EWC Logo

Registration
Gwneud cais i gofrestru
Gwneud cais i gofrestru

Pwy sydd angen cofrestru?

Mae’n rhaid eich bod wedi cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg (CGA) i weithio fel ymarferwr addysg yng Nghymru. Mae 11 categori cofrestru. Gall fod angen i chi gofrestru mewn mwy nag un categori, yn dibynnu ar y gwaith rydych chi’n ei wneud, neu’n bwriadu ei wneud. Dim ond un ffi fyddwch chi’n ei thalu, hyd yn oed os ydych wedi cofrestru mewn mwy nag un categori. Byddwch chi’n talu ffi uchaf y categorïau rydych chi wedi cofrestru ynddynt.

Categorïau cofrestru

FfiCategori cofrestruGofynion ychwanegol
£45 Athro ysgol Mae’n rhaid bod gennych Statws Athro Cymwysedig
Athro addysg bellach  
Ymarferywr dysgu seiliedig ar waith  
Gweithiwr ieuenctid Cymwysterau gorfodol *
Athro ysgol annibynnol  
Athro sefydliad annibynnol arbennig ôl-16  
£15 Gweithiwr cymorth dysgu ysgol  
Gweithiwr cymorth dysgu addysg bellach  
Gweithiwr cymorth ieuenctid  Cymwysterau gorfodol *
Gweithiwr cymorth ysgol annibynnol  
Gweithiwr cymorth sefydliad annibynnol arbennig ôl-16  

*Os ydych yn gweithio tuag at un o'r cymwysterau gorfodol, byddwch wedi eich cofrestru dros dro, tra eich bod chi'n hyfforddi.

Gwneud cais ar-lein

Pan fyddwch yn gwneud cais i gofrestru, gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys yr holl wybodaeth a dogfennau perthnasol fel na fydd oedi wrth brosesu eich cais. Bydd angen i chi dalu ffi ymgeisio wrth wneud cais i gofrestru.

Ar ôl i ni gael eich cais

Byddwn yn asesu’r wybodaeth, yn dibynnu ar eich atebion, gallem gynnal asesiad addasrwydd. Gallem ofyn am ragor o wybodaeth hefyd.

Byddwn yn cadarnhau trwy’r e-bost p’un a allwch gael eich cofrestru. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw llygad ar eich ffolder negeseuon sbam neu sothach.

Ein nod yw prosesu ceisiadau o fewn pum niwrnod gwaith. Gall hyn gymryd mwy o amser ar adegau penodol o’r flwyddyn pan fyddwn yn cael llawer o geisiadau.

Adnewyddu eich cofrestriad yn flynyddol

Mae’n rhaid adnewyddu eich cofrestriad gyda CGA ar 1 Ebrill bob blwyddyn.

Os oes gennych gontract gyda chyflogwr yng Nghymru, mae dyletswydd gyfreithiol arnynt i dynnu’r ffi adnewyddu flynyddol o’ch cyflog a’i hanfon at CGA.

Os nad oes gennych gontract cyflogaeth, ni fydd eich ffi’n cael ei thynnu o’ch cyflog. Bydd angen i chi ein talu ni’n uniongyrchol. Gallwch wneud hyn ar-lein rhwng dechrau Chwefror a diwedd Mawrth bob blwyddyn.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am gofrestru, Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld..

Rhyddhad treth

Mae eich ffi gofrestru yn gymwys am ryddhad treth ac nid yw’n effeithio ar eich gallu i hawlio rhyddhad treth ar danysgrifiadau presennol â chymdeithas neu undeb athrawon. Mae rhagor o wybodaeth am hawlio rhyddhad treth ar gael ar y dudalen hawlio rhyddhad treth ar dreuliau eich swydd ar gov.uk.