CGA / EWC

Fitness to practise banner
Astudiaethau achos priodoldeb i ymarfer
Astudiaethau achos priodoldeb i ymarfer

Mae'r astudiaethau achos hyn yn rhoi mewnwelediadau clir ac ymarferol i'r disgwyliadau a'r safonau a ddisgwylir gennych yn eich arfer proffesiynol, a'ch bywyd personol.

Yn seiliedig ar esiamplau go-iawn maent yn dangos yr heriau cyffredin a'r peryglon all arwain at wrandawiad priodoldeb i ymarfer. Drwy amlygu'r sefyllfaoedd hyn, ein bwriad yw cynnig pwyntiau dysgu gwerthfawr i'ch helpu i gynnal y safonau uchaf yn eich proffesiwn, a diogelu eich cofrestriad.

Ymddygiad amhriodol tuag at gydweithwyr

Yn yr astudiaeth achos hon, rydym yn edrych ar enghraifft o wahardd cofrestrai yn dilyn achos a brofwyd o ymddygiad proffesiynol annerbyniol. Roedd y camymddwyn yn gysylltiedig â’u hymddygiad amhriodol tuag at gydweithwyr.

Crynodeb o’r achos

Cafodd CGA atgyfeiriad oddi wrth gyflogwr yn sgil diswyddo aelod cofrestredig o staff. Cafodd y cofrestrai eu diswyddo oherwydd daeth i’r amlwg eu bod wedi ymddwyn yn amhroffesiynol tuag at gydweithwyr.

Yn ystod y gwrandawiad hwn, gofynnwyd i’r Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer ystyried p’un a oedd yr honiadau canlynol wedi’u profi, sef bod y cofrestrai:

  1. wedi arddangos ymddygiad tuag at un neu fwy o gydweithwyr a oedd:
  • yn fygythiol
  • yn tanseilio
  • yn fychanol
  • yn fwlian
  1. wedi ymddwyn mewn modd anfoesgar, ymosodol a nawddoglyd tuag at gydweithwyr.

Ni fynychodd y cofrestrai’r gwrandawiad ac ni chawsant eu cynrychioli. Cadarnhaodd y cofrestrai yn ysgrifenedig, cyn y gwrandawiad, eu bod yn gwadu’r honiadau.

Ar ôl ystyried Gweithdrefnau a Rheolau Disgyblu Priodoldeb i Ymarfer a chyngor gan gynghorydd cyfreithiol annibynnol, roedd y Pwyllgor yn fodlon y gallai’r gwrandawiad fynd yn ei flaen yn absenoldeb y cofrestrai.

Canfyddiadau’r Pwyllgor

Ystyriodd y Pwyllgor (gyda chefnogaeth cynghorydd cyfreithiol annibynnol drwyddi draw) y dystiolaeth a ddarparwyd iddo a ph’un a fyddai’r cyhoedd o’r farn bod yr honiadau’n gyfystyr ag ymddygiad proffesiynol annerbyniol. 

Nodont fod y cofrestrai yn uwch aelod staff yn yr ysgol ac y dylai fod yn datblygu ac yn hyrwyddo perthnasoedd gwaith cadarnhaol ymhlith y staff, er budd addysgu disgyblion.

Hefyd, canfuont fod ymddygiad y cofrestrai yn niweidiol i ddiwylliant yr ysgol oherwydd roedd wedi ceisio codi ofn ar staff a’u bwlio, a bod ymddygiad y cofrestrai’n tanseilio’r ymddiriedaeth y dylai fod gan y staff yn yr arweinyddiaeth a ddarparwyd gan y cofrestrai.

Penderfynodd y Pwyllgor fod gorchymyn gwahardd yn gymesur ac yn briodol yn yr achos hwn, o ystyried difrifoldeb ymddygiad y cofrestrai, y diffyg dirnadaeth a’r diffyg edifar a ddangoswyd.

Mae gorchymyn gwahardd yn golygu bod cofrestriad yn cael ei ddileu am gyfnod amhenodol ac nad yw’r unigolyn yn gymwys i ymarfer mwyach yng Nghymru. Penderfynodd y Pwyllgor na allai’r cofrestrai wneud cais am gael eu hailystyried yn gymwys i gofrestru am gyfnod o ddwy flynedd.

Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol

Yn yr achos hwn, roedd yr unigolyn wedi torri nifer o egwyddorion y Cod, gan gynnwys:

Cyfrifoldeb Personol a Phroffesiynol

1.1 Yn cydnabod eu cyfrifoldeb personol fel delfryd ymddwyn, i gynnal ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd yn y proffesiynau addysg, yn y gweithle a thu allan iddo.

Cydweithio

3.1 Yn parchu, yn cynorthwyo, ac yn cydweithio â chydweithwyr, dysgwyr ac eraill i gyflawni’r deilliannau dysgu gorau.

3.3 Yn ceisio datblygu a chynnal perthnasoedd gwaith proffesiynol â rhieni, gwarcheidwaid, gofalwyr, a rhanddeiliaid eraill;

3.4 Yn cyfathrebu mewn modd priodol ac effeithiol gyda phob un sy’n gysylltiedig ag addysg dysgwyr a phobl ifanc

Gwybodaeth a Dealltwriaeth Broffesiynol

5.4 Lle bo angen, yn ceisio cymorth, cyngor, ac arweiniad ac yn agored i adborth, gan ymateb iddo mewn modd cadarnhaol ac adeiladol.

Gwersi a ddysgwyd

Pan ddaethoch yn gofrestrai gyda CGA, fe wnaethoch ymrwymo i fod yn broffesiynol ym mhopeth a wnewch, gan gyfrannu at gynnal ffydd a hyder y cyhoedd yn eich proffesiwn.

Yn yr un modd ag unrhyw weithle, bydd gan eich cydweithwyr amrywiaeth o rolau, gwahanol bersonoliaethau ac arddulliau gweithio, ac mae’n bwysig rhoi pwys ar eu hamrywiol agweddau ar eu gwaith, a pharchu hynny. 

Wrth ddatblygu perthnasoedd cadarnhaol â’ch cydweithwyr, mae’n ddefnyddiol meddwl am eu disgwyliadau ohonoch chi. Fel y mae angen i ddysgwyr a phobl ifanc wybod beth sydd i’w ddisgwyl ohonyn nhw, mae angen i chi hefyd wybod beth sydd i’w ddisgwyl ohonoch chi fel cofrestrai a chydweithiwr, wrth i chi feithrin a chynnal y perthnasoedd gwaith hynny.

Darllen pellach a chanllawiau