CGA / EWC

About us banner
Cyflwyniad i Gyngor y Gweithlu Addysg
Cyflwyniad i Gyngor y Gweithlu Addysg

Sefydlwyd Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) gan Ddeddf Addysg (Cymru) 2014, a daeth i fodolaeth ar 1 Ebrill 2015. Rydym yn rheoleiddio ymarferwyr addysg mewn ysgolion, addysg bellach, gwaith ieuenctid, ac addysg oedolion, a dysgu'n seiliedig ar waith. 

Ein gweledigaeth yw edrych tua'r dyfodol a bod yn ymatebol, a bod ein cofrestreion, dysgwyr, pobl ifanc, rhieni/gwarcheidwaid a'r cyhoedd yn ymddiried ynom.

Rheoleiddio

Ein swyddogaeth graidd yw rheoleiddio ym mudd y cyhoedd. I wneud hyn rydym yn:

  1. cynnal Cofrestr o Ymarferwyr Addysg sy'n gymwys i ymarfer mewn ysgolion, addysg bellach, gwaith ieuenctid a dysgu yn y gweithle.
  2. cyhoeddi Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol sy'n gosod y safon a ddisgwylir gan gofrestreion
  3. ymchwilio i, a chlywed honiadau o ymddygiad proffesiynol annerbyniol, anghymhwyster proffesiynol difrifol neu droseddau perthnasol

Mae gennym gyfrifoldeb statudol i achredu rhaglenni addysg gychwynnol athrawon, a monitro eu bod yn cydymffurfio gyda meini prawb cenedlaethol.

Cefnogaeth

Yn ogystal â'n gwaith rheoleiddiol, rydym yn cefnogi cofrestreion i allu cyflawni'r safonau proffesiynol uchaf drwy ddarparu gwybodaeth ddefnyddiol, adnoddau, a gwasanaethau i gynnig canllaw a chyfarwyddyd.

Dylanwad

Rydym yn ceisio cyfleoedd drwy'r amser i lywio a dylanwadu ar bolisi addysg yng Nghymru er budd ein cofrestreion. Mae ein cyfrifoldeb statudol i ddarparu cyngor annibynnol, dadansoddi ymchwil, a deallusrwydd, yn golygu ein bod yn gallu cefnogi'r gwaith o gynllunio'r gweithlu yng Nghymru, gan greu amgylchedd cynhwysol ar gyfer yr holl broffesiwn.

Hyrwyddo

Rydym yn hyrwyddo gyrfaoedd addysg yng Nghymru trwy wefan Addysgwyr Cymru a'r gwasanaeth cyngor. Mae Addysgwyr Cymru yn cynnwys nifer o wasanaethau sy'n dod â chyfleoedd gyrfa, hyfforddiant a swyddi yn sector addysg Cymru ynghyd.