CGA / EWC

Accreditation banner
Prosiect Perthnasoedd Iach
Prosiect Perthnasoedd Iach

Quality Mark Logo All 3 Levels

Sefydliad: YMCA Caerdydd

Darpariaeth: Prosiect Perthnasoedd Iach

Pobl Gyswllt: Caroline Ryan/Amy Stuart-Torrie

 

 

 

Mae'r Tîm Allgymorth Iechyd Rhywiol yn darparu gwasanaeth iechyd rhywiol targededig i bobl ifanc, trwy gyllid Teuluoedd yn Gyntaf, ers 2013.

  • Darparu cymorth un i un a sesiynau grŵp targededig i bobl ifanc sydd mewn perygl o ran perthnasoedd iach a hawliau a chyfrifoldebau o ran ymddygiad rhywiol, gan gynnwys cyngor ar iechyd rhywiol sy’n dilyn ymarfer gorau.
  • Darparu hyfforddiant a chyngor i weithwyr proffesiynol eraill sy’n gweithio gyda phobl ifanc, mewn ysgolion ac yn y gymuned, er mwyn iddynt allu darparu cymorth priodol o ansawdd da i bobl ifanc, a sicrhau y gall pobl ifanc gael cyngor a gwybodaeth ymarfer gorau mewn perthynas ag iechyd ac ymddygiad rhywiol.
  • Cydweithio gyda gweithwyr proffesiynol eraill i sicrhau y gall pobl ifanc gael gwasanaethau sy’n briodol i natur a lefel eu hanghenion.

Ar hyn o bryd rydym yn darparu gwaith un i un a gwaith grŵp arbenigol targededig i bobl ifanc mewn perthynas â’u hanghenion o ran iechyd rhywiol a pherthnasoedd. Rydym yn gweithio gyda phobl ifanc un i un ac mewn grwpiau, gan ddibynnu ar yr angen, mewn gwahanol leoliadau ieuenctid yng Nghaerdydd, fel clybiau ieuenctid, darparwyr hyfforddiant, ysgolion, colegau, hosteli i bobl ifanc a sefydliadau ieuenctid eraill.

Daw atgyfeiriadau i law o bob rhan o Gaerdydd ac maen nhw’n nodi llawer o anghenion gwahanol o ran iechyd rhywiol a pherthnasoedd. Er enghraifft, risg camfanteisio rhywiol ar blant, profion beichiogrwydd, sgrinio am heintiau a drosglwyddir yn rhywiol, perthnasoedd iach, materion rhywedd a thrawsryweddol, ac enwi ond ychydig.

Mae YMCA Caerdydd yn cynnal ymagwedd amlasiantaethol at y gwasanaeth hwn er mwyn sicrhau y caiff anghenion pobl ifanc eu diwallu’n llawn, gan sicrhau bod pobl ifanc yn cael cymorth ac ymyrraeth sy’n ddiogel ac yn effeithiol ac sy’n hybu canlyniadau cadarnhaol o ran iechyd rhywiol a pherthnasoedd.

Canfuwyd yr angen am y prosiect hwn trwy ein gwaith o gydgysylltu’r Cynllun Cerdyn-C gan weithio mewn partneriaeth ag Iechyd Cyhoeddus Cymru. Gweledigaeth y Tîm Allgymorth Iechyd Rhywiol oedd llenwi’r bylchau yn y darpariaethau ar gyfer iechyd rhywiol a pherthnasoedd. Roedd pobl ifanc yn gofyn am fwy o gymorth ac mewn llawer o achosion nid oedd gan weithwyr proffesiynol y gallu, y wybodaeth benodol neu’r hyder i’w ddarparu yn eu swyddi. Roedd y bobl ifanc yn ganolog yn y gwaith o nodi’r angen am gymorth un i un penodol a chymorth i gael mynediad i wasanaethau iechyd rhywiol lleol fel Adran Iechyd Rhywiol y GIG.

Creodd pobl ifanc y logo ar gyfer y prosiect trwy gystadleuaeth i Gaerdydd gyfan mewn partneriaeth â Phartneriaeth Pobl Ifanc Caerdydd. O’r dechrau mae ymagwedd sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn wedi bod yn sylfaenol ac mae pobl ifanc wedi siapio’r prosiect ac yn parhau i wneud hynny.

Mae pobl ifanc yn cael eu cynnwys o’r cyfarfod cychwynnol, gyda’r gwaith o gynllunio sesiynau, lleoliadau, hyd sesiynau a’r amserlen. Caiff pob sesiwn ei adolygu ar lafar a/neu mewn ysgrifen a gall pobl ifanc fyfyrio ar eu dysgu a chynllunio ar gyfer y sesiwn canlynol gyda’u gweithiwr allgymorth. Ar ddiwedd yr ymyrraeth mae pob person ifanc yn cwblhau gwerthusiad, mae eu mewnbwn yn bwydo i mewn i’r prosiect gan ein bod ni’n monitro a gwerthuso’r gwasanaethau yn ddi-baid er mwyn sicrhau eu bod nhw’n diwallu anghenion pobl ifanc yn y modd gorau. Mae pob person ifanc yn cwblhau asesiad cychwynnol fel yr Ysgol Canlyniadau ar ddechrau’r ymyrraeth, sy’n cael ei adolygu ar ôl 6 sesiwn ac yn y sesiwn olaf. Mae hyn yn caniatáu inni ganfod y pellter a deithiwyd o ran dysgu a hefyd canfod unrhyw feysydd gwaith ychwanegol, neu lwybrau i gyfeirio atynt.

Caiff yr holl ddata eu cofnodi ar ein system Cofnod Elusen er mwyn inni allu tracio ymgysylltiad, cynnydd a gwerthusiadau unigol y gwasanaeth. Caiff pob cysylltiad ei gofnodi, ac mae’r wybodaeth hon yn darparu data pwysig sy’n ein galluogi i fonitro a gwerthuso’n barhaus.

Mae pobl ifanc wedi chwarae rhan weithredol yn y cynllun Cerdyn-C o’r camau cyntaf. Gellir cadarnhau eu cyfranogiad trwy bleidleisio ar ddewis o frand condom, penderfynu ar leoliadau hygyrch a dylunio deunyddiau hyrwyddo. Mae pobl ifanc yn cael cyfle i gyfrannu at ymgynghoriad blynyddol, sy’n bwydo’n uniongyrchol i mewn i’r gwaith o ddatblygu’r cynllun.

Mae ein gwaith ieuenctid wedi’i seilio ar 5 colofn gwaith ieuenctid ac mae’n unol â’r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Gwaith Ieuenctid.

Mae'r tîm yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau ac ymagweddau wrth weithio gyda phobl ifanc, gan fod pob person ifanc yn wahanol, gydag anghenion, dulliau dysgu a chefndiroedd gwahanol. Ond yr ymagwedd sylfaenol yw cyfranogiad gwirfoddol, canolbwyntio ar yr unigolyn a dan arweiniad y defnyddiwr. Rydym wedi bod yn fodlon ymaddasu ac yn hyblyg ac yn cael ein llywio gan anghenion pobl ifanc. Mae'r prosiect yn un allgymorth ei natur, ac rydym yn gweithio mewn llawer o leoliadau gwahanol, fel yr ysgol, y cartref a’r gymuned, yn bennaf un i un ond rydym hefyd yn darparu sesiynau grŵp. Rydym yn darparu dysgu ffurfiol, heb fod yn ffurfiol ac anffurfiol. Rydym yn annog pobl ifanc i ymgysylltu mewn dysgu gweithredol a myfyriol, i gymryd rhan yn eu proses dysgu eu hunain a gwreiddio eu dysgu mewn sefyllfaoedd bywyd go iawn.

Mae gwersi wedi cael eu dysgu. Er enghraifft, rydym bob amser wedi cynnig amserlen ymgysylltu hyblyg ac nid ydym erioed wedi gosod terfyn ar ymyrraeth, ond yn ystod un cam roedd gennym restr aros hir a cheisiasom gynnig ymyrraeth fwy strwythuredig. Ceisiasom ddarparu ymyrraeth 6 sesiwn, ond yr hyn a ganfuom oedd, oherwydd anghenion amrywiol pobl ifanc a phwysigrwydd meithrin perthynas o ymddiriedaeth oherwydd natur y gwaith dan sylw, nad oedd hyn yn ymarferol i lawer o bobl ifanc. Mae ar rai angen mwy o amser, mae ar rai angen i’r dysgu gael ei ddarparu mwy nag unwaith ac mewn ffyrdd gwahanol er mwyn galluogi dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth effeithiol a gallu effeithiol i ddefnyddio’u dysgu mewn sefyllfaoedd bywyd go iawn. Felly yn fuan aethom yn ôl at amserlen ddiderfyn ar gyfer ymyrraeth.

Enghraifft arall yw bod anghenion pobl ifanc wedi datblygu, cyn COVID ond yn fwyfwy yn ystod cyfnod y cyfyngiadau symud. Diogelwch ar-lein ac ymwybyddiaeth o ymddygiad ar-lein peryglus a ddaeth yn rheswm pennaf am atgyfeiriadau, yn arbennig o ran anfon delweddau anweddus. Felly, er ein bod ni’n ceisio gweithio’n rhagweithiol, mae angen hefyd inni ymateb i newidiadau yn yr amgylchiadau a’r materion o bwys sy’n effeithio ar bobl ifanc.
Bob wythnos rydym yn adolygu atgyfeiriadau newydd ac yn edrych ar faterion cyffredin, yn trafod beth mae pobl ifanc yn ei ddweud ac yn edrych ar sut y gallwn ymaddasu a newid er mwyn rhoi’r cymorth gorau i bobl ifanc, teuluoedd a gwasanaethau eraill.

Mae'r gwasanaeth yn sicrhau darpariaeth briodol i’r grwpiau blaenoriaethol canlynol:

  • Pobl ifanc sy’n wynebu risg camfanteisio rhywiol ar blant
  • Pobl ifanc sy’n dangos ymddygiad rhywiol amhriodol
  • Pobl ifanc sy’n derbyn neu sydd ar fin derbyn gofal, a rhai sy’n gadael gofal
  • Pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant
  • Pobl ifanc anabl (anableddau corfforol, synhwyraidd a dysgu)
  • Pobl ifanc â phroblemau emosiynol a phroblemau iechyd meddwl
  • Pobl ifanc sy’n ystyried eu hunain yn LGBT+

Ar lefel bersonol gall pobl ifanc ddatblygu mwy o ymwybyddiaeth o berthnasoedd; trwy ddeall perthnasoedd iach ac adnabod rhwystrau personol neu wella eu hymwybyddiaeth o ymddygiadau / nodweddion afiach maent yn cael eu grymuso i wneud dewisiadau da drostynt eu hunain, magu hyder a bod yn fwy hunan-ymwybodol. Gall hyn hefyd gael effaith gadarnhaol ar berthnasoedd gyda ffrindiau a theuluoedd.

Mae meithrin mwy o ddealltwriaeth o risg yn rhoi buddion mawr i’r unigolyn gan y gall ystyried sefyllfaoedd, ymddygiadau a gweithredoedd yn nhermau risg ac unwaith eto mae’n cael ei rymuso i wneud dewisiadau sy’n ei gadw’n fwy diogel. Mae hyn yn cael effaith gadarnhaol ar y teulu, y gymuned ehangach, pobl ifanc eraill a gwasanaethau eraill. Mae gwybodaeth am iechyd rhywiol o fudd i’r unigolyn a phobl ifanc eraill ac yn cael effaith gadarnhaol ar wasanaethau iechyd rhywiol lleol. I bobl ifanc, mae bod â rhywun i’w cynorthwyo a’u cynghori gyda gwybodaeth gywir a chyfredol, cynnig lle diogel i edrych ar bynciau sensitif, gofyn cwestiynau a chael gwybodaeth yn fuddiol iddyn nhw ym mhob ffordd.

Mae natur un i un anffurfiol y gwasanaeth nid yn unig o fudd i bobl ifanc, ond i wasanaethau eraill hefyd. Nid oes unrhyw brosiect arall yn lleol sy’n cynnig cymorth penodol o’r math hwn ac o ganlyniad mae gwasanaethau plant a darparwyr addysg ac iechyd yn cael budd o allu atgyfeirio pobl ifanc y teimlant fod angen y cymorth targededig hwn arnynt.

Mae ein gwaith adrodd yn dangos, o’r 31 o bobl ifanc yr ydym wedi cwblhau ymyrraeth gyda nhw yn y chwarter diwethaf;
Bod 100% wedi rhoi sgôr dda neu ardderchog i’r Tîm Allgymorth Iechyd Rhywiol
Bod 100% wedi cael y gweithwyr o gymorth ac yn hawdd mynd atynt
Bod 100% wedi cael eu hatgyfeirio’n briodol at wasanaethau iechyd rhywiol perthnasol

Profiad o gynorthwyo pobl ifanc gydag anghenion o ran perthnasoedd iach ac iechyd rhywiol.  Y buddion i’r staff, sefydliad a gwirfoddolwyr yw bod gweithio partneriaethol ac amlasiantaethol yn hollbwysig yn y prosiect hwn, felly rydym yn meithrin perthnasoedd gweithio agos gyda sefydliadau proffesiynol eraill fel iechyd, gwasanaethau plant, yr heddlu ac athrawon. Rydym wedi gweithio mewn partneriaeth gyda Gwasanaethau Plant Cyngor Caerdydd, gwasanaeth ThinkAgain!, Promo Cymru, SwitchedOn a Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd, ac enwi ond ychydig. Rydym yn mynd i ddigwyddiadau dros dro, ffeiriau Glasfyfyrwyr a diwrnodau ABCh ysgolion. Rydym yn darparu sesiynau gwaith un i un a gwaith grŵp ac mae pob diwrnod yn amrywiol. Mae hyn ynddo ei hun yn cynnig datblygiad proffesiynol parhaus i’r staff a gwirfoddolwyr. Rydym yn cymryd pobl ar leoliadau o gwrs gradd Gwaith Ieuenctid a Chymunedol Prifysgol Caerdydd. Gall hyn fod o fudd i’r unigolyn gan ei fod yn cynnig golwg ar waith ieuenctid targededig a phenodol ynghylch iechyd rhywiol a pherthnasoedd.

Mae'r prosiect wedi cael ei enwebu ar gyfer un o Wobrau Materion Ieuenctid YMCA ac aeth i’r rownd derfynol. Enillodd y Grŵp Llywio Camfanteisio Rhywiol ar Blant Wobr Rhagoriaeth a hefyd Gwobr am Ymgysylltu ac Ymchwilio Eithriadol i Ddiogelu Plant oddi wrth y Bwrdd Diogelu Plant Rhanbarthol. Mae cael y gydnabyddiaeth hon yn hwb enfawr i forâl y staff a gwirfoddolwyr sydd wedi cymryd rhan ac yn ysgogiad mawr i’r holl staff, iddyn nhw eu hunain a’r bobl ifanc maen nhw’n gweithio gyda nhw.

Mae'r Gwasanaeth yn ystyried yr egwyddorion arweiniol canlynol ar gyfer gwasanaethau Teuluoedd yn Gyntaf yn ei drefniadau cyflenwi:

  • Canolbwyntio ar y teulu – dylai gwasanaethau fabwysiadu ymagwedd teulu cyfan at wella canlyniadau
  • Pwrpasol – dylai gwasanaethau gael eu teilwra i amgylchiadau’r teulu unigol
  • Grymusol – dylai gwasanaethau geisio grymuso teuluoedd i gymryd rheolaeth dros eu bywydau, er mwyn rhoi iddynt fwy o ymdeimlad o berchnogaeth a buddsoddiad yn eu canlyniadau
  • Integredig – dylai gwasanaethau gael eu cydgysylltu a’u cynllunio’n effeithiol er mwyn sicrhau symud di-dor i deuluoedd rhwng gwahanol ymyriadau a rhaglenni
  • Dwys – rhaid cynnal ymagwedd egnïol a ffocws diwrthdro a all ymaddasu i newidiadau yn amgylchiadau teuluoedd
  • Lleol – dylai gwasanaethau fynd i’r afael ag anghenion cymunedau lleol a, lle bo modd, chwilio am gyfleoedd i gysylltu â rhaglenni lleol eraill, gan gynnwys Dechrau’n Deg a Chefnogi Pobl
  • Rhagweithiol – ceisio canfod angen yn gynnar a sicrhau ymyriadau priodol mewn modd amserol
  • Cynaliadwy – dylai gwasanaethau geisio darparu datrysiadau cynaliadwy hirdymor bob amser. Dylent geisio mynd i’r afael ag achosion sylfaenol problemau ac nid dim ond y symptomau, er mwyn galluogi teuluoedd i barhau i wneud cynnydd ar ôl i’r ymyriad ddod i ben.

Yn cael ei ariannu hyd 31 Mawrth 2022 ar hyn o bryd

Dilynwch y dolenni i gael rhagor o wybodaeth:


www.ymcacardiff.wales 
Healthy Relationship Service - YMCA Cardiff Group 
Child Sexual Exploitation: Steering Group - YMCA Cardiff | Cymru.gov
https://youtu.be/2tXMpv7VeRQ Addysg Cymru / Education Wales
https://www.youtube.com/watch?v=QZHOxTt2ZFs Steering Group – What is Child Sexual Exploitation (English)
https://www.youtube.com/watch?v=8IsKsYN1Nbs Grŵp Llywio – Beth yw Camfanteisio Rhywiol ar Blant (Cymraeg)
https://www.youtube.com/watch?v=W7K7TwHHinQ Gwybodaeth am Glinig yr Adran Iechyd Rhywiol / Fideo tywys

YMCA