CGA / EWC

Accreditation banner
Teledu’r Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogi Ieuenctid (YEPS TV)
Teledu’r Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogi Ieuenctid (YEPS TV)

Quality Mark Logo All 3 LevelsSefydliad: RhCT – Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogi Ieuenctid

Prosiect: Teledu’r Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogi Ieuenctid (YEPS TV)

Pobl gyswllt: James Hawker a Les Davies

 

 



Darparu gwybodaeth, cyngor ac arweiniad i bobl ifanc yn ddigidol.

Mae YEPS TV yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf ar wasanaeth darlledu rhyngweithiol newydd, hwyliog ac arloesol, sy’n rhedeg yn fisol.

Daeth yr angen cyntaf am ‘rywbeth’ gan bobl ifanc a gymerodd ran yn y gweithgareddau rhithwir cyntaf y dechreuasom eu cynnal o fewn wythnos i’r cyfnod cyfyngiadau symud cyntaf. Dywedodd y bobl ifanc er eu bod yn gwneud rhywbeth oedd o ddiddordeb iddynt, byddai’n dda cael rhywbeth mwy cyffredinol a fyddai’n ddefnyddiol i’r holl bobl ifanc.

Gyda’i gilydd, cafodd y bobl ifanc a’r gweithwyr ieuenctid y syniad o ddarllediad byw, gan benderfynu ar y nodweddion cychwynnol oedd yn cynnwys rhoi sylw i wasanaethau a sefydliadau lleol, a gemau rhyngweithiol hwyliog.

Gan fod YEPS TV yn ddarllediad byw, rydym ni’n gallu cael adborth ‘byw’. Yn ystod y darllediad, rydym yn rhedeg nodweddion mae pobl ifanc wedi gofyn amdanynt ac yn gofyn am adborth byw a syniadau wrth ddarlledu, ac yna’n ceisio eu cynnwys yn y darllediad nesaf.

Fel cysyniad newydd sbon, mae YEPS TV fel prosiect yn newid o hyd ac yn addasu i ddiwallu anghenion y bobl ifanc a’r gymdeithas ehangach hefyd.

Gan fod YEPS TV yn ddarllediad byw, roedd angen inni wneud newidiadau technolegol sylweddol i gychwyn.
Un o’r prif wersi a ddysgwyd oedd ynghylch cynnwys. Sylweddolom ein bod yn cynhyrchu cynnwys a allai fod yn ddefnyddiol dros ben petaem yn ei ddefnyddio’n fwy effeithlon. Dechreusom dynnu cynnwys o’r darllediad awr o hyd i greu ychydig funudau o wybodaeth am y gwasanaethau sydd ar gynnig gennym y mis hwnnw. Mae hyn yn caniatáu inni dargedu’r wybodaeth hon yn ddaearyddol, trwy’r cyfryngau cymdeithasol, fel bod y wybodaeth ar gael yn rhwydd i’r rhai sydd ei hangen fwyaf.

Ar adeg o ddryswch mawr ynghylch rheoliadau Covid i bobl ifanc, roedd YEPS TV yn gallu gwneud y wybodaeth yn hawdd ei deall. Gan fod y darllediad yn fyw, roeddem yn gallu ateb cwestiynau a chywiro camddealltwriaeth yn syth.
Roedd YEPS TV yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am y gweithgareddau roedd y Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogi yn eu cynnal, a sut roedd y bobl ifanc yn gallu eu defnyddio. Roedd y sianel hefyd yn dangos gwaith sefydliadau ieuenctid eraill yn yr ardal ac yn esbonio sut roedd pobl ifanc yn gallu cymryd rhan ynddynt.

Roedd YEPS TV yn cynnal nodweddion bob mis i ganolbwyntio ar bwnc/mater penodol a bennwyd gan y gweithwyr ieuenctid yn ystod y mis blaenorol. Roedd pobl ifanc wedi nodi’n flaenorol mai un o’r prif rwystrau a oedd yn eu hatal rhag ymgysylltu â gwasanaeth newydd oedd nad oedden nhw’n adnabod neb yn y gwasanaeth hwnnw nac yn gwybod beth i’w ddisgwyl. Ar sianel YEPS TV, gallai pobl ifanc weld eu gweithiwr ieuenctid yn sgwrsio gyda gweithwyr o sefydliadau eraill, a gallent ofyn cwestiynau. Dywedodd pobl ifanc y byddent yn teimlo’n fwy cyfforddus yn gofyn am gymorth gan sefydliad penodol ar ôl gweld y gweithiwr ar YEPS TV.

Roedd syniad y prosiect a’r angen amdano yn ymateb i’r cyfyngiadau symud, felly fel gwasanaeth nid oedd gennym unrhyw brofiad blaenorol o gyflawni prosiect tebyg.

Roedd grŵp craidd o staff yn gyfrifol am sefydlu a rhedeg y prosiect, ond dros amser mae pawb, o’r prentisiaid i’r rheolwyr, wedi chwarae rhan uniongyrchol yn y prosiect.

I ddechrau, roedd diffyg hyder gwirioneddol ymysg rhai o’r staff o ran ymddangos ar y sgrin a hefyd yn fyw. Tyfodd hyder y staff dros amser ar ôl iddynt wylio gweithwyr eraill yn cymryd rhan ac yn trafod y profiad.

Cafodd y staff brofiad o weithio mewn fformat rhithiol am y tro cyntaf, a dysgu sgiliau newydd wrth weithio gyda mathau gwahanol o galedwedd a meddalwedd, a gwybodaeth ynghylch sut y gellid eu defnyddio i gyflawni ymyriadau gwaith ieuenctid o safon.

Roedd YEPS TV yn newid ac yn datblygu’n barhaus er mwyn diwallu anghenion pobl ifanc wrth i’r gymdeithas newid i ymateb i’r pandemig. Bu YEPS TV yn darlledu am 12 mis mewn fformatau a oedd yn newid o hyd, cyn cymryd hoe am ychydig o fisoedd i ystyried sut i adeiladu ar ein llwyddiant ac aros yn berthnasol wrth inni symud at gymdeithas ôl-bandemig, gobeithio.

I gael mwy o wybodaeth, anfonwch neges e-bost at This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it. neu ewch i https://www.facebook.com/YEPSRCT/ neu Twitter https://twitter.com/yepsrct?lang=en neu Instagram https://www.instagram.com/yepsrct/?hl=en .

 RCT  YEPS