CGA / EWC

Accreditation banner
Prosiect Cerddoriaeth Ddigidol
Prosiect Cerddoriaeth Ddigidol

Quality Mark Logo All 3 LevelsSefydliad: Gwasanaeth Ieuenctid Bro Morgannwg

Teitl y prosiect: Prosiect Cerddoriaeth Ddigidol

Person cyswllt: Jack Fletcher


Mae’r prosiect cerddoriaeth ddigidol yn rhoi i bobl ifanc ddealltwriaeth o’r gwahanol fathau o gerddoriaeth ac offerynnau. Mae’r prosiect yn cynorthwyo dysgwyr i ddatblygu eu set sgiliau cerddorol a’u gallu i adeiladu’n greadigol. Mae’r prosiect wedi cynnwys gwaith grŵp a sesiynau un-i-un, ar lein a wyneb yn wyneb. Mae’r prosiect wedi gwella hunan-hyder a sgiliau cerddorol, ac wedi lleihau ynysigrwydd yn ystod y pandemig. Mae pobl ifanc hefyd wedi gweithio i ennill cymhwyster Uned Gwerthfawrogi Cerddoriaeth Agored Cymru.

Cymerodd y bobl ifanc ran mewn prosiect recordio a pherfformio cerddoriaeth llwyddiannus, yn hyb YMCA y Barri. Perfformiwyd sioe Nadolig ganddynt i’w cyfoedion ac aelodau o dîm Gwasanaeth Ieuenctid Bro Morgannwg. Yn anffodus, bu’n rhaid inni ddod â’r sesiynau hyn i ben oherwydd effaith yr argyfwng Covid ar iechyd y cyhoedd. Fodd bynnag, roedd y bobl ifanc a gymerodd ran eisiau parhau i ddatblygu eu sgiliau.

Credai tiwtor y prosiect blaenorol a minnau y gallai fod yn bosibl hwyluso prosiect cerddoriaeth ar lein drwy Microsoft Teams. Ymgynghorwyd â’r bobl ifanc i weld faint o ddiddordeb oedd yn y prosiect ac i gael adborth am unrhyw brofiad oedd ganddynt o weithio ar lein ar gerddoriaeth.

Cymerodd y bobl ifanc ran lawn yn y prosiect, a buont yn cyfrannu at y cydweithredu i ddylunio’r prosiect. Penderfynasom greu dogfen a rennir ar Google, er mwyn iddyn nhw gydweithio ar eiriau’r gân yr oeddent yn ei chynhyrchu. Roedden nhw hefyd yn cydweithio i ddewis rhannau gwahanol o drac cefndir i’w trefnu yn y meddalwedd GarageBand pan oedd y tiwtor yn rhannu ei sgrin.

Cafwyd anhawster wrth recordio’r canu ar lein oherwydd oedi. I ddatrys hyn, recordiodd y bobl ifanc eu darnau gartref ar eu ffonau a’u he-bostio ataf, er mwyn imi eu hychwanegu at y gân. Fel arweinydd y prosiect, anfonais negeseuon e-bost at yr holl ysgolion lleol a’u ffonio, a chyhoeddi postiadau rheolaidd ar y cyfryngau cymdeithasol er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r prosiect. Ar ddiwedd y prosiect, dyblygwyd CDau yn broffesiynol, gan ddefnyddio’r gwaith celf a ddyluniwyd gan y bobl ifanc trwy gydol y tymor. Anfonais y rhain at yr ysgolion, tiwtoriaid cerddoriaeth lleol, gorsafoedd radio lleol a siopau cerddoriaeth ynghyd â phosteri, gyda’r bwriad o gynyddu niferoedd er mwyn sicrhau parhad a datblygiad y prosiect. Oherwydd y newidiadau i reoliadau Covid, rydym wedi datblygu’r ddarpariaeth i’w chynnal y tu allan gan ddefnyddio ein clwb ieuenctid symudol.

Mae’r prosiect wedi rhoi cyfle i bobl ifanc ymchwilio i ffyrdd newydd o fynegi eu hunain yn ystod y cyfnod anodd hwn yn ystod y cyfyngiadau symud. Roedd yn ffordd iddynt ddysgu sgiliau a gwybodaeth newydd ym meysydd cyfansoddi caneuon, cynhyrchu cerddoriaeth a chysylltu cerddoriaeth â ffilm. Yn y pen draw, grymuswyd y bobl ifanc i ysgrifennu eu hunion deimladau am y pandemig ar ffurf cân, a roddodd blatfform iddynt gysylltu ag eraill yn y gymuned trwy roi’r gwaith ar YouTube a’r cyfryngau cymdeithasol, a chael cyfweliadau gan bapur lleol ac ar orsaf radio leol.

Cyhoeddodd Cyngor Bro Morgannwg ddatganiad i’r wasg am y prosiect, ac o ganlyniad cymerodd y wasg a’r radio leol ddiddordeb ynddo. Mae hwn yn gyhoeddusrwydd cadarnhaol. Gan i’r prosiect barhau gyda’r ddarpariaeth symudol, mae wedi cael ei weld yn y gymuned leol a chafwyd ymateb cadarnhaol iddo gan y cyhoedd, a chan wasanaethau lleol eraill fel yr heddlu.

Mae’r bobl ifanc wedi mynegi eu barn ynghylch eu teimladau a’u profiadau eu hunain, ac effaith y pandemig ledled y byd, yng ngeiriau’r gân a gwaith celf y CD. Maen nhw’n edrych ar faterion fel newid hinsawdd, Mae Bywydau Du o Bwys a gwleidyddiaeth UDA.

I gychwyn, parhaodd y prosiect fel rhan o’r cynnig gwyliau ysgol Haf o Hwyl roedd y gwasanaeth ieuenctid yn ei gynnig yn Sain Tathan a’r Barri ond oherwydd poblogrwydd y rhaglen, mae’r prosiect yn parhau’n wythnosol yn Sain Tathan a’r Rhws.

Fideo gorffenedig ‘2020 Wrapped Up’: https://youtu.be/18aJo_wt0Oo

Cyfweliad Bro Radio: https://youtu.be/ov-2wS0iwPM