Mae’n rhaid eich bod wedi cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg (CGA) i weithio fel ymarferwr addysg yng Nghymru. Ar ôl i chi gofrestru, gallwch gael at amrywiaeth o wasanaethau ychwanegol.
Pasbort Dysgu Proffesiynol (PDP)
Y PDP yw’r llwyfan gorau posibl ar gyfer eich dysgu proffesiynol. Gallwch ei ddefnyddio i gofnodi a myfyrio ar eich datblygiad proffesiynol trwy lanlwytho dogfennau, fideos, cyflwyniadau a ffeiliau sain wrth i chi symud ymlaen yn eich gyrfa. Hefyd, gallwch rannu arfer gorau gyda chydweithwyr. I fynd at y PDP, mewngofnodwch i’ch cyfrif FyCGA.
Adnodd ymchwil addysg – EBSCO
Mae EBSCO yn borth ar-lein i gyfoeth o gyfnodolion, papurau ac e-lyfrau addysg academaidd, sydd ar gael am ddim. I fynd at EBSCO, mewngofnodwch i’ch cyfrif FyCGA.
Cyflwyniadau a digwyddiadau
Rydym yn hapus i drefnu cyflwyniadau yn eich gweithle. Mae pynciau poblogaidd yn cynnwys y PDP, y Cod, data ar y gweithlu a’n gwaith priodoldeb i ymarfer.
Rydym hefyd yn cynnal digwyddiadau am ddim, fel ein darlith flynyddol Siarad yn Broffesiynol, Dosbarthidau meistr blynyddol, a sesiynau briffio ar bolisi.
Cymorth ac arweiniad
Rydym wedi cyhoeddi cyfres o ganllawiau ymarfer da i ategu ein Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol. Mae’r rhain yn cwmpasu amrywiaeth o bynciau, o arweinyddiaeth i fynd i’r afael â hiliaeth.
Cadwch mewn cysylltiad a chymryd rhan
Rydym yn dosbarthu e-newyddlen (Newyddion FyCGA) i’n holl gofrestreion bob tymor, felly gwnewch yn siŵr bod gennym gyfeiriad e-bost cyfredol ar eich cyfer. Gallwch wneud yn siŵr bod eich manylion yn gyfredol trwy fewngofnodi i FyCGA. Hefyd, rydym yn rhannu gwybodaeth am ddigwyddiadau sydd ar ddod ar ein cyfrif Twitter a Facebook, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn ein dilyn ni.