CGA / EWC

Accreditation banner
Prosiect Gofalwyr Ifanc Caerdydd a’r Fro “Amser i Mi”
Prosiect Gofalwyr Ifanc Caerdydd a’r Fro “Amser i Mi”

Quality Mark Logo All 3 LevelsSefydliad: YMCA Caerdydd

Darpariaeth: Prosiect Gofalwyr Ifanc Caerdydd a’r Fro “Amser i Mi”

Person cyswllt: Caroline Ryan (Pennaeth Ieuenctid a Chymunedol)

 

 

 

Nod y ddarpariaeth yw darparu darpariaeth gwasanaeth cymorth i ofalwyr ifanc ledled Caerdydd a Bro Morgannwg, gan weithio mewn partneriaeth â Thîm Cymorth i Deuluoedd yng Nghaerdydd a Theuluoedd yn Gyntaf yn y Fro.

Yn aml nid yw gofalwyr ifanc yn cael eu gweld na’u clywed. Yn aml maen nhw’n blant a phobl ifanc rhwng 7 a 18 oed sy’n helpu i ofalu am aelod o’r teulu sy’n byw gyda nhw. Gallai’r aelod o’r teulu fod yn cael anawsterau gydag un neu ragor o’r canlynol: anabledd, salwch, problemau iechyd meddwl a phroblemau â chyffuriau ac alcohol.
Mae hyn yn golygu bod llawer o ofalwyr ifanc yn methu â rhyngweithio â ffrindiau, wedi’u hynysu’n gymdeithasol ac efallai â rhai problemau o ran gorbryder ac yn ysgwyddo cyfrifoldebau oedolion yn ifanc.
Mae’r prosiect yn cynnig nifer o gyfleoedd i ofalwyr ifanc fel mentora a chymorth sy’n canolbwyntio ar iechyd a lles, cymorth addysgiadol, cymorth i deuluoedd gofalwyr ifanc a datblygiad sgiliau bywyd i ofalwyr ifanc a gofalwyr ifanc sy’n oedolion, ynghyd â gweithgareddau seibiant hwyliog mewn grwpiau i gynyddu cyfleoedd cymdeithasol, cyfarfod â gofalwyr ifanc eraill a chael tipyn o hwyl!

Ar gyfer prosiect Caerdydd, ym mis Hydref 2019, ceisiwyd barn gofalwyr ifanc oedd yn cael cymorth trwy’r YMCA, a’u rhieni am y cymorth sydd ar gael ar hyn o bryd, a’u canfyddiad o unrhyw fylchau yn y ddarpariaeth. Cafodd y wybodaeth hon ei chasglu a’i chyflwyno i swyddogion Cyngor Caerdydd er mwyn llywio’r gwaith o wneud penderfyniadau. Dywedwyd mai’r prif feysydd diffygiol yn y trefniadau presennol oedd cymorth lefel isel o ran iechyd a lles emosiynol, trafnidiaeth, a chymorth i ofalwyr ifanc wrth iddyn nhw symud o blentyndod i fywyd oedolyn.

Yn y Fro mae’r prosiect yn cael ei arwain gan bobl ifanc a defnyddir nifer o ddulliau gwerthuso i lywio’r ddarpariaeth gwasanaethau a gweithgareddau yn y dyfodol. Hefyd mae gennym fforwm ieuenctid gofalwyr ifanc o’r enw Clywir Pob Llais (All Voice Are Heard - AVAH).

Mae’r ddau brosiect yn cynnig yr un gwasanaethau cymorth, gweithgareddau a chlybiau ieuenctid gofalwyr ifanc.
Mae’r prosiect yn cael ei arwain gan bobl ifanc ac maen nhw’n cael eu cynnwys yn y gwaith o ddylunio a gwerthuso’r cwricwlwm o weithgareddau ac yn y gwaith o werthuso ei effaith arnyn nhw. Rydym yn gweithredu mewn ffordd gyfannol ac yn sicrhau bod y bobl ifanc yn rhanddeiliaid gwirioneddol.

Mae pobl ifanc yn dysgu strategaethau ymdopi er mwy gwella eu deallusrwydd emosiynol, cymdeithasoli yn arwain at wneud ffrindiau sy’n eu galluogi i oresgyn teimladau o ynysigrwydd. Maen nhw hefyd yn dysgu sut i fod yn wydn ac yn hyderus yn emosiynol.

Mae’r rhai sydd wedi cymryd rhan yn y prosiect wedi cael eu grymuso fel rhanddeiliaid datblygiad adnoddau a gweithgareddau. Maen nhw’n rhydd i chwarae rhan weithredol yn y prosiect ac i gyfrannu at ei lwyddiant.

Mae’r prosiect yn gwbl gynhwysol ac yn agored i’r holl bobl ifanc sydd â rôl gofalu yn eu teulu ac rydym yn sicrhau ein bod yn darparu ar gyfer yr holl anghenion, galluoedd a diwylliannau penodol.
Mae pobl ifanc wedi mynegi sut maen nhw’n teimlo am fod yn ofalwr ifanc trwy’r cyfryngau a storïau wedi’u hanimeiddio.

Mae llawer o wersi wedi cael eu dysgu ac rydym wedi datblygu ers 2008 trwy ymgynghoriadau rheolaidd â’r gofalwyr ifanc ar y prosiect. Rydym yn dal i ddysgu ac un canlyniad yw canfod mwy a mwy o ofalwyr ifanc ‘cudd’ dros y blynyddoedd hyn. Erbyn hyn rydym yn cynorthwyo mwy na 350 o ofalwyr ifanc a gofalwyr sy’n oedolion ifanc ledled y ddau awdurdod lleol.

Dros y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi datblygu ymagwedd / dull teulu cyfan ac wedi lansio cerdyn adnabod gofalwyr ifanc. Rydym hefyd wedi datblygu dulliau ar-lein o gadw mewn cysylltiad. Mae’r buddion yn cynnwys y canlynol:

  • Gofalwyr ifanc/teuluoedd yn cael cymorth wedi’i bersonoli
  • Gofalwyr ifanc yn gallu cyflawni eu potensial o ran datblygiad addysgol a chyflogaeth a datblygiad personol.
  • Gwell lles meddyliol a chorfforol.
  • Llai o ynysigrwydd trwy fwy o gyfleoedd cymdeithasol i ofalwyr ifanc a’u teuluoedd
  • Gofalwyr ifanc yn cynyddu o ran hyder, hunan-dyb a chred ynddyn nhw eu hunain i feithrin gwydnwch
  • Gwell cymorth yn yr ysgol trwy sesiynau galw heibio ac Eiriolwyr dros Ofalwyr, gwell gweithio mewn partneriaeth rhwng y prosiectau a’r ysgolion i gynnig cymorth cofleidiol i ddisgyblion ifanc sy’n ofalwyr
  • Profiad a gwybodaeth am broblemau gofalwyr ifanc ynghyd â mwy o wybodaeth am ddeddfwriaeth berthnasol.
  • Yn ystod cyfnod oes y ddarpariaeth rydym wedi cynorthwyo / cefnogi nifer o leoliadau gwaith ieuenctid i fyfyrwyr prifysgol, y mae rhai ohonynt wedi arwain at gyflogaeth.

Mae gan y gwasanaeth gynnig gweithredol i ofalwyr ifanc sy’n dymuno cael gwasanaethau / yn Gymraeg. Yn ogystal, mae’r gwasanaeth yn gwneud addasiadau rhesymol i alluogi gofalwyr ifanc sydd hefyd ag anghenion ychwanegol neu namau er mwyn sicrhau y gallan nhw gael gwasanaethau fel gofalwr ifanc. Mae’r Gwasanaeth yn dal i wella’r broses o ganfod gofalwyr ifanc a gofalwyr sy’n oedolion ifanc, gan gynnwys teuluoedd Duon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol.

Caiff y ddau brosiect eu comisiynu trwy’r awdurdodau lleol

https://www.channel4.com/news/the-young-carers-coping-in-lockdown

www.ymcacardiff.wales 

https://www.valeofglamorgan.gov.uk/en/living/social_care/adult_services/Carers/Young-Carers.aspx

YMCA