Ers 2020, rydym wedi bod yn cynnal cyfres o brosiectau ar ran Llywodraeth Cymru i gefnogi ac ymestyn proffesiynoldeb y gweithlu ôl-16 yng Nghymru.
Os oes diddordeb gyda chi mewn cyfrannu i, neu weithio gyda ni ar y prosiectau hyn,
Dysgu a datblygu proffesiynol ar gyfer y gweithlu ôl-16 yng Nghymru
Ym mis Gorffennaf, lansiwyd fframwaith dysgu a datblygu proffesiynol newydd ar gyfer ymarferwyr addysg bellach (AB), dysgu'n seiliedig ar waith (DSW) ac addysg oedolion.
Mae'r fframwaith, a gyllidwyd gan Lywodraeth Cymru ac a ddatblygwyd gan CGA, yn dod â theclynnau ac adnoddau ynghyd, yr ydym wedi bod yn eu creu ar y cyd gyda'r sector ers 2020, ynghyd ag ystod o gyngor a chanllawiau defnyddiol eraill. Mae'n cynnwys:
- safonau proffesiynol wedi eu diweddaru i athrawon AB, ymarferwyr DSW, ac ymarferwyr addysg oedolion
- safonau proffesiynol newydd ar gyfer staff cymorth ac arweinwyr AB a DSW
- teclyn rhyngweithiol sy'n caniatáu i chi archwilio sut allai'r safonau edrych ar wahanol lefel o ymarfer - archwilio, mewnosod a thrawsnewid
Yn 2023-24 byddwn yn cydweithio'n agos gydag ymarferwyr ôl-16 i ddatblygu teclynnau rhyngweithiol ychwanegol i gefnogi defnyddio'r safonau proffesiynol newydd ar gyfer staff cymorth ac arweinwyr.
Datblygu safonau proffesiynol i arweinwyr, staff cymorth ac addysg oedolion
Yn 2021-22, dechreuom gwmpasu datblygiad safonau proffesiynol i arweinwyr, staff cymorth ac addysg oedolion. Cynhaliom drafodaethau cychwynnol gyda rhanddeiliaid allweddol a chynhaliom adolygiad bwrdd gwaith o’r safonau i arweinwyr, staff cymorth, ac addysg oedolion mewn gwledydd a phroffesiynau eraill.
Rydym yn gweithio’n agos gyda rhanddeiliaid ac ymarferwyr i ddatblygu ar y cyd safonau sy’n cefnogi unigolion yn effeithiol ac yn darparu fframwaith ar gyfer dysgu proffesiynol parhaus.
Deall gwahanol rolau y gweithlu ôl-16
Yn ystod 2021-22, cawsom ein comisiynu gan Lywodraeth Cymru i lunio cyfres o ‘silwetau’ yn amlinellu rolau/lefelau swydd yn y gweithlu ôl-16.
Gweithiom gyda grŵp o ymarferwyr a rhanddeiliaid i ddatblygu ar y cyd gyfres o 16 silwét yn cwmpasu amrywiaeth o rolau mewn AB a dysgu seiliedig ar waith – o Dechnegwyr ac Aseswyr Prentisiaethau i Diwtoriaid a Phenaethiaid.
Mae’r silwetau’n amlinellu sut olwg allai fod ar ddeiliaid swydd enghreifftiol o ran eu sgiliau, eu profiad a’u cymwysterau. Darparant adnodd datblygiadol gwerthfawr i ymarferwyr a rhanddeiliaid.
Asesu’r galw am gymwysterau newydd ar gyfer ymarferwyr ôl-16
Ar hyn o bryd yng Nghymru, nid yw ymarferwyr â chymhwyster addysgu ôl-16 yn gallu addysgu mewn ysgolion a gynhelir gan nad oes ganddynt statws athro cymwysedig (SAC).
Rydym yn cynnal astudiaeth fer i ddeall yr awydd a lefelau’r galw, o fewn y sectorau AB ac ysgolion, am ddatblygu cymhwyster AB a SAC deuol, a rhaglen drosi Cymru gyfan i’r bobl sy’n addysgu yn y sector AB, sy’n dymuno addysgu yn y sector ysgolion uwchradd.