Ystyr priodoldeb i ymarfer yw meddu ar y sgiliau, y wybodaeth, y cymhwysedd a’r cymeriad i ymarfer mewn proffesiwn.
Hefyd, priodoldeb i ymarfer yw’r broses sy’n cael ei defnyddio gan reoleiddwyr proffesiynol statudol i ddelio ag achosion sy’n cael eu hatgyfeirio iddynt.
Daw’r rhan fwyaf o’r atgyfeiriadau a gawn oddi wrth gyflogwyr ac maent yn cynnwys honiadau am ymddygiad proffesiynol annerbyniol, anghymhwysedd proffesiynol difrifol, a/neu euogfarn o drosedd berthnasol.
Mae ein staff ac aelodau panel priodoldeb i ymarfer yn gyfrifol am yr agwedd hon ar waith rheoleiddiol Cyngor y Gweithlu Addysg. Mae hyn yn cynnwys disgyblu, addasrwydd i gofrestru ac apelau Sefydlu.
Cyflogwyr ac asiantau
Mae’n ofynnol yn ôl deddfwriaeth i gyflogwyr ac asiantau atgyfeirio i CGA.
Dylai cyflogwyr ac asiantau ddefnyddio’r ffurflen hon i atgyfeirio achosion i CGA.
Darllenwch ein canllawiau i gyflogwyr ac asiantau: y cyfrifoldeb i atgyfeirio .
Cwynion
Gall unrhyw unigolyn neu sefydliad wneud cwyn am ymddygiad neu anghymhwysedd honedig cofrestrai.
Darllenwch y canllawiau ar sut i gwyno am ymarferydd addysg cofrestredig .
I gwyno, bydd angen i chi lenwi’r ffurflen hon, gan amlinellu eich honiadau yn glir a darparu’r dystiolaeth sy’n ategu’r honiadau hynny.
Ymchwiliadau
Mae’r rhan fwyaf o’r achosion sy’n dod i law yn cael eu rhoi gerbron pwyllgor ymchwilio. Mae’r cyfarfodydd hyn yn cael eu cynnal yn breifat.
Mae’n rhaid i’r Pwyllgor Ymchwilio gynnwys o leiaf dri aelod panel, gan gynnwys o leiaf un aelod o’r un categori ag y mae’r ymarferwr sy’n gysylltiedig â’r achos wedi’i gofrestru ynddo, ac un person lleyg.
Bydd cynghorydd cyfreithiol annibynnol yn cefnogi’r Pwyllgor Ymchwilio. Nid yw’r cynghorydd hwn yn cymryd rhan yn y penderfyniadau, ond mae yno i sicrhau bod yr ymchwiliad yn deg.
Rôl y Pwyllgor yw penderfynu a fydd ymddygiad proffesiynol annerbyniol, anghymhwysedd proffesiynol difrifol, a/neu euogfarn o drosedd berthnasol yn debygol o gael ei ganfod ai peidio os bydd yr achos yn mynd ymlaen i wrandawiad cyhoeddus.
Byddwn yn ystyried pob achos o dorri ein Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol y cawn wybod amdano, ond byddwn yn ymchwilio dim ond pan ystyriwn y gellid cyrraedd y trothwy ar gyfer ymddygiad proffesiynol annerbyniol, anghymhwysedd proffesiynol difrifol, a/neu euogfarn o drosedd berthnasol.
Er enghraifft, mae diswyddo rhywun am un o’r canlynol yn fwy tebygol o gyrraedd y trothwy ar gyfer ymddygiad proffesiynol annerbyniol:
- ymyrryd â gwaith cwrs ar gyfer arholiad
- perthynas amhriodol â dysgwr
- ymosod ar ddysgwr
Gorchmynion Atal Dros Dro
Mae gennym rymoedd i roi Gorchmynion Atal Dros Dro.
Diweddarwyd Rheolau a Gweithdrefnau Disgyblu 2017 i gynnwys Gorchmynion Atal Dros Dro yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus ar y rheolau drafft a wnaeth bara mis rhwng Ebrill a Mai 2021.