Mae’r rhan fwyaf o wrandawiadau Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer CGA yn cael eu cynnal yn rhithwir (ar-lein, ar Zoom). Gall rhai gael eu cynnal wyneb yn wyneb pan fo’r ymgeisydd yn gwneud cais am hynny.
Bydd manylion gwrandawiad sydd ar ddod yn ymddangos yma 5 niwrnod gwaith cyn y bydd yn cael ei gynnal.
20-24 Ebrill 2026
Mae hwn yn wrandawiad wyneb-yn-wyneb y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer.
Dyddiad ac amser
10:00 ar 20-24 Ebrill 2026
Lleoliad
Swyddfeydd CGA, llawr 10, Eastgate House, Caerdydd
Cyflogwr ar adeg yr honiadau
Coleg Llanymddyfri
Natur y mater gerbron y Pwyllgor
Ymddygiad proffesiynol annerbyniol
Honnir fod y person cofrestredig:
- wedi caniatau i ddisgybl(ion) barhau i chwarae rygbi er gwaethaf bwrw eu pennau
- heb ddilyn protocol cyfergyd Undeb Rygbi Cymru
- heb sicrhau bod staff y Coleg a/neu rieni'r disgyblion yn ymwybodol o'r anafiadau posibl
- wedi arddangos diffyg ystyriaeth ar ddiogelwch a/neu lles disgyblion
- heb gynnal ffiniau dysgu proffesiynol gyda un neu fwy o ddisgyblion
23 Ebrill 2026
Mae hwn yn wrandawiad o bell y Pwyllgor Priodoldeb i Ymarfer.
Dyddiad ac amser
10:00 ar 23 Ebrill 2026
Natur y mater gerbron y Pwyllgor
Ymddygiad proffesiynol annerbyniol
Fe wnaeth y cofrestrai sylwadau a/neu anfon negeseuon o natur ddychrynllyn a/neu fygythiol
Cadw lle
Os ydych am wylio gwrandawiad fel aelod o’r cyhoedd neu’r wasg, anfonwch e-bost at
Bydd angen i chi ddarparu’r wybodaeth ganlynol wrth gadw lle:
- eich enw llawn
- dyddiad y gwrandawiad
- cyfeiriad e-bost i anfon y ddolen Zoom ato os gwrandawiad rhithwir ydyw
- rhif ffôn cyswllt er mwyn i ni gysylltu â chi os bydd angen i ni wneud
- y rheswm dros fod eisiau gwylio (y wasg, er enghraifft)
Os gwrandawiad rhithiwr ydyw, byddwn yn anfon dolen Zoom atoch i ymuno â’r gwrandawiad 24 awr cyn y bydd yn dechrau. Peidiwch â rhannu’r ddolen hon gydag unrhyw un arall. Os gwrandawiad wyneb yn wyneb ydyw, cewch y trefniadau mynychu.
Mae disgwyl bod ein gwrandawiadau’n cael eu cynnal yn gyhoeddus. Fodd bynnag, gall rhan o wrandawiad, neu’r cyfan ohono, gael ei gynnal yn breifat, weithiau, oherwydd natur gyfrinachol y wybodaeth sydd ynghlwm, fel problemau iechyd. Gall y Pwyllgor eithrio’r cyhoedd a’r wasg tra bydd yn gwrando yn breifat.
O dan yr amgylchiadau hyn, gofynnir i chi adael y gwrandawiad a bydd swyddog achos y gwrandawiad yn rhoi gwybod i chi os gallwch ailymuno, a phryd.
Rydym yn recordio ein gwrandawiadau. Fodd bynnag, ni chaniateir i unrhyw berson arall recordio, gwneud ciplun, tynnu ffotograffau, copïo na rhannu trafodaethau ein gwrandawiadau mewn unrhyw fodd.
Gall gwrandawiadau gael eu canslo neu eu gohirio ar fyr rybudd.
