EWC Logo

Induction banner
Dyranu gwirwyr allanol
Dyranu gwirwyr allanol

Ni chaiff gwiriwr allanol (GA) ei ddyrannu ichi ond os byddwn naill ai wedi cael y ffurflen hysbysu Sefydlu oddi wrth eich ysgol neu, os ydych yn cyflawni cyfnod sefydlu trwy waith cyflenwi, y ffurflen hysbysu Sefydlu fel athro cyflenwi byrdymor.

Ni sy'n gyfrifol am gadw cofnod canolog o’r holl ddyraniadau GA. Ar ôl i GA gael ei ddyrannu, bydd ei enw i’w weld ar eich cofnod ymarferydd cofrestredig ar-lein.

Os ydych wedi’ch cyflogi mewn ysgol, bydd eich GA yn cysylltu â’ch ysgol er mwyn trefnu amser cyfleus i gyfarfod â chi a’ch mentor sefydlu.

Os ydych yn cyflawni cyfnod sefydlu trwy waith cyflenwi byrdymor, bydd eich GA yn cysylltu â chi’n uniongyrchol trwy e-bost. Os oes unrhyw newidiadau i’r cyfeiriad e-bost a roesoch ar y ffurflen hysbysu, dylech Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld..

Dyraniadau Gwirwyr Allanol yn ôl Consortia Rhanbarthol

Awdurdod LleolConsortiwmDyrannu gwirwyr allanol
Ynys Môn GwE Ar ran y consortia, rydym yn dyrannu GA i ANG yn unol â’r meini prawf paru y cytunwyd arnynt gyda’r consortiwm. Ar ôl iddo gael ei ddyrannu bydd ei enw i’w weld trwy eich mynediad ar-lein.
Gwynedd
Conwy
Sir Ddinbych
Sir y Fflint
Wrecsam
Powys ERW Ar ran y consortia, rydym yn dyrannu Gwirwyr Allanol i ANG yn unol â’r meini prawf paru y cytunwyd arnynt gyda’r consortiwm. Ar ôl iddo gael ei ddyrannu bydd ei enw i’w weld trwy eich mynediad ar-lein.
Ceredigion
Sir Penfro
Sir Gâr
Abertawe
Castell-nedd Port Talbot
Pen-y-bont ar Ogwr Consortiwm Canolbarth y De (CCD) Byddwn yn dyrannu GA i gynorthwyo â rhoi cymorth ichi trwy eich rhaglen sefydlu. Bob wythnos rydym yn darparu rhestr i’r consortiwm o’r ANG y mae arnynt angen cymorth GA. Ar ôl i GA gael ei ddyrannu bydd ei enw i’w weld trwy eich mynediad ar-lein.
Bro Morgannwg
Rhondda Cynon Taff
Merthyr Tudful
Caerdydd
Caerffili Gwasanaeth Cyflawni Addysg (GCA) Byddwn yn dyrannu GA i gynorthwyo â rhoi cymorth ichi trwy eich rhaglen sefydlu. Bob wythnos rydym yn darparu rhestr i’r consortiwm o’r ANG y mae arnynt angen cymorth GA. Ar ôl i GA gael ei ddyrannu bydd ei enw i’w weld trwy eich mynediad ar-lein.
Blaenau Gwent
Torfaen
Sir Fynwy
Casnewydd

Mae manylion Cydgysylltydd Sefydlu yr Awdurdod Lleol i’w gweld yma.