CGA / EWC

Induction banner
Beth yw sefydlu?
Beth yw sefydlu?

Mae’n ofynnol i bob athrol newydd gymhwyso (ANG) sydd wedi cael Statws Athro Cymwysedig (SAC) o 1 Ebrill 2003 ymlaen gwblhau cyfnod sefydlu statudol yng Nghymru. Mae’r cyfnod sefydlu’n broses gefnogol a fydd yn rhoi i ANG gyfleoedd i ddatblygu eu sgiliau a’u gwybodaeth y byddant yn adeiladu arnynt drwy gydol eu gyrfa addysgu. Yn ystod y cyfnod sefydlu mae’n ofynnol i ANG ddangos sut mae eu hymarfer addysgu’n bodloni’r safonau proffesiynol ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth.

Gofynion sefydlu

Er mwyn cyflawni cyfnod sefydlu yng Nghymru rhaid i ANG fod â SAC arhaid iddynt fod wedi’u cofrestru gyda ni yng nghategori athro ysgol. Mae hyn yn cynnwys athrawon yn gwneud gwaith cyflenw ad hoc. Nid yw unrhyw gyfnodau o gyflogaeth cyn cofrestru yn y categori cywir yn gallu cyfrif tuag at sefydlu. Ni all gwaith a wneir fel gweithiwr cymorth dysgu ysgol neu oruchwyliwr llanw, gyfrif tuag at sefydlu.

Mae'r cyfnod sefydlu yn dri thymor ysgol, neu gyfatebol. Fodd bynnag, mae gan y corff priodol ddisgresiwn i leihau hyd y cyfnod sefydlu ar gyfer ANGau sy'n gallu arddangos bod eu harfer addysguy'n bodloni'r Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth mewn llai na tri thymor ysgol (380 sesiwn). Ni ellir cwblhau sefydlu mewn llai nag un tymor (110 sesiwn).

Gall ANGau sy'n gwneud sefydlu drwy waith cyflenwi byrdymor gronni sesiynau tuag at eu sefydlu. Diffinnir sesiwn fel bore neu brynhawn llawn o addysgu mewn ysgol. Dim ond cyfnodau o gyflogaeth lle mae'r ANGau wedi eu cyflogi fel athro cymwys sy'n cyfrif tuag at sefydlu Mae'n rhaid i bob cyfnod o gyflogaeth fel athro cymwys o un sesiwn ysgol neu fwy mewn lleoliad perthnasol, gyfrif tuag at sefydlu, ac mae'n rhaid iddo gael ei gofnodi gyda ni. Does dim hyblygrwydd, ac ni ANGau, ysgolion nac unedau cyfeirio disgyblion ofyn bod rhan o'r cyfnod o gyflogaeth ddim yn cyfrif tuag at sefydlu. Ni all gwaith cyflenwi byr dymor a wnaed cyn mis Medi 2012 gyfrif tuag at sefydlu.

I gael mwy o wybodaeth am gyflawni cyfnod sefydlu yng Nghymru edrychwch ar ganllawiau Llywodraeth Cymru sefydlu ar gyfer athrawon newydd gymhwyso yng Nghymru.

Amserlenni ar gyfer cwblhau cyfnod sefydlu

Bydd gan ANGau sydd wedi cael SAC rhwng 1 Ebrill 2003 a 6 Tachwedd 2022, bum mlynedd o 7 Tachwedd 2022 i gwblhau'r cyfnod sefydlu. Bydd gan ANGau sy'n cael SAC o 7 Tachwedd 2022 ymlaen, bum mlynedd o ddyddiad y rhoddwyd y SAC i gwblhau’r' sefydlu.

Os na fydd ANG yn gallu cwblhau sefydlu o fewn yr amserlen gofynnol, mae gan y corff priodol hawl i ddewis estyn y terfyn amser ar gyfer cwblhau sefydlu ar gyfer y rheiny sydd wedi, a'r rhai sydd heb ddechrau sefydlu, lle mae'n fodlon bod rheswm da dros wneud hynny, a bod yr ANG yn cytuno. Mae mwy o wybodaeth ar gael yng nghanllawiau Llywodraeth Cymru Sefydlu ar gyfer athrawon newydd gymhwyso yng Nghymru.

Bydd methu â chwblhau'r cyfnod sefydlu o fewn y terfyn amser gofynnol yn golygu na all yr ANG gofrestru gyda CGA yng nghategori athro ysgol, ac felly ni fyddant yn gallu cael eu cyflogi mewn athro mewn ysgol a gynhelir, neu uned cyfeirio disgyblion yng Nghmru.

Ein rôl yn y broses sefydlu

Ar ran Llywodraeth Cymru, rydym yn gyfrifol am nifer o weithgareddau gweinyddol sy’n gysylltiedig â’r rhaglen sefydlu, gan gynnwys:

  • cynnal ffynhonnell ddata ganolog ar gyfer athrawon sy'n cyflawni cyfnod sefydlu, gan gynnwys manylion cyflogaeth wrth iddynt symud drwy gyfnod sefydlu, cofnod o'u mentor sefydlu, mentor allanol, a’u gwiriwr allanol a chofnod o'r sesiynau sefydlu a gwblhawyd
  • rhannu'r wybodaeth hon gyda'r partïon eraill sy’n ymwneud â darparu'r rhaglen sefydlu. Mae’r rhain yn cynnwys yr ANG, Mentor Sefydlu, Gwiriwr Allanol a’r cydgysylltydd sefydlu yn yr ALl fel y Corff Priodol ym maes sefydlu
  • gweinyddu cyllid sefydlu i ysgolion
  • lletya a darparu dull cyrchu'r proffil sefydlu statudol ar-lein o fewn y Pasbort Dysgu Proffesiynol
  • cyhoeddi tystysgrifau sefydlu ar sail canlyniadau sefydlu a ddarperir gan y Corff Priodol
  • gwrando ar apeliadau sefydlu - gellir dod o hyd i arweiniad ar wrando ar apeliadau sefydlu yn yr adran priodoldeb i ymarfer ar y wefan hon