CGA / EWC

About us banner
Nia Brodrick - Gwella darpariaeth iechyd meddwl yn y sector AB yng Nghymru
Nia Brodrick - Gwella darpariaeth iechyd meddwl yn y sector AB yng Nghymru

Nia Brodrick - Gwella darpariaeth iechyd meddwl yn y sector AB yng Nghymru

Nia Brodrick Colegau Cymru June 2020Mae iechyd meddwl yn parhau i fod yn fater o bryder cynyddol i’r sector Addysg Bellach yng Nghymru. Ym mis Ebrill 2018, cyhoeddwyd yr Adroddiad Cadernid Meddwl gan Bwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg Cynulliad Cenedlaethol Cymru a oedd yn ystyried y newid oedd ei angen o ran cymorth emosiynol a chymorth iechyd meddwl i blant a phobl ifanc yng Nghymru.

Yn ystod haf 2018, cafwyd croeso gwresog ymysg colegau yng Nghymru i’r cyhoeddiad o £175,000 o fuddsoddiad ychwanegol i gynorthwyo sefydliadau AB i ddwysáu’r gwasanaethau iechyd meddwl a llesiant a oedd eisoes yn eu lle ganddynt, a hynny ar gyfer dysgwyr a staff fel ei gilydd. Arweiniodd hyn at gynllun prosiect peilot dan arweiniad ColegauCymru oedd â’r bwriad o ddwysáu’r ddarpariaeth oedd yn ei lle, datblygu ymyriadau newydd ac, yn bwysig, annog cydweithredu a rhannu arfer gorau ymysg sefydliadau. Dewisodd y colegau ddefnyddio’r cyllid mewn ffyrdd a oedd yn ateb union anghenion eu dysgwyr a’u staff yn y ffordd orau, ac edrychodd nifer ohonynt yn benodol ar gynyddu cadernid dysgwyr, mewn ffordd ragweithiol yn hytrach na ffordd adweithiol. Cawsant eu hannog i fabwysiadu dull o gydweithredu, gan weithio gyda cholegau eraill, elusennau lleol, byrddau iechyd neu bartneriaid perthnasol eraill. Hefyd, sefydlwyd Bwrdd Ymgynghorol Iechyd Meddwl i reoli ansawdd a sicrhau bod y prosiectau’n aros ar y trywydd cywir o ran eu targedau a’u heffeithiolrwydd.

Gwahoddwyd colegau i rannu dadansoddiadau o anghenion sefydliadau yn ystod y cyfnod llunio’u cynigion prosiect. Dwy thema a ymddangosodd drwyddi draw yn y cynigion oedd cadernid a hyfforddiant staff. Wrth drafod cadernid, nododd un coleg, “mae’r thema hon wedi dod i’r amlwg drwy arolygon dysgwyr lle mae myfyrwyr yn ei chael yn anodd goresgyn rhwystrau academaidd. Er enghraifft, anhawster i ddeall cysyniadau allweddol neu raddau gwael mewn aseiniadau. Neu oherwydd pwysau eraill yn sgil defnyddio cyfryngau cymdeithasol, er enghraifft, maen nhw’n ei chael yn anodd ymdopi â beirniadaeth neu rwystrau personol”. Roedd pwyslais hefyd ar adnoddau digidol, fel y gallai myfyrwyr gymryd perchnogaeth dros eu hiechyd meddwl a’u llesiant eu hunain.

Roedd y prosiectau’n amrywio o’r naill goleg i’r llall, ond nod pob un oedd gwella llesiant a  iechyd meddwl myfyrwyr. Roedd y mentrau’n rhychwantu ystod o becynnau cymorth a chyrsiau ar-lein, i becynnau tawelwch corfforol, hyfforddiant cadernid, cyrsiau hyfforddi staff, hybiau llesiant, modiwlau addysgol i fyfyrwyr, a chanllawiau cryno i gymorth AI ar-lein 24 awr y dydd.

Tybiwyd bod y cyfle hwn yn un eithriadol o werth chweil ac yn ddefnydd da o adnoddau i’r colegau a oedd yn gysylltiedig. Yn sgil yr hwb a gafwyd drwy’r canlyniad cadarnhaol hwn, a chyda chymorth parhaus Llywodraeth Cymru, mae’r sector AB yn benderfynol o chwarae ei ran yn cefnogi staff a dysgwyr i ddatblygu a chynnal iechyd meddwl cadarn.

Mae’r sector yn ei gyfanrwydd yn parhau i groesawu unrhyw gyfleoedd cyllid ychwanegol wrth iddyn nhw ymdrechu’n rhagweithiol i fynd i’r afael ag anghenion iechyd meddwl a llesiant y gymuned colegau. Roedd ColegauCymru wrth ei fodd felly i glywed ym mis Chwefror 2020 fod llwyddiant y cynllun peilot wedi braenaru’r tir i sicrhau £2 filiwn o fuddsoddiad pellach gan Lywodraeth Cymru i gyllido prosiectau iechyd meddwl unigol a rhai ar y cyd yn uniongyrchol yn y sector AB. Mae hwn yn arbennig o amserol am fod iechyd meddwl yn parhau i fod yn faes hanfodol bwysig i’r gymuned colegau AB yng Nghymru, fwy nawr nag erioed o’r blaen, wrth i ni wynebu adeg ddigynsail o ansicrwydd.

 

Nia Brodrick

Ac yntau â saith mlynedd o brofiad yn y sector addysg bellach, erbyn hyn mae Nia Brodrick yn Swyddog Prosiectau yng Ngholgau Cymru. Mae ei rôl yn cynnwys cydlynu prosiectau fel Cymraeg Gwaith, Iechyd Meddwl a galwad cyfyngedig 3 EQAVET.