CGA / EWC

About us banner
Ystadegau'r gweithlu addysg
Ystadegau'r gweithlu addysg

Ystadegau Blynyddol y Gweithlu Addysg

Ystadegau Blynyddol CGA ar gyfer y Gweithlu Addysg yng Nghymru 2023

Canfyddiadau allweddol

Bob blwyddyn, rydym yn cyhoeddi dadansoddiad manwl o’r gweithlu addysg yng Nghymru. Mae hyn yn cwmpasu ystod eang o ymarferwyr ar draws y grwpiau rydym yn eu cofrestru. Cyn mis Mai 2023, y rhain oedd:

  • athrawon a staff cymorth dysgu mewn ysgolion a lleoliadau addysg bellach (AB)
  • gweithwyr ieuenctid a gweithwyr cymorth ieuenctid cymwysedig
  • ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith

Bu’n ofynnol i ymarferwyr yn y sector annibynnol gofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg (CGA) ers mis Mai 2023. Felly, nid ydynt wedi’u cynnwys yn y cyhoeddiad hwn, ond byddant yn cael eu cynnwys mewn cyhoeddiadau yn y dyfodol o 2024 ymlaen.

Mae’r ystadegau a gynhyrchwn yn dod o’n Cofrestr Ymarferwyr Addysg (y Gofrestr). Mae’r Gofrestr amser real yn darparu data manwl a chynhwysfawr am yr holl grwpiau cofrestredig.

Ar 1 Mawrth 2023, roedd 88,748 o unigolion wedi’u cofrestru gyda ni.

Darllenwch Ystadegau Blynyddol y Gweithlu Addysg ar gyfer Cymru 2023 .

Sut mae ein data ni’n wahanol?

Mae’r data a ddarparwn yn unigryw ac nid yw ar gael trwy unrhyw sefydliad neu gorff arall. Am y rheswm hwnnw, ni ddylid ei gymharu â ffynonellau eraill fel Cyfrifiad Blynyddol o’r Gweithlu Ysgolion (CBGY) Llywodraeth Cymru.

Mae ein hystadegau’n wahanol gan ein bod yn adrodd ar y gweithlu addysg cyfan yng Nghymru. O ran y sector ysgolion yn benodol, yn wahanol i CBGY, mae ein data’n fwy cynhwysfawr. Y rheswm am hyn yw oherwydd ei fod yn cynnwys yr holl athrawon cyflenwi, gweithwyr peripatetig, ac eraill sy’n darparu addysg neu hyfforddiant mewn ystod o leoliadau addysg. Rydym hefyd yn dal data hanesyddol sylweddol – yn achos athrawon, mae’n rhychwantu 20+ o flynyddoedd. Mae hyn yn ein galluogi i ddarparu gwybodaeth helaeth am dueddiadau.

Rydym yn cyfrifo’r canrannau a ddyfynnir ar ethnigrwydd, hunaniaeth genedlaethol a’r Gymraeg o gyfanswm nifer y cofrestreion. Mae hyn yn cynnwys y rhai hynny lle mae’r gwerth yn anhysbys. Caiff canran y gwerthoedd ‘anhysbys’ ei nodi ym mhob maes er mwyn cyflawnder.

 

Rhifynnau'r gorffennol o ystadegau'r gweithlu addysg

This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it. os oes angen ystadegau'r gweithlu hŷn, nad ydynt wedi eu rhestru yma.