CGA / EWC

Accreditation banner
Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid Sir Gâr/Grŵp Gwobr Agored Dug Caeredin Heol Goffa
Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid Sir Gâr/Grŵp Gwobr Agored Dug Caeredin Heol Goffa

Quality Mark Logo All 3 Levels

Sefydliad: Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid Sir Gâr

Darpariaeth: Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid Sir Gâr/Grŵp Gwobr Agored Dug Caeredin Heol Goffa

Pobl Gyswllt: Sarann West/Dan Rogers

 

 

Nod y ddarpariaeth yw cynnig cyfleoedd a chymorth Gwobr Dug Caeredin i bobl ifanc ag ADY ac anableddau sy’n ei chael yn anodd cael mynediad i’r grwpiau gwobr agored prif-ffrwd.

Ein prif flaenoriaethau yw sicrhau:

  • Ein bod yn darparu amgylchedd diogel lle gall pobl ifanc ddatblygu’r sgiliau mae eu hangen iddyn nhw gael eu gwobr/au gyda’u cyfoedion.
  • Darparu cyfleoedd a phrofiadau sydd wedi’u teilwra i ddiwallu anghenion y grŵp.

Deilliodd yr angen am y ddarpariaeth o ganfod pobl ifanc yn gyntaf trwy sgyrsiau ag athrawon a rhieni oedd wedi cwblhau’r wobr Efydd i ddechrau, ond nad oedd cyfleoedd ar yr adeg honno iddyn nhw fynd ymlaen at y wobr Arian.

Gwnaethom gynnwys pobl ifanc mewn ymgynghoriad i ddatblygu cynnwys y rhaglen a chynllunio gweithgareddau ac yn y gwaith o ddenu arian gyda chymorth staff gwaith ieuenctid. Hefyd rhoddodd pobl ifanc gyflwyniadau yn Noson Seremoni Wobrwyo Flynyddol Gwobrau Dug Caeredin i fwy na 500 o bobl i hybu eu hachos. Trwy’r broses ymgynghori hon cafodd y bobl ifanc eu grymuso ac roedd modd iddynt wthio eu rhwystrau a’u terfynau eu hunain i gyflawni pethau nad oedden nhw’n meddwl eu bod yn bosibl.

Teilwrodd y staff eu dull i ddiwallu anghenion corfforol, meddygol, emosiynol a chyfathrebu y grŵp. Galluogodd hyn y grŵp i dyfu a datblygu eu hyder a’u hymdeimlad o werth a chyflawniad. Darparodd y staff amgylchedd o ymarfer cynhwysol, gan sicrhau cyfle cyfartal i bobl ifanc â nodwedd warchodedig oedd o dan anfantais oherwydd eu hamgylchiadau.

Roedd ein dull yn cynnwys defnydd sylfaenol o egwyddorion ac arferion gwaith ieuenctid e.e. ymgysylltu gwirfoddol, dechrau lle roedd y bobl ifanc, y bobl ifanc yn dewis eu lefel eu hunain o ymgysylltiad.

Golygai COVID y rhoddwyd y cymorth yn rhithwir am gyfnod. Roedd hyn yn galluogi pobl ifanc i ymgysylltu â chyfoedion ac oedolion yr oedden nhw’n ymddiried ynddyn nhw i oresgyn ynysigrwydd cymdeithasol gan ei bod yn ofynnol i lawer o aelodau o’r grŵp ynysu yn ystod y cyfnod hwn.

Mae'r prosiect yn hyblyg ac wedi’i deilwra i anghenion pobl ifanc ac ar hyn o bryd mae cohort newydd yn ymuno. Mae'r ddarpariaeth yn datblygu o hyd o ganlyniad i ddiwallu anghenion. Rydym wedi gwneud newidiadau yn ôl yr angen er mwyn sicrhau y gallai’r holl bobl ifanc gwblhau’r prosiect a chael budd o fynediad ato.

Rydyn ni wedi dysgu sut mae modd cyflawni’r wobr a sut y gellir ehangu a darparu’r prosiect i fwy o bobl ifanc ag ADY ac anableddau.

Mae buddion dirifedi i bobl ifanc gan gynnwys mwy o hyder trwy ddysgu i gymdeithasu gyda’u cyfoedion mewn amgylcheddau y tu allan i’r ysgol gyda chymorth gweithwyr ieuenctid. Mae pobl ifanc wedi gallu datblygu eu hyder gan eu galluogi i gyfarfod a rhyngweithio gyda phobl newydd yn eu cymunedau lleol a’r tu hwnt. Mae'r prosiect wedi darparu cyfleoedd a phrofiadau newydd i bobl ifanc allu manteisio arnyn nhw gyda’u cyfoedion a’u ffrindiau. Mae'r prosiect wedi helpu i chwalu’r rhwystrau yr oedden nhw’n eu hwynebu ynghynt i gael mynediad at ddarpariaeth Gwobr Dug Caeredin brif-ffrwd. Mae'r dysgu drwy brofiad wedi trosglwyddo i agweddau eraill ar eu bywydau gan gynnwys addysg, personol a chymdeithasol.

Mae'r prosiect hefyd wedi pwysleisio buddion cyflawni gwobr Dug Caeredin waeth beth fo’r rhwystrau/problemau mae pobl ifanc yn eu hwynebu a galluogodd hyblygrwydd y wobr y bobl ifanc i gyflawni rhywbeth y tu hwnt i’w dychymyg.

Mae'r adborth oddi wrth rieni/gwarcheidwaid wedi bod yn gadarnhaol iawn a chafwyd sôn bod y prosiect wedi galluogi pobl ifanc i ymdopi â’r cyfyngiadau symud ac ynysigrwydd cymdeithasol.
Mae'r prosiect yn chwalu rhwystrau i staff a chamdybiaethau yn nhermau cynorthwyo a galluogi grŵp o bobl ifanc ag ADY ac anableddau.

Mae'r prosiect wedi codi proffil yr angen am ymyrraeth gwaith ieuenctid i’r holl bobl ifanc a’r buddion mae hon yn dod â nhw. Mae wedi codi proffil gwaith y Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid.

Rhoddodd y grŵp o bobl ifanc gyflwyniad yn ystod y seremoni wobrwyo flynyddol a swynodd gynulleidfa o fwy na 500 o bobl gan gynnwys pobl bwysig leol, a chafwyd adborth cadarnhaol iawn.

Wrth i bobl ifanc orffen yn yr ysgol mae’r prosiect wedi darparu cyfleoedd cymdeithasol amhrisiadwy i’r grŵp gyfarfod â’u ffrindiau, gan eu bod i gyd wedi symud i gyrchfannau unigol yn y cyfnod nesaf o’u bywydau.

Mae'r prosiect wedi rhoi amrywiaeth o gyfleoedd cyfartal a mynediad i ddarpariaeth ar gyfer pobl ifanc ag ADY ac anableddau na fyddent ar gael iddyn nhw fel arfer. Mae hefyd wedi darparu lle diogel i’r bobl ifanc hyn ryngweithio gyda’u cyfoedion ac oedolion maen nhw’n ymddiried ynddyn nhw.

Bu’n rhaid addasu’r dull gwaith ieuenctid er mwyn galluogi pobl ifanc ag anawsterau iaith/lleferydd i gael eu deall a chael budd o'r ymyrraeth.

Mae pobl ifanc wedi gallu dangos i eraill y gallan nhw oresgyn rhwystrau, dysgu sgiliau newydd fel Iaith Arwyddion Prydain, ac ymroi i brosiect dros nifer o fisoedd ac mewn rhai achosion blynyddoedd er mwyn cyrraedd lefel uchaf y wobr.

Mae'r prosiect wedi parhau ac wedi ymaddasu yn ystod cyfnod y cyfyngiadau symud er mwyn sicrhau y gallai pobl ifanc barhau i gael cymorth hanfodol gan weithwyr ieuenctid a’u cyfoedion. Mae'r gwaith yn dal i gael ei gefnogi gan y Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid a’r ysgol. Mae arian yn fater sy’n achosi pryder ac yn cael ei ddarparu ad hoc o hyd.

Eleni mae’r prosiectau’n cael eu cynnig i ystod ehangach o bobl ifanc a’r gobaith yw y bydd mwy yn gallu cael budd o'r prosiect hwn.