Ein swyddfa
Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i’n swyddfa ar loriau 9 a 10 Eastgate House.
Mae mannau parcio i bobl anabl o flaen yr adeilad. Gellir cael mynediad i’r adeilad trwy ramp i lobi’r llawr gwaelod. Mae hysbysiad yn y dderbynfa yn cynnwys manylion am hysbysu’r man ymweld am anabledd, er mwyn cael cymorth ychwanegol rhag ofn y bydd angen gwacau’r adeilad. Mae lifftiau i’n lloriau, ac intercom mynediad ar lefel hygyrch. Mae dwy lefel i ddesg y dderbynfa ar lawr 10 ac mae dolen glywed yn ystafelloedd y gwrandawiadau ar lawr 10.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am hygyrchedd ein swyddfeydd, anfonwch e-bost at
Ein gwefan
Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i’r wybodaeth ar wefan Cyngor y Gweithlu Addysg (www.cga.cymru). Mae archwiliadau hygyrchedd yn cael eu cynnal naill ai bob tri mis, neu yn dilyn diweddariadau mawr, gan ddefnyddio adnodd WAVE a Google Lighthouse.
Defnyddio’r wefan hon
Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hyn yn golygu y dylech allu:
- newid lliwiau, lefelau cyferbynnedd a ffontiau
- chwyddo’r sgrin hyd at 300% heb i’r testun ddiflannu oddi ar y sgrin
- symud o gwmpas y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
- symud o gwmpas y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
Rydym hefyd wedi gwneud yn siŵr bod ein hiaith mor syml â phosibl.
Rydym wedi ychwanegu bar offer ReachDeck at ein gwefan. Os ydych chi’n cael trafferth darllen, os oes gennych nam ar y golwg neu os yw’n well gennych ddarllen yn eich iaith eich hun, gall bar offer ReachDeck helpu.
Dewiswch yr eicon person glas sydd ar frig y dudalen. Bydd hyn yn lansio bar offer ReachDeck. Byddwch yn ei weld yn angori wrth dop eich sgrin. Nawr, dewiswch eicon cyntaf y ‘bys sy’n pwyntio’ ar y bar offer a rhowch saeth eich llygoden dros unrhyw destun ar ein gwefan i’w glywed yn uchel.
Bydd bar offer ReachDeck yn eich helpu i ddarllen a throsi’r cynnwys ar ein gwefan. Mae ei nodweddion yn cynnwys:
- testun i lefaredd: cliciwch ar unrhyw destun neu ei ddewis i’w glywed yn uchel
- cyfieithu: cyfieithwch gynnwys i dros 100 o ieithoedd
- mwyhau’r testun: gwnewch y testun yn fwy a’i glywed yn uchel
- cynhyrchu MP3: troswch destun dethol yn ffeil sain MP3
- masg sgrin: gallwch leihau’r llacharedd trwy fasg ag arlliw
- symleiddiwr tudalen we: dilëwch annibendod o’r sgrin. Dangoswch y prif destun yn unig
- geiriadur lluniau: mae’n arddangos lluniau’n gysylltiedig â thestun sy’n cael ei ddewis ar y dudalen
Os oes gennych anabledd, mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws ei defnyddio.
Adborth
Os oes angen gwybodaeth arnoch am y wefan hon mewn fformat gwahanol, gallwch e-bostio
Fel y gallwn fodloni eich anghenion yn well, rhowch wybod pa fformat gwahanol yr hoffech ei gael, ac a ydych yn defnyddio unrhyw dechnoleg gynorthwyol.
Hefyd, gallwch ein e-bostio ni os cewch unrhyw broblemau gyda’r wefan, neu os ydych o’r farn nad ydym yn bodloni gofynion y rheoliadau hygyrchedd.
Cydymffurfio â’r safonau
Crëwyd y wefan hon gan ddefnyddio XHTML a CSS. Mae’r wefan hon yn cydymffurfio â safon WCAG 2.1 lefel AA. Byddwn yn adolygu’r wefan yn rheolaidd i wella’r lefel hon.
PDFs a dogfennau eraill
Dylai dogfennau newydd rydym yn eu cyhoeddi fod yn gwbl hygyrch.
Rydym yn gwybod nad yw rhai dogfennau hŷn (a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018) yn hygyrch.
Mae rhai o’r rhain yn ddogfennau hanesyddol ac nid ydynt yn hanfodol i ddarparu’n gwasanaethau. Mae’r mathau hyn o ddogfennau wedi’u heithrio o’r rheoliadau. Ar hyn o bryd, nid oes gennym unrhyw gynlluniau i’w gwneud nhw’n hygyrch.
Gall fod dogfennau eraill nad ydynt yn hygyrch. Fe’u gwneir yn hygyrch pan fyddant yn cael eu hadolygu.
Os oes angen i chi gael at gyhoeddiadau mewn fformat arall, cysylltwch â ni.
Rydym yn gwybod am y rhybuddion melyn presennol ar ein gwefan:
- mae delweddau ar y dudalen flaen yn cynnwys hyperddolenni
- mae gan ddelwedd y chwyddwydr ar bob tudalen hyperddolen i’r dudalen chwilio
Gwybodaeth am y datganiad hwn
Paratowyd y datganiad hwn ar 27 Ebrill 2023.
Caiff ei adolygu ar 1 Ebrill 2024.