Er mwyn rhoi’r canlyniadau gorau i bobl ifanc, mae'n bwysig bod pob sefydliad yn darparu'r gwasanaeth gorau y gall ac i fod mewn sefyllfa i ddangos canlyniadau cadarnhaol o’u gwaith. Mae'r astudiaethau achos canlynol yn enghreifftiau o sut mae ein deiliaid y Marc Ansawdd wedi darparu darpariaeth gwaith ieuenctid o safon i bobl ifanc.
Prosiect Gwaith Ieuenctid Datgysylltiedig Brymbo
Mae tîm Datgysylltiedig Brymbo yn gweithredu dan Gytundeb Lefel Gwasanaeth rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Chyngor Cymuned Brymbo. Nod y prosiect yw cynorthwyo pobl ifanc trwy ymyrraeth gwaith ieuenctid, gan ddatblygu gwasanaethau lle gall pobl ifanc gyfarfod a chymdeithasu’n rheolaidd.
Mae pobl ifanc wedi chwarae rhan ganolog yn y gwaith o gyflawni’r rhaglen ym Mrymbo. Datblygodd “Mainc Dickies” oherwydd bod y bobl ifanc wedi gofyn am le i siarad yn gyfrinachol â’r staff. Datblygodd y fainc yn naturiol – mae’n fainc mewn parc a “fabwysiadwyd” gan y bobl ifanc yn ymyl y man chwaraeon amlddefnydd yn y gymuned. Os oes angen cymorth neu sgwrs gyfrinachol ar bobl ifanc, maen nhw’n eistedd ar y fainc ac mae’r gweithwyr yn gwybod bod angen iddynt gamu i mewn.
Mae Mainc Dickies yn caniatáu i bobl ifanc ofyn am gymorth, hyd yn oed os nad ydynt eisiau gofyn amdano yn arbennig. Weithiau mae angen ychydig o gymorth ar y bobl ifanc a dydyn nhw ddim eisiau gofyn amdano’n agored. Hefyd, pan fydd pobl ifanc gyda’u grŵp o gyfoedion, efallai na fyddan nhw eisiau i bawb gymryd rhan yn y sgwrs. Mae mainc Dickies yn ddigon agos i’r man chwarae amlddefnydd i staff beidio â chael eu hynysu, ond yn ddigon pell i ffwrdd i hwyluso sgyrsiau cyfrinachol.
Mae mainc Dickies yn rhan ganolog o gyflenwi gwasanaethau ieuenctid ym Mrymbo, ac yn ganolbwynt o’r ddarpariaeth yn yr ardal..
Mae mainc Dickies yn caniatáu i bobl ifanc drafod unrhyw faterion sy’n effeithio arnynt. Mae’n cynnig digon o breifatrwydd ar gyfer sgyrsiau cyfrinachol, yn ogystal â chynnal y cysyniad o barhau i fod yn rhan o grŵp mwy o faint. Mae pobl ifanc (fel sy’n wir am ddarpariaeth mewn adeilad) yn rhydd i drafod unrhyw faterion sy’n effeithio arnynt, ac mae’n caniatáu i aelodau o’r staff gynnig arweiniad/cymorth, a’u cyfeirio at wasanaethau eraill os oes angen.
Mae mainc Dickies wedi bod yn fuddiol wrth ddarparu tystiolaeth y gall pobl ifanc ymaddasu i amrywiaeth o ddulliau gwaith ieuenctid ac wrth ymdrin â nifer o faterion pwysig sy’n effeithio ar bobl ifanc.
Mae mainc Dickies wedi cynnig y cyfle i bobl ifanc gael cymorth ar nifer o faterion gan gynnwys:
- Iechyd rhywiol a chyngor
- Gwybodaeth am gamddefnyddio cyffuriau/ sylweddau
- Unigrwydd ac Ynysigrwydd
- Pryderon o bob math ynghylch COVID, gan gynnwys profedigaeth.
- Weithiau caiff taflenni eu gadael ar fainc Dickies wedi i bobl ifanc ofyn am wybodaeth yr hoffent ei darllen ar eu pennau eu hunain.
Bydd mainc Dickies yn parhau cyhyd â bod ei hangen, ac yn goroesi cyhyd â’r bartneriaeth.
Prosiect Gofalwyr Ifanc Caerdydd a’r Fro “Amser i Mi”
Nod y ddarpariaeth yw darparu darpariaeth gwasanaeth cymorth i ofalwyr ifanc ledled Caerdydd a Bro Morgannwg, gan weithio mewn partneriaeth â Thîm Cymorth i Deuluoedd yng Nghaerdydd a Theuluoedd yn Gyntaf yn y Fro.
Yn aml nid yw gofalwyr ifanc yn cael eu gweld na’u clywed. Yn aml maen nhw’n blant a phobl ifanc rhwng 7 a 18 oed sy’n helpu i ofalu am aelod o’r teulu sy’n byw gyda nhw. Gallai’r aelod o’r teulu fod yn cael anawsterau gydag un neu ragor o’r canlynol: anabledd, salwch, problemau iechyd meddwl a phroblemau â chyffuriau ac alcohol.
Mae hyn yn golygu bod llawer o ofalwyr ifanc yn methu â rhyngweithio â ffrindiau, wedi’u hynysu’n gymdeithasol ac efallai â rhai problemau o ran gorbryder ac yn ysgwyddo cyfrifoldebau oedolion yn ifanc.
Mae’r prosiect yn cynnig nifer o gyfleoedd i ofalwyr ifanc fel mentora a chymorth sy’n canolbwyntio ar iechyd a lles, cymorth addysgiadol, cymorth i deuluoedd gofalwyr ifanc a datblygiad sgiliau bywyd i ofalwyr ifanc a gofalwyr ifanc sy’n oedolion, ynghyd â gweithgareddau seibiant hwyliog mewn grwpiau i gynyddu cyfleoedd cymdeithasol, cyfarfod â gofalwyr ifanc eraill a chael tipyn o hwyl!
Ar gyfer prosiect Caerdydd, ym mis Hydref 2019, ceisiwyd barn gofalwyr ifanc oedd yn cael cymorth trwy’r YMCA, a’u rhieni am y cymorth sydd ar gael ar hyn o bryd, a’u canfyddiad o unrhyw fylchau yn y ddarpariaeth. Cafodd y wybodaeth hon ei chasglu a’i chyflwyno i swyddogion Cyngor Caerdydd er mwyn llywio’r gwaith o wneud penderfyniadau. Dywedwyd mai’r prif feysydd diffygiol yn y trefniadau presennol oedd cymorth lefel isel o ran iechyd a lles emosiynol, trafnidiaeth, a chymorth i ofalwyr ifanc wrth iddyn nhw symud o blentyndod i fywyd oedolyn.
Yn y Fro mae’r prosiect yn cael ei arwain gan bobl ifanc a defnyddir nifer o ddulliau gwerthuso i lywio’r ddarpariaeth gwasanaethau a gweithgareddau yn y dyfodol. Hefyd mae gennym fforwm ieuenctid gofalwyr ifanc o’r enw Clywir Pob Llais (All Voice Are Heard - AVAH).
Mae’r ddau brosiect yn cynnig yr un gwasanaethau cymorth, gweithgareddau a chlybiau ieuenctid gofalwyr ifanc.
Mae’r prosiect yn cael ei arwain gan bobl ifanc ac maen nhw’n cael eu cynnwys yn y gwaith o ddylunio a gwerthuso’r cwricwlwm o weithgareddau ac yn y gwaith o werthuso ei effaith arnyn nhw. Rydym yn gweithredu mewn ffordd gyfannol ac yn sicrhau bod y bobl ifanc yn rhanddeiliaid gwirioneddol.
Mae pobl ifanc yn dysgu strategaethau ymdopi er mwy gwella eu deallusrwydd emosiynol, cymdeithasoli yn arwain at wneud ffrindiau sy’n eu galluogi i oresgyn teimladau o ynysigrwydd. Maen nhw hefyd yn dysgu sut i fod yn wydn ac yn hyderus yn emosiynol.
Mae’r rhai sydd wedi cymryd rhan yn y prosiect wedi cael eu grymuso fel rhanddeiliaid datblygiad adnoddau a gweithgareddau. Maen nhw’n rhydd i chwarae rhan weithredol yn y prosiect ac i gyfrannu at ei lwyddiant.
Mae’r prosiect yn gwbl gynhwysol ac yn agored i’r holl bobl ifanc sydd â rôl gofalu yn eu teulu ac rydym yn sicrhau ein bod yn darparu ar gyfer yr holl anghenion, galluoedd a diwylliannau penodol.
Mae pobl ifanc wedi mynegi sut maen nhw’n teimlo am fod yn ofalwr ifanc trwy’r cyfryngau a storïau wedi’u hanimeiddio.
Mae llawer o wersi wedi cael eu dysgu ac rydym wedi datblygu ers 2008 trwy ymgynghoriadau rheolaidd â’r gofalwyr ifanc ar y prosiect. Rydym yn dal i ddysgu ac un canlyniad yw canfod mwy a mwy o ofalwyr ifanc ‘cudd’ dros y blynyddoedd hyn. Erbyn hyn rydym yn cynorthwyo mwy na 350 o ofalwyr ifanc a gofalwyr sy’n oedolion ifanc ledled y ddau awdurdod lleol.
Dros y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi datblygu ymagwedd / dull teulu cyfan ac wedi lansio cerdyn adnabod gofalwyr ifanc. Rydym hefyd wedi datblygu dulliau ar-lein o gadw mewn cysylltiad. Mae’r buddion yn cynnwys y canlynol:
- Gofalwyr ifanc/teuluoedd yn cael cymorth wedi’i bersonoli
- Gofalwyr ifanc yn gallu cyflawni eu potensial o ran datblygiad addysgol a chyflogaeth a datblygiad personol.
- Gwell lles meddyliol a chorfforol.
- Llai o ynysigrwydd trwy fwy o gyfleoedd cymdeithasol i ofalwyr ifanc a’u teuluoedd
- Gofalwyr ifanc yn cynyddu o ran hyder, hunan-dyb a chred ynddyn nhw eu hunain i feithrin gwydnwch
- Gwell cymorth yn yr ysgol trwy sesiynau galw heibio ac Eiriolwyr dros Ofalwyr, gwell gweithio mewn partneriaeth rhwng y prosiectau a’r ysgolion i gynnig cymorth cofleidiol i ddisgyblion ifanc sy’n ofalwyr
- Profiad a gwybodaeth am broblemau gofalwyr ifanc ynghyd â mwy o wybodaeth am ddeddfwriaeth berthnasol.
- Yn ystod cyfnod oes y ddarpariaeth rydym wedi cynorthwyo / cefnogi nifer o leoliadau gwaith ieuenctid i fyfyrwyr prifysgol, y mae rhai ohonynt wedi arwain at gyflogaeth.
Mae gan y gwasanaeth gynnig gweithredol i ofalwyr ifanc sy’n dymuno cael gwasanaethau / yn Gymraeg. Yn ogystal, mae’r gwasanaeth yn gwneud addasiadau rhesymol i alluogi gofalwyr ifanc sydd hefyd ag anghenion ychwanegol neu namau er mwyn sicrhau y gallan nhw gael gwasanaethau fel gofalwr ifanc. Mae’r Gwasanaeth yn dal i wella’r broses o ganfod gofalwyr ifanc a gofalwyr sy’n oedolion ifanc, gan gynnwys teuluoedd Duon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol.
Caiff y ddau brosiect eu comisiynu trwy’r awdurdodau lleol.
Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid Sir Gâr/Grŵp Gwobr Agored Dug Caeredin Heol Goffa
Nod y ddarpariaeth yw cynnig cyfleoedd a chymorth Gwobr Dug Caeredin i bobl ifanc ag ADY ac anableddau sy’n ei chael yn anodd cael mynediad i’r grwpiau gwobr agored prif-ffrwd.
Ein prif flaenoriaethau yw sicrhau:
- Ein bod yn darparu amgylchedd diogel lle gall pobl ifanc ddatblygu’r sgiliau mae eu hangen iddyn nhw gael eu gwobr/au gyda’u cyfoedion.
- Darparu cyfleoedd a phrofiadau sydd wedi’u teilwra i ddiwallu anghenion y grŵp.
Deilliodd yr angen am y ddarpariaeth o ganfod pobl ifanc yn gyntaf trwy sgyrsiau ag athrawon a rhieni oedd wedi cwblhau’r wobr Efydd i ddechrau, ond nad oedd cyfleoedd ar yr adeg honno iddyn nhw fynd ymlaen at y wobr Arian.
Gwnaethom gynnwys pobl ifanc mewn ymgynghoriad i ddatblygu cynnwys y rhaglen a chynllunio gweithgareddau ac yn y gwaith o ddenu arian gyda chymorth staff gwaith ieuenctid. Hefyd rhoddodd pobl ifanc gyflwyniadau yn Noson Seremoni Wobrwyo Flynyddol Gwobrau Dug Caeredin i fwy na 500 o bobl i hybu eu hachos. Trwy’r broses ymgynghori hon cafodd y bobl ifanc eu grymuso ac roedd modd iddynt wthio eu rhwystrau a’u terfynau eu hunain i gyflawni pethau nad oedden nhw’n meddwl eu bod yn bosibl.
Teilwrodd y staff eu dull i ddiwallu anghenion corfforol, meddygol, emosiynol a chyfathrebu y grŵp. Galluogodd hyn y grŵp i dyfu a datblygu eu hyder a’u hymdeimlad o werth a chyflawniad. Darparodd y staff amgylchedd o ymarfer cynhwysol, gan sicrhau cyfle cyfartal i bobl ifanc â nodwedd warchodedig oedd o dan anfantais oherwydd eu hamgylchiadau.
Roedd ein dull yn cynnwys defnydd sylfaenol o egwyddorion ac arferion gwaith ieuenctid e.e. ymgysylltu gwirfoddol, dechrau lle roedd y bobl ifanc, y bobl ifanc yn dewis eu lefel eu hunain o ymgysylltiad.
Golygai COVID y rhoddwyd y cymorth yn rhithwir am gyfnod. Roedd hyn yn galluogi pobl ifanc i ymgysylltu â chyfoedion ac oedolion yr oedden nhw’n ymddiried ynddyn nhw i oresgyn ynysigrwydd cymdeithasol gan ei bod yn ofynnol i lawer o aelodau o’r grŵp ynysu yn ystod y cyfnod hwn.
Mae'r prosiect yn hyblyg ac wedi’i deilwra i anghenion pobl ifanc ac ar hyn o bryd mae cohort newydd yn ymuno. Mae'r ddarpariaeth yn datblygu o hyd o ganlyniad i ddiwallu anghenion. Rydym wedi gwneud newidiadau yn ôl yr angen er mwyn sicrhau y gallai’r holl bobl ifanc gwblhau’r prosiect a chael budd o fynediad ato.
Rydyn ni wedi dysgu sut mae modd cyflawni’r wobr a sut y gellir ehangu a darparu’r prosiect i fwy o bobl ifanc ag ADY ac anableddau.
Mae buddion dirifedi i bobl ifanc gan gynnwys mwy o hyder trwy ddysgu i gymdeithasu gyda’u cyfoedion mewn amgylcheddau y tu allan i’r ysgol gyda chymorth gweithwyr ieuenctid. Mae pobl ifanc wedi gallu datblygu eu hyder gan eu galluogi i gyfarfod a rhyngweithio gyda phobl newydd yn eu cymunedau lleol a’r tu hwnt. Mae'r prosiect wedi darparu cyfleoedd a phrofiadau newydd i bobl ifanc allu manteisio arnyn nhw gyda’u cyfoedion a’u ffrindiau. Mae'r prosiect wedi helpu i chwalu’r rhwystrau yr oedden nhw’n eu hwynebu ynghynt i gael mynediad at ddarpariaeth Gwobr Dug Caeredin brif-ffrwd. Mae'r dysgu drwy brofiad wedi trosglwyddo i agweddau eraill ar eu bywydau gan gynnwys addysg, personol a chymdeithasol.
Mae'r prosiect hefyd wedi pwysleisio buddion cyflawni gwobr Dug Caeredin waeth beth fo’r rhwystrau/problemau mae pobl ifanc yn eu hwynebu a galluogodd hyblygrwydd y wobr y bobl ifanc i gyflawni rhywbeth y tu hwnt i’w dychymyg.
Mae'r adborth oddi wrth rieni/gwarcheidwaid wedi bod yn gadarnhaol iawn a chafwyd sôn bod y prosiect wedi galluogi pobl ifanc i ymdopi â’r cyfyngiadau symud ac ynysigrwydd cymdeithasol.
Mae'r prosiect yn chwalu rhwystrau i staff a chamdybiaethau yn nhermau cynorthwyo a galluogi grŵp o bobl ifanc ag ADY ac anableddau.
Mae'r prosiect wedi codi proffil yr angen am ymyrraeth gwaith ieuenctid i’r holl bobl ifanc a’r buddion mae hon yn dod â nhw. Mae wedi codi proffil gwaith y Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid.
Rhoddodd y grŵp o bobl ifanc gyflwyniad yn ystod y seremoni wobrwyo flynyddol a swynodd gynulleidfa o fwy na 500 o bobl gan gynnwys pobl bwysig leol, a chafwyd adborth cadarnhaol iawn.
Wrth i bobl ifanc orffen yn yr ysgol mae’r prosiect wedi darparu cyfleoedd cymdeithasol amhrisiadwy i’r grŵp gyfarfod â’u ffrindiau, gan eu bod i gyd wedi symud i gyrchfannau unigol yn y cyfnod nesaf o’u bywydau.
Mae'r prosiect wedi rhoi amrywiaeth o gyfleoedd cyfartal a mynediad i ddarpariaeth ar gyfer pobl ifanc ag ADY ac anableddau na fyddent ar gael iddyn nhw fel arfer. Mae hefyd wedi darparu lle diogel i’r bobl ifanc hyn ryngweithio gyda’u cyfoedion ac oedolion maen nhw’n ymddiried ynddyn nhw.
Bu’n rhaid addasu’r dull gwaith ieuenctid er mwyn galluogi pobl ifanc ag anawsterau iaith/lleferydd i gael eu deall a chael budd o'r ymyrraeth.
Mae pobl ifanc wedi gallu dangos i eraill y gallan nhw oresgyn rhwystrau, dysgu sgiliau newydd fel Iaith Arwyddion Prydain, ac ymroi i brosiect dros nifer o fisoedd ac mewn rhai achosion blynyddoedd er mwyn cyrraedd lefel uchaf y wobr.
Mae'r prosiect wedi parhau ac wedi ymaddasu yn ystod cyfnod y cyfyngiadau symud er mwyn sicrhau y gallai pobl ifanc barhau i gael cymorth hanfodol gan weithwyr ieuenctid a’u cyfoedion. Mae'r gwaith yn dal i gael ei gefnogi gan y Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid a’r ysgol. Mae arian yn fater sy’n achosi pryder ac yn cael ei ddarparu ad hoc o hyd.
Eleni mae’r prosiectau’n cael eu cynnig i ystod ehangach o bobl ifanc a’r gobaith yw y bydd mwy yn gallu cael budd o'r prosiect hwn.
Llawlyfr Clwb / Modiwlau E-ddysgu Arweinwyr
Datblygodd y sefydliad Lawlyfr Clwb i helpu i gynorthwyo gwirfoddolwyr oedd yn gwirfoddoli mewn clybiau sy’n aelodau o Glybiau Bechgyn a Merched Cymru. Roedd angen i’r Llawlyfr Clwb fod yn glir, yn gryno ac yn hawdd ei ddeall.
I gyd-fynd â’r Llawlyfr Clwb dyluniwyd dau fodiwl e-ddysgu. Teitlau’r rhain oedd: (a) Sut i sefydlu clwb cysylltiedig â Chlybiau Bechgyn a Merched Cymru a (b) Cynorthwyo pobl ifanc mewn clwb ieuenctid cysylltiedig â Chlybiau Bechgyn a Merched Cymru.
Roedd y prosiect hwn yn cynnwys yr holl randdeiliaid yn y sefydliad. Roedd pobl ifanc yn allweddol i hyn ac yn cael eu cynrychioli trwy’r Fforwm Ieuenctid. Yng nghyfarfodydd y Fforwm roedd y bobl ifanc yn awyddus i roi eu barn ar sut olwg ddylai fod ar y Llawlyfr Clwb a pha feysydd yr oedd angen eu cynnwys.
Er bod y Llawlyfr Clwb wedi cael ei ddatblygu gan ddefnyddio nifer fawr o ddulliau gwaith ieuenctid, mae’r adnodd yn cwmpasu amrywiaeth o ddulliau gwaith ieuenctid sydd ar gael i arweinwyr a darpar wirfoddolwyr ddysgu amdanyn nhw cyn gweithio gyda phobl ifanc neu ddilyn rhagor o hyfforddiant gwaith ieuenctid.
Fel sefydliad rydym yn cydnabod bod gwirfoddolwyr yn dechrau gweithio gyda phobl ifanc cyn iddyn nhw gwblhau’r Dyfarniad Lefel 2 mewn Egwyddorion Gwaith Ieuenctid ac felly mae’r Llawlyfr Clwb a’r modiwlau e-ddysgu yn eu helpu wrth ddarparu gwybodaeth allweddol i’w helpu i gynorthwyo pobl ifanc.
Mae’r Llawlyfr Clwb a’r modiwlau e-ddysgu fel ei gilydd yn adnoddau a fydd yn parhau i gael eu diweddaru bob blwyddyn er mwyn iddyn nhw aros yn gyfredol. Fel tîm yng Nghlybiau Bechgyn a Merched Cymru dysgasom lawer trwy’r broses hon, ac roeddem yn awyddus i gael barn yr aelodau. Roedd hyn yn cynnwys pobl ifanc, gwirfoddolwyr clybiau, aelodau o’r staff ac ymddiriedolwyr.
Mae’r adnoddau a ddatblygwyd yn fuddiol i glybiau a’u gallu i gynorthwyo pobl ifanc yn well trwy raglenni gwaith ieuenctid.
Trwy wella’r strwythurau mewn Clybiau a safon gwirfoddoli byddwn yn darparu profiad gwell i bobl ifanc er mwyn iddyn nhw ddeall yn llawn yr hawliau a roddir iddyn nhw mewn Clwb Bechgyn a Merched. Mae'r adnoddau’n esbonio beth yw Gwaith Ieuenctid a sut mae cyfranogiad pobl ifanc yn rhan annatod o’r broses a bod eu llais yn cael ei annog. Dyma rai o’r ffyrdd mae’r prosiect hwn o fudd i bobl fanc ac y bydd yn dal i fod o fudd i bobl ifanc yn y dyfodol.
Mae'r sefydliad cyfan wedi cael budd o’i ran yn y prosiect hwn. Mae gwirfoddolwyr sydd wedi cynorthwyo â’r gwaith o gynhyrchu’r adnoddau wedi dysgu am feysydd eraill a all gynorthwyo â’u datblygiad. Fel sefydliad cenedlaethol, mae ein clybiau aelod wedi bod yn gefnogol i’r adnoddau ac wedi gwerthfawrogi cymorth ac ymdrechion yr aelodau o’r staff.
Rhoddwyd sylw i’r tair thema hon yn y prosiect. Maen nhw i gyd yn feysydd allweddol ar gyfer rhedeg un o Glybiau Ieuenctid Clybiau Bechgyn a Merched Cymru.
Bydd y prosiect hwn yn datblygu a bydd yr adnoddau’n cael eu diweddaru pob blwyddyn er mwyn sicrhau eu bod yn dal i gydymffurfio â chanllawiau’r Llywodraeth neu bolisïau sy’n newid. Hyd yma mae dau fodiwl e-ddysgu ond mae cynlluniau ar gyfer adnoddau ychwanegol.
Clwb Hwyl
Sefydlwyd y ddarpariaeth er mwyn cynnig cymorth i bobl ifanc ag ADY ac anableddau sy’n ei chael yn anodd achub ar gyfleoedd cymdeithasol ar ôl oriau ysgol heb oruchwyliaeth gan rieni, i ddarparu amgylchedd diogel lle gall pobl ifanc ddatblygu sgiliau bywyd ac achub ar gyfleoedd na fyddent efallai yn gallu achub arnyn nhw fel arall.
Caiff pobl ifanc eu hadnabod yn gyntaf trwy sgyrsiau ag athrawon a rhieni. Nid yw’r bobl ifanc yn agored i wasanaethau statudol. Roedd datblygiad y ddarpariaeth yn cynnwys pobl ifanc yn cymryd rhan mewn ymgynghoriad i ddatblygu cynnwys rhaglenni a chynllunio gweithgareddau a’r hyn oedd yn gweithio iddyn nhw wrth ddilyn arferion gwerthuso ar ddiwedd cylch o ddarpariaeth.
Ymgynghori â phobl ifanc, grymuso pobl ifanc i ddatblygu cysylltiadau yn eu cymunedau lleol, galluogi pobl ifanc i fagu hunanhyder a hunan-dyb. Hwyluso cyfleoedd i bobl ifanc ddatblygu sgiliau bywyd ac annibyniaeth. Rhoi cyfle cyfartal i bobl ifanc â nodweddion gwarchodedig sydd o dan anfantais oherwydd eu hamgylchiadau.
Defnyddio egwyddorion ac arferion gwaith ieuenctid mewn lleoliad ysgol ffurfiol. Caniateir i bobl ifanc fynegi safbwyntiau a barn, cymryd rhan yn y gwaith o greu gweithgareddau sy’n diwallu eu hanghenion, mae’r ddarpariaeth yn rymusol ac yn addysgiadol gan ei fod yn gwella lles personol y rhai sy’n cymryd rhan.
Mae’r prosiect yn dod â llawer o fuddion i bobl ifanc:
- Mae pobl ifanc yn cael cymorth gan gyfoedion a ddarperir gan brosiect Clwb Hwyl.
- Mae’r prosiect wedi ehangu i gynnwys pobl ifanc sy’n cael cymorth gan wasanaethau statudol. Nododd y prosiect cychwynnol fod yr angen am y math hwn o ddarpariaeth yn ehangach na’r cwmpas /diben gwreiddiol.
- Mae’r prosiect yn hyblyg ac wedi’i deilwra i anghenion pobl ifanc e.e. grwpiau un rhyw/grwpiau cymysg/niferoedd grŵp/anghenion ymddygiadol/anghenion meddygol ac ati.
- Magodd pobl ifanc hyder trwy ddysgu i gymdeithasu â’u cyfoedion mewn amgylcheddau y tu allan i’r ysgol gyda chymorth gweithwyr ieuenctid.
- Mae pobl ifanc wedi gallu magu hyder gan eu galluogi i gyfarfod a rhyngweithio â phobl newydd yn eu cymunedau lleol ac ymhellach i ffwrdd.
- Mae’r prosiect wedi darparu cyfleoedd a phrofiadau newydd i bobl ifanc allu achub arnynt gyda’u cyfoedion a ffrindiau.
- Mae’r prosiect wedi helpu i chwalu rhwystrau a wynebwyd ynghynt wrth gael mynediad i ddarpariaeth ieuenctid brif-ffrwd.
- Mae’r dysgu drwy brofiad wedi trosglwyddo i agweddau eraill o’u bywydau gan gynnwys addysg bersonol a chymdeithasol.
Mae’r prosiect yn chwalu rhwystrau i aelodau o’r staff a chamdybiaethau yn nhermau cynorthwyo a galluogi grŵp o bobl ifanc ag ADY ac anableddau. Mae’r prosiect wedi codi proffil yr angen am ymyrraeth gwaith ieuenctid i’r holl bobl ifanc a’r buddion a ddaw yn sgil hyn. Mae wedi codi proffil gwaith y Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid.
Mae wedi darparu cyfle cyfartal a mynediad i’r ddarpariaeth i bobl ifanc ag ADY ac anableddau na fyddai ar gael iddyn nhw fel arfer. Mae wedi darparu lle / man diogel i’r bobl ifanc hyn ryngweithio â’u cyfoedion ac oedolion yr ymddiriedir ynddyn nhw / maen nhw’n ymddiried ynddyn nhw. Bu’n rhaid addasu’r dull gwaith ieuenctid er mwyn galluogi pobl ifanc ag anawsterau iaith/lleferydd i gael eu deall a chael budd o’r ymyrraeth, agwedd gadarnhaol arall ar y rhyngweithio â gweithwyr ieuenctid.
Mae’r prosiect wedi parhau ac wedi h addasu yn ystod cyfnod y cyfyngiadau symud i sicrhau y gallai pobl ifanc barhau i gael cymorth hanfodol gan weithwyr ieuenctid a’u cyfoedion, rhywbeth mae pobl ifanc a rhieni yn ei groesawu.
Mae’r ddarpariaeth yn dal i gael ei chynorthwyo / chefnogi gan y Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid a’r ysgol ond mae cyllid parhaus yn dal i fod yn broblem.
Prosiect y Cwricwlwm ac Achredu – Grŵp Ffocws Pobl Ifanc
Nod menter y grŵp ffocws yw cynyddu ymglymiad pobl ifanc mewn datblygu cynnig y cwricwlwm ac achredu’r gwasanaeth ieuenctid, gan sicrhau bod y cynnig yn ddifyr ac yn berthnasol i bobl ifanc, ac yn ymatebol i anghenion, tueddiadau ac ystyriaethau mewn diwylliant ieuenctid yn lleol ac yn genedlaethol ar hyn o bryd.
Mae grŵp ffocws o bobl ifanc ar draws y fwrdeistref yn ymwneud â’r prosiect o leiaf unwaith y mis, trwy gyfarfodydd, gweithdai a chyfleoedd achredu. Mae pobl ifanc yn cynrychioli holl ystod y ddarpariaeth mynediad agored a thargedig.
Yn ystod y sesiynau hyn, ymgynghorir â phobl ifanc ar bob maes y cwricwlwm neu ar bwnc penodol, er enghraifft pa wybodaeth sydd ei hangen, pa ddysgu sy’n ofynnol er mwyn i bobl ifanc fod yn wybodus. Mae pobl ifanc yn helpu i ddylunio adnoddau ac adolygu gweithdai a gweithlyfrau achredu sy’n cael eu cyflwyno fel rhan o’r cwricwlwm. Mae tîm y Cwricwlwm ac Achredu yn datblygu cynnwys y cwricwlwm gyda phobl ifanc ar ddechrau a diwedd y datblygu, gan sicrhau bod pobl ifanc wedi cyfrannu eu syniadau am bynciau i’w cynnwys, dulliau cyflwyno ac adnoddau a ddefnyddir, gan gynnwys y geiriad a ddefnyddir mewn gweithdai neu becynnau’r cwricwlwm.
Mae’r grŵp hefyd yn cael cyfle i adolygu’r gwaith papur a ddefnyddiwn i gofrestru achrediadau neu wrth gasglu adborth ar ddiwedd unrhyw ddarpariaeth gwaith.
Mae’r holl bobl ifanc sy’n cymryd rhan yn gwneud hynny’n wirfoddol, gan weithio mewn grŵp bach fel y gallwn ganolbwyntio ar eu datblygiad personol tra’n datblygu’r cwricwlwm.
Defnyddiwn egwyddorion cyfranogi, gan weithio ochr yn ochr â’r Fforwm Ieuenctid.
Rydym wedi darganfod bod gwrando ar holl syniadau’r bobl ifanc a’u harchwilio’n llawn (hyd yn oed pan ystyrir i ddechrau na fydd y syniadau’n hynny’n gweithio) wedi caniatáu i ni eu grymuso a chyfrannu mwy yn y dyfodol. Hefyd, mae’n eu galluogi nhw i archwilio sut y gallant gyfleu eu syniadau mewn ffordd wahanol i ganiatáu i’w lleisiau gael eu clywed a sicrhau’r effaith fwyaf
Ar ôl adolygiad diweddar o’r grŵp, sylwom nad yw’r grŵp oedran tebyg o aelodau efallai wedi cael y budd a ddaw o amrywio’r cwricwlwm a’r cynnwys i rychwant oedran ehangach o ddefnyddwyr gwasanaethau ieuenctid ehangach. Penderfynom y byddai’n dda newid sut mae’r grŵp yn cael ei redeg, gan ganiatáu i bobl ifanc fod yn aelod o’r grŵp am 2 flynedd (gan eu galluogi felly i ddatblygu’u sgiliau a’u profiad) ac wedyn pan fyddant yn gadael, rydym yn gwahodd pobl ifanc sy’n cynrychioli ardal neu grŵp oedran sydd heb ei gynnwys i gymryd rhan. Mae hyn wedi caniatáu i ni gael aelodaeth fwy amrywiol, sy’n cyfoethogi’r deilliannau rydym yn gweithio tuag atynt.
I ddechrau, dechreuodd y grŵp gyda dull wedi’i seilio’n fwy ar sesiwn drafod gyda phawb yn eistedd, ac er y cawsom gyfraniad da gan aelodau, teimlai’r grŵp y byddai’n well dod yn fwy rhyngweithiol. O ganlyniad, rydym nawr yn mynd trwy weithgareddau a awgrymir i weld sut y gallent weithio, rydym yn symud o gwmpas yn fwy, rydym yn cael gwared ar seddi pan fydd angen, rydym yn greadigol ac yn symudol wrth daflu syniadau, ac ati.
Y wers olaf i ni ei dysgu yw er bod pobl ifanc wedi cyfrannu’n sylweddol at gynnwys y cwricwlwm a’r gweithdai a ddarparwyd, nid oedd lefel defnydd yr adnoddau newydd eu datblygu ar draws y gwasanaeth yn uchel. Ar ôl trafod â’r grŵp, teimlont y byddai’n dda edrych ar ddulliau mwy rhyngweithiol o gyflwyno’r cwricwlwm. Er enghraifft, mae gennym brosiect tymhorol erbyn hyn y mae’r grŵp ffocws yn ei ddylunio a’i hwyluso, gyda’r syniad bod pawb ar draws y gwasanaeth yn cymryd rhan. Fel enghraifft ddiweddar yn rhan o faes y cwricwlwm ar Fwyta’n Iach a Chost Byw, gofynnodd y grŵp ffocws i bob canolfan ieuenctid a phrosiect lunio a phrofi rysáit y gall pobl ifanc ei ddefnyddio ar gyfer llyfrau ryseitiau’r gwasanaeth ieuenctid – cafwyd ymateb penigamp ac, yn ddiweddar, fe wnaethom argraffu Llyfr Ryseitiau Gwasanaeth Ieuenctid Caerffili yn cynnwys cyfraniadau o bob darpariaeth.
Mae’r grŵp ffocws hefyd yn cynnal cystadlaethau i annog mwy o bobl ifanc i gymryd rhan mewn datblygu’r cwricwlwm. Cafodd hyn effaith fawr ac mae adborth gan staff wedi amlygu, oherwydd bod eu pobl ifanc wedi cymryd rhan yn y gystadleuaeth, roeddent o ganlyniad am gyflwyno cynnwys cysylltiedig y cwricwlwm yn fwy na phe bai’r cynnwys wedi’i ddatblygu drostynt/ei roi iddynt i’w gyflwyno.
Mae pobl ifanc yn cymryd rhan, gan wybod eu bod yno i gyflwyno safbwyntiau pobl ifanc o’u hardal.
Mae pobl ifanc yn ymgysylltu â datblygu gweithdai’r cwricwlwm o ddechrau i ddiwedd y darn gwaith, yn aml. Mae hyn yn rhoi’r cyfle iddynt ddysgu beth sydd ei angen wrth ddylunio adnodd addysgol a chânt eu hannog i gyfrannu eu barn eu hunain drwyddi draw.
Rydym yn ceisio datblygu’u sgiliau cymdeithasol, cyfathrebu a gwaith tîm, a magu eu hyder.
Lluniwyd y prosiectau tymhorol i gael eu cynnal mewn ffordd sy’n annog pobl ifanc i gymryd rheolaeth fesul tipyn ar ddysgu’r sgiliau sydd eu hangen arnynt, fel ymchwilio, golygu, trefnu a rheoli amser. Y bwriad gyda phob prosiect yw y bydd y gweithwyr ieuenctid yn camu’n ôl yn fwy yn y gwaith sy’n cael ei wneud, gyda’r nod bod y grŵp yn penderfynu ar eu prosiect eu hunain a bod gweithwyr yno dim ond i ddarparu’r gofod a’r gefnogaeth.
Mae’r bobl ifanc hefyd yn cael cyfle i ennill achrediad cenedlaethol yn ystod y sesiynau, gan gynnwys Dyfarniadau Ieuenctid ac unedau Agored Ieuenctid Cymru.
Ymhlith y buddion i’r gwasanaeth ieuenctid y mae cael cynnwys ac adnoddau’r cwricwlwm sy’n cefnogi staff a phobl ifanc yn y ffordd orau, ac mae cynnwys llais y bobl ifanc o’r dechrau i’r diwedd a chaniatáu cyfle iddynt ddatblygu’r gweithdai yn gwneud y cwricwlwm yn berthnasol ac yn gredadwy.
Hefyd, mae’n helpu i arddangos y gwaith y mae pobl ifanc yn ei wneud, sy’n rhoi ymdeimlad o falchder a pherchnogaeth iddynt ar y gwaith maen nhw wrthi’n ei wneud, yn hytrach na’r gwaith maen nhw’n ei gael.
Y prif fudd i’r gwasanaeth ieuenctid yw cael amrywiaeth eang o adnoddau wedi’u dylunio gyda phobl ifanc, ac rydym wedi sylwi mai’r rhain yn aml yw’r adnoddau sy’n cael eu defnyddio amlach. Hefyd, mae’n rhoi cyfle i ni ddysgu ymhle mae’r bylchau yn ein cwricwlwm a chael syniadau unigryw ar gyfer sut i fynd i’r afael â nhw. Enghraifft yw gweithdy ar fepio. Y cynllun gwreiddiol oedd dylunio poster ond ar ôl trafodaethau gyda’r grŵp, roedden nhw am ddylunio llyfr comig i ennyn diddordeb pobl ifanc ym mlwyddyn 6 a 7.
Fel staff, rydym yn elwa o’r cyfraniad sy’n caniatáu i ni gael ein herio am yr adnoddau rydyn ni’n eu dylunio, ac mae agor ein hunain i gael adborth gan y grŵp yn caniatáu i ni ddatblygu ein sgiliau yn barhaus a myfyrio ar bethau na wnaethom eu hystyried yn y gorffennol. Mae’n rhoi’r cyfle i ni gael syniadau gan grŵp o bobl ifanc sy’n greadigol iawn.
Rydym wedi sicrhau bod yr holl weithdai ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Trwy gydol y flwyddyn hon, rydym wedi bod yn gweithio gyda’r grŵp i ddatblygu adnoddau ar thema ‘herio gwahaniaethu’.
Rydym yn edrych yn barhaus ar sut y gallwn ddatblygu, rydym ni wrthi’n archwilio syniad am gyfnod preswyl i aelodau ddatblygu eu sgiliau ymhellach i greu eu hadnodd eu hunain gyda llai o gefnogaeth gennym ni, a’r syniad o roi mwy o gyfrifoldeb i’r aelodau profiadol am sut olwg all fod ar y sesiynau.
Teimlwn y bydd y prosiect bob amser yn addasu ac yn datblygu i gyd-fynd ag anghenion y bobl ifanc sy’n cymryd rhan yn y grŵp ac o fewn y gwasanaeth ehangach.
Mainc Ddigidol
Nod y prosiect yw ennyn diddordeb pobl ifanc wedi’u hymddieithrio sydd wedi bod yn wrthgymdeithasol yn eu cymuned leol. Ei nod yw datblygu sgiliau newydd a meithrin perthnasoedd ac o ganlyniad lleihau’r ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Mae'r bobl ifanc wedi bod â chyfran yn yr holl waith cynllunio ar gyfer y fainc ac ers y fainc wreiddiol mae’r bobl ifanc wedi newid rhai o’r dyluniadau i’w gwneud yn fwy cain. Rhoddodd Egg Seeds, y darparwr, dasg i’r bobl ifanc ac yna defnyddiasant eu sgiliau datrys problemau a gwaith tîm i ddylunio’r fainc ddigidol.
Mae'r bobl ifanc hefyd wedi datblygu eu sgiliau gwaith coed ac wedi gwneud yr holl waith medrus angenrheidiol i gwblhau’r fainc. Er bod y staff wedi goruchwylio hyn mae’r bobl ifanc wedi dod yn hunangynhaliol ac yn annibynnol yn y sgiliau hyn dros amser.
Mae'r bobl ifanc hefyd wedi cael eu cynnwys wrth ddewis ble fydd y fainc yn mynd ac wedi siarad yn onest am y ffordd y byddai’n cael gofal a pharch yn eu cymuned bresennol. Cymaint felly nes bod y bobl ifanc wedi dewis ardal fwy cefnog oedd â digonedd o deledu cylch cyfyng a lle roedd y bobl ifanc yn teimlo na fyddai’n cael ei difrodi. Dywedodd un person ifanc “Dwi ddim yn gwneud yr holl waith caled yma er mwyn i rywun ddod yno a’i llosgi.”
Fel gydag unrhyw ymarfer gwaith ieuenctid rydym yn ceisio datblygu amgylchedd cefnogol, sy’n ddiogel a lle gall y bobl ifanc fynegi eu safbwyntiau a’u barn. Mae hyn wedi bod yn allweddol i lwyddiant y prosiect, a thrwy wrando gweithredol mae’r bobl ifanc wedi datblygu eu cymuned eu hunain.
Mae pobl ifanc hŷn o’r grŵp hefyd wedi cynorthwyo aelodau iau, gan rannu eu gwybodaeth a’u profiad o wneud y fainc ddigidol gyntaf yng Nghymru (gweler y ddolen isod) i helpu i adeiladu’r ail fainc.
Yn wreiddiol cafodd y prosiect ei redeg o dan do fel rhan o sesiwn clwb ieuenctid ond oherwydd rheoliadau Covid-19 bu’n rhaid symud y prosiect i’r awyr agored, lle mae’n rhedeg yn fwy rhydd ac yn amlycach i’r gymuned leol erbyn hyn.
Arweiniodd y wers a ddysgwyd at gynnydd mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae ar bobl ifanc angen symbyliad a gweithgareddau cadarnhaol i gymryd rhan ynddyn nhw. Rwy’n gwybod bod Covid-19 wedi atal cymaint, ond profodd ystadegau fod lefelau ymddygiad gwrthgymdeithasol wedi gostwng pan ailddechreuasom waith ar y fainc ddigidol ac ymgysylltu â phobl ifanc yn y gymuned. Mae hyn yn cyfleu neges glir bod rhaid inni weithio’n galed i ddarparu gwasanaeth i bobl ifanc er gwaethaf y trafferthion a’r straeniau a fydd o bosibl yn ein hwynebu. Mae cyflwyno faniau ieuenctid symudol pwrpasol y Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid wedi cyfrannu at sicrhau bod Gwasanaeth Ieuenctid Rhondda Cynon Taf yn rhedeg ar gapasiti llawn.
Mae'r bobl ifanc a gymerodd ran wedi dod yn fwy parchus ac ystyriol o’u cymuned. Gwnaethpwyd hyn nid yn unig trwy’r fainc ddigidol ond hefyd trwy gynnwys yr ysgol leol a’r tîm Troseddau a Chanlyniadau i addysgu’r bobl ifanc hefyd.
Mae grŵp o ferched ifanc sydd wedi cymryd rhan ym mhrosiect y fainc ddigidol yn amlwg wedi magu hyder a hefyd wedi ennill sgiliau gwaith coed da. Maen nhw wedi dweud wrthym ni eu bod hyd yn oed wedi defnyddio’r rhain gartref ac wedi helpu aelodau eraill o’u teuluoedd.
Mae'r bobl ifanc anoddach eu cyrraedd sydd wedi bod yn onest iawn am eu hymddygiad gwrthgymdeithasol yn y gymuned yn fwy rhyngweithiol a chyfforddus erbyn hyn wrth siarad â’r gweithwyr ieuenctid am eu heriau eu hunain mewn bywyd, ac yn aml yn dod atom ni pan mae bywyd yn mynd yn anodd.
Mae un o’r bobl ifanc hŷn a gymerodd ran gyda’r fainc gyntaf wedi dod yn wirfoddolwr ifanc gyda’r prosiect erbyn hyn ac mae hi’n mwynhau rhannu ei gwybodaeth a’i phrofiad a chynorthwyo aelodau iau.
Yn olaf mae’r bobl ifanc hefyd wedi meithrin perthnasoedd gyda phartneriaid allweddol yn y gymuned, sydd wedi eu galluogi i fanteisio ar fwy o ddarpariaeth. Er enghraifft, mae’r bobl ifanc erbyn hyn yn ddigon cyfforddus a hyderus i ddefnyddio’r banc bwyd lleol gan ei fod yn cael ei redeg gan aelod o’r staff maen nhw wedi cael eu cyflwyno iddo fel rhan o’r prosiect. Felly mae sgiliau rhyngbersonol y bobl ifanc wedi gwella.
Mae Cymdeithas Tai Newydd, sy’n un o’r partneriaid allweddol ym mhrosiect y fainc ddigidol, ynghyd â Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid Rhondda Cynon Taf ac Egg Seeds, hefyd wedi codi ymwybyddiaeth a gwella dealltwriaeth ymysg preswylwyr lleol. Rhannodd swyddog ymddygiad gwrthgymdeithasol Cymdeithas Tai Newydd wybodaeth ar gyfryngau cymdeithasol am weithgareddau cadarnhaol yr oedd y bobl ifanc yn cymryd rhan ynddyn nhw a hefyd anogodd breswylwyr i beidio â gadael sbwriel ar safle oedd yn hysbys am danau, gan fod hyn yn annog y bobl ifanc i roi’r eitemau hynny ar dân.
Mae'r bartneriaeth hon gyda’r holl bartneriaid allweddol wedi cryfhau ymhellach ac mae hyn wedi caniatáu i rywfaint o’r gwaith hwn barhau yn yr ysgol uwchradd leol.
Mae aelodau o’r staff a gwirfoddolwyr, fel y bobl ifanc a gymerodd ran, hefyd wedi datblygu eu sgiliau gwaith coed. Mae wedi rhoi ymdeimlad o bwrpas iddyn nhw i ymgysylltu â’r bobl ifanc heb y rhwystrau arferol sydd wedi bodoli yn ystod y sesiynau datgysylltiedig ar y stryd.
Mae'r ddarpariaeth wedi cael ei strwythuro o gwmpas anghenion y bobl ifanc, gan gynnig mynediad agored, lle nad yw unrhyw berson ifanc yn teimlo bod gwahaniaethu yn ei erbyn na’i fod wedi’i ynysu o ganlyniad i’w anabledd, rhywioldeb, cenedligrwydd, statws economaidd gymdeithasol, anghenion arbennig, iechyd meddwl, crefydd neu unrhyw nodwedd arall.
Mae'r prosiect wedi parhau i ffynnu, cymaint felly nes bod cais am arian ychwanegol wedi cael ei gyflwyno er mwyn cynnig y cyfle i nifer o safleoedd yn Rhondda Cynon Taf.
Mae'r bobl ifanc sy’n cymryd rhan yn y prosiect presennol eisoes yn meddwl am eu mainc nesaf a’u prosiect nesaf ac mae Hapi trwy Gymdeithas Tai Newydd wedi sicrhau arian ychwanegol i gefnogi hyn, ynghyd â chymorth parhaus gan staff Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid Rhondda Cynon Taf.
Prosiect Cerddoriaeth Ddigidol
Mae’r prosiect cerddoriaeth ddigidol yn rhoi i bobl ifanc ddealltwriaeth o’r gwahanol fathau o gerddoriaeth ac offerynnau. Mae’r prosiect yn cynorthwyo dysgwyr i ddatblygu eu set sgiliau cerddorol a’u gallu i adeiladu’n greadigol. Mae’r prosiect wedi cynnwys gwaith grŵp a sesiynau un-i-un, ar lein a wyneb yn wyneb. Mae’r prosiect wedi gwella hunan-hyder a sgiliau cerddorol, ac wedi lleihau ynysigrwydd yn ystod y pandemig. Mae pobl ifanc hefyd wedi gweithio i ennill cymhwyster Uned Gwerthfawrogi Cerddoriaeth Agored Cymru.
Cymerodd y bobl ifanc ran mewn prosiect recordio a pherfformio cerddoriaeth llwyddiannus, yn hyb YMCA y Barri. Perfformiwyd sioe Nadolig ganddynt i’w cyfoedion ac aelodau o dîm Gwasanaeth Ieuenctid Bro Morgannwg. Yn anffodus, bu’n rhaid inni ddod â’r sesiynau hyn i ben oherwydd effaith yr argyfwng Covid ar iechyd y cyhoedd. Fodd bynnag, roedd y bobl ifanc a gymerodd ran eisiau parhau i ddatblygu eu sgiliau.
Credai tiwtor y prosiect blaenorol a minnau y gallai fod yn bosibl hwyluso prosiect cerddoriaeth ar lein drwy Microsoft Teams. Ymgynghorwyd â’r bobl ifanc i weld faint o ddiddordeb oedd yn y prosiect ac i gael adborth am unrhyw brofiad oedd ganddynt o weithio ar lein ar gerddoriaeth.
Cymerodd y bobl ifanc ran lawn yn y prosiect, a buont yn cyfrannu at y cydweithredu i ddylunio’r prosiect. Penderfynasom greu dogfen a rennir ar Google, er mwyn iddyn nhw gydweithio ar eiriau’r gân yr oeddent yn ei chynhyrchu. Roedden nhw hefyd yn cydweithio i ddewis rhannau gwahanol o drac cefndir i’w trefnu yn y meddalwedd GarageBand pan oedd y tiwtor yn rhannu ei sgrin.
Cafwyd anhawster wrth recordio’r canu ar lein oherwydd oedi. I ddatrys hyn, recordiodd y bobl ifanc eu darnau gartref ar eu ffonau a’u he-bostio ataf, er mwyn imi eu hychwanegu at y gân. Fel arweinydd y prosiect, anfonais negeseuon e-bost at yr holl ysgolion lleol a’u ffonio, a chyhoeddi postiadau rheolaidd ar y cyfryngau cymdeithasol er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r prosiect. Ar ddiwedd y prosiect, dyblygwyd CDau yn broffesiynol, gan ddefnyddio’r gwaith celf a ddyluniwyd gan y bobl ifanc trwy gydol y tymor. Anfonais y rhain at yr ysgolion, tiwtoriaid cerddoriaeth lleol, gorsafoedd radio lleol a siopau cerddoriaeth ynghyd â phosteri, gyda’r bwriad o gynyddu niferoedd er mwyn sicrhau parhad a datblygiad y prosiect. Oherwydd y newidiadau i reoliadau Covid, rydym wedi datblygu’r ddarpariaeth i’w chynnal y tu allan gan ddefnyddio ein clwb ieuenctid symudol.
Mae’r prosiect wedi rhoi cyfle i bobl ifanc ymchwilio i ffyrdd newydd o fynegi eu hunain yn ystod y cyfnod anodd hwn yn ystod y cyfyngiadau symud. Roedd yn ffordd iddynt ddysgu sgiliau a gwybodaeth newydd ym meysydd cyfansoddi caneuon, cynhyrchu cerddoriaeth a chysylltu cerddoriaeth â ffilm. Yn y pen draw, grymuswyd y bobl ifanc i ysgrifennu eu hunion deimladau am y pandemig ar ffurf cân, a roddodd blatfform iddynt gysylltu ag eraill yn y gymuned trwy roi’r gwaith ar YouTube a’r cyfryngau cymdeithasol, a chael cyfweliadau gan bapur lleol ac ar orsaf radio leol.
Cyhoeddodd Cyngor Bro Morgannwg ddatganiad i’r wasg am y prosiect, ac o ganlyniad cymerodd y wasg a’r radio leol ddiddordeb ynddo. Mae hwn yn gyhoeddusrwydd cadarnhaol. Gan i’r prosiect barhau gyda’r ddarpariaeth symudol, mae wedi cael ei weld yn y gymuned leol a chafwyd ymateb cadarnhaol iddo gan y cyhoedd, a chan wasanaethau lleol eraill fel yr heddlu.
Mae’r bobl ifanc wedi mynegi eu barn ynghylch eu teimladau a’u profiadau eu hunain, ac effaith y pandemig ledled y byd, yng ngeiriau’r gân a gwaith celf y CD. Maen nhw’n edrych ar faterion fel newid hinsawdd, Mae Bywydau Du o Bwys a gwleidyddiaeth UDA.
I gychwyn, parhaodd y prosiect fel rhan o’r cynnig gwyliau ysgol Haf o Hwyl roedd y gwasanaeth ieuenctid yn ei gynnig yn Sain Tathan a’r Barri ond oherwydd poblogrwydd y rhaglen, mae’r prosiect yn parhau’n wythnosol yn Sain Tathan a’r Rhws.
Arfer da cyffredinol yn y sefydliad
Yn ystod y cyfnod heriol hwn o ymdrin â COVID, mae llawer o’n partneriaid wedi gorfod ymdopi â rhoi datrysiadau ar-lein ar waith, ffyrlo ac adleoli staff, ac mae pobl ifanc wedi cael trafferth gyda holl effeithiau’r cyfyngiadau symud, sydd wedi’u cofnodi’n helaeth. Mae ein hymateb technolegol wedi bod yn amlochrog ac wedi’i seilio ar ein system ddigidol oedd yn bodoli eisoes, eDofE.
Mae system eDofE yn caniatáu i bobl ifanc roi manylion eu gweithgarwch i mewn a dangos eu cynnydd ar lein. Mae'r ap a gyflwynwyd yn 2019 wedi gwneud hyn yn haws, yn enwedig yn ystod COVID, fel y gall pobl ifanc ychwanegu eu gwybodaeth gan ddefnyddio eu ffôn, er enghraifft, tynnu lluniau a’u llwytho i fyny fel tystiolaeth ar unwaith.
Gan ddefnyddio eDofE, gall Arweinwyr weld y wybodaeth am eu grwpiau yn rhwydd a chânt eu hysbysu pan mae pobl ifanc yn rhyngweithio â’r system. Gall eDofE ddadansoddi lle mae gweithgarwch yn digwydd a lle mae angen rhagor o gymorth, efallai, yn ogystal â gwirio ansawdd Gwobrau o bob rhan o Gymru yn hawdd. Mae gennym reolwr Gwybodaeth Fusnes a gall ein tîm gweithrediadau alw ar wahanol adroddiadau a dadansoddiadau o’r wybodaeth i’w galluogi i dracio a chynorthwyo eu canolfannau yn y modd gorau.
Mae eDofE yn ei gwneud yn bosibl cyfnewid cofnodion rhwng grwpiau yn hawdd, fel y gall gweithgarwch person ifanc barhau hyd yn oed os yw’n trosglwyddo o’r naill ganolfan i’r llall e.e. mynd o’r ystad ddiogel yn ôl i’r ysgol neu drosglwyddo o ysgol i grŵp gwirfoddol.
Gan ddefnyddio eDofE fel sylfaen roedd modd inni ychwanegu rhagor o newidiadau ac addasiadau rhithwir er mwyn caniatáu i lawer o bobl ifanc barhau neu ddechrau Gwobr:
- Cyflwynasom hyblygrwydd i’r rhaglen er mwyn galluogi pobl ifanc i barhau â’u Gwobr o fewn cyfyngiadau COVID. Cafodd ein hymgyrch ‘#DofE with a Difference’ ei chynnal yn gyflym gan newidiadau yn eDofE er mwyn hwyluso’r newidiadau dros dro.
- Cyflwynasom Dystysgrif Cyflawniad dros dro newydd oedd yn cael ei hanfon trwy e-bost yn syth at y sawl sy’n cymryd rhan ac anogasom bobl ifanc i gwblhau adrannau Sgiliau, Corfforol a Gwirfoddoli eu gwobr yn ystod y cyfyngiadau symud. I wneud hyn gallen nhw fanteisio ar newidiadau sy’n caniatáu iddyn nhw gyfnewid eu gweithgareddau mwy nag unwaith a mentora aelodau o’u teuluoedd, a gwnaethom hysbysebu rhestrau o weithgareddau y gellid eu cyflawni gartref. Mae'r Dystysgrif Cyflawniad yn cydnabod cynnydd pobl ifanc trwy’r rhaglen ac mae mwy na 3,000 wedi cael eu dyfarnu yng Nghymru hyd yma, ond maen nhw’n dal i allu cael gwobr gyfan pan ellir cwblhau Gweithgareddau Preswyl ac Alldeithiau.
- Cyflwynasom hefyd gyflwyniad gwobrau rhithwir unigryw (“Presentations with a Difference”) ar gyfer grwpiau o bobl ifanc oedd wedi cwblhau eu Gwobrau Arian. Cawsom gymorth gan enwogion o Gymru i recordio cyflwyniadau fideo a ryddhawyd ar gyfryngau cymdeithasol i bobl ifanc, eu teuluoedd a chanolfannau er mwyn dathlu eu cyflawniadau.
- Rhoesom blatfform hyfforddiant newydd ar waith gan ddefnyddio Adobe Connect a chreu deunyddiau a fyddai’n caniatáu inni gynnal hyfforddiant ar lein tra roedd arweinwyr yn methu teithio ac yr oedd ganddyn nhw amser i ystyried gwella eu sgiliau. Hyfforddasom 244 o bobl yn 2020-21. Mae'r ffordd newydd hon o ddarparu cyrsiau yn dal i gael ei chynnig a hon fydd ein prif ffordd o sicrhau bod arweinwyr presennol yn cael gwybod am ddatblygiadau a bod arweinwyr newydd yn cael yr hyfforddiant mae arnyn nhw ei angen i ddarparu Gwobr Dug Caeredin yn llwyddiannus.
- Rhoddodd gwerthusiadau sgôr o 4.5 o 5 seren i’r profiad hyfforddi a chafwyd dyfyniadau gan yr hyfforddeion ifanc fel yr isod:
• “Gwych, hawdd i’w ddilyn, digon rhyngweithiol i gadw’ch diddordeb”
• “Cwrs manwl, gwirioneddol ddefnyddiol oedd hwn. Dwi’n gyffrous ynghylch dechrau yn fy ysgol fel arweinydd.”
• “Cyflwyniad clir a rhagorol, cynnwys gwych a mwynheais yr agweddau rhyngweithiol. Hoffais yr adrannau amlddewis dienw.” - Cyhoeddasom becynnau recriwtio a darparu newydd i helpu arweinwyr a phobl ifanc i ddod o hyd i’r holl adnoddau y byddai arnyn nhw eu hangen i gymryd rhan a chyflwynasom lawer mwy o adnoddau rhithwir gan gynnwys fideos yn Gymraeg a Saesneg i helpu i gymryd lle cyflwyniadau recriwtio wyneb yn wyneb pan roedd pobl ifanc yn dysgu gartref.
- Am y tro cyntaf, cyflwynasom sesiynau gwybodaeth rhithwir i rieni/gofalwyr sydd â’r nod o dynnu’r pwysau oddi ar arweinwyr a rhoi gwybodaeth yn uniongyrchol i rieni/gofalwyr am Wobrau Dug Caeredin a’r ffordd orau o gefnogi person ifanc trwy ei Wobr.
Er mwyn cynorthwyo pobl ifanc a fydd yn ei chael yn anoddach nag erioed i symud i’r gweithle, roeddem yn falch o gynnal ymgyrch 5 diwrnod ar y cyfryngau cymdeithasol ar gyfer ein Hwythnos Cyflogadwyedd, gyda chynnwys fideo pwrpasol, deunyddiau cymorth a syniadau oddi wrth arweinwyr busnes, cyflogwyr a deiliaid Gwobrau Dug Caeredin o bob rhan o Gymru. Mae'r adnoddau gwerthfawr hyn ar gael o hyd ar ein gwefan.
https://www.dofe.org/notice-boards/wales/resources
Yn ychwanegol at ein mentrau eDofe rydym wedi bod yn brysur yn cefnogi ein hagenda cynhwysiant. Gweler enghreifftiau o’n gwaith:
Mae cyfle cyfartal yn ganolog i Wobr Dug Caeredin gan mai un o’n 10 egwyddor arweiniol yw “Pawb yn gallu cyflawni” – mae modd i unrhyw berson ifanc sy’n dewis derbyn ei heriau gyflawni’r rhaglen, waeth beth fo ei allu, rhywedd, cefndir neu leoliad.
Mae rhaglenni Gwobr Dug Caeredin yn cael eu harwain gan bobl ifanc ac wedi’u seilio ar anghenion a man cychwyn pob unigolyn. Mae hyn yn eu gwneud yn unigryw o hyblyg fel ffordd o ymgysylltu â phob person ifanc waeth beth fo ei amgylchiadau. Mae modd addasu’r rhaglen at bob angen a chaiff ei darparu trwy waith ieuenctid mewn grwpiau statudol a gwirfoddol yn ogystal ag mewn ysgolion a lleoliadau arbenigol gan gynnwys Unedau Cyfeirio Disgyblion, yr Ystad Ddiogel a busnesau. Ble bynnag y caiff rhaglen Gwobr Dug Caeredin ei darparu, gellir ei haddasu i gyd-fynd ag anghenion unigol y bobl ifanc heb leihau’r buddion cadarnhaol i’r rhai sy’n cymryd rhan.
Mae pobl ifanc yn dewis drostyn nhw eu hunain pa weithgareddau maen nhw’n eu cyflawni ym mhob adran ac yn cael eu grymuso i ymwneud â diddordebau a gweithgareddau sy’n berthnasol ac yn gyflawnadwy yn bersonol. Ni fydd unrhyw ddwy raglen Gwobr Dug Caeredin yn union yr un peth, a’r hyblygrwydd hwn yw sail atyniad parhaus y rhaglen i bobl ifanc dros y 65 mlynedd diwethaf.
Mae Swyddogion Gweithrediadau yn adolygu’r angen ym mhob canolfan ac yn helpu i nodi a darparu cymorth/cyllid ar sail angen canolfan unigol ac mae cyllid ar gael, oherwydd ein cefnogwyr anhygoel, i dargedu anfantais a helpu i chwalu rhwystrau i bobl ifanc sydd wedi’u hymyleiddio. Ein targed yw y bydd 25% o’r bobl sy’n cymryd rhan bob blwyddyn o gefndiroedd difreintiedig ac rydym yn cyrraedd y targed hwn yn rheolaidd.
Mae gan gynllun Gwobr Dug Caeredin weithgor Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) sy’n cyfuno gwybodaeth a phrofiad i ddod ag arferion gorau i’r maes cyfan ac i hwyluso’r broses o sicrhau bod adnoddau ADY ar gael i annog a chynorthwyo canolfannau y mae angen iddyn nhw addasu’r rhaglen i gynorthwyo eu pobl ifanc. Yn ddiweddar mae’r gweithgor hwn wedi creu llawlyfr ADY i staff cynllun Gwobr Dug Caeredin ac mae cyfres o ddosbarthiadau meistr a hyfforddiant annibynnol i’r staff yn cael ei chyflwyno a fydd hefyd yn cael ei chynnwys yn yr hyfforddiant cynefino i’r holl staff newydd.
Mae ein Canolfannau a grwpiau ADY yn gallu adlewyrchu diddordebau amrywiol y rhai sy’n cymryd rhan a dyfeisgarwch eu harweinwyr, gan weithio gyda hyblygrwydd y rhaglen i oresgyn yr holl rwystrau a pheri syndod i’w rhieni eu hunain ar adegau. Mae Gwobr yn eu rhoi, weithiau am y tro cyntaf, ar yr un gwastad â’u brodyr a chwiorydd a’u cyfoedion.
Nododd adroddiad ymchwil i elusen Gwobr Dug Caeredin gan Chrysalis Research a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2021 o’r enw “Participation in and impact of the DofE on young people with additional needs” fod y dystiolaeth a gasglwyd ar gyfer yr ymchwil yn cynnwys llawer o adborth oddi wrth athrawon ac eraill sy’n gweithio gyda phobl ifanc ag ADY, yn nodi bod dyluniad y rhaglen a’i hegwyddorion arweiniol yn hanfodol i’w gwneud yn bosibl i’w myfyrwyr fanteisio arni a chael budd gwirioneddol o’u profiad.
Hefyd yr egwyddor a nodwyd amlaf oedd bod ffocws y rhaglen ar yr unigolyn a sicrhau bod taith pob un sy’n cymryd rhan yng nghynllun Gwobr Dug Caeredin wedi’i phersonoli ac yn her sy’n unigryw iddo yntau. Soniwyd yr un mor aml am hyblygrwydd y rhaglen o ganlyniad i hyn yn ogystal â’r ffaith ei bod yn agored i gael ei haddasu, er mwyn ei gwneud mor gynhwysol ag sy’n bosibl
Mae Ysgol Cedewain ym Mhowys wedi bod yn llwyddiannus iawn wrth wreiddio cynllun Gwobr Dug Caeredin yn yr ysgol
“Mae gan yr holl ddisgyblion yn Ysgol Cedewain anawsterau dysgu, ond mae gan lawer ohonyn nhw anghenion corfforol a meddygol hefyd. Mae Gwobr Dug Caeredin mor gynhwysol, mae ein holl ddisgyblion yn gallu cymryd rhan a mwynhau’r buddion sydd gan y wobr i’w cynnig, beth bynnag fo eu gallu. Rydym ni wedi gweld ein myfyrwyr yn magu hunanhyder, ac mae pob agwedd ar y Wobr yn helpu gyda hyn.
Weithiau mae’r gwirfoddoli yn anodd iawn i’r rhai sy’n cymryd rhan, ond wrth i’r wythnosau fynd heibio, maen nhw’n magu cymaint o hyder. Un o’r gweithgareddau gwirfoddoli rydym ni’n ei gyflawni yw ymweld â chartref preswyl i’r henoed. Maen nhw wedi glanhau a thacluso i’r hen bobl ac wedi mwynhau sgwrsio gyda nhw, ac roedd y pethau hyn yn fuddiol iawn i’n myfyrwyr. Ond ar ben hynny, roeddent wedi trefnu a chynnal sesiynau bingo rheolaidd i’r preswylwyr, oedd wedi eu mwynhau’n fawr iawn. Y peth arwyddocaol yw mai ein myfyrwyr sydd fel arfer yn cael yr help a’r cymorth; felly pleser o’r mwyaf oedd eu gweld nhw’n gallu helpu eraill mewn ffordd eglur ac ymarferol.
Rydym ni wedi cael amrywiaeth fawr o sgiliau; ffilmio, mecaneg ceir, dysgu gemau bwrdd, crefftau gwersylla a choginio, ac enwi ond ychydig. Rydym yn addasu’r sgiliau gan ddibynnu ar eu hanableddau, ond maen nhw i gyd yn ennill sgiliau newydd neu well.
Nid yw llawer o’n myfyrwyr yn mwynhau gweithgareddau corfforol! Mae'n rhaid eu hannog i wella eu ffitrwydd, ond maen nhw i gyd yn cymryd rhan yn yr alldeithiau gyda chynllun Gwobr Dug Caeredin. Mae hyd yn oed y rhai sydd angen llawer mwy o anogaeth i ddechrau fel pe baen nhw’n deall pwysigrwydd yr alldaith ei hun ac yn gwthio eu hunain mwy. Dyma hefyd lle mae’r gwaith tîm, yr ydym ni’n gweithio’n galed i’w feithrin, yn dod i’r amlwg, wrth i’r holl fyfyrwyr annog a helpu ei gilydd.”
Portfield School – Sir Benfro
Dewisodd un a gymerodd ran o Portfield School, Sir Benfro, godi pwysau ar gyfer ei adran gweithgarwch Corfforol yn Strength Academy Wales. Mae'n hyfforddi teirgwaith yr wythnos am awr a hanner bob tro. Mae wedi gwneud cymaint o argraff ar y clwb nes bod hwnnw, yn dilyn ei gystadleuaeth gyntaf, yn gobeithio ei roi i mewn i’r cystadlaethau pŵer-godi yn y Gemau Olympaidd Arbennig ac wedi bod yn cysylltu â ‘Special Olympics Wales’
Woodlands School - Caerdydd:
Prynodd yr ysgol offer arbenigol i’w disgyblion â nam ar eu golwg, gan ei gwneud yn bosibl iddyn nhw gael y profiad gorau ar eu halldaith. Dywed Jess Rumble, Swyddog Gweithrediadau: “Cafodd yr arian am gwmpawd digidol llafar effaith enfawr ar allu myfyriwr â nam ar ei olwg i gymryd rhan lawn a mwynhau’r alldaith cymhwyso Efydd ym mis Gorffennaf 2019. Wrth gael ei ddefnyddio gyda’r recordiadau llais a’r llyfryn llwybr Braille a gynhyrchwyd gan yr ysgol, roedd y cwmpawd yn golygu y gallai’r person ifanc chwarae rhan lawn wrth lywio ar hyd y llwybr a chymryd perchnogaeth ar ei alldaith ei hun. Roedd y cwmpawd hefyd yn boblogaidd gyda rhai o’r bobl ifanc eraill yn y grŵp, ac roedd yn offeryn llywio defnyddiol y gallen nhw ei ddefnyddio gyda’r llyfryn llwybr. Mae'n offeryn syml a all ychwanegu go iawn at y profiad mae pobl ifanc ag anghenion ychwanegol yn ei gael o alldaith, a bydd yn ychwanegu gwerth mawr i alldeithiau’r ysgol yn y dyfodol.
Ysgol Bro Dinefwr - Sir Gaerfyrddin
Mae gan Ysgol Bro Dinefwr ddau adnodd dysgu i ddisgyblion sydd ag anghenion difrifol a chymhleth, ac yn ddiweddar cynigiodd i grŵp o fyfyrwyr o’i chanolfan adnoddau arbenigol gyfle i wneud Gwobr Efydd Dug Caeredin.
Er eu bod yn ansicr i ddechrau a oedd Gwobr Dug Caeredin iddyn nhw, penderfynodd y myfyrwyr ddechrau ‘Gwobr Asynnod’, gyda chymorth eu gweithiwr ieuenctid yn yr ysgol.
Gwnaethant gynnwys dysgu am anifeiliaid a gofalu amdanynt yn eu gweithgareddau er mwyn magu hyder, gan wirfoddoli mewn canolfan therapi â chymorth anifeiliaid a dilyn rhaglen o sesiynau wythnosol o ofalu am anifeiliaid ar gyfer yr adran Sgiliau. Ar gyfer eu halldaith, teithiodd y grŵp gyda dau asyn, gan ofalu amdanyn nhw a rhoi blaenoriaeth i’w lles ar hyd y daith.
Cofnododd y rhai a gymerodd ran yn y Wobr Efydd gynnydd yn eu hyder a’u hunan-dyb o ganlyniad i gyflawni’r rhaglen – ac mae eu presenoldeb yn yr ysgol hefyd wedi gwella o ganlyniad.
Coleg y Cymoedd
Mae Ysgol Mynediad Galwedigaethol Coleg y Cymoedd wedi lansio cynllun newydd sbon o gynnal a chadw beiciau i helpu aelodau o’r staff a dysgwyr gydag unrhyw broblemau cysylltiedig â beiciau sydd ganddyn nhw.
Mae'r cwrs wedi cael ei gyflwyno ar ôl i’r dysgwyr fynegi diddordeb, ac mewn ymateb i’r nifer gynyddol o aelodau o’r staff a dysgwyr sy’n beicio i’r coleg. Byddan nhw’n meithrin sgiliau mewn cynnal a chadw beiciau ac wedyn yn cynnig eu gwasanaethau yn wirfoddol.
Yn y rhaglen, bydd aelodau o’r staff a dysgwyr yn gallu dod â’u beiciau i gampws Nantgarw lle bydd y dysgwyr, gyda chymorth staff cymorth Mynediad Galwedigaethol, wrth law i helpu i ddatrys unrhyw broblemau. Byddan nhw’n gallu darparu amrywiaeth o wasanaethau cynnal a chadw beiciau cyffredinol, o iro cadwyni i chwilio am gerau, brêcs, cyrn a rhannau symudol diffygiol.
Mae'r tri dysgwr sy’n cymryd rhan yn y cynllun i gyd yn cwblhau’r cwrs fel rhan o adrannau Sgiliau a Gwirfoddoli Gwobr Dug Caeredin. Wrth i gyfyngiadau Covid wneud llawer o gyfleoedd i wirfoddoli yn anodd, creodd y coleg y cwrs cynnal a chadw beiciau fel ffordd i ddysgwyr gyflawni’r rhan hon o’r wobr ac ar yr un pryd meithrin sgiliau gwerthfawr.
Ysbrydoli
Nod y prosiect yw cynorthwyo pobl ifanc 11-18 oed sy’n ymddwyn yn hunan-niweidiol, gyda’r nod o leihau’r cyfraddau sy’n cael eu hail-dderbyn i’r ysbyty oherwydd ymddygiad hunan-niweidiol.
Ceir gwahanol elfennau i brosiect Ysbrydoli sef:
-cymorth un i un ar gyfer pobl ifanc a gaiff eu hatgyfeirio i’r prosiect. Mae’r cymorth holistaidd hwn wedi’i seilio ar ymgysylltu gwirfoddol, a chaiff ei arwain gan yr hyn mae pob person ifanc yn teimlo byddai’n ei helpu ar y pryd hwnnw. Cynhelir y sesiynau mewn lleoliad a ddewiswyd gan y person ifanc a gallant gynnwys gweithio ar hyder a hunan-dyb, strategaethau ymdopi/dewisiadau yn lle hunan-niweidio, cydnerthedd, rheoli emosiynau, gwaith dod i gysylltiad â e.e. trafnidiaeth gyhoeddus neu gaffis, cyflwyniad i hobïau a diddordebau, cymorth gydag addysg, hyfforddiant a chyflogaeth, a chyfeirio at wasanaethau mwy arbenigol, ymysg pethau eraill.
-Wardiau – Mae prosiect Ysbrydoli’n ymweld â wardiau ysbyty pob dydd er mwyn cynorthwyo unrhyw bobl ifanc 11-18 oed a gafodd eu derbyn i’r ysbyty, gan gynnig iddynt gymorth cyffredinol, cyfeiriadau at wasanaethau ac adnoddau i’w benthyg yn ystod eu harhosiad.
-Clybiau ieuenctid - Mae prosiect Ysbrydoli’n rhedeg 2 glwb ieuenctid i bobl ifanc sydd wedi cael cymorth un-i-un ac a fyddai’n cael budd o waith grŵp. Mae un yn glwb ieuenctid cyffredinol, a’r llall, a enwyd Ysbrydoli Balchder gan y bobl ifanc, i bobl ifanc sy’n uniaethu fel LHDTC+. Mae’r clybiau ieuenctid yn cynorthwyo’r bobl ifanc i feithrin sgiliau cymdeithasol, gan leihau ynysigrwydd cymdeithasol a rhoi cyfleoedd iddynt ddatblygu cyfeillgarwch wrth gyflawni gweithgareddau mewn amgylchedd cefnogol.
- Cynigir gweithgareddau i ddifyrru pobl ifanc sydd wedi cael cymorth un-i-un ac sy’n addas i waith grŵp ac a fyddai’n cael budd ohono. Ceir gweithgareddau amrywiol fel marchogaeth, beicio mynydd, dringo creigiau, sinema, pêl-droed ac amrywiaeth o dripiau eraill. Maent yn rhoi ymdeimlad o gyflawniad i’r bobl ifanc ac yn gyfle i ddatblygu cyfleoedd cymdeithasol wrth brofi gweithgareddau na fyddent efallai wedi cael y cyfle i’w gwneud fel arall.
- Sesiynau addysg – Mae prosiect Ysbrydoli’n darparu sesiynau addysg cyffredinol i ysgolion a grwpiau ieuenctid ar iechyd a lles emosiynol, delwedd corff a hunan-dyb, ac ymdopi â straen. Mae’r prosiect hefyd yn darparu grwpiau targededig sy’n canolbwyntio ar anghenion canfyddedig pan fo angen.
Mae’r holl bobl ifanc yn cydsynio i gael eu hatgyfeirio at brosiect Ysbrydoli ar gyfer cymorth un-i-un, ac i gymryd rhan mewn unrhyw weithgareddau sy’n rhan ohono. Ymgynghorir â phobl ifanc yn rheolaidd am y cymorth yr hoffent ei gael o ran canfod ac adolygu targedau yn ystod gwaith un-i-un, pa weithgareddau difyrru yr hoffent, cynnwys sesiynau’r clwb ieuenctid ac am redeg y prosiect yn gyffredinol. Gofynnir i’r holl bobl ifanc gwblhau gwerthusiadau o’r cymorth un-i-un a’r sesiynau addysg hefyd. Mae’r adborth ar y rhain wedyn yn dylanwadu ar gymorth yn y dyfodol.
Enghraifft o hyn yw Ysbrydoli Balchder – canfuwyd bod Ysbrydoli’n cynorthwyo nifer gynyddol o bobl ifanc oedd yn uniaethu fel LHDTC+, ac roedd rhai ohonynt yn dymuno gwybod pwy arall oedd yn teimlo’r un peth â nhw. Nid oedd y gweithwyr yn gallu dweud wrthynt oherwydd cyfrinachedd, ond awgrymwyd sefydlu clwb ieuenctid ar wahân i bobl ifanc LHDTC+; roedd y bobl ifanc yn hoffi’r syniad hwn. Enwyd y clwb Ysbrydoli Balchder gan y bobl ifanc. Cynhaliwyd y clwb ar lein yn ystod Covid a bydd yn symud i gyfarfod wyneb yn wyneb cyn gynted â phosibl. Y bobl ifanc sy’n penderfynu ar gynnwys y sesiynau ar sail ymgynghoriadau, ac mae cynnydd rhai ohonynt ers mynychu cyfarfodydd Ysgogi Balcher wedi bod yn ysbrydoliaeth.
Mae natur yr ymgysylltu gwirfoddol a’r berthynas rhwng y person ifanc a’r gweithiwr ieuenctid wedi bod yn hanfodol. Mae’r gweithwyr yn gallu datblygu perthnasoedd proffesiynol effeithiol iawn gyda phobl ifanc yn gyflym iawn, gan wneud iddynt deimlo’n gyfforddus hyd yn oed os byddant wedi cael trafferth i ymgysylltu ag asiantaethau eraill. Gan fod y gwaith yn cael ei arwain gan y bobl ifanc, mae’n eu grymuso, gan achosi iddynt deimlo bod ganddynt reolaeth, gyda sesiynau anffurfiol yn cael eu harwain gan anghenion a dymuniadau pob person ifanc.
Gan ddysgu o fodel Ysbrydoli dros y blynyddoedd, cafodd gwerth gwaith ieuenctid mewn lleoliadau iechyd ei gydnabod yn helaeth. Yn 2017, talodd y tîm diabetes pediatrig i gael gweithiwr Ysbrydoli am 8 awr yr wythnos er mwyn cynorthwyo pobl ifanc sy’n camreoli neu’n cael trafferth gyda’u diabetes a rhannau eraill o’u bywydau.
Yn fwy diweddar yn 2019, cafodd prosiect Ysbrydoli ei gomisiynu gan Gyngor Sir y Fflint i ehangu ei ddarpariaeth i Sir y Fflint. Mae hwn wedi bod yn llwyddiant mawr ac mae’n dal i dyfu, gyda llawer o bobl ifanc yn cael budd o’r cymorth hwn.
Oherwydd ei lwyddiant parhaus, mae Ysbrydoli bellach yn y broses o ehangu i leoliadau iechyd eraill fel CAMHS er mwyn cynorthwyo pobl ifanc sy’n symud at wasanaethau iechyd meddwl i oedolion, gan fod gwaith partneriaethol wedi dangos bod angen hyn. Hefyd, mae’r gwaith gyda phobl ifanc â diabetes wedi bod mor llwyddiannus, holwyd prosiect Ysbrydoli’n ddiweddar ynghylch y posibilrwydd o gael gweithiwr ieuenctid yn yr adran diabetes i oedolion i weithio gyda phobl ifanc hŷn â diabetes.
Mae ymgysylltu trwy gymorth un-i-un a gweithgareddau grŵp fel clybiau ieuenctid a gweithgareddau difyrru yn lleihau ynysigrwydd cymdeithasol pobl ifanc, yn gwella’u hyder a’u hunan-dyb, yn rhoi iddynt ymdeimlad o gyflawni, yn eu cynorthwyo i feithrin eu sgiliau cymdeithasol ac yn eu helpu i ddatblygu strategaethau ymdopi / dewisiadau cynorthwyol yn lle hunan-niweidio. Gall pobl ifanc ddysgu am eu pryderon am sefyllfaoedd sy’n anodd iddynt a mynd i’r afael â nhw, yn ogystal â’r rhai sy’n gallu cyfyngu ar eu cysylltiad â chyfoedion, addysg neu yn y gymuned, fel ar drafnidiaeth gyhoeddus neu mewn lleoliadau cymunedol fel caffis. Mae ymgysylltu â chymorth yn helpu pobl ifanc i gymryd mwy o ran mewn addysg a dangoswyd ei fod yn gwella presenoldeb ac ymddygiad. Gall pobl ifanc ddysgu ffyrdd o ymdopi ac adeiladu eu cydnerthedd gyda sgiliau y gallant eu defnyddio drwy gydol eu hoes. Mae llawer o bobl ifanc hefyd wedi dweud bod eu perthnasoedd â’u teuluoedd a’u ffrindiau’n well, bod eu hwyliau, eu hiechyd a lles yn gyffredinol yn well, eu bod yn fwy ymwybodol o wasanaethau eraill ac yn ymgysylltu â nhw yn fwy, a llai o hunan-niweidio.
Sefydliad – Mae’r sefydliad wedi elwa trwy ddatblygu partneriaeth gryf iawn gyda CAMHS, sydd bellach wedi arwain at ddatblygu swydd gwaith ieuenctid a gaiff ei lleoli o fewn CAMHS er mwyn cefnogi’r broses o symud pobl ifanc at wasanaethau oedolion.
Staff – Mae staff prosiect Ysbrydoli yn dweud bod ganddynt swydd werth chweil ac amrywiol iawn, yn cefnogi llawer o bobl ifanc ar eu taith, yn eu gwylio’n gwneud cynnydd ac yn cyrraedd eu potensial. Gall y staff ddatblygu eu sgiliau a’u profiad mewn sawl maes, yn arbennig iechyd meddwl, trwy weithio mewn maes gwaith ieuenctid mor arbenigol.
Gwirfoddolwyr – mae rhai o’r bobl ifanc sydd wedi ymwneud â phrosiect Ysbrydoli wedi gwirfoddoli gyda’r prosiect wedyn, sydd wedi rhoi profiad arbennig iddynt. Yn sgil hyn, mae rhai wedi mynd ymhellach, ac erbyn hyn yn weithwyr ieuenctid, swyddogion heddlu, gweithwyr cymdeithasol a gweithwyr gwerthfawr eraill. Mae rhai o staff prosiect Ysbrydoli hefyd wedi bod yn wirfoddolwyr gyda’r prosiect.
Dros y blynyddoedd diwethaf, nodwyd bod prosiect Ysbrydoli wedi bod yn cynorthwyo niferoedd cynyddol o bobl ifanc sy’n uniaethu fel LHDTC+. Weithiau nodir hyn wrth eu hatgyfeirio, tra bo eraill yn datgelu hynny i’w gweithiwr Ysbrydoli. Arweiniodd hyn at ddatblygu clwb ieuenctid Ysbrydoli Balchder.
Dechreuodd prosiect Ysbrydoli yn 2006, ac aeth yn fyw yn 2007 gydag arian cychwynnol o gronfa’r Loteri Fawr. Caiff y prosiect ei ariannu gan nifer o grantiau gwahanol bellach, ac mae wedi tyfu’n sylweddol dros y blynyddoedd.
Mae Ysbrydoli’n parhau â holl elfennau’r prosiect. Yn 2017, ehangodd y prosiect i’r adran diabetes pediatreg ac yn 2019, ehangodd eto i gynnwys ardal Sir y Fflint yn ogystal â Wrecsam. Mae’r prosiect yn y broses o ehangu i wasanaethau CAMHS ar hyn o bryd, a gwasanaethau diabetes oedolion hefyd o bosibl.
Mae prosiect Ysbrydoli’n rhannu gwybodaeth a phrofiad â phartneriaid rhanbarthol yn rheolaidd ac yn eu cynorthwyo nhw i ymchwilio i, a datblygu, gwaith ieuenctid wedi’i leoli mewn ysbytai.
Ysbrydoli i Weithio
Mae prosiect Ysbrydoli i Weithio Bro Morgannwg wedi bod yn cynorthwyo pobl ifanc 16-24 oed ers mis Ebrill 2017. Caiff y prosiect ei ariannu’n rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop, ac mae cynnwys tri aelod o staff cyflenwi.
Nod y prosiect yw cynorthwyo pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant ar hyn o bryd i fynd i faes addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant. Gwneir hyn trwy ddulliau amrywiol, gan gynnwys sesiynau un-i-un, sesiynau grŵp, cyrsiau hyfforddi, profiad gwaith ac ati.
Mae llawer o’r bobl ifanc a gynorthwyir gan y tîm yn wynebu rhwystrau sylweddol sy’n eu hatal rhag ymgysylltu, gan gynnwys profiadau gwael o addysg, strwythurau cefnogi gwael yn eu bywydau, ymwneud â’r system gyfiawnder, defnyddio sylweddau, diffyg bywyd cartref sefydlog ac iechyd meddwl gwael.
Mae prosiect Ysbrydoli i Weithio yn derbyn atgyfeiriadau gan weithwyr proffesiynol, yn fewnol ac o’r tu allan i’r Cyngor. Mae’r atgyfeiriadau hyn yn cynnig elfen o ddealltwriaeth o anghenion y person ifanc, ond nid yw’r ddealltwriaeth o’i anghenion yn dod yn fwy eglur nes i’r Hyfforddwr Dysgu gwrdd ag ef a dechrau datblygu cydberthynas ag ef. Mae pob aelod o’r staff yn weithiwr ieuenctid cymwysedig ac maent yn defnyddio’r sail sgiliau hwn i greu perthynas ystyrlon â’r unigolyn. Mae sgiliau’r tîm wedi tyfu o ganlyniad i ddysgu mwy am anghenion y bobl ifanc a wasanaethwn. Mae rhai aelodau o’r tîm wedi dilyn hyfforddiant ychwanegol ar sgiliau cwnsela fel bod ganddynt sgìl arall i gynorthwyo’r bobl ifanc. Mae’r prosiect wedi’i seilio ar ymgysylltu’n wirfoddol heb orfodi’r unigolyn i ymgysylltu, sy’n golygu bod unrhyw gymorth a roddir yn mynd yn ôl y cyflymder a osodir gan y person ifanc.
Datblygir cynllun gweithredu ar gyfer pob person ifanc, a gaiff ei fonitro a’i adolygu wrth i’r cymorth fynd yn ei flaen. Er y bydd rhai elfennau’n debyg i gynlluniau pobl ifanc eraill, caiff pob cynllun ei lunio gan roi blaenoriaeth i anghenion unigol y person ifanc. Fel rhan o hyn, caiff y rhwystrau i ymgysylltu neu’r pethau a all effeithio’n negyddol ar lesiant y person ifanc eu canfod, a rhoddir cynlluniau ar waith i helpu i fynd i’r afael â’r rhain.
Mae’r cymorth a roddir i bob person ifanc yn gallu amrywio’n fawr, er y caiff ei addasu yn ôl anghenion yr unigolyn. Gall hyn gynnwys cymorth ychwanegol gyda sgiliau hanfodol, cyrsiau ECDL a chyrsiau Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill, gan ddibynnu ar ddiffygion dysgu’r person ifanc. Mewn sefyllfaoedd lle na cheir cymorth teuluol, neu mae’r cymorth teuluol yn wael, neu lle cafwyd profedigaeth mewn unrhyw strwythur cymorth uniongyrchol, darganfuwyd bod staff y tîm yn gorfod cynnwys elfen o fagu yn eu gwaith ymgysylltu, gan ei bod efallai ar goll o’u bywydau ers blynyddoedd lawer. Mewn perthynas â llesiant, mae mynd i’r afael â’r angen sylfaenol hwn yn hollbwysig: heb hynny, bydd yn afrealistig cynnal unrhyw gynnydd a wneir o ran addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant. Mae gan bob person ifanc fan cychwyn gwahanol, sy’n golygu nad yw rhai ohonynt efallai’n barod i ymgysylltu â gwahanol lefelau o gymorth yn syth. Weithiau, gall gymryd wythnosau neu fisoedd o gyswllt un-i-un cyn bod person ifanc yn barod i gymryd rhan mewn cwrs hyfforddi neu sesiwn grŵp.
Wrth greu cydberthynas â’r person ifanc, efallai y daw’n amlwg bod gan yr unigolyn rwystrau ehangach a allai fod yn effeithio ar ei lesiant. Mae enghreifftiau’n cynnwys materion ariannol, y sefyllfa dai, defnyddio sylweddau a materion iechyd meddwl. Mae prosiect Ysbrydoli i Weithio’n cydnabod nad yw bob amser yn y lle gorau i gynorthwyo â’r meysydd mwy arbenigol hyn, ond mae ganddo wybodaeth dda am bartneriaid ac asiantaethau eraill y gellir cyfeirio’r person ifanc atynt i gael cymorth. Mae’r tîm yn defnyddio ymagwedd holistaidd sy’n canolbwyntio ar y person ifanc ac sydd â dewis a llais y person ifanc wrth wraidd ei hynt gyda’r prosiect. Mae’r tîm yn aml yn cynorthwyo pobl ifanc i fynychu cyfarfodydd ag asiantaethau newydd neu pan fyddant yn dechrau lleoliadau profiad gwaith, fel bod ganddynt wyneb cyfarwydd er mwyn lleddfu unrhyw bryderon ynghylch cwrdd â gweithwyr proffesiynol newydd. Gan ddibynnu ar y cymorth ychwanegol mae ei angen ac sy’n cael ei gynnig, gall fod yn briodol i staff Ysbrydoli i Weithio dynnu’r cymorth yn ôl ar yr adeg honno. Fodd bynnag, yn y rhan fwyaf o achosion, mae’r tîm yn parhau i gynorthwyo’r person ifanc mewn partneriaeth ag asiantaethau eraill, er mwyn sicrhau bod y pecyn gorau a’r cysondeb mwyaf ar waith i’r unigolyn.
Rhan o’r ddarpariaeth a gynigir yw mynychu cyrsiau hyfforddi, sy’n helpu i wella gwybodaeth yn y meysydd gwaith mae ganddynt ddiddordeb mewn ymchwilio iddynt, ennill cymwysterau a thystysgrifau sy’n berthnasol i’r gwaith yn ogystal â gwella’u hyder mewn senario grŵp ac o ran eu gallu eu hunain. Mae hyn yn arbennig o berthnasol i’r rhai sy’n ddi-waith yn y tymor hir, gan ei fod yn bosibl nad ydynt wedi gallu gwneud hyn ers gadael addysg orfodol. Yn y cyrsiau hyfforddi, mae’r prosiect yn cynnig trafnidiaeth i’r bobl ifanc i’w galluogi i fynychu, ac yn darparu cinio a lluniaeth i bawb sy’n bresennol. Trwy wneud hyn, nid yw’n amlwg i’r grŵp pa rai o’r bobl ifanc sy’n methu fforddio talu am eu cinio eu hunain, sy’n creu amgylchedd llawer mwy cadarnhaol ac eto, yn lleddfu unrhyw bryderon a all fod gan y bobl ifanc hyn. Mae hefyd yn golygu bod gan y bobl ifanc ddigon o egni i gymryd rhan weithgar yn y dysgu sydd ar gael. Yr un yw’r egwyddor wrth gynorthwyo pobl ifanc i fynychu profiad gwaith, cyrsiau coleg a chyflogaeth. Gall y prosiect gynorthwyo drwy dalu rhai costau yn y sefyllfaoedd hyn, lle nad yw’r bobl ifanc yn gallu cynnal eu hunain yn ariannol. Bwriedir i’r dull a nodir rymuso’r bobl ifanc i fod yn fwy cydnerth, annibynnol a hyderus ac i allu ymdopi â’r heriau yn eu bywydau yn y dyfodol.
Gall bywydau pobl ifanc fod yn afreolaidd dros ben, gyda newidiadau’n digwydd heb fawr o rybudd neu ddim rhybudd o gwbl. Gall hyn fod oherwydd eu bod yn ddigartref, yn ymwneud â’r system cyfiawnder troseddol, anawsterau iechyd corfforol yn ogystal â phroblemau ariannol. Gyda chymorth y prosiect, mae’r tîm yn gallu addasu’n hyblyg a chynorthwyo’r bobl ifanc wrth i’r newidiadau hyn ddigwydd, gan addasu blaenoriaethau i ganolbwyntio ar y rhai sy’n fwyaf perthnasol i’r bobl ifanc ar y pryd. Lle bo angen, mae’r tîm hefyd yn ceisio cymorth ac arian ychwanegol o ffynonellau eraill, gan gynnwys elusennau lleol a thimau’r Cyngor, i helpu i dalu costau rhai eitemau. Mae enghreifftiau o’r hyn mae’r prosiect wedi prynu i bobl ifanc yn cynnwys: beiciau i ganiatáu iddynt gyrraedd swyddi a chyfleoedd hyfforddi; nwyddau gwynion i gynorthwyo pobl ifanc sy’n symud mewn i adeiladau heb offer, neu pan fydd eu heitemau eu hunain yn torri a; gliniaduron er mwyn cyrchu cyrsiau a hyfforddiant ar-lein, yn enwedig ers y pandemig Covid-19, sydd yn ei dro yn cynorthwyo’r bobl ifanc i fod yn llai ynysig.
Darparwyd cymorth i’r bobl ifanc trwy gydol y pandemig Covid-19, trwy e-bost, galwadau ffôn, sesiynau ar-lein trwy Microsoft Teams ac ymweliadau stepen y drws hefyd i’r rhai mwyaf agored i niwed. Yn ystod rhannau o’r pandemig, dosbarthwyd parseli bwyd a phecynnau hylendid i gynorthwyo rhai o’r bobl ifanc oedd yn cael trafferth i ymdopi, yn ogystal â chwrdd â phobl ifanc oedd yn arbennig o ynysig yn eu cymunedau lleol
Arweinyddiaeth Iau
Nod ein prosiect oedd rhoi cyfleoedd i bobl ifanc ennill cymhwyster cydnabyddedig ‘cyflwyniad i waith ieuenctid’ yn yr iaith o’u dewis.
Ymgynghorwyd â phobl ifanc ac fe wnaethant nodi yr angen am achrediad a oedd yn cydnabod eu gwirfoddoli a’u hymgysylltiad cymunedol â grwpiau Cymraeg. Llywiodd adborth Pobl Ifanc arddull a dull cyflwyno’r sesiynau, ac arweiniodd hefyd at wneud newidiadau i rywfaint o gynnwys y cwrs.
Darparodd pobl ifanc adborth a chreont fideo i annog eraill i ymgymryd â’r cwrs, ac amlinellu’r buddion iddynt.
Mae ymgynghori â phobl ifanc sy’n dilyn y prosiect yn sicrhau bod y prosiect yn gallu ei deilwra fel ei fod yn cyd-fynd orau â’r arddulliau dysgu y mae’r bobl ifanc yn eu ffafrio. Roedd rhoi cyfle i bobl ifanc ymgysylltu â’u cyfoedion ac oedolyn y gallant ymddiried ynddo mewn man diogel, naill ai wyneb yn wyneb neu ar-lein, wedi galluogi’r bobl ifanc i fynegi eu hunain a chysylltu ac ymgynghori â phobl eraill na fyddent yn gwneud fel arfer.
Yn ystod y cyfnod clo, cynhaliwyd sesiynau’n rhithwir. Er y bu hyn yn llwyddiannus, byddai rhai o’r sesiynau mwy ymarferol wedi elwa o waith wyneb yn wyneb. Ar hyn o bryd, dull cyflwyno cyfunol sydd gan y prosiect, er mai ymgynghori â phobl ifanc ar bob cwrs sy’n pennu’r arddull a’r dull cyflwyno.
Mae prosiect ‘Arweinyddiaeth Iau’ wedi creu cyfleoedd i bobl ifanc allu ymgysylltu â’u cyfoedion mewn man diogel, yn eu dewis iaith, gydag oedolion y gallant ymddiried ynddynt. Mae partneriaethau wedi cael eu datblygu o fewn y gymuned leol ac o fewn y sector gwirfoddol a’r trydydd sector i hyrwyddo’r Gymraeg yn weithgar trwy ymyriadau gwaith ieuenctid â chymorth. Mae pobl ifanc wedi dod yn fwy gweithgar a gweladwy yn eu cymuned leol ac maent yn fwy ymwybodol o’u hawliau a’u cyfrifoldebau. Maent yn ymgysylltu’n weithgar â phobl ifanc eraill yn eu dewis iaith, gan hyrwyddo ac addysgu eraill am y cyfleoedd y mae gwaith ieuenctid yn eu cynnig er mwyn cael effaith gadarnhaol ar bobl ifanc yn lleol.
Bu cynnydd sylweddol mewn gweithio mewn partneriaeth a pherthnasoedd gwell gyda grwpiau Cymraeg gweithgar yn Sir Gaerfyrddin. Mae hyn wedi rhoi mwy o ffocws ar waith ieuenctid a lleisiau pobl ifanc o fewn rhwydweithiau lleol ar draws Sir Gaerfyrddin, yn enwedig yn y sector gwirfoddol a’r trydydd sector.
Cyflwynir y rhaglen i bartneriaid sector gwirfoddol gan ganolbwyntio ar gael mynediad at waith ieuenctid trwy’r Gymraeg. Mae pobl ifanc yn ymgysylltu ac yn gwirfoddoli’n weithgar yn eu cymuned leol gan hyrwyddo’r Gymraeg a mynediad at waith ieuenctid, gan rymuso pobl ifanc eraill hefyd i gymryd rhan mewn amrywiaeth eang o ymyriadau gwaith ieuenctid.
Mae’r prosiect yn parhau ac mae cyfleoedd partneriaeth wedi cynyddu yn gysylltiedig â’r cynnig gwaith ieuenctid Cymraeg i bobl ifanc.
Mae’r dolenni canlynol i’r cyfryngau cymdeithasol yn rhoi blas ar y prosiect. Ym mis Rhagfyr 2022, dyfarnwyd Gwobr Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid yng Nghymru i ni.
Adroddiad ar Sbwriel, ‘Dylunio Bin’ a Gwobr Gohebwyr Ifanc
Adroddiad ar Sbwriel a ‘Dylunio Bin’ a Gohebwyr Ifanc
Angen canfyddedig: Yn ystod cyfarfod Cyngor Ieuenctid Llanilltud, cynhaliwyd ymgynghoriad â’r bobl ifanc i lunio rhestr o syniadau ar gyfer prosiect posibl. Yn dilyn yr ymgynghoriad a nifer o drafodaethau, penderfynodd aelodau’r cyngor ieuenctid bod angen prosiect yn canolbwyntio ar y sbwriel cynyddol yn eu cymuned leol.
Cynllunio: Ar ôl nodi’r broblem, cynhaliwyd grŵp gorchwyl i lunio cynllun ar gyfer prosiect sbwriel posibl. Yn y grŵp gorchwyl, nododd y bobl ifanc nifer o fannau allweddol lle mae sbwriel yn fwyaf amlwg, a thrafodwyd y posibilrwydd o uwchraddio biniau yn eu cymuned. Cytunodd aelodau Cyngor Ieuenctid Llanilltud i gynnal ymchwiliadau sbwriel yn y mannau yr oeddent wedi’u nodi.
Ar ôl cynnal dau ymchwiliad sbwriel, gwelodd y bobl ifanc bod prinder biniau yn un o’r mannau yr oeddent wedi’u nodi. O ganlyniad, awgrymodd y bobl ifanc y dylid gosod bin yn y fan honno. Cydweithiodd aelodau’r Cyngor Ieuenctid a’r gweithiwr arweiniol wedyn i ddylunio bin a’i osod yn y fan honno.
Gwerthusiadau: Roedd cam gwerthuso’r prosiect yn cynnwys y bobl ifanc yn asesu a oedd y bin wedi lleihau faint o sbwriel oedd yn y fan honno trwy gynnal ymchwiliad sbwriel arall. Cynhaliwyd grŵp gorchwyl terfynol wedyn, lle cytunwyd bod y prosiect wedi bod yn llwyddiannus, a’u bod yn hapus iawn gyda’r datblygiadau.
Hefyd, cynhyrchodd aelodau’r Cyngor Ieuenctid adroddiad sbwriel, yn crynhoi’r prosiect sbwriel. Aeth yr adroddiad i gystadleuaeth ‘Cadwch Gymru’n Daclus - Gohebwyr Ifanc i’r Amgylchedd’. Enillodd Cyngor Ieuenctid Llanilltud y wobr gyntaf am ei adroddiad sbwriel, sef £100 a ddefnyddiwyd i dalu am bryd o fwyd i ddathlu.
Gwelwyd cynnydd yn hyder, hunan-dyb a llais y bobl ifanc o ganlyniad i’r prosiect. Trwy ymgysylltu mewn grwpiau gorchwyl, cyfarfodydd ac ymgynghoriadau ar sail gwirfoddol, roedd gan bobl ifanc lais gweithredol ar faterion sy’n effeithio arnyn nhw. Trwy gystadleuaeth ‘Cadwch Gymru’n Daclus – Gohebwyr Ifanc i’r Amgylchedd’, cafodd y bobl ifanc eu cydnabod am y rhan a chwaraeasant yn y prosiect, a chydnabyddiaeth gan sefydliadau eraill.
Hefyd, trwy neilltuo rolau a chyfrifoldebau prosiect penodol iddynt, roedd gan y bobl ifanc berchnogaeth ar y prosiect ac anogodd hyn ymgysylltiad naturiol ac ymdeimlad o rymuso. Oherwydd y rhoddwyd y rolau iddynt, anogwyd y bobl ifanc i ystyried risgiau a chanlyniadau eu gweithredoedd, gwneud penderfyniadau gwybodus a chymryd cyfrifoldeb
Trwy gydol y broses o ddatblygu’r prosiect sbwriel a’r broses o ddylunio a dod o hyd i leoliad addas i’r bin, roedd yn amlwg bod bodloni terfynau amser yn gallu bod yn broblem wrth orfod cysylltu ac ymateb i sefydliadau/cynghorau eraill.
Enghraifft o hyn oedd, ar ôl dylunio’r bin yn derfynol, anfonwyd y bin at y sefydliad oedd yn gyfrifol am brosesu’r dyluniad a chynhyrchu’r bin. Yn ystod y cam cyntaf hwn o gyfathrebu, dywedwyd y byddai’n cymryd 3-4 wythnos i greu’r bin. Aeth yr amserlen honno heibio, a chysylltwyd â’r sefydliad. Yn ei ateb, dywedodd y gallai’r bin gymryd hyd at 8-12 wythnos arall i’w gwblhau.
Achosodd hyn rwystredigaeth i Gyngor Ieuenctid Llanilltud a Chyngor Tref Llanilltud Fawr gan fod rhaid iddynt wthio’r dyddiad ar gyfer gosod y bin yn ôl. Trwy ein gwaith, dysgasom y gall amserlenni a bennwyd gan ddibynnu ar drydydd partïon gael eu gwthio’n ôl. Yn y dyfodol, pan fyddwn yn ymgymryd ag unrhyw waith lle mae angen cysylltu â sefydliadau ychwanegol, byddwn yn sicrhau ein bod yn cynllunio ar gyfer unrhyw anawsterau
Addysgol: Yn ystod camau cynnar y gwaith o ddatblygu’r prosiect, dywedodd aelodau y byddent yn hoffi dysgu mwy am effeithiau sbwriel ar yr amgylchedd. O ganlyniad, cynlluniodd y gweithiwr arweiniol ymweliadau gan siaradwyr gwadd ac ymweliad â chanolfan ailgylchu i ddatblygu dealltwriaeth y bobl ifanc am effeithiau sbwriel.
Cafodd y bobl ifanc rywfaint o ddysgu personol o’r prosiect fel y nodir isod:
Yn bersonol: Wedi ymweld â chanolfan ailgylchu ac ar ôl ymweliadau gan siaradwyr gwadd, datblygodd aelodau’r Cyngor Ieuenctid eu dealltwriaeth o effeithiau sbwriel. Trwy ddatblygu gwell dealltwriaeth o’r mater, dywedodd y bobl ifanc eu bod yn teimlo’n ddigon hyderus i gynnal sgyrsiau mewn perthynas â’r mater. Hefyd, cafodd y bobl ifanc ymdeimlad o falchder trwy ddylunio’u bin eu hunain a’i osod yn eu cymuned leol. Yn ogystal, trwy ennill £100 o gystadleuaeth ‘Cadwch Gymru’n Daclus – Gohebwyr Ifanc i’r Amgylchedd’ cafodd y bobl ifanc y cyfle i fynd am bryd o fwyd i ddathlu, rhywbeth nad oedd rhai ohonynt wedi cael y cyfle i’w wneud.
Ceir budd i’r gymuned yn ogystal. Roedd y prosiect sbwriel yn canolbwyntio ar wella’r broblem sbwriel yn y gymuned leol. Yn dilyn dau ymchwiliad sbwriel, gwelodd aelodau’r Cyngor Ieuenctid bod angen bin mewn man penodol. Bu’r bobl ifanc wedyn yn gweithio ochr yn ochr â’r gweithiwr arweiniol i ddylunio bin. Cafodd y bin ei gynhyrchu a’i osod yn y man a nodwyd gan y bobl ifanc. Roedd hyn o fudd i’r gymuned wrth i sbwriel leihau yn yr ardal gan wella’r amgylchedd.
Trwy gydol y broses o ddatblygu’r prosiect sbwriel, mae’r sefydliad (y Gwasanaeth Ieuenctid a Chyngor Ieuenctid Llanilltud) wedi elwa drwy ddatblygu eu perthynas â’r cyngor (Cyngor Tref Llanilltud Fawr). Y tref lle cynhaliwyd y prosiect.
Wrth ddylunio’r bin, gweithiodd Cyngor Ieuenctid Llanilltud mewn partneriaeth â Chyngor Tref Llanilltud Fawr i gwblhau’r dyluniad. Hefyd, rhaid oedd i’r Cyngor Ieuenctid a Chyngor y Dref gytuno ar leoliad y bin.
Ar ôl cytuno ar ddyluniad a lleoliad y bin, roedd Cyngor y Dref yn canmol y prosiect sbwriel a’r gwaith ychwanegol a gwblhawyd.
Trwy gymryd rhan ac ennill y gystadleuaeth ‘Cadwch Gymru’n Daclus – Gohebwyr Ifanc i’r Amgylchedd’, gwellwyd ymwybyddiaeth ac enw da y sefydliad, y staff a’r cyngor ieuenctid.
Mae gan Grwpiau Cynghori Ieuenctid god ymarfer sy’n sicrhau cynhwysiant, parch a chyfleoedd cyfartal i’w holl aelodau.
Nid yw’r prosiect sbwriel wedi parhau nac wedi’i ddatblygu ymhellach, gan fod y cynghorwyr ieuenctid wedi penderfynu dechrau gwaith ar brosiect arall, sef Ymgyrch Tlodi Misglwyf. Mae’r prosiect yn canolbwyntio ar ddarparu cynhyrchion ar gyfer misglwyf am ddim i bobl ifanc yn eu cymuned leol.
Er na chafodd y prosiect sbwriel ei ddatblygu ymhellach, mae angerdd y bobl ifanc dros yr amgylchedd a lleihau gwastraff yn parhau, felly roeddent yn sicrhau bod unrhyw gynhyrchion a ddarparwyd ar gyfer y misglwyf yn rhai sy’n ystyriol o’r amgylchedd.
Tlodi Misglwyf Sir Gâr
Nod y prosiect yw codi ymwybyddiaeth am dlodi misglwyf a chwalu’r stigma sy’n gysylltiedig â’r broblem hon, a darparu cynhyrchion i ysgolion a grwpiau cymunedol ar draws Sir Gaerfyrddin er mwyn ceisio sicrhau bod y cynhyrchion ar gael am ddim waeth ble mae’r lleoliad.
Nododd pobl ifanc bod tlodi misglwyf yn broblem yn Sir Gaerfyrddin o ganlyniad i bleidlais Gwnewch eich Marc. Sefydlwyd is-grŵp, a chafodd gefnogaeth aelodau etholedig. Bu’r bobl ifanc yn ymgyrchu a hysbysebu, yn denu busnesau lleol a chenedlaethol i’r achos, ac yn gyfrifol am farchnata. Cafodd y prosiect ei lansio yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Cyngor Ieuenctid.
Ar ôl i’r prosiect gael ei sefydlu, daeth grant gan Lywodraeth Cymru ac mae wedi bod yn gefnogaeth hanfodol i’r gwaith o gynnal y prosiect.
Ymgynghorwyd ag ysgolion i ganfod pa gynhyrchion oedd eu hangen ar bobl ifanc/ pa gynhyrchion oedd yn well ganddynt. Roedd y bobl ifanc yn rhan o’r prosiect a daethant yn gyfrifol am gomisiynu cynhyrchion o ganlyniad i ymgynghori.
Roedd pobl ifanc wrth wraidd y prosesau penderfynu a dosbarthu cynhyrchion.
Pobl ifanc oedd wedi dylunio’r deunyddiau marchnata ac ysgrifennu gohebiaeth, gyda chymorth gweithwyr ieuenctid.
Ar sail yr adborth a gafwyd, newidiwyd y cynhyrchion a ddefnyddiwyd y flwyddyn wedyn.
Cafodd y prosiect effaith ar bobl ifanc trwy wella’u hyder, trwy ddysgu sut i rwydweithio ac ymddwyn mewn cyfarfod gyda gweithwyr proffesiynol, aelodau etholedig a chynrychiolwyr cwmni.
Hefyd dysgasant am y prosesau sy’n berthnasol i ddylunio prosiect, ei ddatblygu, ei weithredu a’i werthuso. Ynghylch y broses tendro. Maen nhw wedi datblygu ymdeimlad o gyflawniad wrth godi ymwybyddiaeth o Dlodi Misglwyf fel anhawster wrth geisio chwalu’r stigma sy’n gysylltiedig â’r broblem.
Mae’r prosiect wedi codi proffil y Cyngor Ieuenctid, Hawliau Plant a chyfranogi yn yr Awdurdod Lleol a’r tu hwnt o fewn y gymuned.
Roedd y prosiect yn ddwyieithog ac yn mynd i’r afael â materion cydraddoldeb a hawliau dynol, gan chwalu rhwystrau a’r tabŵ sy’n gysylltiedig â materion tlodi misglwyf.
Mae’r prosiect yn weithredol o hyd ac yn parhau i fynd o nerth i nerth, gydag arian parhaus wedi’i ddynodi gan Lywodraeth Cymru yn flynyddol.
Llyfrau lloffion
Nodau’r cysyniad
- Dangos tystiolaeth o weithgareddau a chyflawniadau’r bobl ifanc.
- Cofnodi a monitro gweithgareddau, gan gynnwys adborth oddi wrth y bobl ifanc.
Defnyddir y llyfrau lloffion fel canllaw i aelodau newydd o’r clwb er mwyn arddangos pa weithgareddau a gynhelir a beth mae’r bobl ifanc yn ei ddweud amdanyn nhw.
Maen nhw hefyd yn darparu offeryn ymarfer myfyriol a ffordd o werthuso’r ddarpariaeth i’r staff ac i’r bobl ifanc.
Caiff y llyfrau lloffion eu dylunio, eu perchnogi a’u creu gan y bobl ifanc ar y ddarpariaeth fel adlewyrchiad o’u perchnogaeth ar y ddarpariaeth.
Bob wythnos mae tystiolaeth o’r gweithgareddau a gynhaliwyd, fel lluniau, gwerthusiadau, cynnyrch gwaith, taflenni adborth ac ati yn cael eu casglu, ac yna’n cael eu rhoi yn y llyfrau lloffion gan y bobl ifanc dros yr wythnosau nesaf.
Caiff y lluniau eu hargraffu a’u hychwanegu at y llyfrau lloffion gan y bobl ifanc a’r staff. Gofynnir i’r bobl ifanc beth oedden nhw wedi’i fwynhau/heb ei fwynhau a chaiff yr adborth hwn ei ychwanegu hefyd.
Wrth i’r llyfrau lloffion gael eu llenwi gyda thystiolaeth ar ffurf ffotograffau, lluniau a sylwadau, rydym yn gofyn i’r bobl ifanc gynllunio sut i gyflwyno’r dudalen, beth i’w ychwanegu a sut i gynllunio ar gyfer y sesiwn nesaf.
Fel arfer mae’r bobl ifanc eisiau edrych yn ôl arnyn nhw eu hunain a’u cyfoedion o weithgareddau blaenorol. Bydd y bobl ifanc yn aml yn dweud faint oedden nhw wedi mwynhau rhywbeth, a chaiff hyn ei fwydo’n ôl yn ystod gweithgarwch myfyrio a’i ychwanegu at y gwaith cynllunio.
Mae gweithgareddau llyfrau lloffion yn ffordd wych inni gynllunio a myfyrio gyda’r bobl ifanc. Maen nhw’n cael cyfle i fod yn greadigol a chyflwyno eu clwb nhw ym mha bynnag ffordd maen nhw’n dewis.
Rydym yn annog creadigrwydd a gwerthuso gyda’r bobl ifanc a bydd y llyfrau lloffion yn adlewyrchu hyn.
Bydd ar rai grwpiau o bobl ifanc sy’n cymryd rhan yn y gwaith o gwblhau ein llyfrau lloffion angen llawer o gymorth yn ystod y sesiwn, ond lle bo’n bosibl rydym yn rhoi cyfleoedd i fod yn annibynnol a gwneud penderfyniadau i’r rhai sy’n teimlo eu bod nhw eisiau hynny.
Mae llyfrau lloffion yn arwydd da i’r staff eu bod yn diwallu holl anghenion yr holl bobl ifanc. Mae'r bobl ifanc yn aml yn falch iawn wrth edrych yn ôl ar eu cyflawniadau a gweld pa mor dda mae eu clwb yn gwneud a beth sydd ar gael iddyn nhw os ydyn nhw’n dewis cymryd rhan.
Mae llyfrau lloffion yn offeryn myfyriol a gwerthusol parhaus, felly mae effeithiau dysgu yn cael eu cymhwyso bron ar unwaith. Wrth werthuso’r gweithgareddau gan ddefnyddio’r llyfr lloffion, ceir adborth ynghylch pa mor effeithiol yw’r gweithgaredd, sut oedd y lefelau ymgysylltu, beth ellid ei wella a beth ellid ei wneud yn well y tro nesaf.
Dros gyfnod hirach, rhoddodd y llyfrau lloffion hanes hirach o weithgareddau fel bod pobl ifanc sy’n aelodau newydd ac aelodau newydd o'r staff yn deall beth sydd wedi bod yn digwydd ynghynt. Mae hyn yn golygu y gall pawb ddysgu o unrhyw feysydd i’w gwella, stori’r ddarpariaeth a beth sydd wedi profi’n effeithiol ac wedi cael derbyniad da, a hefyd beth na chafodd dderbyniad cystal.
Er enghraifft, os nad oes llawer yn cymryd rhan yn y gweithgaredd rydym yn gwerthuso a gafodd y gweithgaredd ei anelu at y grŵp iawn, ar yr adeg iawn yn ystod y noson ac ati.
Mae'r bobl ifanc yn gallu gwerthuso a lleisio barn ynghylch sut i gyflwyno eu ffotograffau a gwerthusiadau o’u gweithgareddau. Mae hyn yn rhoi ymdeimlad o berthyn i’r clwb iddyn nhw, ac ymdeimlad ehangach o gymuned.
Mae’n eu galluogi i fod yn greadigol ac arddangos eu talent artistig. Mae’n galluogi pob person ifanc i gyfrannu i’r graddau mae’n dymuno ac yn gallu gwneud. Mae’n helpu’r bobl ifanc i ddathlu eu rôl yn y ddarpariaeth ac yn y gymuned ehangach ac yn cydnabod eu llwyddiannau.
Mae llyfrau lloffion yn rhoi ymdeimlad o gyflawniad i’r bobl ifanc ac yn atgyfnerthu llesiant. Mae edrych yn ôl trwy sesiynau hŷn yn arddangos dysgu ac yn pwysleisio eu datblygiad a’r cynnydd maen nhw wedi ei wneud trwy’r clwb.
Mae'r llyfrau lloffion yn atgyfnerthu perthnasoedd rhwng ffrindiau, yn rhoi ymdeimlad o gydlyniant y grŵp a phrofiad a rennir trwy alluogi myfyrio, taith bersonol, magu hyder a meithrin sgiliau.
Mae'r llyfrau lloffion yn cyfrannu at greu man diogel i fynd i’r afael â thrafodaethau anodd mewn ffordd gynhwysol a chadarnhaol.
Oherwydd bod y llyfrau lloffion yn broses gwerthuso a myfyrio barhaus (ac yn cael eu cadw fel copïau caled ar y safle) maen nhw’n offer allweddol i gynllunio gweithgareddau at y dyfodol yn effeithiol. Gall y staff gael dealltwriaeth yn gyflym am y bobl ifanc a natur y ddarpariaeth a’r hyn sydd wedi bod yn effeithiol o’r blaen.
Mae'r llyfrau lloffion yn ffordd wych o greu cyfleoedd a man diogel ar gyfer trafodaethau. Gall y staff a’r bobl ifanc fyfyrio ar weithdai ar faterion o bwys, er enghraifft, neu siarad am gyfnod anodd pan roedd y ddarpariaeth wedi wynebu heriau.
Maen nhw hefyd yn cynnig cyfle gwych i greu trafodaeth un i un ynghylch amrywiaeth o faterion. Gall y bobl ifanc fod yn hyderus bod yr hyn maen nhw’n ei weld ac yn ei deimlo’n iawn a bod llawer o bobl ifanc sydd wedi bod yno o’u blaen wedi profi pethau tebyg. Maen nhw’n helpu i gyfrannu at ymdeimlad o ddiogelwch a chymuned.
Mae'r llyfrau lloffion yn ffordd wych o’n hatgoffa beth rydyn ni wedi’i wneud ac yn arddangos y clwb yn ei holl ogoniant. Mae'n cynhesu’r galon i allu edrych yn ôl ar yr effaith mae’r ddarpariaeth wedi’i chael ar y bobl ifanc, y staff a’r gwirfoddolwyr.
Dyma’r hyn rydyn ni’n ei wneud, dyma sut rydyn ni’n ei wneud,
Dyma’r hyn mae’r bobl ifanc yn ei feddwl ohono
Mae'r llyfrau lloffion ynddynt eu hunain yn adlewyrchiad o’r bobl ifanc sy’n mynychu’r ddarpariaeth ac yn cael eu siapio gan y bobl ifanc fel adlewyrchiad o’u hanghenion, eu diddordebau a’u dyheadau. Yn y clwb ieuenctid LGBTQ+, mae’r llyfrau lloffion yn cyflwyno materion o bwys a gweithgareddau sy’n cynorthwyo’r bobl ifanc i ymchwilio a mynegi eu hunain mewn amgylchedd diogel. Mae’r llyfrau lloffion gofalwyr ifanc yn helpu’r bobl ifanc i ddangos sut mae’r ddarpariaeth ieuenctid yn brwydro yn erbyn problemau ynysigrwydd.
Mae digwyddiadau a gweithgareddau sydd â’r nod o hybu amrywiaeth a chynwysoldeb yn cael eu hadlewyrchu yn y llyfrau lloffion, fel gweithgareddau Dydd Gŵyl Dewi, digwyddiadau ymwybyddiaeth o hiliaeth ac ati.
Mae ar y bobl ifanc angen gwahanol lefelau o gymorth i gymryd rhan yn y broses llyfrau lloffion. Felly mae’r staff yn ymateb yn unol â hynny, ac felly’n sicrhau eu bod yn adlewyrchiad cywir o’r amrywiaeth o weithgarwch cynhwysol sy’n cael ei gynnig ar draws y gwasanaeth cyfan.
Mae'r llyfrau lloffion yn brosiectau parhaus ac yn dal i ddatblygu bob wythnos. Mae gan rai darpariaethau nifer o rifynnau o’u llyfrau lloffion eisoes. Mae'r llyfrau lloffion yn edrych yn wahanol gan ddibynnu ar natur y ddarpariaeth. Mae rhai ar ffurf dyddlyfrau, mae rhai wedi’u seilio ar ffotograffau ac mae rhai wedi’u seilio ar weithgareddau, i gyd mewn ymateb i’r bobl ifanc a sut maen nhw eisiau iddyn nhw edrych.
Mae'r llyfrau lloffion yn gopïau caled sy’n cael eu cadw yn y lleoliad.
Prosiect Perthnasoedd Iach
Mae'r Tîm Allgymorth Iechyd Rhywiol yn darparu gwasanaeth iechyd rhywiol targededig i bobl ifanc, trwy gyllid Teuluoedd yn Gyntaf, ers 2013.
- Darparu cymorth un i un a sesiynau grŵp targededig i bobl ifanc sydd mewn perygl o ran perthnasoedd iach a hawliau a chyfrifoldebau o ran ymddygiad rhywiol, gan gynnwys cyngor ar iechyd rhywiol sy’n dilyn ymarfer gorau.
- Darparu hyfforddiant a chyngor i weithwyr proffesiynol eraill sy’n gweithio gyda phobl ifanc, mewn ysgolion ac yn y gymuned, er mwyn iddynt allu darparu cymorth priodol o ansawdd da i bobl ifanc, a sicrhau y gall pobl ifanc gael cyngor a gwybodaeth ymarfer gorau mewn perthynas ag iechyd ac ymddygiad rhywiol.
- Cydweithio gyda gweithwyr proffesiynol eraill i sicrhau y gall pobl ifanc gael gwasanaethau sy’n briodol i natur a lefel eu hanghenion.
Ar hyn o bryd rydym yn darparu gwaith un i un a gwaith grŵp arbenigol targededig i bobl ifanc mewn perthynas â’u hanghenion o ran iechyd rhywiol a pherthnasoedd. Rydym yn gweithio gyda phobl ifanc un i un ac mewn grwpiau, gan ddibynnu ar yr angen, mewn gwahanol leoliadau ieuenctid yng Nghaerdydd, fel clybiau ieuenctid, darparwyr hyfforddiant, ysgolion, colegau, hosteli i bobl ifanc a sefydliadau ieuenctid eraill.
Daw atgyfeiriadau i law o bob rhan o Gaerdydd ac maen nhw’n nodi llawer o anghenion gwahanol o ran iechyd rhywiol a pherthnasoedd. Er enghraifft, risg camfanteisio rhywiol ar blant, profion beichiogrwydd, sgrinio am heintiau a drosglwyddir yn rhywiol, perthnasoedd iach, materion rhywedd a thrawsryweddol, ac enwi ond ychydig.
Mae YMCA Caerdydd yn cynnal ymagwedd amlasiantaethol at y gwasanaeth hwn er mwyn sicrhau y caiff anghenion pobl ifanc eu diwallu’n llawn, gan sicrhau bod pobl ifanc yn cael cymorth ac ymyrraeth sy’n ddiogel ac yn effeithiol ac sy’n hybu canlyniadau cadarnhaol o ran iechyd rhywiol a pherthnasoedd.
Canfuwyd yr angen am y prosiect hwn trwy ein gwaith o gydgysylltu’r Cynllun Cerdyn-C gan weithio mewn partneriaeth ag Iechyd Cyhoeddus Cymru. Gweledigaeth y Tîm Allgymorth Iechyd Rhywiol oedd llenwi’r bylchau yn y darpariaethau ar gyfer iechyd rhywiol a pherthnasoedd. Roedd pobl ifanc yn gofyn am fwy o gymorth ac mewn llawer o achosion nid oedd gan weithwyr proffesiynol y gallu, y wybodaeth benodol neu’r hyder i’w ddarparu yn eu swyddi. Roedd y bobl ifanc yn ganolog yn y gwaith o nodi’r angen am gymorth un i un penodol a chymorth i gael mynediad i wasanaethau iechyd rhywiol lleol fel Adran Iechyd Rhywiol y GIG.
Creodd pobl ifanc y logo ar gyfer y prosiect trwy gystadleuaeth i Gaerdydd gyfan mewn partneriaeth â Phartneriaeth Pobl Ifanc Caerdydd. O’r dechrau mae ymagwedd sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn wedi bod yn sylfaenol ac mae pobl ifanc wedi siapio’r prosiect ac yn parhau i wneud hynny.
Mae pobl ifanc yn cael eu cynnwys o’r cyfarfod cychwynnol, gyda’r gwaith o gynllunio sesiynau, lleoliadau, hyd sesiynau a’r amserlen. Caiff pob sesiwn ei adolygu ar lafar a/neu mewn ysgrifen a gall pobl ifanc fyfyrio ar eu dysgu a chynllunio ar gyfer y sesiwn canlynol gyda’u gweithiwr allgymorth. Ar ddiwedd yr ymyrraeth mae pob person ifanc yn cwblhau gwerthusiad, mae eu mewnbwn yn bwydo i mewn i’r prosiect gan ein bod ni’n monitro a gwerthuso’r gwasanaethau yn ddi-baid er mwyn sicrhau eu bod nhw’n diwallu anghenion pobl ifanc yn y modd gorau. Mae pob person ifanc yn cwblhau asesiad cychwynnol fel yr Ysgol Canlyniadau ar ddechrau’r ymyrraeth, sy’n cael ei adolygu ar ôl 6 sesiwn ac yn y sesiwn olaf. Mae hyn yn caniatáu inni ganfod y pellter a deithiwyd o ran dysgu a hefyd canfod unrhyw feysydd gwaith ychwanegol, neu lwybrau i gyfeirio atynt.
Caiff yr holl ddata eu cofnodi ar ein system Cofnod Elusen er mwyn inni allu tracio ymgysylltiad, cynnydd a gwerthusiadau unigol y gwasanaeth. Caiff pob cysylltiad ei gofnodi, ac mae’r wybodaeth hon yn darparu data pwysig sy’n ein galluogi i fonitro a gwerthuso’n barhaus.
Mae pobl ifanc wedi chwarae rhan weithredol yn y cynllun Cerdyn-C o’r camau cyntaf. Gellir cadarnhau eu cyfranogiad trwy bleidleisio ar ddewis o frand condom, penderfynu ar leoliadau hygyrch a dylunio deunyddiau hyrwyddo. Mae pobl ifanc yn cael cyfle i gyfrannu at ymgynghoriad blynyddol, sy’n bwydo’n uniongyrchol i mewn i’r gwaith o ddatblygu’r cynllun.
Mae ein gwaith ieuenctid wedi’i seilio ar 5 colofn gwaith ieuenctid ac mae’n unol â’r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Gwaith Ieuenctid.
Mae'r tîm yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau ac ymagweddau wrth weithio gyda phobl ifanc, gan fod pob person ifanc yn wahanol, gydag anghenion, dulliau dysgu a chefndiroedd gwahanol. Ond yr ymagwedd sylfaenol yw cyfranogiad gwirfoddol, canolbwyntio ar yr unigolyn a dan arweiniad y defnyddiwr. Rydym wedi bod yn fodlon ymaddasu ac yn hyblyg ac yn cael ein llywio gan anghenion pobl ifanc. Mae'r prosiect yn un allgymorth ei natur, ac rydym yn gweithio mewn llawer o leoliadau gwahanol, fel yr ysgol, y cartref a’r gymuned, yn bennaf un i un ond rydym hefyd yn darparu sesiynau grŵp. Rydym yn darparu dysgu ffurfiol, heb fod yn ffurfiol ac anffurfiol. Rydym yn annog pobl ifanc i ymgysylltu mewn dysgu gweithredol a myfyriol, i gymryd rhan yn eu proses dysgu eu hunain a gwreiddio eu dysgu mewn sefyllfaoedd bywyd go iawn.
Mae gwersi wedi cael eu dysgu. Er enghraifft, rydym bob amser wedi cynnig amserlen ymgysylltu hyblyg ac nid ydym erioed wedi gosod terfyn ar ymyrraeth, ond yn ystod un cam roedd gennym restr aros hir a cheisiasom gynnig ymyrraeth fwy strwythuredig. Ceisiasom ddarparu ymyrraeth 6 sesiwn, ond yr hyn a ganfuom oedd, oherwydd anghenion amrywiol pobl ifanc a phwysigrwydd meithrin perthynas o ymddiriedaeth oherwydd natur y gwaith dan sylw, nad oedd hyn yn ymarferol i lawer o bobl ifanc. Mae ar rai angen mwy o amser, mae ar rai angen i’r dysgu gael ei ddarparu mwy nag unwaith ac mewn ffyrdd gwahanol er mwyn galluogi dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth effeithiol a gallu effeithiol i ddefnyddio’u dysgu mewn sefyllfaoedd bywyd go iawn. Felly yn fuan aethom yn ôl at amserlen ddiderfyn ar gyfer ymyrraeth.
Enghraifft arall yw bod anghenion pobl ifanc wedi datblygu, cyn COVID ond yn fwyfwy yn ystod cyfnod y cyfyngiadau symud. Diogelwch ar-lein ac ymwybyddiaeth o ymddygiad ar-lein peryglus a ddaeth yn rheswm pennaf am atgyfeiriadau, yn arbennig o ran anfon delweddau anweddus. Felly, er ein bod ni’n ceisio gweithio’n rhagweithiol, mae angen hefyd inni ymateb i newidiadau yn yr amgylchiadau a’r materion o bwys sy’n effeithio ar bobl ifanc.
Bob wythnos rydym yn adolygu atgyfeiriadau newydd ac yn edrych ar faterion cyffredin, yn trafod beth mae pobl ifanc yn ei ddweud ac yn edrych ar sut y gallwn ymaddasu a newid er mwyn rhoi’r cymorth gorau i bobl ifanc, teuluoedd a gwasanaethau eraill.
Mae'r gwasanaeth yn sicrhau darpariaeth briodol i’r grwpiau blaenoriaethol canlynol:
- Pobl ifanc sy’n wynebu risg camfanteisio rhywiol ar blant
- Pobl ifanc sy’n dangos ymddygiad rhywiol amhriodol
- Pobl ifanc sy’n derbyn neu sydd ar fin derbyn gofal, a rhai sy’n gadael gofal
- Pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant
- Pobl ifanc anabl (anableddau corfforol, synhwyraidd a dysgu)
- Pobl ifanc â phroblemau emosiynol a phroblemau iechyd meddwl
- Pobl ifanc sy’n ystyried eu hunain yn LGBT+
Ar lefel bersonol gall pobl ifanc ddatblygu mwy o ymwybyddiaeth o berthnasoedd; trwy ddeall perthnasoedd iach ac adnabod rhwystrau personol neu wella eu hymwybyddiaeth o ymddygiadau / nodweddion afiach maent yn cael eu grymuso i wneud dewisiadau da drostynt eu hunain, magu hyder a bod yn fwy hunan-ymwybodol. Gall hyn hefyd gael effaith gadarnhaol ar berthnasoedd gyda ffrindiau a theuluoedd.
Mae meithrin mwy o ddealltwriaeth o risg yn rhoi buddion mawr i’r unigolyn gan y gall ystyried sefyllfaoedd, ymddygiadau a gweithredoedd yn nhermau risg ac unwaith eto mae’n cael ei rymuso i wneud dewisiadau sy’n ei gadw’n fwy diogel. Mae hyn yn cael effaith gadarnhaol ar y teulu, y gymuned ehangach, pobl ifanc eraill a gwasanaethau eraill. Mae gwybodaeth am iechyd rhywiol o fudd i’r unigolyn a phobl ifanc eraill ac yn cael effaith gadarnhaol ar wasanaethau iechyd rhywiol lleol. I bobl ifanc, mae bod â rhywun i’w cynorthwyo a’u cynghori gyda gwybodaeth gywir a chyfredol, cynnig lle diogel i edrych ar bynciau sensitif, gofyn cwestiynau a chael gwybodaeth yn fuddiol iddyn nhw ym mhob ffordd.
Mae natur un i un anffurfiol y gwasanaeth nid yn unig o fudd i bobl ifanc, ond i wasanaethau eraill hefyd. Nid oes unrhyw brosiect arall yn lleol sy’n cynnig cymorth penodol o’r math hwn ac o ganlyniad mae gwasanaethau plant a darparwyr addysg ac iechyd yn cael budd o allu atgyfeirio pobl ifanc y teimlant fod angen y cymorth targededig hwn arnynt.
Mae ein gwaith adrodd yn dangos, o’r 31 o bobl ifanc yr ydym wedi cwblhau ymyrraeth gyda nhw yn y chwarter diwethaf;
Bod 100% wedi rhoi sgôr dda neu ardderchog i’r Tîm Allgymorth Iechyd Rhywiol
Bod 100% wedi cael y gweithwyr o gymorth ac yn hawdd mynd atynt
Bod 100% wedi cael eu hatgyfeirio’n briodol at wasanaethau iechyd rhywiol perthnasol
Profiad o gynorthwyo pobl ifanc gydag anghenion o ran perthnasoedd iach ac iechyd rhywiol. Y buddion i’r staff, sefydliad a gwirfoddolwyr yw bod gweithio partneriaethol ac amlasiantaethol yn hollbwysig yn y prosiect hwn, felly rydym yn meithrin perthnasoedd gweithio agos gyda sefydliadau proffesiynol eraill fel iechyd, gwasanaethau plant, yr heddlu ac athrawon. Rydym wedi gweithio mewn partneriaeth gyda Gwasanaethau Plant Cyngor Caerdydd, gwasanaeth ThinkAgain!, Promo Cymru, SwitchedOn a Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd, ac enwi ond ychydig. Rydym yn mynd i ddigwyddiadau dros dro, ffeiriau Glasfyfyrwyr a diwrnodau ABCh ysgolion. Rydym yn darparu sesiynau gwaith un i un a gwaith grŵp ac mae pob diwrnod yn amrywiol. Mae hyn ynddo ei hun yn cynnig datblygiad proffesiynol parhaus i’r staff a gwirfoddolwyr. Rydym yn cymryd pobl ar leoliadau o gwrs gradd Gwaith Ieuenctid a Chymunedol Prifysgol Caerdydd. Gall hyn fod o fudd i’r unigolyn gan ei fod yn cynnig golwg ar waith ieuenctid targededig a phenodol ynghylch iechyd rhywiol a pherthnasoedd.
Mae'r prosiect wedi cael ei enwebu ar gyfer un o Wobrau Materion Ieuenctid YMCA ac aeth i’r rownd derfynol. Enillodd y Grŵp Llywio Camfanteisio Rhywiol ar Blant Wobr Rhagoriaeth a hefyd Gwobr am Ymgysylltu ac Ymchwilio Eithriadol i Ddiogelu Plant oddi wrth y Bwrdd Diogelu Plant Rhanbarthol. Mae cael y gydnabyddiaeth hon yn hwb enfawr i forâl y staff a gwirfoddolwyr sydd wedi cymryd rhan ac yn ysgogiad mawr i’r holl staff, iddyn nhw eu hunain a’r bobl ifanc maen nhw’n gweithio gyda nhw.
Mae'r Gwasanaeth yn ystyried yr egwyddorion arweiniol canlynol ar gyfer gwasanaethau Teuluoedd yn Gyntaf yn ei drefniadau cyflenwi:
- Canolbwyntio ar y teulu – dylai gwasanaethau fabwysiadu ymagwedd teulu cyfan at wella canlyniadau
- Pwrpasol – dylai gwasanaethau gael eu teilwra i amgylchiadau’r teulu unigol
- Grymusol – dylai gwasanaethau geisio grymuso teuluoedd i gymryd rheolaeth dros eu bywydau, er mwyn rhoi iddynt fwy o ymdeimlad o berchnogaeth a buddsoddiad yn eu canlyniadau
- Integredig – dylai gwasanaethau gael eu cydgysylltu a’u cynllunio’n effeithiol er mwyn sicrhau symud di-dor i deuluoedd rhwng gwahanol ymyriadau a rhaglenni
- Dwys – rhaid cynnal ymagwedd egnïol a ffocws diwrthdro a all ymaddasu i newidiadau yn amgylchiadau teuluoedd
- Lleol – dylai gwasanaethau fynd i’r afael ag anghenion cymunedau lleol a, lle bo modd, chwilio am gyfleoedd i gysylltu â rhaglenni lleol eraill, gan gynnwys Dechrau’n Deg a Chefnogi Pobl
- Rhagweithiol – ceisio canfod angen yn gynnar a sicrhau ymyriadau priodol mewn modd amserol
- Cynaliadwy – dylai gwasanaethau geisio darparu datrysiadau cynaliadwy hirdymor bob amser. Dylent geisio mynd i’r afael ag achosion sylfaenol problemau ac nid dim ond y symptomau, er mwyn galluogi teuluoedd i barhau i wneud cynnydd ar ôl i’r ymyriad ddod i ben.
Partneriaeth Torfaen Hwb Gwasanaeth Ieuenctid Torfaen
Nod: Cydweithredu gyda’r gorau yn y sector statudol a’r trydydd sector i ddarparu cyfleoedd gwaith ieuenctid i bobl ifanc mewn ardal ynysig sy’n wynebu amddifadedd economaidd yn Nhorfaen.
Ein rhanddeiliaid: Mae'r bobl ifanc yn ganolog i’r gwaith o gynllunio a datblygu’r prosiect ac mae gan bob agwedd ar y prosiect grwpiau o bobl ifanc yn gwirfoddoli ac yn llywio a chynllunio’r ddarpariaeth. Mae hyn yn cynnwys:
Clwb ieuenctid mynediad agored – mae’r bobl ifanc yn cynllunio’r rhaglen gyflenwi, yn cynllunio meini prawf y sesiynau ac yn gosod paramedrau fel noson iau a noson hŷn. Mae'r bobl ifanc yn cynllunio rhaglenni haf a gwyliau. Mae'r bobl ifanc yn cyfrannu at anghenion y gymuned.
Maen nhw hefyd yn cyfrannu at y gwaith o ddatblygu prosiectau a darpariaeth, fel:
Prosiectau –
- Mae aelodau hŷn a phobl ifanc sy’n brentisiaid yn helpu i siapio cynigion a rhaglenni gwaith sydd wedi arwain at ddarparwyr hyfforddiant yn cynnig rhaglenni pwrpasol i bobl ifanc.
- Grwpiau ieuenctid penodol i bobl ifanc sy’n profi gofal.
- Rhaglen llysgenhadon ieuenctid i annog gwirfoddolwyr i ddathlu’r safle treftadaeth y byd lle maen nhw’n byw.
- Mae'r bobl ifanc wedi cynllunio a chyflwyno cais am gyllid ar gyfer prosiect iechyd meddwl ffotograffiaeth greadigol.
- Mae'r bobl ifanc wedi arwain a chynllunio rhaglen (mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan) i gynorthwyo’r bobl ifanc â diabetes i bontio o’r gwasanaeth plant i’r gwasanaeth oedolion.
- Mae'r bobl ifanc wedi dechrau ac arwain (mewn partneriaeth â Greggs) raglen rhannu bwyd sy’n cynorthwyo teuluoedd sy’n wynebu caledi ariannol.
Mae gan Dorfaen un o’r poblogaethau mwyaf o bobl ifanc sydd wedi profi gofal yng Nghymru. Mewn ymateb i hyn sefydlwyd grŵp plant sy’n derbyn gofal (Care Busters) mewn ymgynghoriad â phobl ifanc, ac mae’n darparu amrywiaeth o gymorth a gweithgareddau.
Cyfranogol a Grymusol – aeth nifer o bobl ifanc a ddechreuodd trwy fynychu’r ddarpariaeth ieuenctid ymlaen i fod yn aelodau hŷn, wedyn yn brentisiaid a nawr maen nhw’n cael eu cyflogi llawn amser gan y gwasanaeth ieuenctid a’r Hwb. Maen nhw i gyd yn gweithio tuag at gael gradd mewn gwaith ieuenctid. Mae llawer o'r bobl ifanc hyn bellach yn arwain y ddarpariaeth yn yr ardal a thrwy’r prosiect. Mae'r grŵp Llysgenhadon Ieuenctid yn dylanwadu ar sector cenedlaethol treftadaeth y byd fel enghraifft flaenllaw o sut i ennyn diddordeb pobl ifanc mewn safleoedd treftadaeth y byd.
Mynegiannol a Chynhwysol – mae’r amrywiaeth o wasanaethau sydd ar gael yn darparu ar gyfer amrywiaeth fawr o anghenion cymunedol; cymorth â chyflogaeth ôl-16, prosiect rhieni ifanc, darpariaeth mynediad agored, chwaraeon iechyd meddwl a rhaglenni llesiant a chymorth i bobl ifanc ag anableddau ac ati. Mae'r cwbl yn bosibl oherwydd yr hyblygrwydd wrth ymateb i anghenion o ganlyniad i’r bartneriaeth rhwng y sector statudol a’r trydydd sector.
Addysgiadol – mae’r bartneriaeth yn cynnig amrywiaeth o brofiadau addysgiadol trwy brosiect cyfnewidiadau â safleoedd treftadaeth byd eraill, meithrin sgiliau cymdeithasol ac annibyniaeth trwy waith ôl-16, clwb ieuenctid, cyfleoedd gwirfoddoli. Mae'r ddarpariaeth hefyd yn cynnal gwaith mewn ysgolion i bobl ifanc feithrin amrywiaeth o sgiliau emosiynol a chymdeithasol mewn lleoliadau gwaith ieuenctid gyda gweithwyr ieuenctid cymwysedig.
Daeth y prosiect i fod oherwydd angen a nodwyd gan bobl ifanc o ganlyniad i fyw mewn cymuned ynysig. O’r herwydd partnerodd Gwasanaeth Ieuenctid Torfaen gyda Hwb Torfaen i wneud y mwyaf o’r adnoddau ffisegol oedd gan y gwasanaeth ieuenctid (adeiladau, cerbydau ac ati) a gallu hyblyg yr Hwb i fanteisio ar adnoddau eraill (cynigion, prosiectau cenedlaethol ac ati). O ganlyniad cafodd gweithgareddau ieuenctid eu cyfuno mewn rhai achosion ac mewn achosion eraill eu cydgysylltu ac yn hytrach na bod angen i’r bobl ifanc oresgyn rhwystrau cysylltiedig ag ynysigrwydd, daethpwyd â’r ddarpariaeth a’r adnoddau atyn nhw.
Trwy werthuso a chyfranogiad parhaus, sy’n ganolog i’r holl weithgarwch, mae’r bobl ifanc wedi adnabod a chynllunio yn barhaus raglenni sydd wedi achosi i werth £500,000 o adnoddau fynd i mewn i weithgareddau ac adnoddau gwaith ieuenctid yn y pum mlynedd ddiwethaf.
Trwy gyfnod y pandemig COVID mae’r bobl ifanc sy’n cael trafferth gydag ynysigrwydd a diffyg cyfleusterau clwb ieuenctid wedi cydgynllunio rhaglen i feithrin eu sgiliau ffotograffiaeth trwy fynd allan i’r awyr agored a darlunio’r natur a’r harddwch o’u cwmpas. Trwy hyn gallai gweithwyr ieuenctid gynorthwyo â’u problemau iechyd emosiynol ac iechyd meddwl.
Yn ddiweddar nododd y bobl ifanc bod yr angen am fan diogel, derbyngar ac ag adnoddau da yn flaenoriaeth iddynt. O’r herwydd mae gwerth £200,000 o gyllid wedi cael ei sicrhau i adnewyddu’r ganolfan ieuenctid. Dim ond oherwydd natur unigryw’r bartneriaeth yr oedd hyn yn bosibl.
Mae'r bobl ifanc wedi elwa ar y bartneriaeth hon mewn nifer o ffyrdd.
Yn bersonol – mae pobl ifanc 11-25 oed wedi cael mwy o fynediad at weithwyr ieuenctid proffesiynol i’w cynorthwyo gydag amrywiaeth o faterion personol. Mae'r bobl ifanc wedi cael man diogel mynediad agored i wneud ffrindiau, cwrdd â phobl ifanc newydd a meithrin eu golwg ar y byd a safbwynt moesol/moesegol ar amrywiaeth o ffactorau. Mae'r bobl ifanc wedi gallu cael cymorth penodol mewn cysylltiad â’u hamgylchiadau personol fel cymorth gyda hyfforddiant a chyflogaeth, gwirfoddoli a datblygiad gyrfa, a chymorth i oresgyn rhwystrau ariannol.
Yn gymdeithasol – mae’r bobl ifanc wedi cyfrannu at fentrau ar draws y gymuned i hybu gwaith pontio’r cenedlaethau, mynd i’r afael â stereoteipiau negyddol o bobl ifanc a chymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n hybu eu hamgylchedd. Mae'r bobl ifanc wedi cael profiadau preswyl, wedi rhoi cynnig ar weithgareddau grŵp newydd ac wedi meithrin eu sgiliau cymdeithasol.
Yn addysgol – mae’r bobl ifanc sy’n manteisio ar y ddarpariaeth yn gallu meithrin amrywiaeth o sgiliau, o sgiliau byw sylfaenol mewn lleoliad clwb ieuenctid fel coginio pryd o fwyd i leoliad lefel gradd a chymorth goruchwyliaeth a DPP parhaus fel aelodau cyflogedig o’r staff.
Y gymuned – mae’r bobl ifanc wedi hyrwyddo statws safle treftadaeth y byd y gymuned trwy ddod yn llysgenhadon ieuenctid hyfforddedig. Mae'r bobl ifanc yn cyfrannu ar gynghorau cymuned a gweithgorau cymunedol, yn eistedd arnyn nhw ac yn rhoi cyflwyniadau iddyn nhw. Mae'r bobl ifanc yn cynllunio ac yn arwain gweithgareddau bob blwyddyn mewn digwyddiadau fel Diwrnod Treftadaeth y Byd ac wedi meithrin cysylltiadau gyda chartrefi gofal lleol er mwyn hybu gwaith pontio’r cenedlaethau.
Staff - mae cyfleoedd cyflogaeth i’r staff wedi cael eu cynnig trwy’r prosiect. Mae'r staff wedi gallu gweithio ar brosiectau partneriaethol amlasiantaethol trwy’r ddarpariaeth. Mae'r staff wedi gallu meithrin sgiliau llunio cynigion, sgiliau arweinyddiaeth a sgiliau rheoli prosiect trwy’r prosiect.
Gwirfoddolwyr – mewn modd tebyg i’r staff a chan gynnwys cyfleoedd i ddatblygu eu gwybodaeth o waith ieuenctid, amrywiaeth a gwahaniaeth yn y sector a’r cryfderau mae pob un yn dod â nhw. Y cyfle i gymryd rhan yn y ddarpariaeth leol trwy Hwb a hefyd darpariaeth ledled Torfaen trwy’r gwasanaeth ieuenctid a’i bartneriaid.
Ceisir cael gwybod beth yw anghenion, rhwystrau a disgwyliadau unigol pobl ifanc trwy waith parhaus i feithrin perthnasoedd, ymgynghori a meithrin cysylltiadau cymunedol. Trwy hynny gellir canfod anghenion a rhwystrau a chynnig rhaglenni cymorth i gynorthwyo â chymryd rhan mewn gweithgareddau ieuenctid. Lle bo’n berthnasol mae cymorth pwrpasol wedi cael ei ddatblygu i bobl ifanc, mae cymorth pontio a darpariaeth gynhwysol wedi cael eu datblygu, yn ogystal â chymorth i fanteisio ar wasanaethau mynediad agored.
Aethpwyd i’r afael â rhwystrau ariannol trwy sicrhau cyllid a defnyddio adnoddau a rennir yn dda. Caiff y defnydd o’r Gymraeg ei hybu wrth i weithwyr ieuenctid sy’n siarad Cymraeg gymryd rhan yn y gwaith o ddarparu gwasanaethau.
Mae rhwystrau cymdeithasol ac economaidd wedi cael eu lleihau trwy ddarparu trafnidiaeth a gweithio mewn partneriaeth â darparwyr hyfforddiant i ddod â’r gwasanaeth at y bobl ifanc yn yr ardal ac mae cyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau newydd wedi cynyddu.
Erbyn hyn mae’r bartneriaeth yn agwedd ar y Gwasanaeth Ieuenctid a’r Hwb sy’n cael ei hariannu’n ganolog a thrwy grant. Mae rhaglenni hyfforddiant, dyletswyddau iechyd a diogelwch a rheoli llinell a goruchwyliaeth staff i gyd yn cael eu rhannu ar draws y ddarpariaeth. Gwnaeth yr Hwb gais llwyddiannus i reoli canolfan gymunedol fwy yn rhan ddeheuol Torfaen ac o’r herwydd mae cronfa ehangach o adnoddau ac arbenigedd i sicrhau parhad gwasanaethau i’r bobl ifanc yn yr ardal.
Sesiynau ffitrwydd a lles rhithwir
Sesiwn lles rhithwir a gynhaliwyd bob wythnos o fis Ionawr i fis Ebrill 2021 oedd ‘Cymhelliad Dydd Llun’.
Nodasom yr angen am y prosiect hwn trwy drafodaethau gyda phobl ifanc a ddywedodd faint yr oedden nhw’n gweld eisiau sesiynau ffitrwydd gyda ni, nid yn unig ar gyfer iechyd corfforol ond hefyd ar gyfer eu lles meddyliol. O ganlyniad i’r adborth hwn ac wrth i Gymru wynebu cyfnod arall o gyfyngiadau symud ym mis Ionawr 2021, datblygasom sesiwn lles ar-lein lle byddai pobl ifanc yn:
- Cael eu cyflwyno i feysydd y “Pum Ffordd at Les”
- Cymryd rhan mewn gweithgareddau o gwmpas y Pum Ffordd at Les
- Cyflawni sesiwn ymarfer corff ar-lein gyda’i gilydd
- Cynorthwyo pobl ifanc i gysylltu â’i gilydd ar adeg pan nad oedd cyswllt wyneb yn wyneb yn cael ei ganiatáu.
Bob wythnos, roedd pobl ifanc yn cymryd rhan mewn gweithgaredd ar lein wedi’i seilio ar un o’r 5 maes.
Byddai her yn cael ei gosod iddyn nhw ei chyflawni gartref ar sail y maes hwnnw. Byddai’r gweithgaredd ymarfer corff ar-lein a ddarparwyd yn ystod y sesiwn hefyd yn cael ei lwytho i fyny i’n platfformau cyfryngau cymdeithasol fel fideo i bobl ifanc barhau i’w ddefnyddio gartref rhwng ein sesiynau ar-lein.
Nod cyffredinol y sesiynau hyn oedd rhoi cyfle i bobl ifanc wneud ymarfer corff a chymryd rhan mewn gweithgareddau i gynnal eu hiechyd a’u lles trwy gyfnod y cyfyngiadau symud caeth.
Roedd galwadau cymorth gyda phobl ifanc a rhieni yn rhoi cyfle inni wrando arnyn nhw. Roedd hyn yn caniatáu inni ddeall pa ddarpariaethau ar-lein yr oedd eu hangen a phryd. Wedyn cynhaliwyd ymgynghoriad ynghylch sesiynau.
Yn ystod “Wythnos Iechyd Meddwl Plant”, buom yn canolbwyntio ar sut y gallai pobl ifanc a rhieni ‘fynegi eu hunain’ i helpu i gynnal, amddiffyn a gwella eu hiechyd meddwl. Hefyd roedd grŵp o bobl ifanc yn rhan o Grŵp Llywio ar-lein ar Grantiau Ieuenctid Cyllidebu Cyfranogol i helpu i nodi a phenderfynu ar gyllid ar gyfer prosiectau mewn ardal leol. (Erbyn hyn mae un person ifanc a gymerodd ran wedi mynd ymlaen i ennill gwobr gwirfoddolwr ifanc y flwyddyn Cyngor Tref Bae Colwyn.)
Cafodd y clybiau ieuenctid rhithwir eu cynllunio a’u gwerthuso gan bobl ifanc, gan gynnwys Gofalwyr Ifanc Conwy. Roedden nhw wedi dweud beth yr hoffen nhw ei wneud nesaf ac yn sgil hynny darparwyd amrywiaeth o sesiynau. Gallem weld bod COVID-19 yn effeithio ar iechyd a lles pobl ifanc. Cynaliasom sesiynau lles rhithwir iddyn nhw yn ymdrin â phynciau fel Amser i chi, Delwedd corff/sôn am y corff, Iechyd meddwl a maethiad. Cafodd grwpiau rhithwir ychwanegol eu creu i gynorthwyo pobl ifanc oedd eisiau aros yn egnïol ar sail eu hangen dynodedig.
Mae Gwasanaeth Ieuenctid Conwy wedi dangos arloesedd, gwydnwch a dyfeisgarwch yn ystod blwyddyn eithriadol o anodd. Efallai bod ein gwaith wyneb yn wyneb wedi newid yn ddirfawr, ond ni newidiodd ein gwaith ieuenctid. Gwnaethom barhau i gynorthwyo pobl ifanc rhwng 11 a 25 oed yng Nghonwy, gan gyfrannu at wella eu lles, eu hyder a’u hunan-dyb ac ar yr un pryd rhoi iddyn nhw ragor o gyfle i gymryd rhan mewn gwahanol brosiectau ar-lein oedd yn canolbwyntio ar wella eu hiechyd a’u lles. Oherwydd inni gynnal y cysylltiad hwn a darparu’r cymorth hwn, parhaodd pobl ifanc i ymgysylltu â ni.
Roedd ein sesiynau ar-lein yn ddiogel ac yn hygyrch i bobl ifanc eu mynychu, ac yn caniatáu iddyn nhw gymryd rhan yn llawn ac yn effeithiol ac i gael eu grymuso i feddwl yn wahanol. Roedd y sesiynau hefyd yn gynhwysol ac yn rhoi cyfle i bobl ifanc leisio’u barn am ba agwedd ar iechyd, ffitrwydd a lles yr hoffen nhw ganolbwyntio arni. Roedd hyn yn eu galluogi i fod yn greadigol ac yn arloesol yn eu syniadau.
Fel gwasanaeth rydym wir yn gwerthfawrogi barn ac adborth y bobl ifanc sy’n mynychu ein sesiwn. Roedd eu cyfraniad yn werthfawr a helpodd i ddatblygu’r prosiect dros amser.
Pan ddechreuasom brosiect rhithwir ‘Cymhelliad Dydd Llun’, anogasom y bobl ifanc oedd yn cymryd rhan i gadw eu camerâu ar waith yn ystod y rhan ymarfer corff. Roedd hyn yn bennaf er mwyn inni sicrhau bod y bobl ifanc yn ddiogel. Fodd bynnag, yn fuan gwnaethom sylweddoli fod llawer o’r bobl ifanc yn teimlo’n hunanymwybodol wrth wneud ymarfer corff gyda’r camerâu ar waith, ac o ganlyniad nid oedden nhw’n cael buddion llawn y sesiwn. Gwrandawsom ac addasu’r ddarpariaeth. Anogasom y bobl ifanc i gadw eu meicroffonau ar waith rhag ofn bod arnyn nhw angen unrhyw help, a holasom bawb yn ystod seibiannau rheolaidd i wneud yn siŵr eu bod nhw’n hapus.
Wrth i’r prosiect fynd rhagddo, gofynasom i’r bobl ifanc arwain ar y penderfyniadau ar fformat yr ymarfer corff bob wythnos. Gofynasom am eu hadborth, beth roedden nhw’n ei fwynhau a beth roedden nhw eisiau ei gyflawni a gwnaethom y newidiadau hynny i’r sesiynau wrth fynd ymlaen. Defnyddiasom eu hadborth i wella’r fideos ymarfer corff wythnosol yr oeddem yn eu postio ar ein platfformau ar y cyfryngau cymdeithasol, er mwyn annog mwy o bobl ifanc i fod yn egnïol yn ystod cyfnod y cyfyngiadau symud.
Rwy’n credu bod y prosiect hwn wedi bod o fudd enfawr i’r bobl ifanc a gymerodd ran ynddo. Gyda mwyfwy o bryderon ynghylch y ffordd yr oedd y cyfyngiadau symud yn effeithio ar iechyd meddwl a lles pobl ifanc, arweiniodd y prosiect at amrywiaeth fawr o fuddion i’r bobl ifanc a gymerodd ran ynddo.
O safbwynt cymdeithasol roedd pobl ifanc yn gallu cyfarfod yn rhithwir gyda phobl ifanc eraill oedd yn awyddus i gymryd rhan mewn gweithgareddau i gynnal eu hiechyd a’u lles trwy gydol cyfnod y cyfyngiadau symud. Roedd brwdfrydedd ac ymroddiad y bobl ifanc yn gwneud y clwb rhithwir yn lle gwirioneddol gadarnhaol i fod yn ystod cyfnod o ansicrwydd.
Yn addysgol ac yn bersonol, dysgodd pobl ifanc am y Pum Ffordd at Les a rhoddwyd i bobl ifanc yr offer i gynnal eu lles eu hunain trwy gydol cyfnod y cyfyngiadau symud. Dywedodd un person ifanc ar ddiwedd y sesiynau:
‘Yn ystod cyfnod y cyfyngiadau symud gwnaeth imi weld pobl a chwerthin a dysgais i lawer am fywyd’
Rhoddodd rhieni adborth gwirioneddol gadarnhaol am y rhaglen. Nododd un fam fod hyn ‘yn union’ beth yr oedd ei angen ar ei phlentyn gan ei bod yn pryderu mwyfwy am faint o amser yr oedd ei phlentyn yn ei dreulio ar ei ben ei hun yn ei ystafell wely a chyn lleied o ymarfer corff yr oedd ei phlentyn yn ei wneud yn ystod cyfnod y cyfyngiadau symud
Roedd y sesiynau rhithwir yn ffordd newydd o weithio i’r gwasanaeth. Bu’n rhaid inni ddysgu sut i ymgysylltu â phobl ifanc yn rhithwir, sut i ddarparu sesiwn oedd yn hwyl ac yn ennyn diddordeb, ac ar yr un pryd dal i roi’r un gefnogaeth ag y byddem pe baem ni’n cyfarfod wyneb yn wyneb. Er bod hyn yn heriol iawn, mae gorfod dysgu i addasu ein gwasanaeth heb beryglu ein safonau wedi bod o fudd mawr i ni fel staff ac i’r gwasanaeth. Erbyn hyn gallwn gynnig sesiynau rhithwir sy’n addysgu ac yn annog pobl ifanc i fuddsoddi amser yn eu lles. Er ein bod ni’n mynd yn ôl at sesiynau wyneb yn wyneb, mae’r sesiynau rhithwir yn dal i fod yn rhan bwysig o’n darpariaeth.
Oherwydd llwyddiant y prosiect, rydym wedi cynnwys ymarfer corff yn ein rhaglen lles i’n staff, gan ddarparu dosbarthiadau ffitrwydd ar-lein wythnosol sy’n hybu amser i ffwrdd o liniaduron yn ystod y dydd ac yn atgoffa’r staff i fuddsoddi amser yn eu lles eu hunain.
Prif themâu’r prosiect hwn oedd cynnal iechyd meddwl a lles pobl ifanc trwy weithgarwch corfforol a dysgu. Roedd cyflawni gweithgareddau’n deillio o’r Pum Ffordd at Les yn caniatáu inni ddarparu amrywiaeth fawr o sesiynau i godi ymwybyddiaeth pobl ifanc o wahanol bynciau. Er enghraifft, er mwyn hybu cydraddoldeb ac amrywiaeth un wythnos dysgasom sut i arwyddo, ac wythnos arall dathlasom wythnos niwroamrywiaeth. Roedd siaradwyr Cymraeg a rhai nad ydynt yn siarad Cymraeg yn cymryd rhan yn y sesiynau, felly cafodd y sesiynau eu darparu’n ddwyieithog gan ganiatáu i bobl ifanc gyfathrebu trwy eu dewis iaith. Hefyd roeddem wedi sicrhau bod modd addasu’r ymarferion corfforol, gan eu gwneud yn hygyrch ac yn gynhwysol i bobl o bob gallu. Yn olaf, roedd y sesiynau’n cael eu harwain gan bobl ifanc. Bob wythnos bydden nhw’n dewis pa faes yr hoffen nhw ddysgu mwy amdano ac yn rhannu eu syniadau ynghylch pa weithgareddau y gallem ni eu cyflawni.
Wrth inni barhau yn awr i gynllunio a chyflwyno mwy o ddarpariaethau wyneb yn wyneb i bobl ifanc, mae’r dull darparu ar-lein wedi camu o’r neilltu. Fodd bynnag, mae’r perthnasoedd yr ydym wedi’u meithrin wedi caniatáu inni gynnal cynifer o gysylltiadau cadarnhaol gyda phobl ifanc a rhoi iddyn nhw yr hyder i fynd i’n sesiynau wyneb yn wyneb cymunedol a thargededig. Gallwn hefyd fynd yn ôl at ein sesiynau ar-lein pan fydd y tywydd yn rhy erchyll.