CGA / EWC

Registration
Gwybodaeth i hyfforddeion blwyddyn olaf ac ymarferwyr newydd gymhwyso
Gwybodaeth i hyfforddeion blwyddyn olaf ac ymarferwyr newydd gymhwyso

Rydym yn cynnal sesiynau hyfforddi mewn sefydliadau hyfforddiant cychwynnol athrawon i sicrhau bod hyfforddeion ac ymarferwyr newydd gymhwyso yn gwybod beth mae angen iddynt ei wneud fel y gallant weithio yng Nghymru.

Mae’r rhain yn digwydd rhwng mis Medi a mis Mehefin, ac rydym yn argymell yn gryf eich bod chi’n mynd iddynt.

Mae’r sesiynau hyn:

  • yn rhoi cyflwyniad i Gyngor y Gweithlu Addysg (CGA) a’n rôl yn y sector addysg yng Nghymru
  • yn esbonio pam mae cofrestru gyda CGA yn ofyniad cyfreithiol i ymarferwyr addysg sydd am weithio yng Nghymru
  • yn archwilio priodoldeb i ymarfer, gan ganolbwyntio ar ymddygiadau disgwyliedig ymarferwr cofrestredig, fel y mae’r Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol yn eu disgrifio

Dylech gysylltu â thiwtor eich cwrs i gael gwybodaeth am pryd mae’r sesiwn hon yn cael ei chynnal yn eich sefydliad.

Rydym yn annog pob myfyriwr i ddod i’r sesiwn sy’n cael ei threfnu fel y gallwn ateb unrhyw ymholiadau sydd gennych yn uniongyrchol. Os na allwch ddod i’r sesiwn, darllenwch y canllaw rhagarweiniol i gofrestru a baratowyd gennym, sy’n dweud wrthoch: