CGA / EWC

Induction banner
Sefydlu ar gyfer athrawon cyflenwi byr-dymor
Sefydlu ar gyfer athrawon cyflenwi byr-dymor

Gallwch gwblhau sefydlu trwy waith addysgu cyflenwi byrdymor ad hoc. I ddechrau cyfnod sefydlu, mae'n rhaid i chi gael statws athro cymwys (SAC), a bod wedi eich cofrestru gyda ni yng nghategori athro ysgol. Ni all unrhyw gyfnod o gyflogaeth a wnaed cyn cofrestru yn y categori cywir gyfrif tuag ac eich cyfnod sefydlu.

Cyflwyno gwaith papur

Os ydych chi’n athro newydd gymhwyso (ANG) sy’n gwneud gwaith cyflenwi o ddydd i ddydd, rhaid ichi gyflwyno’r ffurflen hysbysu sefydlu fel athro cyflenwi byrdymor i ni. Ar ôl i ni brosesu’ch ffurflen, byddwn yn e-bostio manylion atoch ynghylch sut i gofnodi’ch sesiynau cyflenwi gyda ni.

Os bydd eich amgylchiadau cyflogaeth yn newid ar unrhyw adeg yn ystod eich cyfnod sefydlu, e-bostiwch This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it. am gyngor.