CGA / EWC

Accreditation banner
Dod yn asesydd Marc Ansawdd
Dod yn asesydd Marc Ansawdd

Hanfod y Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru yw helpu grwpiau a sefydliadau i adnabod, disgrifio a dathlu eu gwaith gyda phobl ifanc. Mae aseswyr y Marc Ansawdd yn chwarae rôl hanfodol yn hyn o beth.

Beth mae asesydd y Marc Ansawdd yn ei wneud?

Fel asesydd y Marc Ansawdd, byddwch yn rhan o dîm sy'n gwirio ansawdd arfer gwaith ieuenctid yn allanol.

Gan weithredu fel mentor, byddwch yn cefnogi eraill wrth iddynt weithio tuag at gyflawni'r Marc Ansawdd. Byddwch hefyd yn chwarae rôl allweddol o ran adnabod, hyrwyddo a dathlu arferion da.

Mae aseswyr y Marc Ansawdd yn ymgymryd â'r rôl yn wirfoddol. Os cewch eich dewis i weithredu fel asesydd arweiniol, cewch eich talu am eich amser.

Yr hyn rydym yn chwilio amdano mewn asesydd

Nid oes angen cymhwyster penodol arnoch i ddod yn asesydd. Ond mae'n helpu os ydych yn angerddol am ddathlu gwaith ieuenctid yng Nghymru a bod gennych ddiddordeb mewn sicrhau ansawdd.

Bydd gennych bersonoliaeth fywiog a chyfeillgar ac:

  • o leiaf 5 mlynedd o brofiad o weithio gyda phobl ifanc
  • sgiliau arsylwi a dadansoddi rhagorol
  • anian gefnogol a chydweithredol

Manteision bod yn aseswr

Bydd bod yn aseswr yn caniatáu i chi:

  • rannu arferion da a dysgu wrth eraill
  • cyfrannu at ddatblygu gwaith ieuenctid
  • gwella'ch sgiliau arwain a chyfathrebu
  • adeiladu ar eich rhwydwaith presennol o berthnasau proffesiynol
  • cynyddu eich gwybodaeth a'ch ymwybyddiaeth o'r sector gwaith ieuenctid

Gwyliwch aseswyr y Marc Ansawdd yn siarad ynghylch sut mae'r cyfle wedi effeithio ar eu harfer nhw.

Darllen y canllawiau am fod yn asesydd Marc Ansawdd

Sut i ymgeisio

Os ydych yn ymrwymedig i wella gwaith ieuenctid yng Nghymru, ac yn teimlo’ch bod yn gallu cynnig yr hyn sy’n ofynnol i fod yn aseswr, rydym yn eich annog i gwblhau ein ffurflen gais fer

Canllawiau ar gyfer Aseswyr

Canllaw Asesu Arsylwadol y Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid

Arweiniad ar Ysgrifennu Adroddiadau