CGA / EWC

Professional development banner
Mynediad at adnoddau
Mynediad at adnoddau

Os yw ymarfer seiliedig ar dystiolaeth o ddiddordeb i chi, gallwch gael mynediad at EBSCO drwy eich PDP. Dyma gronfa ddata fwyaf y byd o ymchwil testun llawn ar gyfer gweithwyr addysg proffesiynol ac mae’n cwmpasu pob lefel addysg ac arbenigedd.

Mae nifer o gadwrfeydd a chronfeydd data ffynhonnell agored sy’n cynnig mynediad i erthyglau cyfnodolion, llyfrau a thraethodau ymchwil.  

Cronfa - ystorfa ymchwil sefydliadol Prifysgol Abertawe.

Cylchgrawn Addysg Cymru - cyfnodolyn mynediad agored, dwyieithog sy’n cyhoeddi ymchwil lleol a rhyngwladol ar bolisi ac ymarfer addysg yng Nghymru, o dan adrannau academaidd ac ymarferwyr.

Digital Education Resource Archive (DERA) - ystorfa o ddogfennau a gyhoeddir yn electronig gan y llywodraeth a sefydliadau eraill ym maes addysg, hyfforddiant, plant a theuluoedd.

Directory of Open Access Books - hwyluso'r broses o chwilio am lyfrau Mynediad Agored.

Directory of Open Access Journals - cyfeiriadur ar-lein mewn mynegai sy'n rhoi mynediad i siwrnalau mynediad agored sydd wedi eu hadolygu gan gydweithwyr.

ERIC Institute of Education Services - llyfrgell ar-lein o ymchwil a gwybodaeth addysg a noddir gan yr Institute of Education Sciences (IES) o Adran Addysg yr UDA.

GwaithIeuenctidCymru – adnodd gwybodaeth blaenllaw ar gyfer gwaith ieuenctid yng Nghymru. Nod y wefan yw darparu amrywiaeth o wybodaeth hanesyddol a chyfredol i ymarferwyr, myfyrwyr a rheolwyr gwaith ieuenctid yng Nghymru a fydd yn helpu i ddatblygu meddwl ac ymarfer.

Llyfrgell OAPEN - yn cynnwys llyfrau academaidd y mae modd eu cyrchu am ddim, yn bennaf ym maes dyniaethau a gwyddorau cymdeithasol.

MESH - cysylltu addysgwyr â chrynodebau a ffynonellau ymchwil addysgol.

Open Book Publishers - cyhoeddi ymchwil academaidd mynediad agored o ansawdd uchel yn y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol.

OpenDOAR - cyfeiriadur o ystorfeydd academaidd mynediad agored.

ORCA - ystorfa ddigidol o holl allbwn ymchwil Prifysgol Caerdydd yw ORCA. Mae testun llawn cyhoeddiadau ar gael am ddim lle'n bosibl.

Open Research Online –ystorfa'r Brifysgol Agored sy'n cynnwys dros 30,000 o allbynnau ymchwil.

Porth Ymchwil Aberystwyth - ystorfa ymchwil sefydliadol Prifysgol Aberystwyth.

Springer Open - lle i ymchwilwyr o feysydd gwyddoniaeth, technoleg, meddygaeth, y dyniaethau a'r gwyddorau cymdeithasol i gyhoeddi siwrnalau a llyfrau mynediad agored.

Wiley Open - rhaglen o siwrnalau mynediad agored llawn.

Ystorfa Ymchwil Prifysgol Monash - mae'r ystorfa, a chasgliad papurau'r Gyfadran Addysg yn benodol, yn archif digidol mynediad agored o gyhoeddiadau ymchwil y gellir eu lawrlwytho.