Swyddog Cofrestru (Cymraeg yn hanfodol) (cyfnod penodol – 12 mis)
£30,755 - £34,997 flwyddyn pro rata gyda buddion ychwanegol
Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) yw’r rheoleiddiwr proffesiynol annibynnol ar gyfer y gweithlu addysg yng Nghymru.
Fel rhan o’r tîm Cymwysterau a Chofrestru, bydd y Swyddog Cofrestru yn chwarae rhan allweddol wrth gyflawni gwaith Cofrestru’r CGA. Bydd hyn yncynnwys cynnal Cofrestr yr Ymarferwyr Addysg, darparu gwasanaeth ymholi dwyieithog proffesiynol a chyfleusterau desg gymorth i ymarferwyr a chyflogwyr, gan weinyddu gwobrwyo Statws Athro Cymwysedig a datblygu a pharatoi adroddiadau ac ystadegau.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus sgiliau TG rhagorol, yn enwedig wrth ddefnyddio MS Excel i drin data. Byddant hefyd yn siaradwr Cymraeg rhugl a’r gallu i weithio trwy gyfrwng y Gymraeg a Saesneg.
Mae buddion i gyflogeion yn cynnwys mynediad i Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil, gweithio hybrid, oriau hyblyg a 31 diwrnod o wyliau blynyddol (yn ogystal â 10 gŵyl banc a diwrnod braint).
Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yw 14 Ebrill 2026. Mae ein prosesau recriwtio yn deg, tryloyw a chynhwysfawr, ac ry'n ni'n croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir. Ry'n ni wastad yn chwilio am ystod eang o sgiliau a phrofiadau.
E-bostiwch
Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yw 14 Ebrill 2026.
- Ffurflen Gais(PDF) a Ffurflen Gais (ODT)
- Nodiadau cyfarwyddyd (PDF) a Nodiadau cyfarwyddyd (ODT)
- Disgrifiad swydd(PDF) a Disgrifiad swydd (ODT)
- Ffurflen monitro amrywiaeth (PDF) a Ffurflen monitro amrywiaeth (ODT)
