CGA / EWC

Fitness to practise banner
Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol ar gyfer cofrestreion
Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol ar gyfer cofrestreion

Lawrlwythwch y Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol .

Diweddarwyd Tachwedd 2023

CGA

Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) yw’r rheoleiddiwr proffesiynol annibynnol ar gyfer ymarferwyr addysg yng Nghymru. Mae’n ceisio codi statws gweithwyr ym maes addysg a hyfforddiant drwy gynnal a hyrwyddo’r safonau uchaf o ymddygiad ac ymarfer proffesiynol er budd cofrestreion, dysgwyr, pobl ifanc a’r cyhoedd yn gyffredinol.

Sefydlwyd CGA o dan Ddeddf Addysg (Cymru) 2014, ac mae’n rheoleiddio:

  • athrawon ysgol*
  • gweithwyr cymorth dysgu ysgol
  • athrawon ysgol annibynnol
  • gweithwyr cymorth dysgu ysgol annibynnol
  • athrawon addysg bellach
  • gweithwyr cymorth dysgu addysg bellach
  • athrawon sefydliad annibynnol arbennig ôl-16
  • gweithwyr cymorth dysgu sefydliad annibynnol arbennig ôl-16
  • ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith
  • gweithwyr ieuenctid**
  • gweithwyr cymorth ieuenctid**

*rhaid cael Statws Athro Cymwys (SAC)
**sydd wedi cymhwyso neu’n gweithio tuag at gymhwyster perthnasol. Rhestr lawn o’r cymwysterau perthnasol, ewch i'r tudalennau cofrestru.

Ei brif nodau yw:

  • cyfrannu at wella safonau addysgu ac ansawdd dysgu yng Nghymru
  • cynnal a gwella safonau ymddygiad proffesiynol ymysg cofrestreion yn y gweithlu addysg yng Nghymru
  • diogelu buddiannau dysgwyr, pobl ifanc, rhieni a’r cyhoedd a chynnal ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd yn y gweithlu addysg

Y Cod

Mae Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Prif Swyddogaethau) (Cymru) 2015, fel y’i diwygiwyd, yn pennu bod yn rhaid cyhoeddi Cod sy’n nodi’r safonau ymddygiad ac ymarfer proffesiynol a ddisgwylir gan bersonau sydd wedi’u cofrestru gyda CGA.

Mae’r Cod hwn yn nodi egwyddorion allweddol ymddygiad ac ymarfer proffesiynol da y mae cofrestreion CGA yn eu cynnal, a bwriedir iddo lywio, cynorthwyo ac arwain pawb yn eu hymddygiad a’u hymarfer dyddiol. Mae hefyd yn darparu gwybodaeth i rhieni/gwarcheidwaid, y cyhoedd a rhanddeiliaid sy’n gysylltiedig ag addysgu dysgwyr a phobl ifanc yng Nghymru, a dysgwyr a phobl ifanc eu hunain, ynghylch y safonau y gallant ddisgwyl eu derbyn gan gofrestreion.

Gall methiant ar ran cofrestrai i lynu wrth y Cod fwrw amheuaeth dros eu cofrestriad gyda CGA. Mae gan CGA rymoedd cyfreithiol i ymchwilio a gwrando ar achosion o ymddygiad proffesiynol annerbyniol, anghymhwysedd proffesiynol difrifol a throseddau honedig yn ymwneud â chofrestreion. Ymchwilir i bob achos yn ôl ei rinweddau ei hun, gan gynnwys cyd-destun cyflogaeth (sector/rôl ymarferydd) dan sylw. Caiff y Cod ei gymhwyso mewn modd cymesur i unrhyw ffeithiau y canfyddir eu bod wedi’u profi mewn unrhyw achos penodol.

Y pum egwyddor allweddol

Mae cofrestreion, gan gynnwys y rhai sydd wedi’u cofrestru dros dro, yn ymrwymo i gynnal egwyddorion allweddol: Cyfrifoldeb Personol a Phroffesiynol, Unplygrwydd Proffesiynol, Cydweithio, Gwybodaeth a Dealltwriaeth Broffesiynol a Dysgu Proffesiynol.

A. Ymddygiad Proffesiynol

1. Cyfridoldeb Personol a Phroffesiynol

Mae cofrestreion:

  1. yn cydnabod eu cyfrifoldeb personol fel model rôl a ffigur cyhoeddus, i gynnal ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd yn y proffesiynau addysg, a hynny yn y gweithle a thu allan iddo
  2. yn cynnal perthnasau gyda dysgwyr a phobl ifanc mewn modd proffesiynol, drwy:
    1. gyfathrebu gyda dysgwyr a phobl ifanc yn barchus, mewn ffordd sy’n briodol iddynt
    2. defnyddio pob math o ddull cyfathrebu mewn modd priodol a chyfrifol, yn arbennig y cyfryngau cymdeithasol
    3. sicrhau bod unrhyw gysylltiad corfforol yn angenrheidiol, yn rhesymol ac yn gymesur
    4. cyfrannu at greu amgylchedd dysgu teg a chynhwysol drwy fynd i’r afael â gwahaniaethu, ystrydebu a bwlio
    5. cynnal ffiniau proffesiynol
  3. yn ymgysylltu â dysgwyr a phobl ifanc i annog hyder, grymuso, datblygiad addysgol a phersonol
  4. yn meddu ar ddyletswydd gofal dros ddiogelwch dysgwyr a phobl ifanc a’u llesiant corfforol, cymdeithasol, moesol ac addysgol:
    1. gweithredu ar unrhyw beth a allai beryglu diogelwch neu lesiant dysgwr neu berson ifanc
    2. adrodd, yn unol â 4.3, unrhyw fater diogelu, neu unrhyw fater arall a allai o bosibl niweidio diogelwch neu lesiant dysgwr neu berson ifanc
  5. yn ymwybodol o’u cyfrifoldeb personol dros iechyd, diogelwch a llesiant cydweithwyr, a throstyn nhw eu hunain
  6. yn dangos ymrwymiad at gydraddoldeb ac amrywiaeth

2. Unplygrwydd Proffesiynol

Mae cofrestreion:

  1. yn atebol am eu hymddygiad a’u cymhwysedd proffesiynol
  2. yn ymddwyn yn onest, a chydag unplygrwydd, yn arbennig mewn perthynas â’r canlynol:
    1. cyllid ac arian yn y gweithle
    2. rhinweddau, profiad a chymwysterau personol
    3. geirdaon, datganiadau a wneir ac wrth lofnodi dogfennau
    4. asesu a thasgau’n gysylltiedig ag arholiadau
    5. defnyddio eiddo a chyfleusterau a ddarperir gan eu cyflogwr
    6. cyfathrebu gyda CGA, gan ei hysbysu am unrhyw euogfarn droseddol neu rybuddiad cofnodadwy, neu gyfyngiad a osodir ar eu hymarfer gan unrhyw gorff arall
    7. eu cyflogwr, ac adrodd unrhyw fater sy’n ofynnol gan delerau ac amodau eu cyflogaeth
    8. eu hymddygiad yn y gweithle a thu allan iddo
  3. yn ymdrin â gwybodaeth a data mewn modd priodol, gan gymhwyso’r protocolau angenrheidiol yn ymwneud â chyfrinachedd, sensitifrwydd a datgelu
  4. yn glynu wrth safonau ymddygiad cyfreithlon, mewn modd sy’n cyd-fynd â bod yn aelod o’r proffesiwn addysg

3. Cydweithio

Mae cofrestreion:

  1. yn parchu, yn cynorthwyo ac yn cydweithio gyda chydweithwyr, dysgwyr, pobl ifanc ac eraill i gyflawni’r deilliannau dysgu gorau
  2. yn rhannu profiad a gwybodaeth i helpu eu hunain ac ymarferwyr eraill i ddatblygu a chynnal ymarfer gorau (gweler Adran B)
  3. yn ceisio datblygu a chynnal perthnasau gwaith proffesiynol gyda rhieni, gwarcheidwaid, gofalwyr a rhanddeiliaid eraill
  4. yn cyfathrebu mewn modd priodol ac effeithiol gyda phob un sy’n gysylltiedig ag addysgu dysgwyr a phobl ifanc

B. Ymarfer Proffesiynol

4. Gwybodaeth a Dealltwriaeth Broffesiynol

Mae cofrestreion:

  1. yn gwybod, yn defnyddio ac yn cymryd cyfrifoldeb dros safonau proffesiynol perthnasol yn eu proffesiwn penodol drwy gydol eu gyrfa
  2. yn gwybod, yn deall ac yn cydymffurfio â pholisïau, gweithdrefnau a chanllawiau cyfredol sy’n berthnasol i’w hymarfer
  3. yn gwybod, yn deall ac yn cydymffurfio â pholisïau, gweithdrefnau a chanllawiau diogelu cyfredol sy’n berthnasol i’w hymarfer
  4. lle y bo angen, yn ceisio cymorth, cyngor ac arweiniad ac yn agored i adborth, gan ymateb iddo mewn modd cadarnhaol ac adeiladol

5. Dysgu Proffesiynol

Mae cofrestreion:

  1. yn dangos ymrwymiad cyffredin i’w dysgu proffesiynol parhaus drwy fyfyrio am eu hymarfer a’i werthuso, gan sicrhau bod eu gwybodaeth a’u sgiliau proffesiynol yn gyfoes a chymryd camau i wella’u hymarfer lle y bo angen

Cyhoeddi ac adolygu

Mae’r Cod ar gael yn rhad ac am ddim ac mae wedi’i gyhoeddi ar wefan CGA. Mae ar gael ar ffurf Hawdd ei Darllen, testun bras a fformatau eraill, os oes angen.

Mae’r Cod hwn yn disodli cyhoeddiad blaenorol Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol ar gyfer cofrestreion gyda CGA a gyhoeddwyd 1 Medi 2022. Yn unol â Deddf Addysg (Cymru) 2014, bydd CGA yn adolygu’r Cod hwn bob tair blynedd.