â datblygu mentrau cydraddoldeb hiliol ac mae’n Aelod Bwrdd o Gyngor Hil Cymru.
Mae gan Kathryn ddiddordeb brwd yn y buddion iechyd a lles sy’n gysylltiedig ag addysg oedolion, ac mae’n gweithio’n weithgar gyda’r Rhwydweithiau Rhagnodi Cymdeithasol ar draws pob rhanbarth. Mae’n lladmerydd dysgu gydol oes i bobl o bob oedran, ac mae wedi ymgymryd â rôl llywodraethwr ysgol ar draws addysg gynradd ac uwchradd trwy gydol ei gyrfa.
| Cyflogaeth bresennol | Prif Weithredwr, Addysg Oedolion Cymru |
| Cyflogaeth flaenorol | Cyfarwyddwr Gwasanaethau Staff a Dysgwyr, Coleg Sir Penfro |
| Perchnogaeth/rhan-berchnogaeth busnes(au) | dd/b |
| Gwaith ymgynghori neu gontract | dd/b |
| Aelodaeth corff llywodraethu ysgol/coleg | dd/b |
| Aelodaeth undeb llafur | dd/b |
| Aelodaeth o gyrff cyhoeddus erail | Ymddiriedolwr ac Aelod Bwrdd, Race Council Cymru Aelod o Cymdeithas yr Iaith Aelod o Bwyllgor Archwilio, Colegau Cymru Aelod o Fforwm Penaethiaid, Colegau Cymru Aelod, Sefydliad Dysgu a Gwaith Aelod o Gyngor Partneriaeth y Trydydd Sector, WCVA Aelod o'r tri Chyngor Dysgu a Sgiliau Rhanbarthol yng Nghymru Aelod Siartredig o'r CIPD Cynrychiolydd CYflogwyr ar Gyngor Partneriaeth Cymdeithasol |
| Rhoddion a lletygarwch | dd/b |
| Unrhyw ddatganiad arall | dd/b |

Mae Nicola Stubbins wedi gweithio mewn gwasanaeth cyhoeddus ers 1995. Dechreuodd ar ei gyrfa mewn gofal cymdeithasol fel Gweithiwr Cymorth Iechyd Meddwl, ac mae ganddi ystod eang o brofiad ar draws gofal cymdeithasol plant ac oedolion, addysg, tai, a digartrefedd. Mae gan Nicola Ddiploma mewn Gwaith Cymdeithasol a Gradd meistr mewn Gofal Cymdeithasol.
Mae Nicola wedi dal swyddi arwain uwch mewn llywodraeth leol am 17 mlynedd ac ar hyn o bryd mae'n Gyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol ac Addysg ar gyfer Cyngor Sir Ddinbych.
Mae Nicola yn Ysgrifennydd Anrhydeddus Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru, ar ôl bod yn Lywydd yn ystod 2020-21. Mae hi hefyd yn Aelod o Fwrdd RYA Cymru Wales.
| Cyflogaeth bresennol | Cyfarwyddwr Corfforaethol, Gwasanaethau Cymdeithasol ac Addysg, Cyngor Sir Ddinbych |
| Cyflogaeth flaenorol | Pennaeth Diogelu a Lles Oedolion, Cyngor Blackpool |
| Perchnogaeth/rhan-berchnogaeth busnes(au) | dd/b |
| Gwaith ymgynghori neu gontract | dd/b |
| Aelodaeth corff llywodraethu ysgol/coleg | dd/b |
| Aelodaeth undeb llafur | UNISON |
| Aelodaeth o gyrff cyhoeddus erail | Aelod Bwrdd Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru RYA Cymru/Wales |
| Rhoddion a lletygarwch | dd/b |
| Unrhyw ddatganiad arall | dd/b |

Gwawr Taylor yw Ysgrifennydd y Brifysgol a Chyfarwyddwr y Gymraeg ar gyfer Prifysgol Aberystwyth. Mae hi’n arwain ar lwyodraethiant y brifysgol, cydymffurfiaeth sefydliadol, yn arbennig o ran rheoli gwybodaeth, iechyd, diogelwch a’r amgylchedd, cydymffurfiaeth fisas myfyrwyr, cydymffurfiaeth y Gymraeg, gan gynnwys yr adran gyfieithu, a’r ddarpariaeth dysgu Cymraeg.
Yn flaenorol roedd Gwawr yn Ysgrifennydd y Cwmni ar gyfer Coleg Merthyr Tudful, a Tydfil Training Consortium, ac mae hi wedi arwain darpariaeth Gymraeg yn y sectorau addysg uwch ac addysg bellach. Roedd hi hefyd yn aelod o Gyngor yr Eisteddfod Genedlaethol ac yn lywodraethwr awdurdod lleol yn Ysgol Gynradd Dyffryn Cledlyn yng Ngheredigion.
| Cyflogaeth bresennol | Ysgrifennydd y Brifysgol a Chyfarwyddwr y Gymraeg, Prifysgol Aberystwyth |
| Cyflogaeth flaenorol | Ysgrifennydd Cynorthwyol Prifysgol, Prifysgol De Cymru |
| Perchnogaeth/rhan-berchnogaeth busnes(au) | dd/b |
| Gwaith ymgynghori neu gontract | dd/b |
| Aelodaeth corff llywodraethu ysgol/coleg | Llywodraethwr Awdurdod Lleol, Ysgol Dyffryn Cledlyn |
| Aelodaeth undeb llafur | dd/b |
| Aelodaeth o gyrff cyhoeddus erail | dd/b |
| Rhoddion a lletygarwch | dd/b |
| Unrhyw ddatganiad arall | dd/b |
Dechreuodd Sue ei gyrfa addysgu yn Llundain yn gweithio i'r ILEA. Ar ôl symud yn ôl i Gymru, bu’n gweithio mewn ysgolion yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr cyn cael prifathrawiaeth yn Abertawe. Roedd hi hefyd rhan o un o'r carfanau cyntaf i fynd am gymhwyster Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth (CPCP). Wrth symud i'r gwasanaeth cynghori, aeth Sue yn ôl i hen ardalm Morgannwg Ganol ac yno arhososdd nes symud i gyngor Rhondda Cynon Taf fel swyddog gwella ysgolion yn 2011. Yn 2017 dechreuodd ei rôl bresennol fel Cyfarwyddwr Addysg Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful.
| Cyflogaeth bresennol | Cyfarwyddwr Addysg Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful |
| Cyflogaeth flaenorol | Pennaeth Gwasanaeth Gwella'r Ysgolion Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf |
| Perchnogaeth/rhan-berchnogaeth busnes(au) | dd/b |
| Gwaith ymgynghori neu gontract | dd/b |
| Aelodaeth corff llywodraethu ysgol/coleg | Bwrdd Llywodraethwyr/Cyfarwyddwyr Y Coleg, Merthyr Tudful |
| Aelodaeth undeb llafur | GMB (2025-presennol) Prospect (2007-2024) NAHT (1991-2007) NUT (1985-1991) |
| Aelodaeth o gyrff cyhoeddus erail | dd/b |
| Rhoddion a lletygarwch | dd/b |
| Unrhyw ddatganiad arall | dd/b |

Mae David Williams wedi bod yn ymwneud â gwaith ieuenctid ers ei fod yn 17 oed, fel gwirfoddolwr, ac ar hyn o bryd mae’n rheoli Gwasanaeth Ieuenctid Torfaen. Mae’n gyfrifol am oruchwylio’r tîm arweinyddiaeth sy’n rheoli’r gwasanaeth o ddydd i ddydd, a gosod y cyfeiriad strategol.
Mae David yn aelod o’r Bwrdd Gweithredu Strategaeth Gwaith Ieuenctid, sy’n gweithio i weithredu’r Strategaeth gwaith ieuenctid i Gymru, gan gadeirio'r is-grŵp gweithredu Pobl Ifanc yn Ffynnu. Mae David yn ymddiriedolwr elusen Life Trust Cardiff, sy’n rhan weithredol o ddarparu ystod eang o wasanaethau cymorth yn y gymuned leol.
| Cyflogaeth bresennol | Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen |
| Cyflogaeth flaenorol | Cyngor Bwrdeistref Sirol Casnewydd |
| Perchnogaeth/rhan-berchnogaeth busnes(au) | dd/b |
| Gwaith ymgynghori neu gontract | dd/b |
| Aelodaeth corff llywodraethu ysgol/coleg | dd/b |
| Aelodaeth undeb llafur | dd/b |
| Aelodaeth o gyrff cyhoeddus erail | Ymddiriedolwr Elusen Gofrestredig yr Hwb Torfaen |
| Rhoddion a lletygarwch | dd/b |
| Unrhyw ddatganiad arall | dd/b |
Ni yw'r rheoleiddiwr annibynnol, proffesiynol ar gyfer y gweithlu addysg yng Nghymru. Rydym yn rheoleiddio ymarferwyr addysg mewn ysgolion, addysg bellach, gwaith ieuenctid, ac addysg oedolion, a dysgu'n seiliedig ar waith.
Sefydlwyd Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) gan Ddeddf Addysg (Cymru) 2014, a daeth i fodolaeth ar 1 Ebrill 2015.
Ein gweledigaeth yw edrych tua'r dyfodol a bod yn ymatebol, a bod ein cofrestreion, dysgwyr, pobl ifanc, rhieni/gwarcheidwaid a'r cyhoedd yn ymddiried ynom.
Ein swyddogaeth graidd yw rheoleiddio ym mudd y cyhoedd. I wneud hyn, yn gyntaf rydym yn cynnal Cofrestr o Ymarferwyr Addysg sy'n gymwys i ymarfer mewn ysgolion, addysg bellach, gwaith ieuenctid a dysgu yn y gweithle. Yn ail rydym yn cyhoeddi Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol sy'n gosod y safon a ddisgwylir gan gofrestreion. Yn drydydd rydym yn ymchwilio i, a chlywed honiadau o ymddygiad proffesiynol annerbyniol, anghymhwyster proffesiynol difrifol neu droseddau perthnasol.
Mae gennym gyfrifoldeb statudol i achredu rhaglenni addysg gychwynnol athrawon, a monitro eu bod yn cydymffurfio gyda meini prawb cenedlaethol.
Yn ogystal â'n gwaith rheoleiddiol, rydym yn cefnogi cofrestreion i allu cyflawni'r safonau proffesiynol uchaf drwy ddarparu gwybodaeth ddefnyddiol, adnoddau, a gwasanaethau i gynnig canllaw a chyfarwyddyd.
Rydym yn ceisio cyfleoedd drwy'r amser i lywio a dylanwadu ar bolisi addysg yng Nghymru er budd ein cofrestreion. Mae ein cyfrifoldeb statudol i ddarparu cyngor annibynnol, dadansoddi ymchwil, a deallusrwydd, yn golygu ein bod yn gallu cefnogi'r gwaith o gynllunio'r gweithlu yng Nghymru, gan greu amgylchedd cynhwysol ar gyfer yr holl broffesiwn.
Rydym yn hyrwyddo gyrfaoedd addysg yng Nghymru trwy wefan Addysgwyr Cymru a'r gwasanaeth cyngor. Mae Addysgwyr Cymru yn cynnwys nifer o wasanaethau sy'n dod â chyfleoedd gyrfa, hyfforddiant a swyddi yn sector addysg Cymru ynghyd.