CGA / EWC

Accreditation banner
Cyngor Ieuenctid Llanilltud - Adroddiad ar Sbwriel, ‘Dylunio Bin’ a Gwobr Gohebwyr Ifanc
Cyngor Ieuenctid Llanilltud - Adroddiad ar Sbwriel, ‘Dylunio Bin’ a Gwobr Gohebwyr Ifanc

Quality Mark Logo All 3 LevelsSefydliad: Cyngor Ieuenctid Llanilltud, Gwasanaeth Ieuenctid Bro Morgannwg

Teitl y prosiect: Cyngor Ieuenctid Llanilltud - Adroddiad ar Sbwriel, ‘Dylunio Bin’ a Gwobr Gohebwyr Ifanc

Person cyswllt: Adley Curtis.

 

Adroddiad ar Sbwriel a ‘Dylunio Bin’ a Gohebwyr Ifanc


Angen canfyddedig: Yn ystod cyfarfod Cyngor Ieuenctid Llanilltud, cynhaliwyd ymgynghoriad â’r bobl ifanc i lunio rhestr o syniadau ar gyfer prosiect posibl. Yn dilyn yr ymgynghoriad a nifer o drafodaethau, penderfynodd aelodau’r cyngor ieuenctid bod angen prosiect yn canolbwyntio ar y sbwriel cynyddol yn eu cymuned leol.

Cynllunio: Ar ôl nodi’r broblem, cynhaliwyd grŵp gorchwyl i lunio cynllun ar gyfer prosiect sbwriel posibl. Yn y grŵp gorchwyl, nododd y bobl ifanc nifer o fannau allweddol lle mae sbwriel yn fwyaf amlwg, a thrafodwyd y posibilrwydd o uwchraddio biniau yn eu cymuned. Cytunodd aelodau Cyngor Ieuenctid Llanilltud i gynnal ymchwiliadau sbwriel yn y mannau yr oeddent wedi’u nodi.

Ar ôl cynnal dau ymchwiliad sbwriel, gwelodd y bobl ifanc bod prinder biniau yn un o’r mannau yr oeddent wedi’u nodi. O ganlyniad, awgrymodd y bobl ifanc y dylid gosod bin yn y fan honno. Cydweithiodd aelodau’r Cyngor Ieuenctid a’r gweithiwr arweiniol wedyn i ddylunio bin a’i osod yn y fan honno.

Gwerthusiadau: Roedd cam gwerthuso’r prosiect yn cynnwys y bobl ifanc yn asesu a oedd y bin wedi lleihau faint o sbwriel oedd yn y fan honno trwy gynnal ymchwiliad sbwriel arall. Cynhaliwyd grŵp gorchwyl terfynol wedyn, lle cytunwyd bod y prosiect wedi bod yn llwyddiannus, a’u bod yn hapus iawn gyda’r datblygiadau.

Hefyd, cynhyrchodd aelodau’r Cyngor Ieuenctid adroddiad sbwriel, yn crynhoi’r prosiect sbwriel. Aeth yr adroddiad i gystadleuaeth ‘Cadwch Gymru’n Daclus - Gohebwyr Ifanc i’r Amgylchedd’. Enillodd Cyngor Ieuenctid Llanilltud y wobr gyntaf am ei adroddiad sbwriel, sef £100 a ddefnyddiwyd i dalu am bryd o fwyd i ddathlu.

Gwelwyd cynnydd yn hyder, hunan-dyb a llais y bobl ifanc o ganlyniad i’r prosiect. Trwy ymgysylltu mewn grwpiau gorchwyl, cyfarfodydd ac ymgynghoriadau ar sail gwirfoddol, roedd gan bobl ifanc lais gweithredol ar faterion sy’n effeithio arnyn nhw. Trwy gystadleuaeth ‘Cadwch Gymru’n Daclus – Gohebwyr Ifanc i’r Amgylchedd’, cafodd y bobl ifanc eu cydnabod am y rhan a chwaraeasant yn y prosiect, a chydnabyddiaeth gan sefydliadau eraill.

Hefyd, trwy neilltuo rolau a chyfrifoldebau prosiect penodol iddynt, roedd gan y bobl ifanc berchnogaeth ar y prosiect ac anogodd hyn ymgysylltiad naturiol ac ymdeimlad o rymuso. Oherwydd y rhoddwyd y rolau iddynt, anogwyd y bobl ifanc i ystyried risgiau a chanlyniadau eu gweithredoedd, gwneud penderfyniadau gwybodus a chymryd cyfrifoldeb

Trwy gydol y broses o ddatblygu’r prosiect sbwriel a’r broses o ddylunio a dod o hyd i leoliad addas i’r bin, roedd yn amlwg bod bodloni terfynau amser yn gallu bod yn broblem wrth orfod cysylltu ac ymateb i sefydliadau/cynghorau eraill.
Enghraifft o hyn oedd, ar ôl dylunio’r bin yn derfynol, anfonwyd y bin at y sefydliad oedd yn gyfrifol am brosesu’r dyluniad a chynhyrchu’r bin. Yn ystod y cam cyntaf hwn o gyfathrebu, dywedwyd y byddai’n cymryd 3-4 wythnos i greu’r bin. Aeth yr amserlen honno heibio, a chysylltwyd â’r sefydliad. Yn ei ateb, dywedodd y gallai’r bin gymryd hyd at 8-12 wythnos arall i’w gwblhau.

Achosodd hyn rwystredigaeth i Gyngor Ieuenctid Llanilltud a Chyngor Tref Llanilltud Fawr gan fod rhaid iddynt wthio’r dyddiad ar gyfer gosod y bin yn ôl. Trwy ein gwaith, dysgasom y gall amserlenni a bennwyd gan ddibynnu ar drydydd partïon gael eu gwthio’n ôl. Yn y dyfodol, pan fyddwn yn ymgymryd ag unrhyw waith lle mae angen cysylltu â sefydliadau ychwanegol, byddwn yn sicrhau ein bod yn cynllunio ar gyfer unrhyw anawsterau

Addysgol: Yn ystod camau cynnar y gwaith o ddatblygu’r prosiect, dywedodd aelodau y byddent yn hoffi dysgu mwy am effeithiau sbwriel ar yr amgylchedd. O ganlyniad, cynlluniodd y gweithiwr arweiniol ymweliadau gan siaradwyr gwadd ac ymweliad â chanolfan ailgylchu i ddatblygu dealltwriaeth y bobl ifanc am effeithiau sbwriel.

Cafodd y bobl ifanc rywfaint o ddysgu personol o’r prosiect fel y nodir isod:

Yn bersonol: Wedi ymweld â chanolfan ailgylchu ac ar ôl ymweliadau gan siaradwyr gwadd, datblygodd aelodau’r Cyngor Ieuenctid eu dealltwriaeth o effeithiau sbwriel. Trwy ddatblygu gwell dealltwriaeth o’r mater, dywedodd y bobl ifanc eu bod yn teimlo’n ddigon hyderus i gynnal sgyrsiau mewn perthynas â’r mater. Hefyd, cafodd y bobl ifanc ymdeimlad o falchder trwy ddylunio’u bin eu hunain a’i osod yn eu cymuned leol. Yn ogystal, trwy ennill £100 o gystadleuaeth ‘Cadwch Gymru’n Daclus – Gohebwyr Ifanc i’r Amgylchedd’ cafodd y bobl ifanc y cyfle i fynd am bryd o fwyd i ddathlu, rhywbeth nad oedd rhai ohonynt wedi cael y cyfle i’w wneud.

Ceir budd i’r gymuned yn ogystal. Roedd y prosiect sbwriel yn canolbwyntio ar wella’r broblem sbwriel yn y gymuned leol. Yn dilyn dau ymchwiliad sbwriel, gwelodd aelodau’r Cyngor Ieuenctid bod angen bin mewn man penodol. Bu’r bobl ifanc wedyn yn gweithio ochr yn ochr â’r gweithiwr arweiniol i ddylunio bin. Cafodd y bin ei gynhyrchu a’i osod yn y man a nodwyd gan y bobl ifanc. Roedd hyn o fudd i’r gymuned wrth i sbwriel leihau yn yr ardal gan wella’r amgylchedd.

Trwy gydol y broses o ddatblygu’r prosiect sbwriel, mae’r sefydliad (y Gwasanaeth Ieuenctid a Chyngor Ieuenctid Llanilltud) wedi elwa drwy ddatblygu eu perthynas â’r cyngor (Cyngor Tref Llanilltud Fawr). Y tref lle cynhaliwyd y prosiect.

Wrth ddylunio’r bin, gweithiodd Cyngor Ieuenctid Llanilltud mewn partneriaeth â Chyngor Tref Llanilltud Fawr i gwblhau’r dyluniad. Hefyd, rhaid oedd i’r Cyngor Ieuenctid a Chyngor y Dref gytuno ar leoliad y bin.

Ar ôl cytuno ar ddyluniad a lleoliad y bin, roedd Cyngor y Dref yn canmol y prosiect sbwriel a’r gwaith ychwanegol a gwblhawyd.

Trwy gymryd rhan ac ennill y gystadleuaeth ‘Cadwch Gymru’n Daclus – Gohebwyr Ifanc i’r Amgylchedd’, gwellwyd ymwybyddiaeth ac enw da y sefydliad, y staff a’r cyngor ieuenctid.

Mae gan Grwpiau Cynghori Ieuenctid god ymarfer sy’n sicrhau cynhwysiant, parch a chyfleoedd cyfartal i’w holl aelodau.

Nid yw’r prosiect sbwriel wedi parhau nac wedi’i ddatblygu ymhellach, gan fod y cynghorwyr ieuenctid wedi penderfynu dechrau gwaith ar brosiect arall, sef Ymgyrch Tlodi Misglwyf. Mae’r prosiect yn canolbwyntio ar ddarparu cynhyrchion ar gyfer misglwyf am ddim i bobl ifanc yn eu cymuned leol.

Er na chafodd y prosiect sbwriel ei ddatblygu ymhellach, mae angerdd y bobl ifanc dros yr amgylchedd a lleihau gwastraff yn parhau, felly roeddent yn sicrhau bod unrhyw gynhyrchion a ddarparwyd ar gyfer y misglwyf yn rhai sy’n ystyriol o’r amgylchedd.

https://llantwitmajortowncouncil.gov.uk/youth-council-2/

 This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it.

01446 709308

Llantwit Youth Council logo       VYS