Mae’r ymchwil a luniwn yn helpu i sicrhau bod polisi addysg yng Nghymru wedi’i seilio ar dystiolaeth. Mae rhywfaint o’r ymchwil wedi’i wneud gennym ni, ond rydym hefyd yn comisiynu gwaith ymchwil.
Cefnogi’r gweithlu ôl-16 yng Nghymru
Ers 2020, rydym wedi bod yn cynnal nifer o brosiectau ar ran Llywodraeth Cymru i gefnogi a gwella proffesiynolrwydd y gweithlu addysg ôl-16 yng Nghymru. Mae'r gwaith yn parhau yn 2022-23.
Cynrychiolaeth lleiafrifoedd ethnig o fewn y gweithlu ysgolion yng Nghymru
Yn 2019, cawsom ein comisiynu gan Lywodraeth Cymru i gynnal adolygiad o dystiolaeth am amrywiaeth ethnig y gweithlu ysgolion yng Nghymru.
Dechreuon ni adolygu'r data yn gysylltiedig ag amrywiaeth y gweithlu ysgolion yng Nghymru ac i ba raddau yr oedd yn cynrychioli poblogaeth ehangach y wlad. Hefyd, fe wnaethom adolygu enghreifftiau o arfer gorau ynghylch camau y gellid eu cymryd i helpu gwella amrywiaeth ethnig.
Crynhowyd y wybodaeth a gasglwyd mewn adroddiad a gyflwynwyd i Lywodraeth Cymru ym mis Mai 2020, oedd yn amlinellu syniadau polisi ehangach i Llywodraeth Cymru eu hystyried.
Gan adeiladu ar y canfyddiadau hyn fe wnaethom ymgysylltu â rhanddeiliaid yn helaeth, gan gynnwys cymunedau amrywiol o bob cwr o Gymr, wnaeth hysbysu adroddiad arall gyflwynwyd i Lywodraeth Cymru yng Ngorffennaf 2021, oedd yn amlinellu ein hargymhellion terfynnolm ar gynyddu amrywiaeth ethnig y gweithlu.
Y Dull Cenedlaethol ar gyfer Dysgu Proffesiynol: Y Cyfuniad Dysgu Proffesiynol 2.0
Yn 2019, fe'n comisiynwyd gan Lywodraeth Cymru i gynnal ymchwil yn archwilio modelau dysgu proffesiynol. Roedd ein hadroddiad yn archwilio tystiolaeth o ran defnyddio cyfuniad dysgu proffesiynol, ac yn ystyried sut byddair' ymdriniaethau hyn yn cael eu defnyddio i wneud y mwyaf o gyflwyno y Cwricwlwm i Gymru, a helpu ymarferwyr wneud y mwyaf o'u potensial.
Y Dull Cenedlaethol ar gyfer Dysgu Proffesiynol: Y Cyfuniad Dysgu Proffesiynol
Yn 2018, comisiynwyd CGA i ganolbwyntio ar y cyfuniad dysgu proffeisynol. Mae’r papur hwn yn un o’r rhain ac mae’n defnyddio adolygiad o lenyddiaeth a chyfweliadau â phobl allweddol i fynd i’r afael â’r ffyrdd y gallai’r ‘Cyfuniad Dysgu Proffesiynol’ alluogi’r model newydd i gael ei weithredu’n effeithiol. Mae hefyd yn ystyried pa amodau proffesiynol y bydd angen iddynt fod ar waith er mwyn i ymagwedd gyfunol at y dull cenedlaethol ar gyfer dysgu proffesiynol weithredu’n effeithiol yn ymarferol.
Stategaethau cymell addysg athrawon
Mae CGA wedi comisiynu pedwar adroddiad sy’n archwilio strategaethau cymell a gynlluniwyd i wella recriwtio a chadw athrawon o safon uchel.
Strategaethau Cymell: Adroddiad Synoptig
Cymhelliadau Hyfforddi Athrawon yng Nghymru – Cyd-destun Polisi Rhyngwladol
Cymharu Cymhelliadau Hyfforddi Athrawon yng Nghymru a Lloegr