CGA / EWC

Induction banner
Proffil sefydlu ar-lein
Proffil sefydlu ar-lein

Fel Athro Newydd Gymhwyso (ANG) mae angen i chi gwblhau a chynnal eich Proffil Sefydlu ar-lein trwy’r Pasbort Dysgu Proffesiynol (PDP). Chi sy’n gyfrifol am gynnal eich proffil sefydlu ac am ganfod a chofnodi tystiolaeth o sut yr ydych yn bodloni’r safonau proffesiynol ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth trwy eich ymarfer proffesiynol.

Noder mai dim ond ar gyfer ANG a ddechreuodd gyfnod sefydlu o fis Medi 2014 mae'r proffil sefydlu ar-lein ar gael.

Cyrchu’r Proffil Sefydlu ar-lein

Dim ond ar ôl i ni dderbyn a phrosesu’r ffurflen hysbysu sefydlu y byddwch yn gallu cyrchu’ch proffil sefydlu. Os ydych yn gwneud cyfnod sefydlu trwy waith cyflenwi dydd i ddydd , rhaid eich bod hefyd wedi cofnodi’ch sesiwn cyflenwi byrdymor gyntaf gyda ni, cyn y bydd eich proffil sefydlu i’w weld ar-lein.

Mae’n ofynnol i bob ANG greu ei gyfrif FyCGA ei hun. Dewiswch yr opsiwn cofrestru am fynediad ar lein a nodwch y wybodaeth ofynnol. Os cewch chi neges gwall, yn aml mae hyn oherwydd bod gennym gyfeiriad e-bost anghywir ar eich cyfer. E-bostiwch This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it. i ddiweddaru eich cofnodion.

Gallwch gwblhau eich proffil sefyldu naill ai yn y Gymraeg neu’r Saesneg, felly sicrhewch eich bod yn mewngofnodi i’ch cyfrif FyCGA yn yr iaith rydych yn dymuno cwblhau eich Proffil Sefydlu ynddi.

Byddwn yn creu cyfrifon ar gyfer Mentoriaid Sefydlu (MS) ar ôl prosesu'r ffurflen hysbysu sefydlu.

Cyfarwyddyd ar y Proffil Sefydlu ar-lein

I'ch cefnogi i ddefnyddio'r proffil sefydlu, rydym wedi datblygu canllawiau ar sut gall ANGau a MS gwblhau pob cam o'r proffil sefydlu. Gallwch ddod o hyd i fideos o fewn y canllawiau yn ogystal.

Os oes gennych unrhyw adborth ar y proffil sefydlu ar-lein, neu os cewch unrhyw broblemau wrth ddefnyddio’r system, e-bostiwch This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it.