CGA / EWC

Accreditation banner
Dyraniadau derbyn addysg gychwynnol athrawon
Dyraniadau derbyn addysg gychwynnol athrawon

Llywodraeth Cymru sy’n gosod nifer cenedlaethol y derbyniadau a ddymunir wrth recriwtio myfyrwyr i raglenni addysg gychwynnol athrawon (AGA) cynradd ac uwchradd yng Nghymru. Mae hyn yn ystyried y galw amcan am athrawon newydd yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru’n disgwyl bod partneriaethau AGA yn gweithio tuag at sicrhau bod 30% o fyfyrwyr a dderbynnir yn paratoi i addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg, a 5% o fyfyrwyr o gefndir Du, Asiaidd neu Leiafrif Ethnig.

Gan ddefnyddio’r nifer cenedlaethol cyfan o dderbyniadau a ddymunir ar gyfer rhaglenni AGA cynradd ac uwchradd, mae CGA yn darparu’r dyraniadau i bob Partneriaeth AGA.

Yn ogystal â gwahaniaethu rhwng y dyraniadau ar gyfer rhaglenni AGA cynradd ac uwchradd, mae dyraniadau’n cael eu rhannu ymhellach yn niferoedd israddedig a TAR. O fewn dyraniadau uwchradd, mae dyraniadau penodol ar gyfer pob pwnc.

Rydym yn ystyried y canlynol:

  • y tebygolrwydd y bydd y rhaglen yn gallu denu digon o fyfyrwyr o ansawdd uchel i gyflawni’r nifer a ddyrannir iddi
  • cynaliadwyedd y rhaglen
  • polisi a blaenoriaethau Llywodraeth Cymru
  • nifer cenedlaethol y derbyniadau a ddymunir a dadansoddiad o alw rhanbarthol
  • ystyried data recriwtio ar gyfer partneriaethau
  • maint y garfan i sicrhau bod y rhaglen yn hyfyw ac i ddiogelu profiad y myfyriwr