CGA / EWC

Accreditation banner
Ysbrydoli i Weithio
Ysbrydoli i Weithio

Quality Mark Logo All 3 LevelsSefydliad: Gwasanaeth Ieuenctid y Fro

Prosiect: Ysbrydoli i Weithio

Person cyswllt: Peter Williams

Mae prosiect Ysbrydoli i Weithio Bro Morgannwg wedi bod yn cynorthwyo pobl ifanc 16-24 oed ers mis Ebrill 2017. Caiff y prosiect ei ariannu’n rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop, ac mae cynnwys tri aelod o staff cyflenwi.

Nod y prosiect yw cynorthwyo pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant ar hyn o bryd i fynd i faes addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant. Gwneir hyn trwy ddulliau amrywiol, gan gynnwys sesiynau un-i-un, sesiynau grŵp, cyrsiau hyfforddi, profiad gwaith ac ati.

Mae llawer o’r bobl ifanc a gynorthwyir gan y tîm yn wynebu rhwystrau sylweddol sy’n eu hatal rhag ymgysylltu, gan gynnwys profiadau gwael o addysg, strwythurau cefnogi gwael yn eu bywydau, ymwneud â’r system gyfiawnder, defnyddio sylweddau, diffyg bywyd cartref sefydlog ac iechyd meddwl gwael.

Mae prosiect Ysbrydoli i Weithio yn derbyn atgyfeiriadau gan weithwyr proffesiynol, yn fewnol ac o’r tu allan i’r Cyngor. Mae’r atgyfeiriadau hyn yn cynnig elfen o ddealltwriaeth o anghenion y person ifanc, ond nid yw’r ddealltwriaeth o’i anghenion yn dod yn fwy eglur nes i’r Hyfforddwr Dysgu gwrdd ag ef a dechrau datblygu cydberthynas ag ef. Mae pob aelod o’r staff yn weithiwr ieuenctid cymwysedig ac maent yn defnyddio’r sail sgiliau hwn i greu perthynas ystyrlon â’r unigolyn. Mae sgiliau’r tîm wedi tyfu o ganlyniad i ddysgu mwy am anghenion y bobl ifanc a wasanaethwn. Mae rhai aelodau o’r tîm wedi dilyn hyfforddiant ychwanegol ar sgiliau cwnsela fel bod ganddynt sgìl arall i gynorthwyo’r bobl ifanc. Mae’r prosiect wedi’i seilio ar ymgysylltu’n wirfoddol heb orfodi’r unigolyn i ymgysylltu, sy’n golygu bod unrhyw gymorth a roddir yn mynd yn ôl y cyflymder a osodir gan y person ifanc.

Datblygir cynllun gweithredu ar gyfer pob person ifanc, a gaiff ei fonitro a’i adolygu wrth i’r cymorth fynd yn ei flaen. Er y bydd rhai elfennau’n debyg i gynlluniau pobl ifanc eraill, caiff pob cynllun ei lunio gan roi blaenoriaeth i anghenion unigol y person ifanc. Fel rhan o hyn, caiff y rhwystrau i ymgysylltu neu’r pethau a all effeithio’n negyddol ar lesiant y person ifanc eu canfod, a rhoddir cynlluniau ar waith i helpu i fynd i’r afael â’r rhain.

Mae’r cymorth a roddir i bob person ifanc yn gallu amrywio’n fawr, er y caiff ei addasu yn ôl anghenion yr unigolyn. Gall hyn gynnwys cymorth ychwanegol gyda sgiliau hanfodol, cyrsiau ECDL a chyrsiau Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill, gan ddibynnu ar ddiffygion dysgu’r person ifanc. Mewn sefyllfaoedd lle na cheir cymorth teuluol, neu mae’r cymorth teuluol yn wael, neu lle cafwyd profedigaeth mewn unrhyw strwythur cymorth uniongyrchol, darganfuwyd bod staff y tîm yn gorfod cynnwys elfen o fagu yn eu gwaith ymgysylltu, gan ei bod efallai ar goll o’u bywydau ers blynyddoedd lawer. Mewn perthynas â llesiant, mae mynd i’r afael â’r angen sylfaenol hwn yn hollbwysig: heb hynny, bydd yn afrealistig cynnal unrhyw gynnydd a wneir o ran addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant. Mae gan bob person ifanc fan cychwyn gwahanol, sy’n golygu nad yw rhai ohonynt efallai’n barod i ymgysylltu â gwahanol lefelau o gymorth yn syth. Weithiau, gall gymryd wythnosau neu fisoedd o gyswllt un-i-un cyn bod person ifanc yn barod i gymryd rhan mewn cwrs hyfforddi neu sesiwn grŵp.

Wrth greu cydberthynas â’r person ifanc, efallai y daw’n amlwg bod gan yr unigolyn rwystrau ehangach a allai fod yn effeithio ar ei lesiant. Mae enghreifftiau’n cynnwys materion ariannol, y sefyllfa dai, defnyddio sylweddau a materion iechyd meddwl. Mae prosiect Ysbrydoli i Weithio’n cydnabod nad yw bob amser yn y lle gorau i gynorthwyo â’r meysydd mwy arbenigol hyn, ond mae ganddo wybodaeth dda am bartneriaid ac asiantaethau eraill y gellir cyfeirio’r person ifanc atynt i gael cymorth. Mae’r tîm yn defnyddio ymagwedd holistaidd sy’n canolbwyntio ar y person ifanc ac sydd â dewis a llais y person ifanc wrth wraidd ei hynt gyda’r prosiect. Mae’r tîm yn aml yn cynorthwyo pobl ifanc i fynychu cyfarfodydd ag asiantaethau newydd neu pan fyddant yn dechrau lleoliadau profiad gwaith, fel bod ganddynt wyneb cyfarwydd er mwyn lleddfu unrhyw bryderon ynghylch cwrdd â gweithwyr proffesiynol newydd. Gan ddibynnu ar y cymorth ychwanegol mae ei angen ac sy’n cael ei gynnig, gall fod yn briodol i staff Ysbrydoli i Weithio dynnu’r cymorth yn ôl ar yr adeg honno. Fodd bynnag, yn y rhan fwyaf o achosion, mae’r tîm yn parhau i gynorthwyo’r person ifanc mewn partneriaeth ag asiantaethau eraill, er mwyn sicrhau bod y pecyn gorau a’r cysondeb mwyaf ar waith i’r unigolyn.

Rhan o’r ddarpariaeth a gynigir yw mynychu cyrsiau hyfforddi, sy’n helpu i wella gwybodaeth yn y meysydd gwaith mae ganddynt ddiddordeb mewn ymchwilio iddynt, ennill cymwysterau a thystysgrifau sy’n berthnasol i’r gwaith yn ogystal â gwella’u hyder mewn senario grŵp ac o ran eu gallu eu hunain. Mae hyn yn arbennig o berthnasol i’r rhai sy’n ddi-waith yn y tymor hir, gan ei fod yn bosibl nad ydynt wedi gallu gwneud hyn ers gadael addysg orfodol. Yn y cyrsiau hyfforddi, mae’r prosiect yn cynnig trafnidiaeth i’r bobl ifanc i’w galluogi i fynychu, ac yn darparu cinio a lluniaeth i bawb sy’n bresennol. Trwy wneud hyn, nid yw’n amlwg i’r grŵp pa rai o’r bobl ifanc sy’n methu fforddio talu am eu cinio eu hunain, sy’n creu amgylchedd llawer mwy cadarnhaol ac eto, yn lleddfu unrhyw bryderon a all fod gan y bobl ifanc hyn. Mae hefyd yn golygu bod gan y bobl ifanc ddigon o egni i gymryd rhan weithgar yn y dysgu sydd ar gael. Yr un yw’r egwyddor wrth gynorthwyo pobl ifanc i fynychu profiad gwaith, cyrsiau coleg a chyflogaeth. Gall y prosiect gynorthwyo drwy dalu rhai costau yn y sefyllfaoedd hyn, lle nad yw’r bobl ifanc yn gallu cynnal eu hunain yn ariannol. Bwriedir i’r dull a nodir rymuso’r bobl ifanc i fod yn fwy cydnerth, annibynnol a hyderus ac i allu ymdopi â’r heriau yn eu bywydau yn y dyfodol.

Gall bywydau pobl ifanc fod yn afreolaidd dros ben, gyda newidiadau’n digwydd heb fawr o rybudd neu ddim rhybudd o gwbl. Gall hyn fod oherwydd eu bod yn ddigartref, yn ymwneud â’r system cyfiawnder troseddol, anawsterau iechyd corfforol yn ogystal â phroblemau ariannol. Gyda chymorth y prosiect, mae’r tîm yn gallu addasu’n hyblyg a chynorthwyo’r bobl ifanc wrth i’r newidiadau hyn ddigwydd, gan addasu blaenoriaethau i ganolbwyntio ar y rhai sy’n fwyaf perthnasol i’r bobl ifanc ar y pryd. Lle bo angen, mae’r tîm hefyd yn ceisio cymorth ac arian ychwanegol o ffynonellau eraill, gan gynnwys elusennau lleol a thimau’r Cyngor, i helpu i dalu costau rhai eitemau. Mae enghreifftiau o’r hyn mae’r prosiect wedi prynu i bobl ifanc yn cynnwys: beiciau i ganiatáu iddynt gyrraedd swyddi a chyfleoedd hyfforddi; nwyddau gwynion i gynorthwyo pobl ifanc sy’n symud mewn i adeiladau heb offer, neu pan fydd eu heitemau eu hunain yn torri a; gliniaduron er mwyn cyrchu cyrsiau a hyfforddiant ar-lein, yn enwedig ers y pandemig Covid-19, sydd yn ei dro yn cynorthwyo’r bobl ifanc i fod yn llai ynysig.

Darparwyd cymorth i’r bobl ifanc trwy gydol y pandemig Covid-19, trwy e-bost, galwadau ffôn, sesiynau ar-lein trwy Microsoft Teams ac ymweliadau stepen y drws hefyd i’r rhai mwyaf agored i niwed. Yn ystod rhannau o’r pandemig, dosbarthwyd parseli bwyd a phecynnau hylendid i gynorthwyo rhai o’r bobl ifanc oedd yn cael trafferth i ymdopi, yn ogystal â chwrdd â phobl ifanc oedd yn arbennig o ynysig yn eu cymunedau lleol

I gael mwy o wybodaeth, ewch i

https://www.valeofglamorgan.gov.uk/en/living/youth_service/Inspire-to-Work.aspx a
https://www.valeofglamorgan.gov.uk/en/living/youth_service/Youth-Service.aspx am fanylion cyswllt llawn..

inspire2work

ESF          VYS