EWC Logo

Accreditation banner
Materion Gwastraff Plastig a materion amgylcheddol Grwpiau Gweithredu Ieuenctid
Materion Gwastraff Plastig a materion amgylcheddol Grwpiau Gweithredu Ieuenctid

Quality Mark Logo All 3 LevelsSefydliad: Gwasanaeth Ieuenctid Bro Morgannwg

Prosiect: Materion Gwastraff Plastig a materion amgylcheddol Grwpiau Gweithredu Ieuenctid.

Person cyswllt: Alex Thomas

 

 

 

Mae’r angen am y prosiect wedi codi yn sgil gwell ymwybyddiaeth ymysg pobl ifanc o’r problemau amgylcheddol rydym ni i gyd yn eu hwynebu. Daeth dau Grŵp Gweithredu Ieuenctid lleol, o Lanilltud Fawr a Phenarth, at ei gilydd i gydweithio ar y prosiect, gan eu bod yn teimlo’n gryf y dylent chwarae rhan weithredol i fynd i’r afael â phroblem gwastraff plastig yn eu cymunedau.

Sefydlodd y grŵp nifer o nodau i’r prosiect:

  • Dysgu am broblemau amgylcheddol a achosir gan beidio ag ailgylchu plastig
  • Dysgu am y gwahanol fathau o blastig, pa rai y gellir eu hailgylchu a pha rai na ellir eu hailgylchu
  • Edrych ar gynyddu ailddefnyddio plastig, a hyrwyddo mwy o fannau gwyrdd
  • Hyrwyddo gwaith adeiladu tîm a gweithio ar syniadau cydweithredol dan arweiniad pobl ifanc

Ym mis Ionawr 2019 daeth y ddau Grŵp Gweithredu Ieuenctid ynghyd i ymchwilio i thema gyffredin yn y problemau oedd o bwys iddynt, gan weithio ar ddarn cydweithredol o waith. Pleidleisiwyd ar faterion amgylcheddol yn dilyn ymlaen o ddarnau o waith a gyflawnwyd gan y ddau grŵp ar wahân yn eu hardaloedd lleol.

Trwy weithdy ymgynghori, penderfynwyd ar blastigau untro ac ailgylchu plastig. Gofynnodd y bobl ifanc am well dealltwriaeth o’r prosesau ailgylchu a gyflawnir yn eu hardal a darparwyd hyfforddiant achrededig ar y pwnc. Dechreuodd yr hyfforddiant ym mis Ebrill 2019 a chynhaliwyd digwyddiad preswyl ym mis Mehefin 2019. Ymwelodd y ddau grŵp â chanolfan ailgylchu Y Fro ym mis Mawrth 2020 i ddysgu mwy am y broses yn yr awdurdod lleol.

Wedi cwblhau’r ymweliad safle achredu, bwriad y ddau grŵp oedd llunio cynllun gweithredu i weithio ar y problemau yn y Fro. Yn anffodus, oherwydd Covid-19, gohiriwyd y gwaith hwn. Ers hynny, mae’r grwpiau wedi cyfrannu at ymgynghoriad Prosiect Sero’r Awdurdodau Lleol, gan edrych ar Reoli Gwastraff yn benodol

(Prosiect Sero – cynllun gweithredu Newid Hinsawdd Cyngor y Fro. Mae Prosiect Sero’n dwyn ynghyd yr amrywiaeth eang o waith a chyfleoedd sydd ar gael i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, lleihau allyriadau carbon y Cyngor i sero net erbyn 2030, ac annog eraill i wneud newidiadau cadarnhaol).

Cymerodd y grwpiau ran mewn nifer o weithgareddau ymgynghori, gan gynnwys:

  • Carwselau syniadau
  • Graddio diemwnt
  • Sut, sut, sut?

Cafodd y gwaith hwn ei hwyluso mewn amgylchedd cynhwysol i bobl ifanc rannu eu syniadau a’u hawgrymiadau. Mae cynhwysiant yn fater allweddol i’r grwpiau. Mae gan grwpiau Gwasanaeth Ieuenctid y Fro god ymddygiad sy’n sicrhau y caiff eu holl aelodau eu trin â pharch a’u bod yn sicr o gael cynnig cyfleoedd cyfartal. Datblygwyd cynlluniau sesiwn o ganlyniad a’u rhannu â gweithwyr ieuenctid, gan roi manylion y gweithgareddau a gynlluniwyd.

Roedd rheoli amser yn broblem i’r bobl ifanc, ac roedd angen inni eu hannog nhw i gwblhau cynlluniau achredu, sydd wedi effeithio ar y darn o waith mae’r ddau grŵp yn cydweithio arno. Mae’r pandemig iechyd hefyd wedi effeithio ar y darn hwn o waith. Fodd bynnag, mae amynedd pawb sydd ynghlwm â’r prosiect wedi gwella’r sefyllfa, ac mae’r holl bobl ifanc wedi cyflawni achrediad am eu hymdrechion yn y prosiect.

 https://vogblog.wales/youth-recycling-visit/

I gael mwy o wybodaeth, ewch i:

https://www.valeofglamorgan.gov.uk/en/living/youth_service/Youth-Service.aspx

 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.

01446 709308

PYANewLogo     Llantwit Youth Council logo  VYS