CGA / EWC

Fitness to practise banner
Canllaw arfer da: Bod yn weithiwr proffesiynol agored a gonest
Canllaw arfer da: Bod yn weithiwr proffesiynol agored a gonest

Lawrlwytho  Canllaw arfer da: Bod yn weithiwr proffesiynol agored a gonest

Cyflwyniad

Mae gonestrwydd ac uniondeb yn debygol o fod ymhlith yr uchaf ar y rhestr o nodweddion a ddisgwylir gan weithwyr proffesiynol. Maen nhw’n egwyddorion sylfaenol, dim ond oherwydd bod pob gweithred o onestrwydd a bod yn agored yn rhoi’r argraff o rywun y gellir ymddiried ynddo a’i barchu, ac sy’n gallu gosod esiampl gadarnhaol.

Pan ddaethoch yn ymarferydd, gwnaethoch ymrwymiad i ymddwyn yn agored ac yn onest yn eich proffesiwn a, lle y bo’n briodol, yn eich bywyd personol. Wedi dweud hynny, nid yw bob amser yn rhwydd cael hyn yn iawn bob tro, ac weithiau derbyn eich bod wedi gwneud camgymeriadau a chymryd cyfrifoldeb. Ond dylai gweithiwr proffesiynol gael ei ysgogi gan awydd i wneud y peth iawn, hyd yn oed mewn amgylchiadau anodd, a dysgu o unrhyw gamgymeriadau.

Nod y canllaw hwn yw helpu i gynyddu eich ymwybyddiaeth a’ch dealltwriaeth o feysydd allweddol o’ch bywyd proffesiynol a phersonol lle y disgwylir i chi fod yn agored ac yn onest.

Nid canllawiau rheoleiddiol na gorfodol mo’r rhain. Cynhwyswyd senarios i’ch helpu i feddwl am rai o’r materion a allai godi a’u harchwilio, a sut gallai ein cyngor fod yn berthnasol. Rydym hefyd wedi cynnwys enghreifftiau o arferion annerbyniol lle mae’n amlwg y croeswyd ffiniau proffesiynol.

Y Cod

Mae holl gofrestreion Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) yn ddarostyngedig i’r Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol (y Cod) sy’n amlinellu’r egwyddorion ymddygiad ac ymarfer da allweddol a ddisgwylir ganddynt. Dylid darllen y canllaw hwn ar y cyd â’r Cod.

Mae’r holl egwyddorion a disgwyliadau yn y Cod yn berthnasol i onestrwydd a bod yn agored. Fodd bynnag, amlygwn y canlynol yn arbennig yn y canllaw hwn:

2. Unplygrwydd Proffesiynol

Mae cofrestreion:

2.1 yn atebol am eu hymddygiad a’u cymhwysedd proffesiynol
2.2 yn ymddwyn yn onest, a chydag unplygrwydd, yn arbennig mewn perthynas â:

  • cyllid ac arian yn y gweithle
  • rhinweddau, profiad, a chymwysterau personol
  • geirdaon, datganiadau a wneir, ac wrth lofnodi dogfennau
  • asesu a thasgau’n gysylltiedig ag arholiadau
  • defnyddio eiddo a chyfleusterau a ddarperir gan eu cyflogwr
  • cyfathrebu gyda CGA, gan ei hysbysu am unrhyw euogfarn droseddol neu rybuddiad cofnodadwy, neu gyfyngiad a osodir ar eu hymarfer gan unrhyw gorff arall
  • eu cyflogwr, ac adrodd unrhyw fater sy’n ofynnol gan delerau ac amodau eu cyflogaeth

2.3 yn ymdrin â gwybodaeth a data mewn modd priodol, gan gymhwyso’r protocolau angenrheidiol yn ymwneud â chyfrinachedd, sensitifrwydd a datgelu
2.4 yn glynu wrth safonau ymddygiad cyfreithlon, mewn modd sy’n cyd-fynd â bod yn aelod o’r proffesiwn addysg

Mae uniondeb proffesiynol yn egwyddor allweddol o’r Cod. Mae’r Cod yn bwynt cyfeirio pwysig. Meddyliwch am y pum egwyddor allweddol a’r disgwyliadau maen nhw’n eu gosod arnoch. Bydd y Cod yn eich helpu i wneud y penderfyniadau iawn pan fyddwch yn wynebu’r heriau yr ymdrinnir â nhw yn y canllaw hwn.

Mae’r Cod ar gael ar ein gwefan.

Bydd Pwyllgorau Priodoldeb i Ymarfer a benodir i benderfynu p’un a yw cofrestrai wedi torri’r Cod yn edrych yn fwy ffafriol ar y rhai hynny sy’n cyfaddef eu camgymeriadau, yn dangos dealltwriaeth, a chymhelliad i unioni pethau ar gyfer y dyfodol.

Atebolrwydd

Mae nifer o wahanol agweddau ar fywyd lle y disgwylir i chi fod yn onest ac yn agored fel gweithiwr proffesiynol.

Yn foesegol

Mae’r cyhoedd yn disgwyl i chi fod â chod moesol sy’n arwain eich ymddygiad, a deall beth sy’n iawn ac yn anghywir o ran eich ymddygiad.

Yn gytundebol

Mae eich contract cyflogaeth yn amlinellu’r hyn y mae eich cyflogwr yn ei ddisgwyl gennych, gan gynnwys eich cyfrifoldeb i ddilyn polisïau a gweithdrefnau’r gweithle.

Yn broffesiynol

Mae eich cydweithwyr, dysgwyr, pobl ifanc, rhieni, gofalwyr, a’r cyhoedd yn disgwyl i chi ymddwyn yn broffesiynol a bod yn atebol am eich ymddygiad.

Yn gyfreithiol

Disgwylir i chi nid yn unig ddilyn y gyfraith, ond hefyd cydymffurfio â deddfwriaeth a chanllawiau cenedlaethol a allai fod yn berthnasol i’ch gwaith. Er enghraifft, Gweithdrefnau Diogelu/Amddiffyn Plant Cymru, y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR), Iechyd a Diogelwch.

Mae camgymeriadau’n rhan arferol o fywyd pob dydd ac maen nhw’n bwysig ar gyfer twf personol a phroffesiynol. Nid yw’n rhwydd cyfaddef iddynt bob amser, yn enwedig os ydych yn weithiwr proffesiynol ac mae disgwyliadau’r cyhoedd ohonoch eisoes yn uchel. Gallai camgymeriad deimlo fel methiant, un sy’n anodd ei gyfaddef i unrhyw un, ac yn enwedig i gyflogwr neu rywun rydych yn atebol iddo.

Mae camgymeriadau bwriadol, ar y llaw arall, yn aml yn gofyn am feddwl o flaen llaw a chynllunio, a gallant ddangos ymddygiad bwriadol a thwyllodrus.

Beth bynnag fo’r amgylchiadau, gall cuddio camgymeriad sy’n adlewyrchu arnoch yn broffesiynol achosi llawer mwy o broblemau na’r gwall ei hun, nid y lleiaf oherwydd y gallai ymddiriedaeth ynoch a pharch tuag atoch gael eu colli os bydd rhywun arall yn dod i wybod. Mae’n well bod yn onest, a chyfaddef camgymeriad yn gyflym.

Dyma ein cyngor:

  • cyn gwneud unrhyw beth, pwyllwch ac aseswch beth sydd wedi digwydd
  • derbyniwch gyfrifoldeb
  • meddyliwch am sut gallwch gywiro’r broblem, ac unioni pethau os yw’n briodol
  • esboniwch beth sydd wedi digwydd i’r unigolyn y bydd angen iddo wybod, beth rydych wedi’i wneud i ddatrys y sefyllfa, neu sut byddwch yn gwneud hynny
  • os oes angen i chi ymddiheuro, gwnewch hynny cyn gynted â phosibl
  • ceisiwch ddysgu gan yr hyn sydd wedi digwydd, a newid rhywbeth ar gyfer y dyfodol

Gallai ofni y gallai bod yn onest beryglu eich swydd, neu wneud sefyllfa anodd yn y gwaith yn waeth eich atal rhag bod yn agored ac yn onest. Efallai eich bod wedi’i gadael yn rhy hir cyn cyfaddef i gamgymeriad, neu nid oeddech yn gwybod sut i ddelio ag ef ar y pryd. Efallai eich bod wedi mynd i banig a cheisio ei guddio a nawr mae’n anoddach fyth cymryd cyfrifoldeb.

Os oes rhywbeth wedi digwydd a allai, petai’n cael ei ddatgelu, beryglu’r ymddiriedaeth ynoch fel gweithiwr proffesiynol, ni ddylid gorbwysleisio pwysigrwydd dweud wrth rywun cyn gynted â phosibl. Gofynnwch am gymorth gan rywun rydych yn ymddiried ynddo i wneud synnwyr o’r hyn sydd wedi digwydd, a dewch o hyd i ffordd o fod yn onest â’r unigolyn y mae angen iddo wybod. Mae’n bosibl y bydd eich undeb yn gallu cynnig y cymorth y mae arnoch ei angen i wneud hynny hefyd.

Cofiwch, fel gweithiwr proffesiynol, bydd eich dysgwyr a’ch pobl ifanc, a’r rhai hynny sy’n ymwneud â’u haddysg a’u hyfforddiant yn edrych tuag atoch chi i roi esiampl o sut i ymddwyn. Mae’r Cod yn disgwyl i chi fod yn atebol am eich ymddygiad, ac nid oes unrhyw faes pwysicach na’ch gonestrwydd.

Torri’r Cod

Mae’r isod yn enghreifftiau o achosion lle mae cofrestreion (o’r holl gategorïau cofrestreion) wedi methu bod yn agored ac yn onest i raddau sylweddol pan oedd yn ofynnol, a buont yn destun achos disgyblu CGA o ganlyniad.

Ym mhob achos, torrwyd y Cod yn glir a rhoddwyd ystod o gosbau disgyblu i’r cofrestreion, gan gynnwys, mewn rhai achosion, eu gwahardd rhag ymarfer yn y gweithlu addysg yn y dyfodol.
Canfuwyd bod pob cofrestrai’n anonest ac yn dangos diffyg uniondeb. Ni wnaethant gyfaddef i’w camgymeriadau, hyd yn oed i CGA.

Roedd cofrestrai wedi:

  • gwario £500,000 o gronfeydd ysgol ar gamblo ar-lein tra oedd yn bennaeth, a arweiniodd at euogfarn droseddol a chyfnod o garchar
  • methu datgan ei gofnod troseddol, gan gynnwys troseddau a oedd yn cynnwys cyfnodau o garchariad gohiriedig, wrth wneud cais i gofrestru â CGA
  • gwadu cael perthynas rywiol â disgybl iau nag 16 oed, pan oedd mewn swydd o ymddiriedaeth fel athro ac arweinydd ieuenctid mewn sefydliad gwirfoddol
  • esgus bod yn blentyn ar-lein, a gwneud honiadau difrifol o gam-drin rhywiol yn erbyn ei reolwr llinell i elusen blant
  • dweud celwydd am ddal cymwysterau a graddau a oedd yn rhagofyniad ar gyfer swydd wrth wneud cais am swydd pennaeth adran
  • methu datgelu ei berthynas â throseddwr rhyw a ataliodd ei gyflogwr rhag cynnal asesiad risg
  • cywiro ac ychwanegu at waith cwrs TGAU Mathemateg er mwyn codi marciau disgyblion ac adlewyrchu’n well ar yr athro
  • ffugio ffurflenni adolygu dysgwyr a’u llofnodion yn ogystal â ffugio dalenni amser a gyflwynwyd i’w cyflogwr
  • darparu tystysgrif Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ffug i asiantaeth gyflenwi i awgrymu nad oedd ganddo gofnod troseddol, pan nad oedd hynny’n wir
  • bod yn anonest ynglŷn â’r rhesymau dros fod yn absennol o’r gwaith, a ffugio llythyrau gan ysbyty Ymddiriedolaeth y GIG i awgrymu ei fod yn derbyn triniaeth ar gyfer salwch ffug
  • chwyddo niferoedd dysgwyr
  • golygu llythyr cyfreithiwr i’w alluogi i fynd i’r llys fel tyst cymeriad

Cymorth ychwanegol

Rydym yn cynnig cyflwyniadau sy’n canolbwyntio ar briodoldeb i ymarfer. Os hoffech chi neu’ch cyflogwr drefnu un yn y gweithle, cysylltwch â ni.