CGA / EWC

Professional development banner
Pasbort Dysgu Proffesiynol
Pasbort Dysgu Proffesiynol

Mae'r Pasbort Dysgu Proffesiynol (PDP) yn declyn ar-lein, hyblyg sydd ar gael i'n holl gofrestreion.

Mae eich PDP yn llawn nodweddion i'ch cefnogi chi i gipio, myfyrio ar, rhannu, a chynllunio eich dysgu gyda'r amcan terfynol o wella eich arfer. Mae gyda ni oll ffyrdd gwahanol o ddysgu, ac mae'r PDP wedi ei ddylunio i fodloni nifer o anghenion gwahanol.

Mae eich PDP yn berchen i chi. Mae'n gyfrinachol a chludadwy. Cyn belled â'ch bod chi wedi cofrestru gyda ni, byddwch chi'n gallu gweld yr holl gynnwys yr ydych chi wedi ei greu yn eich PDP.

Cael mynediad at eich PDP

Gallwch gael at e PDP drwy eich cyfrif ar-lein FyCGA. Mae ein canllaw cyflym yn dangos sut i greu a chael mynediad at eich cyfrif ar-lein. Os ydych chi'n cael unrhyw anawsterau yn cael mynediad at eich PDP, This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it., neu ffoniwch 029 2046 0099.

Cipio eich profiadau

Mae eich dyddiau gwaith yn llawn profiadau gwahanol, ac mae nifer ohonynt yn brofiadau dysgu sy'n gallu eich sbarduno i ystyried, ac o bosib newid eich arfer. Gallai'r rhain fod yn rhan o'ch arferion o ddydd i ddydd, trafodaeth gyda chydweithwyr, neu fynd i hyfforddiant ffurfiol. Gall eich PDP eich helpu chi i fframio'r profiadau hyn.

Efallai eich bod wedi cadw gwybodaeth mewn nifer o fannau gwahanol ac mewn fformatau gwahanol. Gallwch chi ychwanegu hyn i gyd i'ch PDP gan ddefnyddio'r teclyn uwchlwytho yn eich PDP, neu gan ddefnyddio'r ap, Pebblepocket, sydd ar gael ar gyfer dyfeisiau Android ac Apple. Mae ein canllaw cyflym yn dangos nodweddion yr ap, a sut i'w ddefnyddio.

Gallwch hefyd gysylltu eich pdp i ddyfeisiau allanol fel Google Drive neu Dropbox, a chael mynediad i, a defnyddio'r ffeiliau yr ydych eisoes wedi arbed yno.

Myfyrio ar eich profiadau

Mae myfyrio yn gyfle i aros a meddwl am eich profiadau, cael gwerth ganddynt, a'u defnyddio i ddylanwadu ar eich dysgu, eich datblygiad a'ch arfer yn y dyfodol.

Mae templedi ar gael yn eich PDP sydd wedi eu strwythuro i'ch cymryd drwy'r broses o fyfyrio drwy ofyn cyfres o gwestiynau neu anogwyr, gan eich galluogi i adolygu effaith eich dysgu ar eich arfer, ac yna mynd yn ôl ato yn y dyfodol.

Mae eich PDP yn eich galluogi i rannu eich profiadau, cydweithio, a chael sgyrsiau proffesiynol gyda'ch cyfoedion.

Safonau proffesiynol

O fewn eich PDP cewch hyd i safonau proffesiynol ar gyfer athrawon a gweithwyr cymorth ysgol ac addysg bellach (AB), ac ymarferwyr dysgu'n seiliedig ar waith.

Mae eich PDP yn eich galluogi i gymryd unrhyw eitem yr ydych wedi eu creu neu eu hychwanegu at eich PDP, a'u mapio i'r safonau proffesiynol perthnasol.

Bydd unrhyw beth y byddwch yn mapio i'r safonau yn cael eu crynhoi yn eich gweithlyfr safonau, sydd ar gael ar dashfwrdd eich PDP. Wrth fapio'r dystiolaeth yn erbyn y safonau, gallwch gwblhau hunanasesiad o'ch cynnydd yn erbyn y safon honno gan ddefnyddio'r opsiwn llithro. Bydd y dudalen trosolwg safonau yn rhoi cynrychiolaeth weledol o'ch cynnydd yn erbyn eich safonau. Byddwch yn gallu gweld eich cryfderau a'ch datblygiad yn glir.

Defnyddio'r PDP i wella eich arfer

Ry'n ni wedi datblygu cyfres o fideos byr i ddangos buddion defnyddio'r PDP i gefnogi eich datblygiad proffesiynol. Mae mwy o wybodaeth ar gael yn y categorïau cofrestru isod hefyd.

Diddordeb? Gofynnwch am arddangosiad am ddim!

Ry'n ni'n hapus i ddod i'ch sefydliad i roi arddangosiad i'ch staff o sut i ddefnyddio'r PDP, ac arddangos ei nodweddion a'i hyblygrwydd, a sut gallant eich buddio chi, eich cydweithwyr a'ch sefydliad. Os hoffech chi i ni ddod i roi arddangosid i chi, llenwch y ffurflen ar-lein neu This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it..

Os oes diddordeb gyda chi mewn arfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth, mae eich PDP yn rhoi mynediad i chi at EBSCO, cronfa ddata ymchwil fwyaf y byd ar gyfer ymarferwyr addysg, yn cynnwys pob lefel o addysg ac arbenigedd.