CGA / EWC

Accreditation banner
Ysbrydoli
Ysbrydoli

Quality Mark Logo All 3 LevelsSefydliad: Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Prosiect: Ysbrydoli

Person cyswllt: Sara Tompkin

Nod y prosiect yw cynorthwyo pobl ifanc 11-18 oed sy’n ymddwyn yn hunan-niweidiol, gyda’r nod o leihau’r cyfraddau sy’n cael eu hail-dderbyn i’r ysbyty oherwydd ymddygiad hunan-niweidiol.

Ceir gwahanol elfennau i brosiect Ysbrydoli sef:

 

-cymorth un i un ar gyfer pobl ifanc a gaiff eu hatgyfeirio i’r prosiect. Mae’r cymorth holistaidd hwn wedi’i seilio ar ymgysylltu gwirfoddol, a chaiff ei arwain gan yr hyn mae pob person ifanc yn teimlo byddai’n ei helpu ar y pryd hwnnw. Cynhelir y sesiynau mewn lleoliad a ddewiswyd gan y person ifanc a gallant gynnwys gweithio ar hyder a hunan-dyb, strategaethau ymdopi/dewisiadau yn lle hunan-niweidio, cydnerthedd, rheoli emosiynau, gwaith dod i gysylltiad â e.e. trafnidiaeth gyhoeddus neu gaffis, cyflwyniad i hobïau a diddordebau, cymorth gydag addysg, hyfforddiant a chyflogaeth, a chyfeirio at wasanaethau mwy arbenigol, ymysg pethau eraill.

-Wardiau – Mae prosiect Ysbrydoli’n ymweld â wardiau ysbyty pob dydd er mwyn cynorthwyo unrhyw bobl ifanc 11-18 oed a gafodd eu derbyn i’r ysbyty, gan gynnig iddynt gymorth cyffredinol, cyfeiriadau at wasanaethau ac adnoddau i’w benthyg yn ystod eu harhosiad.

-Clybiau ieuenctid - Mae prosiect Ysbrydoli’n rhedeg 2 glwb ieuenctid i bobl ifanc sydd wedi cael cymorth un-i-un ac a fyddai’n cael budd o waith grŵp. Mae un yn glwb ieuenctid cyffredinol, a’r llall, a enwyd Ysbrydoli Balchder gan y bobl ifanc, i bobl ifanc sy’n uniaethu fel LHDTC+. Mae’r clybiau ieuenctid yn cynorthwyo’r bobl ifanc i feithrin sgiliau cymdeithasol, gan leihau ynysigrwydd cymdeithasol a rhoi cyfleoedd iddynt ddatblygu cyfeillgarwch wrth gyflawni gweithgareddau mewn amgylchedd cefnogol.

- Cynigir gweithgareddau i ddifyrru pobl ifanc sydd wedi cael cymorth un-i-un ac sy’n addas i waith grŵp ac a fyddai’n cael budd ohono. Ceir gweithgareddau amrywiol fel marchogaeth, beicio mynydd, dringo creigiau, sinema, pêl-droed ac amrywiaeth o dripiau eraill. Maent yn rhoi ymdeimlad o gyflawniad i’r bobl ifanc ac yn gyfle i ddatblygu cyfleoedd cymdeithasol wrth brofi gweithgareddau na fyddent efallai wedi cael y cyfle i’w gwneud fel arall.

Sesiynau addysg – Mae prosiect Ysbrydoli’n darparu sesiynau addysg cyffredinol i ysgolion a grwpiau ieuenctid ar iechyd a lles emosiynol, delwedd corff a hunan-dyb, ac ymdopi â straen. Mae’r prosiect hefyd yn darparu grwpiau targededig sy’n canolbwyntio ar anghenion canfyddedig pan fo angen.

Mae’r holl bobl ifanc yn cydsynio i gael eu hatgyfeirio at brosiect Ysbrydoli ar gyfer cymorth un-i-un, ac i gymryd rhan mewn unrhyw weithgareddau sy’n rhan ohono. Ymgynghorir â phobl ifanc yn rheolaidd am y cymorth yr hoffent ei gael o ran canfod ac adolygu targedau yn ystod gwaith un-i-un, pa weithgareddau difyrru yr hoffent, cynnwys sesiynau’r clwb ieuenctid ac am redeg y prosiect yn gyffredinol. Gofynnir i’r holl bobl ifanc gwblhau gwerthusiadau o’r cymorth un-i-un a’r sesiynau addysg hefyd. Mae’r adborth ar y rhain wedyn yn dylanwadu ar gymorth yn y dyfodol.

Enghraifft o hyn yw Ysbrydoli Balchder – canfuwyd bod Ysbrydoli’n cynorthwyo nifer gynyddol o bobl ifanc oedd yn uniaethu fel LHDTC+, ac roedd rhai ohonynt yn dymuno gwybod pwy arall oedd yn teimlo’r un peth â nhw. Nid oedd y gweithwyr yn gallu dweud wrthynt oherwydd cyfrinachedd, ond awgrymwyd sefydlu clwb ieuenctid ar wahân i bobl ifanc LHDTC+; roedd y bobl ifanc yn hoffi’r syniad hwn. Enwyd y clwb Ysbrydoli Balchder gan y bobl ifanc. Cynhaliwyd y clwb ar lein yn ystod Covid a bydd yn symud i gyfarfod wyneb yn wyneb cyn gynted â phosibl. Y bobl ifanc sy’n penderfynu ar gynnwys y sesiynau ar sail ymgynghoriadau, ac mae cynnydd rhai ohonynt ers mynychu cyfarfodydd Ysgogi Balcher wedi bod yn ysbrydoliaeth.

Mae natur yr ymgysylltu gwirfoddol a’r berthynas rhwng y person ifanc a’r gweithiwr ieuenctid wedi bod yn hanfodol. Mae’r gweithwyr yn gallu datblygu perthnasoedd proffesiynol effeithiol iawn gyda phobl ifanc yn gyflym iawn, gan wneud iddynt deimlo’n gyfforddus hyd yn oed os byddant wedi cael trafferth i ymgysylltu ag asiantaethau eraill. Gan fod y gwaith yn cael ei arwain gan y bobl ifanc, mae’n eu grymuso, gan achosi iddynt deimlo bod ganddynt reolaeth, gyda sesiynau anffurfiol yn cael eu harwain gan anghenion a dymuniadau pob person ifanc.

Gan ddysgu o fodel Ysbrydoli dros y blynyddoedd, cafodd gwerth gwaith ieuenctid mewn lleoliadau iechyd ei gydnabod yn helaeth. Yn 2017, talodd y tîm diabetes pediatrig i gael gweithiwr Ysbrydoli am 8 awr yr wythnos er mwyn cynorthwyo pobl ifanc sy’n camreoli neu’n cael trafferth gyda’u diabetes a rhannau eraill o’u bywydau.

Yn fwy diweddar yn 2019, cafodd prosiect Ysbrydoli ei gomisiynu gan Gyngor Sir y Fflint i ehangu ei ddarpariaeth i Sir y Fflint. Mae hwn wedi bod yn llwyddiant mawr ac mae’n dal i dyfu, gyda llawer o bobl ifanc yn cael budd o’r cymorth hwn.

Oherwydd ei lwyddiant parhaus, mae Ysbrydoli bellach yn y broses o ehangu i leoliadau iechyd eraill fel CAMHS er mwyn cynorthwyo pobl ifanc sy’n symud at wasanaethau iechyd meddwl i oedolion, gan fod gwaith partneriaethol wedi dangos bod angen hyn. Hefyd, mae’r gwaith gyda phobl ifanc â diabetes wedi bod mor llwyddiannus, holwyd prosiect Ysbrydoli’n ddiweddar ynghylch y posibilrwydd o gael gweithiwr ieuenctid yn yr adran diabetes i oedolion i weithio gyda phobl ifanc hŷn â diabetes.

Mae ymgysylltu trwy gymorth un-i-un a gweithgareddau grŵp fel clybiau ieuenctid a gweithgareddau difyrru yn lleihau ynysigrwydd cymdeithasol pobl ifanc, yn gwella’u hyder a’u hunan-dyb, yn rhoi iddynt ymdeimlad o gyflawni, yn eu cynorthwyo i feithrin eu sgiliau cymdeithasol ac yn eu helpu i ddatblygu strategaethau ymdopi / dewisiadau cynorthwyol yn lle hunan-niweidio. Gall pobl ifanc ddysgu am eu pryderon am sefyllfaoedd sy’n anodd iddynt a mynd i’r afael â nhw, yn ogystal â’r rhai sy’n gallu cyfyngu ar eu cysylltiad â chyfoedion, addysg neu yn y gymuned, fel ar drafnidiaeth gyhoeddus neu mewn lleoliadau cymunedol fel caffis. Mae ymgysylltu â chymorth yn helpu pobl ifanc i gymryd mwy o ran mewn addysg a dangoswyd ei fod yn gwella presenoldeb ac ymddygiad. Gall pobl ifanc ddysgu ffyrdd o ymdopi ac adeiladu eu cydnerthedd gyda sgiliau y gallant eu defnyddio drwy gydol eu hoes. Mae llawer o bobl ifanc hefyd wedi dweud bod eu perthnasoedd â’u teuluoedd a’u ffrindiau’n well, bod eu hwyliau, eu hiechyd a lles yn gyffredinol yn well, eu bod yn fwy ymwybodol o wasanaethau eraill ac yn ymgysylltu â nhw yn fwy, a llai o hunan-niweidio.

Sefydliad – Mae’r sefydliad wedi elwa trwy ddatblygu partneriaeth gryf iawn gyda CAMHS, sydd bellach wedi arwain at ddatblygu swydd gwaith ieuenctid a gaiff ei lleoli o fewn CAMHS er mwyn cefnogi’r broses o symud pobl ifanc at wasanaethau oedolion.

Staff – Mae staff prosiect Ysbrydoli yn dweud bod ganddynt swydd werth chweil ac amrywiol iawn, yn cefnogi llawer o bobl ifanc ar eu taith, yn eu gwylio’n gwneud cynnydd ac yn cyrraedd eu potensial. Gall y staff ddatblygu eu sgiliau a’u profiad mewn sawl maes, yn arbennig iechyd meddwl, trwy weithio mewn maes gwaith ieuenctid mor arbenigol.

Gwirfoddolwyr – mae rhai o’r bobl ifanc sydd wedi ymwneud â phrosiect Ysbrydoli wedi gwirfoddoli gyda’r prosiect wedyn, sydd wedi rhoi profiad arbennig iddynt. Yn sgil hyn, mae rhai wedi mynd ymhellach, ac erbyn hyn yn weithwyr ieuenctid, swyddogion heddlu, gweithwyr cymdeithasol a gweithwyr gwerthfawr eraill. Mae rhai o staff prosiect Ysbrydoli hefyd wedi bod yn wirfoddolwyr gyda’r prosiect.

Dros y blynyddoedd diwethaf, nodwyd bod prosiect Ysbrydoli wedi bod yn cynorthwyo niferoedd cynyddol o bobl ifanc sy’n uniaethu fel LHDTC+. Weithiau nodir hyn wrth eu hatgyfeirio, tra bo eraill yn datgelu hynny i’w gweithiwr Ysbrydoli. Arweiniodd hyn at ddatblygu clwb ieuenctid Ysbrydoli Balchder.

Dechreuodd prosiect Ysbrydoli yn 2006, ac aeth yn fyw yn 2007 gydag arian cychwynnol o gronfa’r Loteri Fawr. Caiff y prosiect ei ariannu gan nifer o grantiau gwahanol bellach, ac mae wedi tyfu’n sylweddol dros y blynyddoedd.

Mae Ysbrydoli’n parhau â holl elfennau’r prosiect. Yn 2017, ehangodd y prosiect i’r adran diabetes pediatreg ac yn 2019, ehangodd eto i gynnwys ardal Sir y Fflint yn ogystal â Wrecsam. Mae’r prosiect yn y broses o ehangu i wasanaethau CAMHS ar hyn o bryd, a gwasanaethau diabetes oedolion hefyd o bosibl.

Mae prosiect Ysbrydoli’n rhannu gwybodaeth a phrofiad â phartneriaid rhanbarthol yn rheolaidd ac yn eu cynorthwyo nhw i ymchwilio i, a datblygu, gwaith ieuenctid wedi’i leoli mewn ysbytai.

I gael mwy o wybodaeth, anfonwch neges e-bost at: This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it. neu ffoniwch 01978 726002

wrexham cbc 500x500 thumb