CGA / EWC

Accreditation banner
Arfer da cyffredinol yn y sefydliad
Arfer da cyffredinol yn y sefydliad

Quality Mark Logo All 3 LevelsSefydliad: Gwobr Dug Caeredin

Teitl: Arfer da cyffredinol yn y sefydliad

Person cyswllt: Susan Wildee

 

 

Yn ystod y cyfnod heriol hwn o ymdrin â COVID, mae llawer o’n partneriaid wedi gorfod ymdopi â rhoi datrysiadau ar-lein ar waith, ffyrlo ac adleoli staff, ac mae pobl ifanc wedi cael trafferth gyda holl effeithiau’r cyfyngiadau symud, sydd wedi’u cofnodi’n helaeth. Mae ein hymateb technolegol wedi bod yn amlochrog ac wedi’i seilio ar ein system ddigidol oedd yn bodoli eisoes, eDofE.

Mae system eDofE yn caniatáu i bobl ifanc roi manylion eu gweithgarwch i mewn a dangos eu cynnydd ar lein. Mae'r ap a gyflwynwyd yn 2019 wedi gwneud hyn yn haws, yn enwedig yn ystod COVID, fel y gall pobl ifanc ychwanegu eu gwybodaeth gan ddefnyddio eu ffôn, er enghraifft, tynnu lluniau a’u llwytho i fyny fel tystiolaeth ar unwaith.

Gan ddefnyddio eDofE, gall Arweinwyr weld y wybodaeth am eu grwpiau yn rhwydd a chânt eu hysbysu pan mae pobl ifanc yn rhyngweithio â’r system. Gall eDofE ddadansoddi lle mae gweithgarwch yn digwydd a lle mae angen rhagor o gymorth, efallai, yn ogystal â gwirio ansawdd Gwobrau o bob rhan o Gymru yn hawdd. Mae gennym reolwr Gwybodaeth Fusnes a gall ein tîm gweithrediadau alw ar wahanol adroddiadau a dadansoddiadau o’r wybodaeth i’w galluogi i dracio a chynorthwyo eu canolfannau yn y modd gorau.

Mae eDofE yn ei gwneud yn bosibl cyfnewid cofnodion rhwng grwpiau yn hawdd, fel y gall gweithgarwch person ifanc barhau hyd yn oed os yw’n trosglwyddo o’r naill ganolfan i’r llall e.e. mynd o’r ystad ddiogel yn ôl i’r ysgol neu drosglwyddo o ysgol i grŵp gwirfoddol.

Gan ddefnyddio eDofE fel sylfaen roedd modd inni ychwanegu rhagor o newidiadau ac addasiadau rhithwir er mwyn caniatáu i lawer o bobl ifanc barhau neu ddechrau Gwobr:

  1. Cyflwynasom hyblygrwydd i’r rhaglen er mwyn galluogi pobl ifanc i barhau â’u Gwobr o fewn cyfyngiadau COVID. Cafodd ein hymgyrch ‘#DofE with a Difference’ ei chynnal yn gyflym gan newidiadau yn eDofE er mwyn hwyluso’r newidiadau dros dro.
  2. Cyflwynasom Dystysgrif Cyflawniad dros dro newydd oedd yn cael ei hanfon trwy e-bost yn syth at y sawl sy’n cymryd rhan ac anogasom bobl ifanc i gwblhau adrannau Sgiliau, Corfforol a Gwirfoddoli eu gwobr yn ystod y cyfyngiadau symud. I wneud hyn gallen nhw fanteisio ar newidiadau sy’n caniatáu iddyn nhw gyfnewid eu gweithgareddau mwy nag unwaith a mentora aelodau o’u teuluoedd, a gwnaethom hysbysebu rhestrau o weithgareddau y gellid eu cyflawni gartref. Mae'r Dystysgrif Cyflawniad yn cydnabod cynnydd pobl ifanc trwy’r rhaglen ac mae mwy na 3,000 wedi cael eu dyfarnu yng Nghymru hyd yma, ond maen nhw’n dal i allu cael gwobr gyfan pan ellir cwblhau Gweithgareddau Preswyl ac Alldeithiau.
  3. Cyflwynasom hefyd gyflwyniad gwobrau rhithwir unigryw (“Presentations with a Difference”) ar gyfer grwpiau o bobl ifanc oedd wedi cwblhau eu Gwobrau Arian. Cawsom gymorth gan enwogion o Gymru i recordio cyflwyniadau fideo a ryddhawyd ar gyfryngau cymdeithasol i bobl ifanc, eu teuluoedd a chanolfannau er mwyn dathlu eu cyflawniadau.
  4. Rhoesom blatfform hyfforddiant newydd ar waith gan ddefnyddio Adobe Connect a chreu deunyddiau a fyddai’n caniatáu inni gynnal hyfforddiant ar lein tra roedd arweinwyr yn methu teithio ac yr oedd ganddyn nhw amser i ystyried gwella eu sgiliau. Hyfforddasom 244 o bobl yn 2020-21. Mae'r ffordd newydd hon o ddarparu cyrsiau yn dal i gael ei chynnig a hon fydd ein prif ffordd o sicrhau bod arweinwyr presennol yn cael gwybod am ddatblygiadau a bod arweinwyr newydd yn cael yr hyfforddiant mae arnyn nhw ei angen i ddarparu Gwobr Dug Caeredin yn llwyddiannus.
  5. Rhoddodd gwerthusiadau sgôr o 4.5 o 5 seren i’r profiad hyfforddi a chafwyd dyfyniadau gan yr hyfforddeion ifanc fel yr isod:
    “Gwych, hawdd i’w ddilyn, digon rhyngweithiol i gadw’ch diddordeb”
    “Cwrs manwl, gwirioneddol ddefnyddiol oedd hwn. Dwi’n gyffrous ynghylch dechrau yn fy ysgol fel arweinydd.”
    “Cyflwyniad clir a rhagorol, cynnwys gwych a mwynheais yr agweddau rhyngweithiol. Hoffais yr adrannau amlddewis dienw.”
  6. Cyhoeddasom becynnau recriwtio a darparu newydd i helpu arweinwyr a phobl ifanc i ddod o hyd i’r holl adnoddau y byddai arnyn nhw eu hangen i gymryd rhan a chyflwynasom lawer mwy o adnoddau rhithwir gan gynnwys fideos yn Gymraeg a Saesneg i helpu i gymryd lle cyflwyniadau recriwtio wyneb yn wyneb pan roedd pobl ifanc yn dysgu gartref.
  7. Am y tro cyntaf, cyflwynasom sesiynau gwybodaeth rhithwir i rieni/gofalwyr sydd â’r nod o dynnu’r pwysau oddi ar arweinwyr a rhoi gwybodaeth yn uniongyrchol i rieni/gofalwyr am Wobrau Dug Caeredin a’r ffordd orau o gefnogi person ifanc trwy ei Wobr.

Er mwyn cynorthwyo pobl ifanc a fydd yn ei chael yn anoddach nag erioed i symud i’r gweithle, roeddem yn falch o gynnal ymgyrch 5 diwrnod ar y cyfryngau cymdeithasol ar gyfer ein Hwythnos Cyflogadwyedd, gyda chynnwys fideo pwrpasol, deunyddiau cymorth a syniadau oddi wrth arweinwyr busnes, cyflogwyr a deiliaid Gwobrau Dug Caeredin o bob rhan o Gymru. Mae'r adnoddau gwerthfawr hyn ar gael o hyd ar ein gwefan.

https://www.dofe.org/notice-boards/wales/resources

 

Yn ychwanegol at ein mentrau eDofe rydym wedi bod yn brysur yn cefnogi ein hagenda cynhwysiant. Gweler enghreifftiau o’n gwaith:

Mae cyfle cyfartal yn ganolog i Wobr Dug Caeredin gan mai un o’n 10 egwyddor arweiniol yw “Pawb yn gallu cyflawni” – mae modd i unrhyw berson ifanc sy’n dewis derbyn ei heriau gyflawni’r rhaglen, waeth beth fo ei allu, rhywedd, cefndir neu leoliad.

Mae rhaglenni Gwobr Dug Caeredin yn cael eu harwain gan bobl ifanc ac wedi’u seilio ar anghenion a man cychwyn pob unigolyn. Mae hyn yn eu gwneud yn unigryw o hyblyg fel ffordd o ymgysylltu â phob person ifanc waeth beth fo ei amgylchiadau. Mae modd addasu’r rhaglen at bob angen a chaiff ei darparu trwy waith ieuenctid mewn grwpiau statudol a gwirfoddol yn ogystal ag mewn ysgolion a lleoliadau arbenigol gan gynnwys Unedau Cyfeirio Disgyblion, yr Ystad Ddiogel a busnesau. Ble bynnag y caiff rhaglen Gwobr Dug Caeredin ei darparu, gellir ei haddasu i gyd-fynd ag anghenion unigol y bobl ifanc heb leihau’r buddion cadarnhaol i’r rhai sy’n cymryd rhan.

Mae pobl ifanc yn dewis drostyn nhw eu hunain pa weithgareddau maen nhw’n eu cyflawni ym mhob adran ac yn cael eu grymuso i ymwneud â diddordebau a gweithgareddau sy’n berthnasol ac yn gyflawnadwy yn bersonol. Ni fydd unrhyw ddwy raglen Gwobr Dug Caeredin yn union yr un peth, a’r hyblygrwydd hwn yw sail atyniad parhaus y rhaglen i bobl ifanc dros y 65 mlynedd diwethaf.

Mae Swyddogion Gweithrediadau yn adolygu’r angen ym mhob canolfan ac yn helpu i nodi a darparu cymorth/cyllid ar sail angen canolfan unigol ac mae cyllid ar gael, oherwydd ein cefnogwyr anhygoel, i dargedu anfantais a helpu i chwalu rhwystrau i bobl ifanc sydd wedi’u hymyleiddio. Ein targed yw y bydd 25% o’r bobl sy’n cymryd rhan bob blwyddyn o gefndiroedd difreintiedig ac rydym yn cyrraedd y targed hwn yn rheolaidd.

Mae gan gynllun Gwobr Dug Caeredin weithgor Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) sy’n cyfuno gwybodaeth a phrofiad i ddod ag arferion gorau i’r maes cyfan ac i hwyluso’r broses o sicrhau bod adnoddau ADY ar gael i annog a chynorthwyo canolfannau y mae angen iddyn nhw addasu’r rhaglen i gynorthwyo eu pobl ifanc. Yn ddiweddar mae’r gweithgor hwn wedi creu llawlyfr ADY i staff cynllun Gwobr Dug Caeredin ac mae cyfres o ddosbarthiadau meistr a hyfforddiant annibynnol i’r staff yn cael ei chyflwyno a fydd hefyd yn cael ei chynnwys yn yr hyfforddiant cynefino i’r holl staff newydd.

Mae ein Canolfannau a grwpiau ADY yn gallu adlewyrchu diddordebau amrywiol y rhai sy’n cymryd rhan a dyfeisgarwch eu harweinwyr, gan weithio gyda hyblygrwydd y rhaglen i oresgyn yr holl rwystrau a pheri syndod i’w rhieni eu hunain ar adegau. Mae Gwobr yn eu rhoi, weithiau am y tro cyntaf, ar yr un gwastad â’u brodyr a chwiorydd a’u cyfoedion.

Nododd adroddiad ymchwil i elusen Gwobr Dug Caeredin gan Chrysalis Research a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2021 o’r enw “Participation in and impact of the DofE on young people with additional needs” fod y dystiolaeth a gasglwyd ar gyfer yr ymchwil yn cynnwys llawer o adborth oddi wrth athrawon ac eraill sy’n gweithio gyda phobl ifanc ag ADY, yn nodi bod dyluniad y rhaglen a’i hegwyddorion arweiniol yn hanfodol i’w gwneud yn bosibl i’w myfyrwyr fanteisio arni a chael budd gwirioneddol o’u profiad.

Hefyd yr egwyddor a nodwyd amlaf oedd bod ffocws y rhaglen ar yr unigolyn a sicrhau bod taith pob un sy’n cymryd rhan yng nghynllun Gwobr Dug Caeredin wedi’i phersonoli ac yn her sy’n unigryw iddo yntau. Soniwyd yr un mor aml am hyblygrwydd y rhaglen o ganlyniad i hyn yn ogystal â’r ffaith ei bod yn agored i gael ei haddasu, er mwyn ei gwneud mor gynhwysol ag sy’n bosibl


Mae Ysgol Cedewain ym Mhowys wedi bod yn llwyddiannus iawn wrth wreiddio cynllun Gwobr Dug Caeredin yn yr ysgol

“Mae gan yr holl ddisgyblion yn Ysgol Cedewain anawsterau dysgu, ond mae gan lawer ohonyn nhw anghenion corfforol a meddygol hefyd. Mae Gwobr Dug Caeredin mor gynhwysol, mae ein holl ddisgyblion yn gallu cymryd rhan a mwynhau’r buddion sydd gan y wobr i’w cynnig, beth bynnag fo eu gallu. Rydym ni wedi gweld ein myfyrwyr yn magu hunanhyder, ac mae pob agwedd ar y Wobr yn helpu gyda hyn.

Weithiau mae’r gwirfoddoli yn anodd iawn i’r rhai sy’n cymryd rhan, ond wrth i’r wythnosau fynd heibio, maen nhw’n magu cymaint o hyder. Un o’r gweithgareddau gwirfoddoli rydym ni’n ei gyflawni yw ymweld â chartref preswyl i’r henoed. Maen nhw wedi glanhau a thacluso i’r hen bobl ac wedi mwynhau sgwrsio gyda nhw, ac roedd y pethau hyn yn fuddiol iawn i’n myfyrwyr. Ond ar ben hynny, roeddent wedi trefnu a chynnal sesiynau bingo rheolaidd i’r preswylwyr, oedd wedi eu mwynhau’n fawr iawn. Y peth arwyddocaol yw mai ein myfyrwyr sydd fel arfer yn cael yr help a’r cymorth; felly pleser o’r mwyaf oedd eu gweld nhw’n gallu helpu eraill mewn ffordd eglur ac ymarferol.

Rydym ni wedi cael amrywiaeth fawr o sgiliau; ffilmio, mecaneg ceir, dysgu gemau bwrdd, crefftau gwersylla a choginio, ac enwi ond ychydig. Rydym yn addasu’r sgiliau gan ddibynnu ar eu hanableddau, ond maen nhw i gyd yn ennill sgiliau newydd neu well.

Nid yw llawer o’n myfyrwyr yn mwynhau gweithgareddau corfforol! Mae'n rhaid eu hannog i wella eu ffitrwydd, ond maen nhw i gyd yn cymryd rhan yn yr alldeithiau gyda chynllun Gwobr Dug Caeredin. Mae hyd yn oed y rhai sydd angen llawer mwy o anogaeth i ddechrau fel pe baen nhw’n deall pwysigrwydd yr alldaith ei hun ac yn gwthio eu hunain mwy. Dyma hefyd lle mae’r gwaith tîm, yr ydym ni’n gweithio’n galed i’w feithrin, yn dod i’r amlwg, wrth i’r holl fyfyrwyr annog a helpu ei gilydd.”

Portfield School – Sir Benfro

Dewisodd un a gymerodd ran o Portfield School, Sir Benfro, godi pwysau ar gyfer ei adran gweithgarwch Corfforol yn Strength Academy Wales. Mae'n hyfforddi teirgwaith yr wythnos am awr a hanner bob tro. Mae wedi gwneud cymaint o argraff ar y clwb nes bod hwnnw, yn dilyn ei gystadleuaeth gyntaf, yn gobeithio ei roi i mewn i’r cystadlaethau pŵer-godi yn y Gemau Olympaidd Arbennig ac wedi bod yn cysylltu â ‘Special Olympics Wales’

Woodlands School - Caerdydd:

Prynodd yr ysgol offer arbenigol i’w disgyblion â nam ar eu golwg, gan ei gwneud yn bosibl iddyn nhw gael y profiad gorau ar eu halldaith. Dywed Jess Rumble, Swyddog Gweithrediadau: “Cafodd yr arian am gwmpawd digidol llafar effaith enfawr ar allu myfyriwr â nam ar ei olwg i gymryd rhan lawn a mwynhau’r alldaith cymhwyso Efydd ym mis Gorffennaf 2019. Wrth gael ei ddefnyddio gyda’r recordiadau llais a’r llyfryn llwybr Braille a gynhyrchwyd gan yr ysgol, roedd y cwmpawd yn golygu y gallai’r person ifanc chwarae rhan lawn wrth lywio ar hyd y llwybr a chymryd perchnogaeth ar ei alldaith ei hun. Roedd y cwmpawd hefyd yn boblogaidd gyda rhai o’r bobl ifanc eraill yn y grŵp, ac roedd yn offeryn llywio defnyddiol y gallen nhw ei ddefnyddio gyda’r llyfryn llwybr. Mae'n offeryn syml a all ychwanegu go iawn at y profiad mae pobl ifanc ag anghenion ychwanegol yn ei gael o alldaith, a bydd yn ychwanegu gwerth mawr i alldeithiau’r ysgol yn y dyfodol.

Ysgol Bro Dinefwr - Sir Gaerfyrddin

Mae gan Ysgol Bro Dinefwr ddau adnodd dysgu i ddisgyblion sydd ag anghenion difrifol a chymhleth, ac yn ddiweddar cynigiodd i grŵp o fyfyrwyr o’i chanolfan adnoddau arbenigol gyfle i wneud Gwobr Efydd Dug Caeredin.

Er eu bod yn ansicr i ddechrau a oedd Gwobr Dug Caeredin iddyn nhw, penderfynodd y myfyrwyr ddechrau ‘Gwobr Asynnod’, gyda chymorth eu gweithiwr ieuenctid yn yr ysgol.

Gwnaethant gynnwys dysgu am anifeiliaid a gofalu amdanynt yn eu gweithgareddau er mwyn magu hyder, gan wirfoddoli mewn canolfan therapi â chymorth anifeiliaid a dilyn rhaglen o sesiynau wythnosol o ofalu am anifeiliaid ar gyfer yr adran Sgiliau. Ar gyfer eu halldaith, teithiodd y grŵp gyda dau asyn, gan ofalu amdanyn nhw a rhoi blaenoriaeth i’w lles ar hyd y daith.

Cofnododd y rhai a gymerodd ran yn y Wobr Efydd gynnydd yn eu hyder a’u hunan-dyb o ganlyniad i gyflawni’r rhaglen – ac mae eu presenoldeb yn yr ysgol hefyd wedi gwella o ganlyniad.

Coleg y Cymoedd

Mae Ysgol Mynediad Galwedigaethol Coleg y Cymoedd wedi lansio cynllun newydd sbon o gynnal a chadw beiciau i helpu aelodau o’r staff a dysgwyr gydag unrhyw broblemau cysylltiedig â beiciau sydd ganddyn nhw.

Mae'r cwrs wedi cael ei gyflwyno ar ôl i’r dysgwyr fynegi diddordeb, ac mewn ymateb i’r nifer gynyddol o aelodau o’r staff a dysgwyr sy’n beicio i’r coleg. Byddan nhw’n meithrin sgiliau mewn cynnal a chadw beiciau ac wedyn yn cynnig eu gwasanaethau yn wirfoddol.

Yn y rhaglen, bydd aelodau o’r staff a dysgwyr yn gallu dod â’u beiciau i gampws Nantgarw lle bydd y dysgwyr, gyda chymorth staff cymorth Mynediad Galwedigaethol, wrth law i helpu i ddatrys unrhyw broblemau. Byddan nhw’n gallu darparu amrywiaeth o wasanaethau cynnal a chadw beiciau cyffredinol, o iro cadwyni i chwilio am gerau, brêcs, cyrn a rhannau symudol diffygiol.

Mae'r tri dysgwr sy’n cymryd rhan yn y cynllun i gyd yn cwblhau’r cwrs fel rhan o adrannau Sgiliau a Gwirfoddoli Gwobr Dug Caeredin. Wrth i gyfyngiadau Covid wneud llawer o gyfleoedd i wirfoddoli yn anodd, creodd y coleg y cwrs cynnal a chadw beiciau fel ffordd i ddysgwyr gyflawni’r rhan hon o’r wobr ac ar yr un pryd meithrin sgiliau gwerthfawr.

dofe 300x210 1