EWC Logo

Professional development banner
Adnoddau a chanllawiau
Adnoddau a chanllawiau

Yma, cewch gyfoeth o adnoddau i’ch helpu i ddechrau ar ymchwil gysylltiedig ag ymarfer.

Os oes gennych awgrymiadau am unrhyw ddeunydd ychwanegol a fyddai’n ddefnyddiol i chi, Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld..

Cyflwyniad i ymchwil

Bydd Dr Andrew Davies o Brifysgol Aberystwyth, a Dr Jane Waters o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, yn eich helpu i ddechrau arni trwy gyflwyniad i ymchwil. Dysgwch am rai o’r pethau allweddol y bydd angen i chi eu hystyried wrth gynllunio’ch prosiect ymchwil, fel methodoleg ymchwil, cynnal adolygiad o lenyddiaeth, dod i gasgliadau a moeseg ymchwil.

Canllawiau Ymchwil

Rydym wedi cynhyrchu nifer o ganllawiau ‘sut i...’ defnyddiol i’ch helpu gydag ysgrifennu adroddiad ymchwil, a sefydlu clwb cyfnodolion.

Moeseg Ymchwil

Darllenwch ein hadnoddau moeseg a gynhyrchwyd gan Dr Jane Waters a’i thîm ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Cynhyrchwyd deunydd fideo atodol gyda chymorth Ysgol Olchfa.

Mynediad at adnoddau

Mae nifer o storfeydd a chronfeydd data ffynhonnell agored sy’n cynnig mynediad at erthyglau cyfnodolion, llyfrau a thraethodau hir. Mae gan ein tudalen mynediad at adnoddau restr o wefannau defnyddiol i’ch helpu.