CGA / EWC

About us banner
Ein hymrwymiad i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant
Ein hymrwymiad i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant

Mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) wedi ymrwymo i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, gan ymdrechu i chwarae ein rhan wrth greu Cymru decach. A ninnau’n rheoleiddiwr proffesiynol, annibynnol y gweithlu addysg yng Nghymru, rydym yn gweithio’n weithgar i hyrwyddo tegwch, o fewn ein sefydliad ac (o fewn ein cylch gwaith) ar draws y gweithlu addysg ehangach.

Rydym yn ymrwymo i ddileu gwahaniaethu, hyrwyddo cyfle cyfartal a meithrin perthnasoedd da rhwng unigolion o bob cefndir. Mae ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2024-28, sy’n cael ei arwain gan ein gwerthoedd (tegwch, cefnogaeth, rhagoriaeth, cydweithredu ac annibyniaeth), yn cyflwyno ein hymrwymiad i sicrhau bod ein gweithlu a’r gweithwyr addysg proffesiynol rydym yn eu rheoleiddio yn adlewyrchu amrywiaeth Cymru. Mae hyn yn cynnwys:

  • meithrin tîm CGA cynhwysol sy’n gwerthfawrogi a chofleidio gwahanol safbwyntiau, gan sicrhau tegwch mewn recriwtio, cadw a dilyniant gyrfaol
  • creu gweithle cynhwysol a chefnogol lle mae cyflogeion yn teimlo’n ddiogel, yn cael eu parchu a’u grymuso i lwyddo
  • hyrwyddo amrywiaeth yn y gweithlu addysg, gan weithio gyda phartneriaid i chwalu rhwystrau ac annog unigolion o grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli i ddilyn gyrfa mewn addysg
  • sicrhau bod ein gwasanaethau yn hygyrch i bob cofrestrai a rhanddeiliad, gan ddileu rhwystrau rhag ymgysylltu a chyfranogi
  • annog arferion cynhwysol a gwrth-hiliol yn unol â Chynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol a Chynllun Gweithredu LHDTC+ Cymru Llywodraeth Cymru

Rydym yn cydnabod y rôl hanfodol y mae amrywiaeth yn ei chwarae wrth lywio sector addysg deg, gynrychiolaidd a blaengar a chredwn fod gweithlu addysg mwy amrywiol yn cyfoethogi amgylcheddau dysgu, yn gwella penderfyniadau ac yn cryfhau gallu’r sector i fodloni anghenion pob dysgwr a pherson ifanc.
Rydym wedi ymrwymo i welliant parhaus, atebolrwydd ac ymgysylltu fel bod CGA, a’r gweithlu addysg yng Nghymru, yn fwy cynhwysol i bawb. Rydym yn gwahodd ein holl gofrestreion a rhanddeiliaid i ymuno â ni yn y gwaith hwn.