CGA / EWC

Fitness to practise banner
Addasrwydd i gofrestru
Addasrwydd i gofrestru

Mae staff priodoldeb i ymarfer yn asesu addasrwydd i gofrestru gyda CGA pan fydd darpar gofrestrai’n ateb unrhyw gwestiwn am ei hanes yn gadarnhaol wrth lenwi adran ddatganiad y ffurflen cais i gofrestru.

Asesiad addasrwydd

Cam 1

Mae staff priodoldeb i ymarfer o’r farn bod y datganiad yn gymharol ddibwys ac nad yw’n effeithio ar addasrwydd yr ymgeisydd i gofrestru. Caniateir cofrestru.

Cam 2

Gofynnir i’r ymgeisydd ddarparu gwybodaeth fanylach am amgylchiadau ei ddatganiad a rhai tystebau neu sylwadau i ategu ei addasrwydd i gofrestru. Os bydd staff priodoldeb i ymarfer yn fodlon ag ymateb yr ymgeisydd, caniateir cofrestru.

Cam 3

Mae staff priodoldeb i ymarfer yn penderfynu atgyfeirio’r cais i bwyllgor addasrwydd graffu’n annibynnol arno mewn cyfarfod.

Cyfarfod pwyllgor addasrwydd

Mae cyfarfod y Pwyllgor Addasrwydd yn breifat ac yn gyfle i’r ymgeisydd esbonio i’r Pwyllgor pam mae’n ystyried ei fod yn addas i gael ei gofrestru.

Mae’r Pwyllgor Addasrwydd yn cynnwys o leiaf dri aelod panel, gan gynnwys o leiaf un aelod o’r un categori cofrestreion sy’n berthnasol i’r ymgeisydd, ac un person lleyg. Bydd cynghorydd cyfreithiol annibynnol yn cefnogi’r Pwyllgor.

Ar ôl iddo glywed gan yr ymgeisydd, bydd y Pwyllgor yn ystyried, yn breifat, p’un ai i ganiatáu cofrestru ai peidio. Os na chaniateir cofrestru, ni fydd yr ymgeisydd yn gallu gwneud cais pellach yn yr un categori neu gategorïau cofrestru am 12 mis. Ar ôl hyn, gallant wneud cais newydd i gofrestru yn y categori hwnnw.