Rydym yn gweinyddu'r Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru (MAGI), mewn partneriaeth â Safonau Addysg Hyfforddiant (ETS) Cymru, Cyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol, Grŵp Prif Swyddogion Ieuenctid Cymru a Chylch Asiantaethau Hyfforddiant Cymru.
Mae’r Marc Ansawdd yn adnodd unigryw ar gyfer hunanasesu, cynllunio gwelliant ac ennill marc ansawdd am waith ieuenctid. Mae’n cefnogi ac yn cydnabod safonau sy’n gwella mewn darpariaeth, ymarfer a pherfformiad sefydliadau sy’n cyflwyno gwaith ieuenctid, gan ddangos a dathlu rhagoriaeth eu gwaith gyda phobl ifanc.
Mae’r Marc Ansawdd yn cynnwys dwy elfen wahanol:
- cyfres o Safonau Ansawdd y gall sefydliadau gwaith ieuenctid eu defnyddio fel adnodd ar gyfer hunanasesu a gwella
- marc ansawdd wedi’i asesu’n allanol sy’n ddyfarniad cenedlaethol i ddangos rhagoriaeth sefydliad
Mae 35 o sefydliadau gwaith ieuenctid yng Nghymru wedi cyflawni’r Marc Ansawdd. Os hoffech gofrestru eich diddordeb ar gyfer asesiad allanol y Marc Ansawdd, cwblhewch ffurflen mynegi diddordeb.
Efydd
Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd
Cadlanciau Heddlu Gwent
Canolfan i Bobl Ifanc Cwmbrân
Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru
Clybiau Bechgyn a Merched Cymru
Gwasanaeth Ieuenctid Blaenau Gwent
Gwasanaeth Ieuenctid Casnewydd
Gwasanaeth Ieuenctid Cyngor Sir Powys
Gwasanaeth Ieuenctid Merthyr
Gwasanaeth Ieuenctid Sir Fynwy
KPC Ieuenctid a Chymuned
National Youth Advocacy Service (NYAS Cymru)
Promo Cymru
Prosiect Ieuenctid Caerfyrddin Dr Mz
St John's Ambulance Cymru
Tim Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig & Ieuenctid Cymru
Valleys Kids
Vibe Youth
Welsh ICE
Urban circle
Swansea MAD
Arian
Gwasanaeth Ieuenctid Bro Morgannwg
Gwasanaeth Ieuenctid Caerffili Youth4U
Gwasanaeth Ieuenctid Castell-nedd Port Talbot
Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogi RhCT
Youth Cymru
YMCA Abertawe
Princes Trust Cymru
Aur
Dug Caeredin Cymru
Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid Sir Gaerfyrddin
Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion
Gwasanaeth Ieuenctid Conwy
Gwasanaeth Ieuenctid Sir Benfro
Gwasanaeth Ieuenctid Torfaen
Gwasanaeth Ieuenctid Wrecsam
Urdd Gobaith Cymru
YMCA Caerdydd
Gwyliwch deiliad presennol y Marc Ansawdd yn rhannu buddion y Marc Ansawdd.
Ystyried cymryd rhan yn y Marc Ansawdd?
Mae ein modiwl e-ddysgu wedi ei greu i helpu adeiladu ar eich gwybodaeth am y Marc Ansawdd, pam ei fod yn bwysig a’i gynnwys. Dechrau’r modiwl.
O bersbectif yr ifanc: proses asesu MAGI
Mae'r fideo byr yma, a gynhyrchwyd gan MAD Abertawe, yn tywys pobl ifanc sy'n ymgymryd â'r Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid (MAGI) yng Nghymru , trwy'r broses asesu.
Safonau ansawdd a dogfennau arweiniad
Y Marc Ansawdd: cyflwyniad a chanllawiau
Os oes gyda chi unrhyw ymholidau,
Adroddiad gwerthuso Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid
Gwerthusiad o waith Cyngor y Gweithlu Addysg ar y Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid a’i ddatblygiad yn y sector ieuenctid yng Nghymru.