CGA / EWC

Accreditation banner
Sesiynau ffitrwydd a lles rhithwir
Sesiynau ffitrwydd a lles rhithwir

Quality Mark Logo All 3 Levels

Sefydliad: Gwasanaeth Ieuenctid Conwy

Darpariaeth: Sesiynau ffitrwydd a lles rhithwir

Person cyswllt: Paul Cairns

 

 

 

Sesiwn lles rhithwir a gynhaliwyd bob wythnos o fis Ionawr i fis Ebrill 2021 oedd ‘Cymhelliad Dydd Llun’.

Nodasom yr angen am y prosiect hwn trwy drafodaethau gyda phobl ifanc a ddywedodd faint yr oedden nhw’n gweld eisiau sesiynau ffitrwydd gyda ni, nid yn unig ar gyfer iechyd corfforol ond hefyd ar gyfer eu lles meddyliol. O ganlyniad i’r adborth hwn ac wrth i Gymru wynebu cyfnod arall o gyfyngiadau symud ym mis Ionawr 2021, datblygasom sesiwn lles ar-lein lle byddai pobl ifanc yn:

  • Cael eu cyflwyno i feysydd y “Pum Ffordd at Les”
  • Cymryd rhan mewn gweithgareddau o gwmpas y Pum Ffordd at Les
  • Cyflawni sesiwn ymarfer corff ar-lein gyda’i gilydd
  • Cynorthwyo pobl ifanc i gysylltu â’i gilydd ar adeg pan nad oedd cyswllt wyneb yn wyneb yn cael ei ganiatáu.

Bob wythnos, roedd pobl ifanc yn cymryd rhan mewn gweithgaredd ar lein wedi’i seilio ar un o’r 5 maes. https://www.mindkit.org.uk/5-ways-to-wellbeing/

Byddai her yn cael ei gosod iddyn nhw ei chyflawni gartref ar sail y maes hwnnw. Byddai’r gweithgaredd ymarfer corff ar-lein a ddarparwyd yn ystod y sesiwn hefyd yn cael ei lwytho i fyny i’n platfformau cyfryngau cymdeithasol fel fideo i bobl ifanc barhau i’w ddefnyddio gartref rhwng ein sesiynau ar-lein.

Nod cyffredinol y sesiynau hyn oedd rhoi cyfle i bobl ifanc wneud ymarfer corff a chymryd rhan mewn gweithgareddau i gynnal eu hiechyd a’u lles trwy gyfnod y cyfyngiadau symud caeth.

Roedd galwadau cymorth gyda phobl ifanc a rhieni yn rhoi cyfle inni wrando arnyn nhw. Roedd hyn yn caniatáu inni ddeall pa ddarpariaethau ar-lein yr oedd eu hangen a phryd. Wedyn cynhaliwyd ymgynghoriad ynghylch sesiynau.

Yn ystod “Wythnos Iechyd Meddwl Plant”, buom yn canolbwyntio ar sut y gallai pobl ifanc a rhieni ‘fynegi eu hunain’ i helpu i gynnal, amddiffyn a gwella eu hiechyd meddwl. Hefyd roedd grŵp o bobl ifanc yn rhan o Grŵp Llywio ar-lein ar Grantiau Ieuenctid Cyllidebu Cyfranogol i helpu i nodi a phenderfynu ar gyllid ar gyfer prosiectau mewn ardal leol. (Erbyn hyn mae un person ifanc a gymerodd ran wedi mynd ymlaen i ennill gwobr gwirfoddolwr ifanc y flwyddyn Cyngor Tref Bae Colwyn.)

Cafodd y clybiau ieuenctid rhithwir eu cynllunio a’u gwerthuso gan bobl ifanc, gan gynnwys Gofalwyr Ifanc Conwy. Roedden nhw wedi dweud beth yr hoffen nhw ei wneud nesaf ac yn sgil hynny darparwyd amrywiaeth o sesiynau. Gallem weld bod COVID-19 yn effeithio ar iechyd a lles pobl ifanc. Cynaliasom sesiynau lles rhithwir iddyn nhw yn ymdrin â phynciau fel Amser i chi, Delwedd corff/sôn am y corff, Iechyd meddwl a maethiad. Cafodd grwpiau rhithwir ychwanegol eu creu i gynorthwyo pobl ifanc oedd eisiau aros yn egnïol ar sail eu hangen dynodedig.

Mae Gwasanaeth Ieuenctid Conwy wedi dangos arloesedd, gwydnwch a dyfeisgarwch yn ystod blwyddyn eithriadol o anodd. Efallai bod ein gwaith wyneb yn wyneb wedi newid yn ddirfawr, ond ni newidiodd ein gwaith ieuenctid. Gwnaethom barhau i gynorthwyo pobl ifanc rhwng 11 a 25 oed yng Nghonwy, gan gyfrannu at wella eu lles, eu hyder a’u hunan-dyb ac ar yr un pryd rhoi iddyn nhw ragor o gyfle i gymryd rhan mewn gwahanol brosiectau ar-lein oedd yn canolbwyntio ar wella eu hiechyd a’u lles. Oherwydd inni gynnal y cysylltiad hwn a darparu’r cymorth hwn, parhaodd pobl ifanc i ymgysylltu â ni.

Roedd ein sesiynau ar-lein yn ddiogel ac yn hygyrch i bobl ifanc eu mynychu, ac yn caniatáu iddyn nhw gymryd rhan yn llawn ac yn effeithiol ac i gael eu grymuso i feddwl yn wahanol. Roedd y sesiynau hefyd yn gynhwysol ac yn rhoi cyfle i bobl ifanc leisio’u barn am ba agwedd ar iechyd, ffitrwydd a lles yr hoffen nhw ganolbwyntio arni. Roedd hyn yn eu galluogi i fod yn greadigol ac yn arloesol yn eu syniadau.

Fel gwasanaeth rydym wir yn gwerthfawrogi barn ac adborth y bobl ifanc sy’n mynychu ein sesiwn. Roedd eu cyfraniad yn werthfawr a helpodd i ddatblygu’r prosiect dros amser.

Pan ddechreuasom brosiect rhithwir ‘Cymhelliad Dydd Llun’, anogasom y bobl ifanc oedd yn cymryd rhan i gadw eu camerâu ar waith yn ystod y rhan ymarfer corff. Roedd hyn yn bennaf er mwyn inni sicrhau bod y bobl ifanc yn ddiogel. Fodd bynnag, yn fuan gwnaethom sylweddoli fod llawer o’r bobl ifanc yn teimlo’n hunanymwybodol wrth wneud ymarfer corff gyda’r camerâu ar waith, ac o ganlyniad nid oedden nhw’n cael buddion llawn y sesiwn. Gwrandawsom ac addasu’r ddarpariaeth. Anogasom y bobl ifanc i gadw eu meicroffonau ar waith rhag ofn bod arnyn nhw angen unrhyw help, a holasom bawb yn ystod seibiannau rheolaidd i wneud yn siŵr eu bod nhw’n hapus.

Wrth i’r prosiect fynd rhagddo, gofynasom i’r bobl ifanc arwain ar y penderfyniadau ar fformat yr ymarfer corff bob wythnos. Gofynasom am eu hadborth, beth roedden nhw’n ei fwynhau a beth roedden nhw eisiau ei gyflawni a gwnaethom y newidiadau hynny i’r sesiynau wrth fynd ymlaen. Defnyddiasom eu hadborth i wella’r fideos ymarfer corff wythnosol yr oeddem yn eu postio ar ein platfformau ar y cyfryngau cymdeithasol, er mwyn annog mwy o bobl ifanc i fod yn egnïol yn ystod cyfnod y cyfyngiadau symud.

Rwy’n credu bod y prosiect hwn wedi bod o fudd enfawr i’r bobl ifanc a gymerodd ran ynddo. Gyda mwyfwy o bryderon ynghylch y ffordd yr oedd y cyfyngiadau symud yn effeithio ar iechyd meddwl a lles pobl ifanc, arweiniodd y prosiect at amrywiaeth fawr o fuddion i’r bobl ifanc a gymerodd ran ynddo.

O safbwynt cymdeithasol roedd pobl ifanc yn gallu cyfarfod yn rhithwir gyda phobl ifanc eraill oedd yn awyddus i gymryd rhan mewn gweithgareddau i gynnal eu hiechyd a’u lles trwy gydol cyfnod y cyfyngiadau symud. Roedd brwdfrydedd ac ymroddiad y bobl ifanc yn gwneud y clwb rhithwir yn lle gwirioneddol gadarnhaol i fod yn ystod cyfnod o ansicrwydd.

Yn addysgol ac yn bersonol, dysgodd pobl ifanc am y Pum Ffordd at Les a rhoddwyd i bobl ifanc yr offer i gynnal eu lles eu hunain trwy gydol cyfnod y cyfyngiadau symud. Dywedodd un person ifanc ar ddiwedd y sesiynau:

‘Yn ystod cyfnod y cyfyngiadau symud gwnaeth imi weld pobl a chwerthin a dysgais i lawer am fywyd’

Rhoddodd rhieni adborth gwirioneddol gadarnhaol am y rhaglen. Nododd un fam fod hyn ‘yn union’ beth yr oedd ei angen ar ei phlentyn gan ei bod yn pryderu mwyfwy am faint o amser yr oedd ei phlentyn yn ei dreulio ar ei ben ei hun yn ei ystafell wely a chyn lleied o ymarfer corff yr oedd ei phlentyn yn ei wneud yn ystod cyfnod y cyfyngiadau symud

Roedd y sesiynau rhithwir yn ffordd newydd o weithio i’r gwasanaeth. Bu’n rhaid inni ddysgu sut i ymgysylltu â phobl ifanc yn rhithwir, sut i ddarparu sesiwn oedd yn hwyl ac yn ennyn diddordeb, ac ar yr un pryd dal i roi’r un gefnogaeth ag y byddem pe baem ni’n cyfarfod wyneb yn wyneb. Er bod hyn yn heriol iawn, mae gorfod dysgu i addasu ein gwasanaeth heb beryglu ein safonau wedi bod o fudd mawr i ni fel staff ac i’r gwasanaeth. Erbyn hyn gallwn gynnig sesiynau rhithwir sy’n addysgu ac yn annog pobl ifanc i fuddsoddi amser yn eu lles. Er ein bod ni’n mynd yn ôl at sesiynau wyneb yn wyneb, mae’r sesiynau rhithwir yn dal i fod yn rhan bwysig o’n darpariaeth.

Oherwydd llwyddiant y prosiect, rydym wedi cynnwys ymarfer corff yn ein rhaglen lles i’n staff, gan ddarparu dosbarthiadau ffitrwydd ar-lein wythnosol sy’n hybu amser i ffwrdd o liniaduron yn ystod y dydd ac yn atgoffa’r staff i fuddsoddi amser yn eu lles eu hunain.

Prif themâu’r prosiect hwn oedd cynnal iechyd meddwl a lles pobl ifanc trwy weithgarwch corfforol a dysgu. Roedd cyflawni gweithgareddau’n deillio o’r Pum Ffordd at Les yn caniatáu inni ddarparu amrywiaeth fawr o sesiynau i godi ymwybyddiaeth pobl ifanc o wahanol bynciau. Er enghraifft, er mwyn hybu cydraddoldeb ac amrywiaeth un wythnos dysgasom sut i arwyddo, ac wythnos arall dathlasom wythnos niwroamrywiaeth. Roedd siaradwyr Cymraeg a rhai nad ydynt yn siarad Cymraeg yn cymryd rhan yn y sesiynau, felly cafodd y sesiynau eu darparu’n ddwyieithog gan ganiatáu i bobl ifanc gyfathrebu trwy eu dewis iaith. Hefyd roeddem wedi sicrhau bod modd addasu’r ymarferion corfforol, gan eu gwneud yn hygyrch ac yn gynhwysol i bobl o bob gallu. Yn olaf, roedd y sesiynau’n cael eu harwain gan bobl ifanc. Bob wythnos bydden nhw’n dewis pa faes yr hoffen nhw ddysgu mwy amdano ac yn rhannu eu syniadau ynghylch pa weithgareddau y gallem ni eu cyflawni.

Wrth inni barhau yn awr i gynllunio a chyflwyno mwy o ddarpariaethau wyneb yn wyneb i bobl ifanc, mae’r dull darparu ar-lein wedi camu o’r neilltu. Fodd bynnag, mae’r perthnasoedd yr ydym wedi’u meithrin wedi caniatáu inni gynnal cynifer o gysylltiadau cadarnhaol gyda phobl ifanc a rhoi iddyn nhw yr hyder i fynd i’n sesiynau wyneb yn wyneb cymunedol a thargededig. Gallwn hefyd fynd yn ôl at ein sesiynau ar-lein pan fydd y tywydd yn rhy erchyll.

I gael rhagor o wybodaeth gwyliwch:

Sianel fideo Cymhelliad Dydd Llun ar Facebook

Facebook – Taflen Saesneg ‘Monday Motivation’

Facebook – Taflen Gymraeg ‘Cymhelliad Dydd Llun’

Bingo Pum Ffordd at Les Facebook

Fideos lles Facebook

https://www.facebook.com/GIConwyYS/

https://twitter.com/giconwyys?lang=en

Equipped4life

This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it.