CGA / EWC

Accreditation banner
Mainc Ddigidol
Mainc Ddigidol

Quality Mark Logo All 3 Levels

Enw’r gwasanaeth: Rhondda Cynon Taf – Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid

Enw’r prosiect: Mainc Ddigidol

Arweinydd Ieuenctid: Christie Williams

 

 

 

Nod y prosiect yw ennyn diddordeb pobl ifanc wedi’u hymddieithrio sydd wedi bod yn wrthgymdeithasol yn eu cymuned leol. Ei nod yw datblygu sgiliau newydd a meithrin perthnasoedd ac o ganlyniad lleihau’r ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Mae'r bobl ifanc wedi bod â chyfran yn yr holl waith cynllunio ar gyfer y fainc ac ers y fainc wreiddiol mae’r bobl ifanc wedi newid rhai o’r dyluniadau i’w gwneud yn fwy cain. Rhoddodd Egg Seeds, y darparwr, dasg i’r bobl ifanc ac yna defnyddiasant eu sgiliau datrys problemau a gwaith tîm i ddylunio’r fainc ddigidol.

Mae'r bobl ifanc hefyd wedi datblygu eu sgiliau gwaith coed ac wedi gwneud yr holl waith medrus angenrheidiol i gwblhau’r fainc. Er bod y staff wedi goruchwylio hyn mae’r bobl ifanc wedi dod yn hunangynhaliol ac yn annibynnol yn y sgiliau hyn dros amser.

Mae'r bobl ifanc hefyd wedi cael eu cynnwys wrth ddewis ble fydd y fainc yn mynd ac wedi siarad yn onest am y ffordd y byddai’n cael gofal a pharch yn eu cymuned bresennol. Cymaint felly nes bod y bobl ifanc wedi dewis ardal fwy cefnog oedd â digonedd o deledu cylch cyfyng a lle roedd y bobl ifanc yn teimlo na fyddai’n cael ei difrodi. Dywedodd un person ifanc “Dwi ddim yn gwneud yr holl waith caled yma er mwyn i rywun ddod yno a’i llosgi.”

Fel gydag unrhyw ymarfer gwaith ieuenctid rydym yn ceisio datblygu amgylchedd cefnogol, sy’n ddiogel a lle gall y bobl ifanc fynegi eu safbwyntiau a’u barn. Mae hyn wedi bod yn allweddol i lwyddiant y prosiect, a thrwy wrando gweithredol mae’r bobl ifanc wedi datblygu eu cymuned eu hunain.

Mae pobl ifanc hŷn o’r grŵp hefyd wedi cynorthwyo aelodau iau, gan rannu eu gwybodaeth a’u profiad o wneud y fainc ddigidol gyntaf yng Nghymru (gweler y ddolen isod) i helpu i adeiladu’r ail fainc.

Yn wreiddiol cafodd y prosiect ei redeg o dan do fel rhan o sesiwn clwb ieuenctid ond oherwydd rheoliadau Covid-19 bu’n rhaid symud y prosiect i’r awyr agored, lle mae’n rhedeg yn fwy rhydd ac yn amlycach i’r gymuned leol erbyn hyn.

Arweiniodd y wers a ddysgwyd at gynnydd mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae ar bobl ifanc angen symbyliad a gweithgareddau cadarnhaol i gymryd rhan ynddyn nhw. Rwy’n gwybod bod Covid-19 wedi atal cymaint, ond profodd ystadegau fod lefelau ymddygiad gwrthgymdeithasol wedi gostwng pan ailddechreuasom waith ar y fainc ddigidol ac ymgysylltu â phobl ifanc yn y gymuned. Mae hyn yn cyfleu neges glir bod rhaid inni weithio’n galed i ddarparu gwasanaeth i bobl ifanc er gwaethaf y trafferthion a’r straeniau a fydd o bosibl yn ein hwynebu. Mae cyflwyno faniau ieuenctid symudol pwrpasol y Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid wedi cyfrannu at sicrhau bod Gwasanaeth Ieuenctid Rhondda Cynon Taf yn rhedeg ar gapasiti llawn.

Mae'r bobl ifanc a gymerodd ran wedi dod yn fwy parchus ac ystyriol o’u cymuned. Gwnaethpwyd hyn nid yn unig trwy’r fainc ddigidol ond hefyd trwy gynnwys yr ysgol leol a’r tîm Troseddau a Chanlyniadau i addysgu’r bobl ifanc hefyd.

Mae grŵp o ferched ifanc sydd wedi cymryd rhan ym mhrosiect y fainc ddigidol yn amlwg wedi magu hyder a hefyd wedi ennill sgiliau gwaith coed da. Maen nhw wedi dweud wrthym ni eu bod hyd yn oed wedi defnyddio’r rhain gartref ac wedi helpu aelodau eraill o’u teuluoedd.

Mae'r bobl ifanc anoddach eu cyrraedd sydd wedi bod yn onest iawn am eu hymddygiad gwrthgymdeithasol yn y gymuned yn fwy rhyngweithiol a chyfforddus erbyn hyn wrth siarad â’r gweithwyr ieuenctid am eu heriau eu hunain mewn bywyd, ac yn aml yn dod atom ni pan mae bywyd yn mynd yn anodd.

Mae un o’r bobl ifanc hŷn a gymerodd ran gyda’r fainc gyntaf wedi dod yn wirfoddolwr ifanc gyda’r prosiect erbyn hyn ac mae hi’n mwynhau rhannu ei gwybodaeth a’i phrofiad a chynorthwyo aelodau iau.

Yn olaf mae’r bobl ifanc hefyd wedi meithrin perthnasoedd gyda phartneriaid allweddol yn y gymuned, sydd wedi eu galluogi i fanteisio ar fwy o ddarpariaeth. Er enghraifft, mae’r bobl ifanc erbyn hyn yn ddigon cyfforddus a hyderus i ddefnyddio’r banc bwyd lleol gan ei fod yn cael ei redeg gan aelod o’r staff maen nhw wedi cael eu cyflwyno iddo fel rhan o’r prosiect. Felly mae sgiliau rhyngbersonol y bobl ifanc wedi gwella.

Mae Cymdeithas Tai Newydd, sy’n un o’r partneriaid allweddol ym mhrosiect y fainc ddigidol, ynghyd â Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid Rhondda Cynon Taf ac Egg Seeds, hefyd wedi codi ymwybyddiaeth a gwella dealltwriaeth ymysg preswylwyr lleol. Rhannodd swyddog ymddygiad gwrthgymdeithasol Cymdeithas Tai Newydd wybodaeth ar gyfryngau cymdeithasol am weithgareddau cadarnhaol yr oedd y bobl ifanc yn cymryd rhan ynddyn nhw a hefyd anogodd breswylwyr i beidio â gadael sbwriel ar safle oedd yn hysbys am danau, gan fod hyn yn annog y bobl ifanc i roi’r eitemau hynny ar dân.

Mae'r bartneriaeth hon gyda’r holl bartneriaid allweddol wedi cryfhau ymhellach ac mae hyn wedi caniatáu i rywfaint o’r gwaith hwn barhau yn yr ysgol uwchradd leol.

Mae aelodau o’r staff a gwirfoddolwyr, fel y bobl ifanc a gymerodd ran, hefyd wedi datblygu eu sgiliau gwaith coed. Mae wedi rhoi ymdeimlad o bwrpas iddyn nhw i ymgysylltu â’r bobl ifanc heb y rhwystrau arferol sydd wedi bodoli yn ystod y sesiynau datgysylltiedig ar y stryd.

Mae'r ddarpariaeth wedi cael ei strwythuro o gwmpas anghenion y bobl ifanc, gan gynnig mynediad agored, lle nad yw unrhyw berson ifanc yn teimlo bod gwahaniaethu yn ei erbyn na’i fod wedi’i ynysu o ganlyniad i’w anabledd, rhywioldeb, cenedligrwydd, statws economaidd gymdeithasol, anghenion arbennig, iechyd meddwl, crefydd neu unrhyw nodwedd arall.

Mae'r prosiect wedi parhau i ffynnu, cymaint felly nes bod cais am arian ychwanegol wedi cael ei gyflwyno er mwyn cynnig y cyfle i nifer o safleoedd yn Rhondda Cynon Taf.

Mae'r bobl ifanc sy’n cymryd rhan yn y prosiect presennol eisoes yn meddwl am eu mainc nesaf a’u prosiect nesaf ac mae Hapi trwy Gymdeithas Tai Newydd wedi sicrhau arian ychwanegol i gefnogi hyn, ynghyd â chymorth parhaus gan staff Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid Rhondda Cynon Taf..

Fideo ar gyfer y fainc ddigidol gyntaf yng Nghymru: 

https://youtu.be/rj4snCKJ5OQ

Dangosir y cynnydd hyd yma, cyn Covid-19 a symud y prosiect allan i’r awyr agored, yn y fideo isod:

https://youtu.be/2TOPSAMZ9Pg

Bydd fideo llawn yn cael ei gynhyrchu ar ôl y diwrnod adeiladu.

I gael rhagor o wybodaeth anfonwch neges e-bost atThis email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it. neu ewch i https://www.facebook.com/YEPSRCT/ neuTwitter https://twitter.com/yepsrct?lang=en neu Instagram https://www.instagram.com/yepsrct/?hl=en

RCTYEPS