Cyn gwneud cais
Rhaid i bob rhaglen a gyflwynir i’w hachredu fodloni’r Meini prawf ar gyfer achredu rhaglenni Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) yng Nghymru a bennir gan Lywodraeth Cymru. Fodd bynnag, cyn gwneud cais, mae’n ofynnol i bartneriaethau gyflwyno ffurflen ddatganiad o fwriad i’r Bwrdd Achredu AGA.
Rhaid i bob rhaglen dderbyn cymeradwyaeth prifysgol cyn iddynt gael eu cyflwyno.
Pryd i wneud cais
Fel rheol, dylai partneriaethau sicrhau bod pob rhaglen AGA newydd yn cael eu cyflwyno o leiaf 18 mis cyn dyddiad cychwyn disgwyliedig y rhaglen gan ddefnyddio’r profforma priodol. Er enghraifft, dylid cyflwyno rhaglenni sy’n dechrau ym mis Medi 2025 erbyn mis Mawrth 2024. Mae’r gofyniad hwn wedi ei lacio ar gyfer rhaglenni sy’n cychwyn ym mis Medi 2024, o ganlyniad i gyhoeddi Meini prawf newydd ar gyfer achredu rhaglenni Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) yng Nghymru .
Achredu
Mae’r canllawiau ar gyfer cyflwyno rhaglen o Addysg Gychwynnol Athrawon i CGA i’w hachredu yn amlinellu’r broses o wneud cais ac asesu rhaglenni ar gyfer achrediad. Dylid cwblhau’r ffurflen briodol yn unol â gofynion CGA.
Ailachredu
Caniateir i bartneriaethau AGA wneud cais am ailachrediad unwaith yn ystod cyfnod o achrediad rhaglen o Addysg Gychwynnol Athrawon. Mae’r canllawiau ar gyfer cyflwyno rhaglen o Addysg Gychwynnol i CGA ar gyfer ailachredu yn amlinellu’r broses o wneud cais ac asesu. Dylid cwblhau’r ffurflen briodol yn unol â gofynion CGA.
Gwneud newidiadau i raglen
Os oes partneriaeth yn dymuno gwneud newidiadau sylweddol i raglenni achrededig, mae’n rhaid ein hysbysu’n ysgrifenedig. Dylid gwneud hyn drwy ddefnyddio’r ffurflen Hysbysiad o newid mawr i raglen AGA .
Ffioedd achredu
Rhaid i bob partneriaeth sy’n cyflwyno rhaglen ar gyfer achredu, neu sydd â rhaglen achrededig sy’n gofyn am ymweliad adolygu neu fonitro dalu’r ffi briodol i ni.
Darllennwch ein polisi ffioedd achredu .