EWC Logo

Promotion of careers banner
Gyrfaoedd mewn addysg
Gyrfaoedd mewn addysg

Educators Wales logo

Mae Addysgwyr Cymru, a gyllidir gan Lywodraeth Cymru ac a ddatblygwyd gan Gyngor y Gweithlu Addysg (CGA), yn cynnwys nifer o wasanaethau sy'n dod á chyfleoedd gyrfa, hyfforddiant a swyddi yn sector addysg Cymru ynghyd mewn un lleoliad hawdd.

Ar gyfer ymarferwyr

Beth bynnag fo'ch siwrnai, mae Addysgwyr Cymru yma i'ch helpu i fod yr addysgwr gorau y gallwch fod, ac i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o ddysgwyr yng Nghymru.

Unwaith i chi gofrestru, cewch fynediad di-dor at gannoedd o swyddi a chyfleoedd dysgu proffesiynol, yn ogystal â gwybodaeth ynghylch llwybrau gyfra o bob cwr o'r sector addysg yng Nghymru.

Ar gyfer cyflogwyr a darparwyr

Drwy gofrestru gydag Addysgwyr Cymru, gall eich sefydliad elwa o'r nifer o wasanaethau ar gael, gan gynnwys postio swyddi a chyfleoedd hyfforddiant am ddim, gan arbed miloedd o bunnoedd y flwyddyn.

I gael mwy o wybodaeth, ewch i wefan Addysgwyr Cymru.

Mwy o gyngor a chefnogaeth

Mae tîm Addysgwyr Cymru hefyd yn cynnig gwasanaeth recriwtio, eirioli, a chefnogi. I gael mwy o wybodaeth sut gallant eich cefnogi i ddarparu digwyddiadau neu weithgareddau hyrwyddo, neu i gael gwybodaeth benodol am rolau penodol ym myd addysg, Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld..