Aelodau'r Bwrdd
Mae Bwrdd Achredu Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) (y Bwrdd) yn gyfrifol am achredu rhaglenni AGA.
Mae’r Bwrdd yn cynnwys 15 aelod, gan gynnwys y Cadeirydd a dau ddirprwy. Mae pob un ohonynt â chefndir mewn gwahanol feysydd addysg.
Dr Hazel Hagger (Cadeirydd)
Gweithiodd Hazel Hagger mewn ysgolion uwchradd fel athrawes ac arweinydd am nifer o flynyddoedd cyn ymuno â Phrifysgol Rhydychen. Yn y brifysgol fe wnaeth gyfrannu at gynllunio a datblygu un o’r partneriaethau cyntaf ym maes AGA.
Fel Cyfarwyddwr Cyrsiau Proffesiynol yn yr Adran Addysg, Prifysgol Rhydychen, mae Hazel wedi cael profiad helaeth yn y gwaith o ddatblygu cyrsiau a rhaglenni ym maes AGA a dysgu proffesiynol parhaus. Mae hi'n parhau i weithio mewn rôl gynghori mewn llawer o brifysgolion yn y DU a thramor.
Mae hi wedi cymryd rhan mewn adolygiadau cenedlaethol o’r ddarpariaeth AGA, ac mewn gwaith datblygu partneriaethau a mentoriaid mewn llawer o wledydd. Mae ganddi brofiad o ddatblygu gallu ymchwil mewn ymchwil addysgol fel dirprwy Gymrawd Ymchwil Uwch ym Mhrifysgol Auckland.
Diddordebau Hazel o ran ymchwil yw natur, caffaeliad a datblygiad arbenigedd athrawon, ac mewn mentora a phartneriaethau mewn addysg. Mae hi wedi ysgrifennu’n helaeth ar y meysydd hyn.
Dr Áine Lawlor (Dirprwy gadeirydd)
Cymhwysodd Áine Lawlor fel athrawes gynradd yn 1969, mae ganddi B.A., Diploma Uwch mewn Addysg, Diploma mewn Gweinyddu Addysg, M.A., Ph.D. a Diploma Ôl-radd mewn cyfieithu Gwyddeleg.
Mae gyrfa Áine wedi bod yn un arloesol. Yn 1975 cafodd ei phenodi yn Bennaeth mewn ysgol newydd yn Nulyn, gan ddechrau gyda dim ond 33 o ddisgyblion. Ar ôl hyn daeth yn Gydlynydd Cenedlaethol Cynorthwyol i’r Gwasanaeth Cymorth Addysg Perthnasoedd a Rhywioldeb, yna yn Gydlynydd Cenedlaethol Rhaglen Cefnogi’r Cwricwlwm Cynradd, Phrif Swyddog Gweithredol cyntaf y Cyngor Addysgu, Iwerddon.
Ar ôl ymddeol yn 2011, parhaodd Áine i ymwneud â maes addysg, gan gynnwys bod yn Gynghorydd a Rapporteur i Adroddiad cyntaf Sahlberg ar AGA yn Iwerddon, aelod o Grŵp Gorchwyl a Gorffen Meini Prawf AGA Llywodraeth Cymru, aelod o Fforwm Arbenigwyr AGA Llywodraeth Cymru, Cadeirydd Pwyllgor Moeseg Ymchwil Coleg Mary Immaculate (MIC) Limerick, Cadeirydd Pwyllgor Moeseg Ymchwil MIC, a Chadeirydd Grŵp Llywio y ganolfan Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Ysgol.
Mae Áine wedi bod yn ddirprwy gadeirydd Bwrdd Achredu AGA CGA ers ei sefydlu yn 2017.
Dr Christine Jones (Dirprwy gadeirydd)

Yn dilyn gradd yn y Gymraeg yn Aberystwyth, cwblhaodd Christine Jones ei PhD ar dafodiaith Gymraeg Sir Benfro yn Llanbedr Pont Steffan. Dechreuodd ar swydd ddarlithio yn Llanbed yn 1988, gan ddod yn Bennaeth Adran yn 2007. Yn 2010 fe'i penodwyd yn Bennaeth Ysgol y Gymraeg ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCYDDS), cyn symud i rôl Deon Cynorthwyol Ansawdd yn 2015. Daeth yn Ddeon yr Athrofa Addysg a'r Dyniaethau PCYDDS yn 2020 ac ymddeolodd o gyflogaeth amser llawn yn 2022.
Mae Christine wedi cyhoeddi llyfrau ac erthyglau ar sosio-ieithyddiaeth ac ieithyddiaeth gymhwysol gan gynnwys nifer o lyfrau ar gyfer dysgwyr Cymraeg. Bu’n adolygydd i Asiantaeth Sicrhau Ansawdd y DU (ASA) rhwng 2018 a 2022 a gweithiodd rhan amser i’r ASA, fel Rheolwr Ansawdd nes Ebrill 2025. Bu hefyd yn gweithio'n rhan amser mewn rôl addysgu a dysgu yn Swyddfa Academaidd PCYDDS nes Awst 2025. Christine yw Cadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Bro Dinefwr a bu’n Gadeirydd y Llywodraethwyr mewn ysgol gynradd am flynyddoedd lawer.
Dr Anita Rees
Graddiodd Anita Rees mewn Hanes o Brifysgol Cymru, Aberystwyth. Ei diddordeb ymchwil ar gyfer ei Ph.D. oedd gwleidyddiaeth y 18fed ganrif.
Bu Anita yn athrawes am 34 o flynyddoedd a threuliodd ei holl yrfa mewn addysg uwchradd cyfrwng Cymraeg. Bu’n ymgymryd â nifer fawr o rolau arweinyddiaeth ganol ac uwch, yn magu profiad a diddordeb arbennig ym meysydd asesu, Anghenion Dysgu Ychwanegol, a datblygiad proffesiynol. Wedi cyfnod yn gweithio fel Pennaeth Dros Dro, ymddeolodd Dr Rees yn 2017. Mae hi wedi bod yn swyddog gwella ysgolion ac yn Arolygydd Ychwanegol Estyn ers hynny.
Richard Parsons
Ers 2018 mae Richard Parsons wedi bod yn gweithio ar gyfer CBAC fel Arolygydd y Cyd-Gyngor Cymwysterau, yn ogystal â bod ar Banel Apeliadau a Chamymddyguiad CBAC.
Cyn hynny bu Richard yn addysgu Ieithoedd Tramor Modern mewn amryw ysgolion uwchradd Cymraeg a Saesneg ar draws de Cymru. Gadawodd Richard ei swydd fel Pennaeth Cynorthwyol yn Ysgol Gyfun Cwm Rhymni i fod yn rheolwr prosiect peilot ieithoedd tramor modern llwyddiannus ysgolion cynradd Cymru gyfan CILT-Cymru, ar ran Llywodraeth Cymru.
Symudodd Richard i weithio fel Uwch Gynghorydd yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, cyn ei benodi’n Gyfarwyddwr Addysg Cynorthwyol. Yn 2012, symudodd Richard i Gonsortiwm y Gwasanaeth Cyflawni Addysg, gyda chyfrifoldeb ar yr Uwch Dîm Rheoli yn y sector Cymraeg. Sefydlodd Richard gwmni Erwlas Educational Consulting yn 2014, gan chwarae rôl ymgynghorydd, yn bennaf fel Cynghorydd Herio, i’r Gwasanaeth Cyflawni Addysg a Chonsortiwm Canol De Cymru.
Mae Richard wedi gweithio ar nifer o ymgynghoriadau ac adolygiadau Llywodraeth Cymru mewn amryw o feysydd, ond addysg yn bennaf. Cymerodd Richard ran mewn llawer o arolygiadau ysgol i Estyn ledled Cymru, fel Arolygydd ac fel Cynghorydd Herio.
Mae Richard wedi bod yn aelod o Fwrdd Achredu AGA CGA ers ei sefydlu yn 2017. Am dros 35 mlynedd, mae hefyd wedi bod yn lywodraethwr mewn nifer o ysgolion, ac mae'n aelod o ddau gorff llydoraethau ar gyfer ysgolion cyfrwng Cymraeg ar hyn o bryd.
Penny Lewis
Astudiodd Penny Lewis ym Mhrifysgol Lerpwl cyn cwblhau hyfforddiant athrawon ym Mhrifysgol Nottingham. Dechreuodd ei swydd dysgu gyntaf yn 1975 yn The Harwich School, Essex. Aeth Penny ymlaen i addysgu ac arwain ym maes ieithoedd mewn amrywiaeth o ysgolion a chyd-destunau ar draws de Llundain. Yn 1985, secondiwyd Penny i Goleg Homerton, Caergrawnt, fel rhan o raglen datblygu cwricwlwm Croydon ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol cyntaf.
O 1989 i 1992, bu’n gweithio fel cynghorydd ieithoedd i fwrdeistrefi Sutton a Bromley yn Llundain, gan weithio ochr yn ochr ag athrawon i ddatblygu ffyrdd newydd o addysgu ieithoedd i bob oed, o ddisgyblion cynradd i oedolion. Cyfrannodd y gwaith hwn at y broses o gwblhau ei gradd Meistr mewn addysg.
Yn 1993, symudodd Penny i’r Brifysgol Agored, yn helpu i ddatblygu’r rhaglen hyfforddi athrawon gyntaf trwy ddysgu o bell yn y DU. Daeth yn Ddirprwy Gyfarwyddwr y rhaglen gyda chyfrifoldeb arbennig dros y rhaglen yng Nghymru a Gogledd Iwerddon. Yn ystod ei hamser yno, datblygodd ddiddordebau ymchwil mewn hunaniaeth a datblygiad athrawon.
Yn 2001, aeth Penny i weithio fel Arolygydd Ei Mawrhydi gydag Estyn. Yn rhinwedd y swydd hon, mae hi wedi gweithio mewn timau arolygu yn y rhan fwyaf o sectorau addysg yng Nghymru ac wedi cynrychioli Estyn ar lawer o grwpiau cynghori. Mae Penny'n gweithio'n rhan amser i Estyn ers 2016.
T Anne Morris
Enillodd T Anne Morris ei BA yn y Gymaeg yng Ngholeg Prifysgol Cymru Aberystwyth, a chwblhaodd ei gradd Meistr yn y Gymraeg yno hefyd.
Dechreuodd ei gyrfa fel athrawes yn Ysgol Gyfun Ystalyfera cyn cael y profiad unigryw o fod yn un o ddeg athro cyntaf Ysgol Gyfun Gŵyr pan sefydlwyd yr ysgol ym 1984. Yn arweinydd canol ac uwch profiadol, bu’n Ddirprwy’r ysgol am 12 mlynedd gan ddatblygu meysydd asesu, addysgeg rhyngweithiol a datblygiad proffesiynol.
Bu T Anne yn Bennaeth Ysgol Gyfun Llanhari am bum mlynedd cyn symud i fod yn Bennaeth Cymuned Ddysgu 3–19+ Garth Olwg, a Phennaeth Ysgol Gyfun Garth Olwg nes 2012.
Mae Anne bellach yn ymghynghorydd addysg annibynnol sydd wedi gweithio gydag ysgolion unigol a rhanbarthau penodol ar faterion gwella ysgol a chodi safonau. Bu’n diwtor anrhydeddus Prifysgol Caerdydd a chyfrannodd yn sylweddol at ddatblygiad rôl Mentor o fewn raglen arloesol y radd Meistr mewn Ymarfer Addysgol a gyflwynwyd yn 2013.
Mae’n parhau ei hymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol athrawon drwy fod yn Fentor ac yn Wiriwr Allanol sy’n cefnogi cyfnod Sefydlu athrawon newydd gymhwyso. Wedi hyfforddi fel Arolygydd Cymheiriaid Estyn ers 2010, mae’n parhau yn Arolygydd Tîm Estyn.
Gemma Long

Gemma Long yw Pennaeth Ansawdd yn y Swyddfa Fyfyrwyr, y rheoleiddiwr ar gyfer addysg uwch yn Lloegr. Cyn hyn roedd hi'n Bennaeth Ansawdd a Pholisi Addysg ym Mhrifysgol Caergrawnt, cyd-gymrawd Coleg St Edmund, Caergrawnt. Ers 2021 mae hi wedi bod yn Lywodraethwr yng Ngholeg Chweched Dosbarth Long Road. Newidiodd y coleg i fod yn Ymddiriedolaeth Colegau Chweched Dosbarth yn 2024, lle mae hi'n ymddiriedolwr. Yn ogystal, mae hi’n gyd-gadeirydd y grŵp diddordeb arbennig ymchwil yn y Sefydliad Rheoleiddio.
Yn 2022, fe wnaeth gwblhau secondiad i Lywodraeth Cymru i ddatblygu elfennau sicrhau a gwella ansawdd ei ddiwygiadau addysg drydyddol. Fe wnaeth hefyd weld sefydlu'r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil.
Treuliodd saith mlynedd yn Asiantaeth Sicrhau Ansawdd y DU mewn sawl rôl gan gynnwys Cyfarwyddwr Cynorthwyol ar gyfer ei gynllun Pryderon, a'r Swyddog Arweiniol ar gyfer Cymru. Ers 2019 mae hi wedi bod yn adolygwr ar gyfer QAA a Quality and Qualifications Ireland.
Mae gan Gemma raddau gan Brifysgol Caerdydd a Phrifysgol Caerfaddon. Mae hyn yn cynnwys Gradd Meistr mewn Addysg, yn arbenigo mewn addysg uwch, ac mae ganddi radd Meistr mewn Celfyddydau o Brifsygol Caergrawnt.
Mae ei diddordebau proffesiynol yn canolbwyntio ar brofiad y myfyriwr, ansawdd, rheolaeth, a llywodraethiant addysg, a'i sicrhau a'i fwyhau.
Emma Cavender-Morris

Graddiodd Emma Cavender-Morris o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a chwblhaodd ei gradd BA mewn Addysg yn Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd, (UWIC). Gan gydnabod bod ganddi ddiddordeb dwfn mewn arweinyddiaeth addysgol, estynnodd Emma ei hastudiaethau gyda chymhwyster ILM mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth Addysgol o Brifysgol De Cymru. Mae angerdd Emma tuag at ddysgu i’w weld o hyd yn sgil cael ei chyflwyno’n ddiweddar i gymrodoriaeth Cynghrair Proffesiynol Dysgu OLEVI.
Dechreuodd gyrfa addysgu Emma yn Ysgol Uwchradd Cathays, lle bu’n addysgu Cerddoriaeth a’r Celfyddydau Perfformio. Fe wnaeth ymgymryd ag amrywiaeth o rolau, yn cynnwys Pennaeth Blwyddyn ac Uwch Fentor ar gyfer AGA.
Mae ei symbyliad a’i hangerdd wedi arwain at yrfa lwyddiannus, a’i rôl fel dirprwy bennaeth gweithredol yn Ysgol Gyfun Tredegar. Mae Emma yn fentor rhagorol ar gyfer AGA, ac ANGau, ac mae’n Anogwr Proffesiynol eithriadol o fewn yr ysgol. Yn ei rôl fel pennaeth cynorthwyol, chwaraeodd ran allweddol yn gweithredu gweledigaeth addysgu a dysgu ragorol, gan drefnu a hwyluso rhaglenni dysgu proffesiynol i’r holl arweinwyr dysgu. Mae hi'n meithrin diwylliant o berfformiad uchel, dysgu parhaus a chydweithredu ymhlith y staff.
Sharon Macleod

Astudiodd Sharon Macleod Ieithyddiaeth Gymdeithasegol ym Mhrifysgol Surrey, ac wedyn cwblhaodd hi gymhwyster AGA TAR Uwchradd ym Mhrifysgol Abertawe. Addysgodd Sharon am gyfnod byr yn Llundain cyn dychwelyd i Gaerdydd i fod yn bennaeth blwyddyn yn Ysgol Uwchradd Gatholig Coprus Christi.
Mae Sharon yn meddu ar ehangder o brofiad addysgol mewn ysgolion, o ymwneud â lles dysgwyr fel Pennaeth Cyfnod Allweddol i arwain adran Saesneg lwyddiannus am 20 mlynedd. Ar hyn o bryd, mae’n arwain Sicrwydd Ansawdd Addysgu a Dysgu, yn cefnogi athrawon newydd gymhwyso (ANG) a datblygiad proffesiynol parhaus ysgol gyfan yn Ysgol Uwchradd Gatholig St Richard Gwyn.
Mae Sharon wedi ymwneud ag AGA trwy gydol ei gyrfa. Yn wreiddiol, bu’n gweithio fel mentor pwnc Saesneg yn yr ysgol, cyn myned ymlaen i fod yn uwch fentor yn Ysgol Uwchradd Gatholig Sant Richard Gwyn, ac yn Arweinydd AGA mewn partneriaeth â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd. Cymerodd Sharon ran mewn datblygu model partneriaeth AGA Caerdydd o’r dechrau’n deg.
Nick Dyer

Dechreuodd Nick Dyer ei yrfa fel athro ym 1994 ar ôl gwneud TAR mewn Addysg Gynradd ym Mhrifysgol Caerhirfryn. Cyn hynny fe raddiodd gydag MA mewn Hanes ac Astudiaethau Americanaidd o Brifysgol Dundee.
Aeth Nick ymlaen i fod yn bennaeth ar nifer o ysgolion, ac fel pennaeth gweithredol, arweiniodd Nick Ysgol Gymunedol Hakin ac Ysgol Gynradd Wirfoddol a Reolir Hubberston trwy’r broses uno. Yn 2017, gwelodd Nick agor Ysgol Gynradd Wirfoddol a Reolir Gelliswick yr Eglwys yng Nghymru yn Aberdaugleddau, Sir Benfro, lle bu'n bennaeth nes 2024.
Cyn dod yn bennaeth, gweithiodd Nick mewn ysgolion yn Hampshire, gan gynnwys Ysgol Iau Prubrook, lle’r oedd yn ddirprwy bennaeth.
Yn ogystal â rhaglenni AGA o ansawdd uchel, mae diddordebau proffesiynol nodedig Nick yn cynnwys ymrwymiad i gefnogi dysgwyr sy’n byw mewn cymunedau prin eu hadnoddau, a datblygu’r ffyrdd y mae ysgolion yn gweithio gyda’i gilydd mewn partneriaethau a rhwydweithiau.
Tracy Jones

Dechreuodd Tracy ei gyrfa fel athrawes yn Lerpwl ar ôl graddio o Brifysgol Hope ym 1998 gyda BA mewn Addysg. Aeth ymlaen i fod yn bennaeth ysgolion cynradd yn Sir y Fflint am 12 mlynedd.
Gweithiodd Mae Tracy fel ymgynghorydd gwella ysgolion i Gwe rhwng 2022 a 2025. Mae hi hefyd wedi bod yn Arolygydd Cymheiriaid i Estyn a bu’n rhan o’r grŵp ffocws penaethiaid a weithiodd gydag Estyn ar ddatblygu’r fframwaith arolygu newydd. Mae Tracy yn aelod o’r pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer ar gyfer CGA a'r CYngor Nyrsio a Bydwreigiaeth.
Ynghyd â chefnogi ysgolion yn Wrecsam, hi oedd yr arweinydd addysgeg, gan weithio gyda Llywodraeth Cymru ar amrywiol brosiectau, ac mae’n cynrychioli Gwe ar brosiect Camau. roedd y prosiect yn canolbwyntio ar ddylunio’r cwricwlwm, dilyniant ac asesu, gyda chwricwlwm sy’n canolbwyntio ar ddibenion ac sydd â gogwydd at broses. Secondiwyd Tracy i Lywodraeth Cymru i ddarparu hyfforddiant i 200 o ysgolion ar y prosiect y Cwricwlwm Cenedlaethol ac Asesu.
Mae gan Tracy ddiddordeb brwd mewn ymchwil addysgol a sut mae’n troi’n ymarfer yn yr ystafell ddosbarth. Pan oedd hi’n bennaeth, enillodd ei hysgol wobr ryngwladol am godi safonau trwy arferion wedi’u llywio gan ymchwil.
Dr Trevor Mutton

Mae gan Dr Trevor Mutton gefndir o addysgu ieithoedd tramor modern, gan iddo eu hastudio ar gyfer ei radd, a'i TAR ym Mangor. Dysgodd am nifer o flynyddoedd yn Swydd Rhydychen, cyn ymuno â Phrifysgol Rhydychen fel tiwtor TAR. Gweithiodd yn Adran Addysg Rhydychen nes 2025, ac wedi dal nifer o uwch swyddi, gan gynnwys Cyfarwyddwr Cwrs TAR, Cyfarwyddwr Rhaglenni Proffesiynol, Cyfarwyddwr Astudiaethau Graddedigion, a Dirprwy Gyfarwyddwr yr Adran.
Mae gan Trevor rôl weithredol gyda Chyngor y Prifysgolion ar gyfer Addysgu Athrawon (UCET), ar ôl bod yn aelod o'r Bwrdd Gweithredol am nifer o flynyddoedd, ac yn Is-gadeirydd rhwng 2019 a 2022. Mae'n Ddirprwy Olygydd y Journal of Education for Teaching ac yn aelod bwrdd ar gyfer dau gyfnodolyn addysgol athrawon eraill. Mae'n Athro Emeritws Addysg Athrawon ym Mhrifysgol Rhydychen ac yn Athro ymweliadol ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.
Mae diddordebau Trevor yn canolbwyntio ar natur dechrau taith ddysgu athrawon, gwaith athrawon addysgwyr, partneriaethau addysg athrawon, a pholisi addysg athrawon. Mae wedi ysgrifennu'n helaeth ar y pynciau hyn, yn ogystal â chynnal diddordeb ymchwil mewn addysg ieithoedd modern.
Dylan Gwyer-Roberts

Mae Dylan Gwyer-Roberts yn Bennaeth AGA ym Mhrifysgol Bath Spa, syn cynnwys goruchwylio nifer o raglenni a llwybrau hyfforddi.
Mae gan Dylan brofiad sylweddol yn datblygu cyrsiau a rhaglenni AGA. Ers mis Medi 2024 mae wedi arwain ailachrediad Prifysgol Bath Spa yn llwyddiannus, i barhau i addysgu athrawon y dyfodol, o fis Medi 2021. Mae ganddo brofiad sylweddol fel arholwr allanol ar gyfer nifer o brifysgolion, ac ar hyn o bryd yn arholwr allanol ar gyfer Prifysgol Plymouth Marjohn.
Cyn gweithio yn Bath Spa, roedd Dylan yn athro, uwch arweinydd, llywodraethwr, uwch arholwr, ac arolygydd ysgolion. Fe raddiodd o Brifysgol Caerdydd, ac mae ganddo radd meistr o Brifysgol Abertawe. Mae'n gymrawd sefydlu Coleg Siartredig yr Athrawon ac yn Uwch Gymrawd yr Academi Addysg Uwch.
Mae diddordebau ymchwil Dylan yn cynnwys addysg cerddoriaeth, addysgu a dysgu, a sicrhau ansawdd.
