CGA / EWC

Accreditation banner
Tîm Digartrefedd Ieuenctid
Tîm Digartrefedd Ieuenctid

Quality Mark Logo All 3 Levels

Sefydliad: Gwasanaeth Ieuenctid Sir Benfro

Darpariaeth: Tîm Digartrefedd Ieuenctid

Pobl gyswllt: David Walker/Nick Hudd

 

 

 

Nodwyd bod angen sefydlu’r tîm yn wreiddiol trwy lwybrau ymgysylltu ag addysg, hyfforddiant a chyflogaeth. Nododd pobl ifanc oedd yn defnyddio ein cymorth yn yr ardal hon bod anawsterau o ran tai a digartrefedd yn rhwystrau amlwg iddynt gael Addysg, Hyfforddiant a Chyflogaeth. Felly aethom ati i lunio proffil o’n cymuned o’r safbwynt hwn. Gwnaeth hynny ein helpu i ganfod ble roedd y diffygion yn lleol yn nhermau gwybodaeth, cymorth ac arweiniad. Wedi cael gwybodaeth trwy’r broses hon a thrwy weithio gyda phobl ifanc a phartneriaid o sectorau eraill fel Tai a Gofal Cymdeithasol, roeddem yn gallu llunio gwasanaeth ar sail ein sgiliau a’n hadnoddau a’n gallu ein hunain i ddiwallu’r anghenion dynodedig.

O ganlyniad, mae Tîm Digartrefedd Ieuenctid Sir Benfro yn hwyluso gwasanaeth addysg, atal a chymorth integredig ym maes Digartrefedd Ieuenctid; yn codi ymwybyddiaeth o faterion a ffactorau cyfrannol ym maes digartrefedd; yn cynnig cyfleoedd i bobl ifanc ddatblygu’r sgiliau sy’n ofynnol i fyw’n annibynnol; yn cynnig cymorth fel y bo’r angen a llety â chymorth er mwyn cynorthwyo’r rhai sy’n gwneud y newid hwn.

Mae llawer o ffactorau’n rhwystrau i bobl ifanc bontio’n llwyddiannus i fyw’n annibynnol. Er enghraifft, mae’r rhai sydd: â phrofiad o ofal, o’r gymuned LHDTC+; ffoaduriaid neu geiswyr lloches; wedi ymddieithrio o addysg, yn fwy tebygol o wynebu heriau a all gyfrannu at ddigartrefedd.

Mae gan y bobl ifanc hynny sydd â phrofiad byw o’r materion hyn, neu sydd â’r wybodaeth ddiweddaraf am lywio’u ffordd trwy broses newid o’r fath, safbwynt, gwybodaeth a phrofiadau gwerthfawr sy’n ein helpu ni i adnabod anghenion penodol, cynllunio cymorth priodol a gwerthuso ein dulliau.

Rydym yn defnyddio egwyddorion gwaith ieuenctid craidd er mwyn galluogi hyn. Rydym yn ymgynghori’n rheolaidd â’r rhai sydd â phrofiad o’r fath, gan gynnal deialog agored a dangos sut mae adborth o’r fath yn dylanwadu ar brosesau eraill. Rydym yn cynnwys pobl ifanc yn y gwaith o ddylunio deunyddiau ac adnoddau dysgu er mwyn sicrhau eu bod yn berthnasol ac yn ddealladwy. Rydym yn cynnig cyfleoedd a phlatfformau i chwyddo eu lleisiau, ac adeiladu eu sgiliau a’u hyder er mwyn iddynt allu siarad â chynrychiolwyr o sectorau eraill. Rydym hefyd yn rhoi cyfle i’r cyfranogwyr gynllunio a chyd-hwyluso sesiynau wyneb-yn-wyneb, a gwerthuso’r darpariaethau hyn.

Cyfranogol – mae pobl ifanc yn rhannu’r cyfrifoldeb am wneud penderfyniadau, cyfleoedd dysgu, a datblygu adnoddau a sgiliau.

Addysgol - mae pobl ifanc yn dysgu’r sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth sy’n gysylltiedig â byw’n annibynnol drwy ymgysylltu mewn gweithdai heb fod yn ffurfiol, mewn ysgolion a darpariaethau gwaith ieuenctid eraill, trwy blatfform digidol a thrwy ddysgu dirprwyol, lle mae pobl ifanc yn rhannu eu profiadau trwy sesiynau gwaith grŵp.

Hefyd caiff pobl ifanc y cyfle i ddysgu sgiliau newydd o ran cynhyrchu deunyddiau dysgu, fideos a datblygu platfformau digidol newydd mewn gweithdai heb fod yn ffurfiol.

Mynegiannol – sicrhau bod barn, syniadau, emosiynau a dyheadau pobl ifanc yn llywio gweithgareddau ac adnoddau, a hefyd yn cael eu rhannu ag eraill.

Grymusol – Trwy eu cynnwys ym mhob agwedd, caiff cyfranogwyr y cyfle i ddatblygu’r sgiliau a gwybodaeth, sy’n galluogi rhai ohonynt i gymryd rôl arweiniol, o ran y mentrau hyn ac o ran mynd i’r afael â materion eraill.

Cynhwysol - Mae’r dull yn galluogi’r cyfranogwyr i ddatblygu gwybodaeth, dealltwriaeth ac agweddau ac ymddygiad cadarnhaol mewn perthynas â: hil, hunaniaeth ddiwylliannol ac amrywiaeth; ieithoedd gwahanol, cymdeithas, dinasyddiaeth a pharch at bobl eraill a’u dewisiadau.

Mae’r ffactorau sy’n cyfrannu at ddigartrefedd ieuenctid yn rhai eang, ac mae angen i bobl ifanc gael cymorth a datblygiad sgiliau ar adeg sy’n hwylus iddynt. Felly roedd yn rhaid inni edrych ar amrywiaeth o ddulliau er mwyn cynnig addysg, cyfleoedd i wella sgiliau a chymorth. Mae manteisio ar y rhain, ar yr un pryd â mynd trwy newid mor fawr a cheisio cynnal neu wasanaethu ymrwymiadau eraill fel gwaith neu goleg, yn gallu bod yn her. Dysgasom yn fuan fod yn rhaid ystyried platfformau eraill oedd yn ategu ein gwaith wyneb yn wyneb.

O ganlyniad, rydym wedi gweithio gyda phobl ifanc i ddatblygu Amgylchedd Dysgu Rhithwir. Mae hwn yn ei gwneud yn bosibl cyrchu amrywiaeth o’r gwasanaethau a chymorth hyn ac ar adeg sy’n addas i’r unigolyn mewn fformat y gall uniaethu ag ef (gan fod y cynnwys yn cael ei ddylunio gan, ar gyfer a gyda phobl ifanc sydd â phrofiad byw o faterion o’r fath). Hyd yma:

  • Mae 168 o weithwyr proffesiynol wedi cwblhau ein hyfforddiant Ymwybyddiaeth o Ddigartrefedd Ieuenctid. Creu dealltwriaeth gyffredin o’r cyd-destun lleol a gwella’r rhagolygon ar gyfer cydweithio yn y dyfodol (ac ar yr un pryd rhoi i bobl ifanc lais sy’n darparu gwybodaeth i ymarferwyr proffesiynol eraill).
  • Mae mwy na 500 o ddisgyblion ysgolion uwchradd wedi cael sesiynau codi ymwybyddiaeth o ddigartrefedd, gan addysgu pobl ifanc am y ffactorau cyfrannol a all o bosibl arwain at ddigartrefedd a’r llwybrau cymorth a all osgoi hynny.
  • Mae 11 pecyn cychwynnol wedi cael eu dosbarthu i bobl ifanc sy’n gadael llety dros dro, gan eu helpu i bontio i fyw’n annibynnol a lleihau risgiau tor tenantiaeth cysylltiedig â thlodi.
  • Mae 184 o gelfi wedi cael eu dosbarthu i 25 o bobl ifanc fel rhan o’n prosiect ‘Symud Ymlaen’ gan leihau risgiau tor tenantiaeth cysylltiedig â thlodi.
  • Mae 86 o ddefnyddwyr unigol wedi cofrestru gyda’r Amgylchedd Dysgu Rhithwir gan gwblhau 108 o fodiwlau a 1808 o weithgareddau a gynlluniwyd i roi iddynt y sgiliau mae eu hangen i gynnal tenantiaethau a llwyddo i fyw’n annibynnol.
  • Mae 6 pherson ifanc (deiliadaeth 100% ar hyn o bryd) wedi cael eu cynorthwyo mewn llety â chymorth.
  • Mae 34 o bobl ifanc wedi cael cymorth fel y bo’r angen.

O ganlyniad i sefydlu’r tîm hwn a’r ymagwedd mae’n ei mabwysiadu;

  • Mae prosesau mwy cydweithredol ar draws asiantaethau wedi cael eu datblygu sy’n cynnig cymorth i bobl ifanc ac yn cydnabod y rhan y gall y gwasanaeth ieuenctid ei chwarae fel broceriaeth.
  • Yn awr mae gan bobl ifanc nifer o blatfformau/cyfryngau y gellir eu defnyddio i gynyddu eu llais yn ogystal â darparu gwybodaeth i benderfynwyr a dylanwadu arnynt mewn perthynas â’r materion cysylltiedig sy’n effeithio arnynt.
  • Mae ymarferwyr ar draws proffesiynau eraill wedi meithrin gwell dealltwriaeth o ddigartrefedd ieuenctid trwy ein hyfforddiant ymwybyddiaeth. Mae hyn wedi creu dealltwriaeth gyffredin o’r cyd-destun lleol a gwella’r rhagolygon ar gyfer cydweithio yn y dyfodol.
  • Yn awr mae gan bobl ifanc â phrofiad byw o’r materion cysylltiedig nifer o ffyrdd ar gael i ddefnyddio eu profiadau i roi gwybodaeth i eraill (gan wneud yr ymagwedd yn fwy cynaliadwy a pherthnasol).
  • Mae cynnwys pobl ifanc fel rhanddeiliaid cyfartal a buddsoddi mewn gwella eu sgiliau yn golygu bod rhwydwaith cymorth gan gymheiriaid yn ategu’r cyfleusterau sy’n bodoli eisoes.

Fel y dywedwyd eisoes, mae llawer o ffactorau a allai rwystro pobl ifanc rhag pontio’n llwyddiannus i fyw’n annibynnol. Er enghraifft, rhai sydd: â phrofiad o ofal; o’r gymuned LHDTC+; ffoaduriaid neu geiswyr lloches; wedi ymddieithrio o addysg. Mae'r ymagwedd hon yn galluogi’r cyfranogwyr i ddatblygu gwybodaeth, dealltwriaeth ac agweddau ac ymddygiad cadarnhaol mewn perthynas â: hil, hunaniaeth ddiwylliannol ac amrywiaeth; ieithoedd gwahanol, y gymdeithas, dinasyddiaeth a pharch at bobl eraill a’r dewisiadau maent yn eu gwneud.

Mae'r prosiect yn dal i gael ei gyflawni ac yn mynd o nerth i nerth. Trwy wreiddio’r ymagwedd gwaith ieuenctid, a ddisgrifir uchod, mae’r prosiect:

  • Wedi’i addasu i ddiwallu anghenion pobl ifanc wrth iddynt newid ac yn aros yn berthnasol.
  • Yn gynaliadwy, oherwydd mae cynnwys pobl ifanc a’u rôl ym mhob agwedd ar y prosesau cysylltiedig yn golygu bod y llwyth gwaith yn cael ei rannu rhwng yr holl randdeiliaid.
  • Yn mynd i’r afael â diffygion lleol sy’n cael eu canfod gan yr ymagwedd gydweithredol ganlyniadol.

I gael mwy o wybodaeth ewch i:

https://youtu.be/DYILj7j6zBM
https://youtu.be/K9Mf1r2aXdM

Os ydych eisiau dysgu mwy gan y tîm anfonwch neges e-bost at:

This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it.
This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it.

Neu ewch i:

https://www.facebook.com/PembsCYPRO/

 Pembs