CGA / EWC

Accreditation banner
Y Marc Ansawdd - Deall y Jargon
Y Marc Ansawdd - Deall y Jargon

Nodau

Nod y darn hwn ar Ddeall y Jargon yw creu canllaw syml y bwriedir iddo resymoli iaith y Marc Ansawdd Gwaith Ieuenctid i gydweithwyr yn y sector gwirfoddol a’r sector statudol yng Nghymru. Mae llawer o’r bobl sy’n cynorthwyo pobl ifanc yn y sector yn weithwyr rhan-amser neu’n wirfoddolwyr ac nid ydyn nhw’n rhy gyfarwydd â’r iaith a ddefnyddir yn y sector. Mae hyn yn rhwystr ychwanegol i’w cyfranogiad a’u cynhwysiad yn y Marc Ansawdd i ddangos y gwaith da iawn maen nhw’n ei wneud gyda phobl ifanc.

Cyfarfod â’r sector

Wrth baratoi’r canllaw hwn, cyfwelwyd â gwahanol sefydliadau a gofynnwyd cyfres o gwestiynau iddyn nhw. Cynhaliwyd y cyfweliadau hyn naill ai dros y ffôn neu’n rhithwir. Cyfwelwyd ag amrywiaeth fawr o glybiau gwirfoddol a chydweithwyr mewn awdurdodau lleol. Roedd y rhain yn amrywio o glybiau ieuenctid bach sy’n cyfarfod unwaith yr wythnos i brosiectau gwaith ieuenctid mwy gyda thîm bach o staff..

Esbonio’r Marc Ansawdd

Mae rhai gweithwyr ieuenctid a grwpiau ieuenctid gwirfoddol yn dal i fod yn anymwybodol, neu ddim ond yn rhannol ymwybodol, o’r Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru. Un elfen o’r cyfweliadau oedd gadael i’r gwirfoddolwyr wybod mwy am y Marc Ansawdd a gwaith Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA).

Rhoddwyd gwybod i’r rhai a gymerodd ran bod y Marc Ansawdd Gwaith Ieuenctid yn cynnwys 3 lefel, sef Efydd, Arian ac Aur. Mae gan bob un 4 safon, gyda 3 dangosydd. Er mwyn cyrraedd y safon mae gan bob dangosydd feini prawf mesuradwy.

Yr enw ar y meini prawf mesuradwy yw’r Disgrifyddion Gradd.

  • Ymarfer da,
  • Angen rhywfaint o ddatblygu, ac
  • Angen datblygu sylweddol

Mae'r Disgrifyddion Gradd wedi cael eu datblygu i helpu sefydliadau i ddeall pa mor dda maen nhw’n gwneud yn erbyn pob un o’r dangosyddion a beth y gallai fod ei angen i’w helpu i symud ymlaen.

Cyfeirir at y Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru fel ‘y Marc Ansawdd’ yn y ddogfen hon.


Cyflwyniad i’r Marc Ansawdd

Y Lefel Efydd

Mae'r Marc Ansawdd yn gyfle i sefydliadau ddathlu eu gwaith gyda phobl ifanc trwy gyflwyno dogfen hunanasesu a chyfarfod â gweithwyr ieuenctid eraill (aseswyr) o sefydliadau yng Nghymru er mwyn gweld a yw’r sefydliad yn bodloni’r meini prawf i gael un o’r tair lefel – Efydd, Arian ac Aur.

Lefel gyntaf y Marc Ansawdd yw’r Lefel Efydd. Mae'r dyfarniad hwn yn canolbwyntio ar y camau cyntaf ac yn edrych ar yr hyn mae’ch sefydliad yn ei wneud, sut mae wedi’i strwythuro, sut mae’n cael ei reoli gan yr ymddiriedolwyr a sut mae’n gwneud “gwaith ieuenctid da”.

Anogir pob sefydliad gwaith ieuenctid yng Nghymru i ymgeisio am y Lefel Efydd. Rhaid i sefydliadau ddangos bod ganddyn nhw arweinyddiaeth a llywodraethiant priodol, bod ganddyn nhw brosesau i fonitro a gwerthuso eu rhaglenni, a’u bod yn sicrhau bod pobl ifanc, staff a gwirfoddolwyr yn ddiogel a’u bod yn cydymffurfio â’r gofynion cyfreithiol.

Mae Strategaeth Gwaith Ieuenctid Cymru (2019) yn nodi gweledigaeth ar gyfer y dyfodol lle mae:
“pob person ifanc yn ffynnu, ac yn cael mynediad at gyfleoedd a phrofiadau, yn y Gymraeg a’r Saesneg, sy’n rhoi mwynhad ac yn cyfoethogi eu datblygiad personol drwy waith ieuenctid”.

Mae'r Lefel Efydd yn cynnwys pedwar maes, sef:

  1. Rheoli perfformiad
  2. Ansawdd gwaith ieuenctid,
  3. Dysgu a datblygiad pobl ifanc, a
  4. Gofynion cyfreithiol.

Efydd: Mae pobl ifanc yn ddiogel ac yn gallu ffynnu

Y Lefel Efydd yw’r cam cyntaf ar daith y Marc Ansawdd ac i gyrraedd y lefel hon mae angen i sefydliadau fodloni’r meini prawf isod.

Mae'r tabl isod yn dangos y safonau a’r dangosyddion ond hefyd yn esbonio beth mae hyn yn ei olygu.

Safon Ansawdd Dangosyddion Beth mae hyn yn ei olygu
1.1 Rheoli perfformiad Mae gan y sefydliad ddatganiad neu weledigaeth sydd wedi’i nodi’n glir ac mae ganddo strategaeth a/neu gynllun(iau) ar gyfer ei waith gyda phobl ifanc. Gall eich sefydliad ddangos beth rydych chi’n ei wneud, sut mae’n cael ei ddarparu, pryd mae’n cael ei ddarparu a ble. Mae gan eich sefydliad gyfansoddiad (neu ddogfen lywodraethu arall) sy’n dweud beth rydych chi’n ei wneud a sut rydych chi’n ei wneud. Gallwch ddangos i’r aseswyr beth rydych eisiau ei gyflawni i bobl ifanc, a sut y byddwch yn cyrraedd yno.
  Mae cynllun sy’n dangos sut mae’r sefydliad yn mesur effaith ac effeithiolrwydd ei waith gyda phobl ifanc. Mae aelodau’ch sefydliad, gan gynnwys pobl ifanc, yn deall ac wedi cyfrannu at weledigaeth, cynlluniau a blaenoriaethau’ch sefydliad, gan gynnwys sut y byddwch yn gwirio eich bod yn cyflawni’r blaenoriaethau hynny.
  Mae’r sefydliad yn defnyddio dull systematig yn rheolaidd ar gyfer monitro, adolygu a diwygio’i gynllun(iau) sefydliadol a’i dargedau a/neu ei ddangosyddion perfformiad. Mae’ch sefydliad yn monitro cynlluniau’n rheolaidd ac yn eu newid pan fo angen. Dylai’ch sefydliad ddangos eich bod yn cadw cofnodion o brosiectau a dangos sut mae pobl ifanc yn datblygu trwy eu hymwneud â’r sefydliad. Mae’ch sefydliad yn gwrando ar adborth y bobl ifanc ac yn newid ei ddarpariaeth yn unol â hynny.
  Mae’r sefydliad yn gallu cysylltu ei waith â pholisïau lleol a chenedlaethol allweddol, a/neu strategaethau a blaenoriaethau ar gyfer pobl ifanc. Gall eich sefydliad ddangos eich bod yn ymwybodol o anghenion pobl ifanc a’r gymuned a’ch bod yn ymwybodol o bolisïau lleol a chenedlaethol ar waith ieuenctid a bod eich sefydliad yn cymryd hyn i ystyriaeth.
1.2 Ansawdd ymarfer gwaith ieuenctid Mae gweithlu’r sefydliad yn deall anghenion ardaloedd lleol ac anghenion y bobl ifanc maent yn gweithio gyda nhw.

 

Mae'r bobl sy’n gweithio gyda phobl ifanc yn eich sefydliad yn deall sut mae eu rôl yn cefnogi’r hyn mae pobl ifanc ei eisiau a’i angen yn ogystal â rhai’r gymuned leol.

Mae gweithgareddau gwaith ieuenctid yn rhoi sylw i anghenion pobl ifanc ac yn eu diwallu e.e. gallai hyn gynnwys trwy chwaraeon neu gelfyddydau gan gynnwys defnyddio platfformau cyfryngau digidol a chyfleoedd dysgu cyfunol – os yw hyn yn berthnasol i’ch sefydliad.

Mae’ch sefydliad yn helpu pobl ifanc (trwy gyfeirio) i ddod o hyd i wasanaethau cymorth a ffynonellau gwybodaeth, cyngor a chyfarwyddyd y gall fod arnyn nhw eu hangen.

Mae'r sefydliad yn deall y problemau mae pobl ifanc yn eu hwynebu ac yn gwrando ar eu pryderon.

 

 Mae gweithlu’r sefydliad yn ymgysylltu â phobl ifanc wrth gynllunio a gwerthuso gweithgareddau.

 

Mae’ch sefydliad yn cynnwys pobl ifanc wrth benderfynu beth mae’ch sefydliad yn ei wneud. Mae hefyd yn cynnwys pobl ifanc wrth werthuso’ch gwaith i weld a oedd yn llwyddiannus.

Gall pobl ifanc roi adborth i weithwyr ieuenctid a gwirfoddolwyr ar weithgareddau.

Caiff pobl ifanc eu hannog i gymryd rhan weithredol yn y gwaith o drefnu a chynnal gweithgareddau.

Gall eich sefydliad ddangos bod pobl ifanc yn cymryd rhan mewn cyfleoedd dysgu anffurfiol a heb fod yn ffurfiol.

   Mae gweithlu’r sefydliad yn ymgysylltu â phobl ifanc mewn cyfleoedd dysgu ffurfiol a rhai heb fod yn ffurfiol sy’n addysgiadol, yn rymusol, yn gyfranogol, yn gynhwysol ac yn fynegiannol, sy’n ymestyn eu gwybodaeth, eu sgiliau a’u dealltwriaeth.

 

Mae gan eich sefydliad ddealltwriaeth dda o ddogfen Egwyddorion a Dibenion Gwaith Ieuenctid yng Nghymru ac rydych yn defnyddio hon fel y sail i’ch gwaith o ddarparu cyfleoedd dysgu.

https://www.cwvys.org.uk/wp-content/uploads/2018/11/GWAITH-IEUENCTID-YNG-NGHYMRU-EGWYDDORION-A-DIBENION.png

Mae’ch sefydliad yn helpu pobl ifanc i fyfyrio ar y ffordd maen nhw wedi newid trwy eu hymwneud â’ch gweithgareddau a’ch prosiectau.

   Mae gweithlu’r sefydliad yn datblygu perthnasoedd cadarnhaol gyda phobl ifanc i gynorthwyo a hyrwyddo dysgu a chyflawniad pobl ifanc yn effeithiol. Mae gan eich sefydliad berthnasoedd cadarnhaol ac o ymddiriedaeth gyda phobl ifanc.

Mae'r bobl sy’n cyflawni gwaith gyda phobl ifanc yn defnyddio llawer o ffyrdd o feithrin ymddiriedaeth ac yn cynnig gweithgareddau a rhaglenni dysgu sy’n bleserus ac yn heriol.

Mae’ch sefydliad yn gwrando ar bobl ifanc er mwyn llunio rheolau sylfaenol a chodau ymddygiad

1.3 Dysgu a datblygiad pobl ifanc  Ar ôl ymwneud â darpariaeth gwaith ieuenctid y sefydliad, mae pobl ifanc yn datblygu gwybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth ohonyn nhw eu hunain ac o’u dysgu.

 

Ar ôl iddyn nhw gymryd rhan yng ngweithgareddau’ch sefydliad gallwch ddangos bod pobl ifanc wedi dysgu sgiliau newydd ac wedi gwneud cynnydd personol a/neu gymdeithasol. Efallai y byddwch hefyd yn gallu dangos bod rhai pobl ifanc wedi gallu symud ymlaen i addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant.

Gall pobl ifanc fyfyrio ar beth maen nhw wedi’i gyflawni a disgrifio beth maen nhw wedi’i ddysgu, a pha fudd maen nhw wedi’i gael.

Gall eich sefydliad gofnodi’r deilliannau hynny a restrir uchod a gallwch ddathlu cyflawniadau dysgu pobl ifanc.

   Ar ôl ymwneud â darpariaeth gwaith ieuenctid y sefydliad, mae pobl ifanc yn datblygu sgiliau personol, cymdeithasol ac emosiynol.

 

Mae sefydliadau gwaith ieuenctid yn wych am helpu pobl ifanc i ddatblygu eu sgiliau personol, cymdeithasol ac emosiynol. Mae'r adran hon yn gofyn ichi roi enghreifftiau o hyn, e.e.
Ar ôl ymwneud â’ch darpariaeth bydd pobl ifanc wedi datblygu sgiliau personol, cymdeithasol ac emosiynol. Byddwch yn gallu dangos bod pobl ifanc:

  • yn cyfathrebu’n dda
  • yn gweithio’n dda mewn grwpiau a thimau
  • yn sensitif ac yn llawn parch yn eu perthnasoedd.

Fel sefydliad efallai y byddwch yn gallu defnyddio astudiaethau achos i ddangos bod pobl ifanc wedi datblygu menter ac yn derbyn cyfrifoldeb am eu dewisiadau a’u gweithredoedd.

   Mae’r sefydliad yn galluogi pobl ifanc i helpu i lywio gweledigaeth a nodau’r sefydliad, ac yn ymwneud â’r gwaith o ddylunio, cynllunio a gwerthuso’r ddarpariaeth er mwyn ateb eu hanghenion. Mae’ch sefydliad yn cynnwys pobl ifanc wrth bennu targedau a phethau maen nhw eisiau eu cyflawni fel unigolion ac mewn grwpiau trwy ymwneud â’ch darpariaeth.

Mae'r bobl ifanc yn eich canolfan neu’ch prosiect yn cymryd rhan yn y gwaith o gynllunio, trefnu ac arwain rhaglenni a gweithgareddau, gyda chymorth gan weithwyr ieuenctid.

Mae’ch sefydliad yn cynnwys pobl ifanc wrth ystyried eu datblygiad a’u dysgu trwy’r prosiectau a gweithgareddau.

1.4 Gofynion cyfreithiol  Mae gan y sefydliad bolisïau, gweithdrefnau a chanllawiau perthnasol, a gall ateb ei ofynion cyfreithiol ac ymarfer diogel.

 Mae gan eich sefydliad bolisïau i sicrhau bod pobl ifanc a gwirfoddolwyr yn cael eu cadw’n ddiogel e.e. polisïau a gweithdrefnau iechyd a diogelwch, polisïau a phrosesau diogelu ac amddiffyn plant.

   Mae gan y sefydliad bolisïau a gweithdrefnau effeithiol ar gyfer diogelu ac iechyd a diogelwch pobl ifanc, staff a gwirfoddolwyr  Mae’ch sefydliad wedi bodloni’r gofynion cyfreithiol ar gyfer cadw pobl ifanc, staff a gwirfoddolwyr yn ddiogel e.e. polisi a gweithdrefnau gwirfoddolwyr, polisi ar weithio ar eich pen eich hun, asesiadau risg, proses cynefino.
   Mae gweithlu’r sefydliad yn deall ac mae wedi’i hyfforddi a’i baratoi i weithredu polisïau, gweithdrefnau a chanllawiau ar gyfer diogelu, iechyd a diogelwch, a gofynion cyfreithiol eraill.

 

Mae'r bobl sy’n gweithio gyda phobl ifanc yn gallu cael gafael ar y polisïau, gweithdrefnau a chanllawiau, eu deall a’u rhoi ar waith.

Mae pobl ifanc yn gwybod sut i wneud datgeliad diogelu a rhoi gwybod am fwlio neu unrhyw broblemau eraill.

Mae’ch sefydliad yn rhoi gwybod i bawb am y polisïau a gweithdrefnau ac unrhyw newidiadau pan gânt eu diweddaru.

   Mae’r sefydliad yn monitro ac yn adolygu ei bolisïau, ei weithdrefnau a’i ganllawiau yn rheolaidd, ac yn defnyddio canlyniadau’r prosesau hyn ar gyfer gwella a newid.  

Mae’ch sefydliad yn adolygu ac yn diweddaru’r polisïau a gweithdrefnau yn rheolaidd.

Mae'r bobl sy’n gweithio gyda phobl ifanc yn cael eu cynnwys yn y broses hon.

 TI helpu sefydliadau i gyflwyno eu hunanasesiad mae tri disgrifydd gradd i’w gwneud yn haws deall beth yw ymarfer da, ble mae angen rhagor o waith a ble mae angen llawer o waith. Yn y brif ddogfen disgrifir y rhain fel a ganlyn:

  • Ymarfer da,
  • Angen rhywfaint o ddatblygu, ac
  • Angen datblygu sylweddol.

I gyflawni’r Marc Ansawdd Gwaith Ieuenctid mae 5 cam.

Sut i ddechrau: camau 1-3.

I gael Lefel Efydd y Marc Ansawdd rhaid i sefydliad wneud y canlynol:

  1. Cysylltu â Chyngor y Gweithlu Addysg i gofnodi’ch diddordeb
  2. Cofrestru ar gyfer Ymwybyddiaeth o’r Marc Ansawdd ar-lein neu sut i gynnal hyfforddiant hunanasesu a/neu gael cymorth mentora os ydych chi’n teimlo y bydd hyn yn eich helpu. Mae mwy o wybodaeth am yr hyn sydd ar gael isod
  3. Cwblhau hunanasesiad sy’n cynnwys tystiolaeth o’r holl bethau da rydych chi’n eu gwneud (adroddiad ysgrifenedig yw hwn i ddangos sut yr ydych chi’n teimlo eich bod chi’n cyrraedd y Safon Ansawdd)C

    Beth sy'n digwydd nesaf: camau 4-5?

  4. Bydd CGA yn gwirio’r adroddiad ac unwaith y byddwch yn barod bydd yn trefnu i dîm asesu gynnal ymweliad Marc Ansawdd
  5. Bydd yn trefnu i’ch grŵp neu sefydliad gymryd rhan mewn cyfarfod (neu gyfres o gyfarfodydd) gyda gweithwyr ieuenctid eraill o sefydliadau yng Nghymru fel rhan o gyfarfod strwythuredig er mwyn gweld a yw’r sefydliad wedi dangos y cyrhaeddwyd gradd ‘ymarfer da’ ar gyfer pob dangosydd yn y lefel hon

Ar ôl ichi gwblhau’r 5 cam caiff adroddiad ei ysgrifennu i argymell i Lywodraeth Cymru y dylai ddyfarnu’r Marc Ansawdd. Mae’ch statws Marc Ansawdd yn ddilys am dair blynedd ac ar ôl hynny mae’n rhaid ei adnewyddu.

Mae cymorth, gwybodaeth a chyngor ar gael yn rhwydd ar bob un o’r camau hyn, hyd yn oed os mai dim ond eisiau gwybod ychydig mwy am y Marc Ansawdd cyn cymryd y cam cyntaf ydych chi.

Cymorth sydd ar gael gan Gyngor y Gweithlu Addysg

Mae Cyngor y Gweithlu Addysg yn annog sefydliadau gwaith ieuenctid yng Nghymru i ymgeisio ac mae’n gefnogol i sefydliadau newydd sy’n ymgeisio. Er mwyn helpu sefydliadau i ymgeisio a dysgu mwy am y Marc Ansawdd mae amrywiaeth o hyfforddiant ar gael, gan gynnwys:

  1. Hyfforddiant ar sut i gwblhau’r adroddiad hunanasesu a/neu fentor i gynorthwyo sefydliadau
  2. Cyfleoedd i gyflawni modiwl e-ddysgu y gellir ei ddefnyddio i wneud staff a gwirfoddolwyr yn gyfarwydd â’r Marc Ansawdd 
  3. Cymorth gan gymheiriaid oddi wrth ymgeiswyr blaenorol, a all roi awgrymiadau defnyddiol a chymorth a chyngor
  4. Cyfarfodydd gydag aseswyr er mwyn meithrin perthynas weithio gefnogol
  5. Rhoi adborth ar y ddogfen hunanasesu a chyngor ar gynnwys a strwythurau

Datblygiad pellach

Er mai nod y ddogfen hon yw helpu pobl i ymdrin â’r Lefel Efydd, ar ôl i hon gael ei chwblhau mae cyfle i sefydliadau gwblhau’r Lefelau Arian ac Aur os ydyn nhw’n dymuno gwneud hynny ac yn teimlo mai dyna’r peth iawn i’w sefydliad ei wneud. Mae cyrraedd y Lefel Efydd yn gyflawniad gwych ynddo ei hun a dylai sefydliadau fod yn falch o gyrraedd y safon ansawdd hon.

Lefel Arian: Mae gwaith ieuenctid yn gynhwysol, yn hygyrch ac yn cael ei gynnig gan staff sydd wedi’u hyfforddi.

Mae’r Lefel Arian yn cynnwys pedwar maes:

  1. Cynnwys pobl ifanc,
  2. Cwricwlwm,
  3. Cydraddoldeb ac Amrywiaeth, a
  4. Datblygu’r gweithlu.

Lefel Aur: Rheoli adnoddau i ateb anghenion pobl ifanc.

Mae'r Lefel Aur yn cynnwys pedwar maes:

  1. Cydnabod a dathlu cyflawniad,
  2. Gwybodaeth reoli,
  3. Partneriaethau, ac
  4. Adnoddau.

Geirfa termau

Term Ystyr

 

Safonau Ansawdd

Bodloni’r meini prawf penodedig am yr hyn a ddisgwylir gan sefydliad gwaith ieuenctid. Mae pedair Safon Ansawdd i bob lefel.
Marc Ansawdd Dyfarniad i gydnabod cyrraedd safon benodedig.
Dangosyddion Dyma’r mesuriad mae angen ei gyflawni neu ei gynnal.
Disgrifyddion Gradd Mae'r rhain yn disgrifio pa mor dda mae sefydliad yn gwneud ar sail y meini prawf sydd wedi cael eu bodloni. Caiff y rhain eu rhannu fel a ganlyn: ymarfer da, angen rhywfaint o ddatblygiad, angen llawer o ddatblygiad.
Hunanasesiad Dyma lle y gall sefydliadau adolygu lle maen nhw a beth sydd ganddyn nhw ar waith ar hyn o bryd cyn yr asesiad. Gallan nhw nodi cryfderau a gwendidau a dathlu’r hyn sy’n mynd yn dda a pha mor dda yw’r ddarpariaeth gwaith ieuenctid. Gallan nhw hefyd ddangos beth yw barn pobl ifanc am y sefydliad.
Effaith Dyma’r gwahaniaeth mae hyn yn ei wneud i fywydau pobl ifanc o ganlyniad i’r rhaglenni gwaith ieuenctid.
Tystiolaeth Y dogfennau i gefnogi’r hyn y dywedwch eich bod yn ei wneud. Gallai hyn gynnwys polisïau, adroddiadau, posteri ac ati
Dysgu anffurfiol Dysgu sy’n deillio o weithgareddau pob dydd sy’n gysylltiedig â’r gwaith, teulu neu hamdden. Nid yw wedi’i drefnu. Yn y rhan fwyaf o achosion mae dysgu anffurfiol yn anfwriadol o safbwynt y dysgwr e.e. dysgu o brofiad, ennill sgil ar ôl hyfforddiant chwaraeon
Dysgu heb fod yn ffurfiol Mae dysgu heb fod yn ffurfiol yn cyfeirio at addysg sy’n digwydd y tu allan i’r system ysgol ffurfiol e.e. mynd i grŵp Sgowtiaid neu yn ystod gweithgaredd mewn clwb ieuenctid
Rheoli perfformiad Dull cynlluniedig a rheolaidd o helpu sefydliad i gyflawni ei nodau a’i amcanion trwy fonitro a gwella perfformiad unigolion, a’r sefydliad yn gyfan
Llywodraethiant  Llywodraethiant yw’r term am y ffordd mae grŵp o bobl fel grŵp o ymddiriedolwyr neu fwrdd llywodraethwyr neu gyngor yn gwneud pethau. Mae llawer o grwpiau yn creu pwyllgor i benderfynu sut mae pethau i fod i gael eu gwneud. Hefyd llywodraethiant yw’r ffordd mae’r gwaith o wneud penderfyniadau yn effeithio ar bobl yn y sefydliad hwnnw.