EWC Logo

Fitness to practise banner
Canllawiau arfer da
Canllawiau arfer da

I ategu’r Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol , rydym yn cyhoeddi nifer o ganllawiau ymarfer da i gefnogi cofrestreion mewn nifer o feysydd allweddol.

Iechyd meddwl a lles

Mae'r canllaw hyn wedi ei greu ar y cyd ag elusen Education Support, i helpu cofrestreion i ofalu am eu hiechyd meddwl a'u lles eu hunain.

Arweinwyr mewn addysg

Datblygwyd y canllaw hwn yn benodol i arweinwyr addysg a bydd yn ddefnyddiol i bobl mewn rolau arwain uwch a chanol. 

Mynd i’r afael â hiliaeth

Mae hwn yn cynnwys arweiniad ar ffyrdd o sicrhau bod eich ymddygiad a’ch ymarfer yn gynhwysol ac yn creu awyrgylch lle mae dysgwyr, pobl ifanc a chydweithwyr yn teimlo bod croeso iddynt, ni waeth beth yw eu hil neu eu hethnigrwydd. Hefyd, mae’n cynorthwyo pob cofrestrai i amlygu a mynd i’r afael â hiliaeth. Caiff y canllaw hwn ei gymeradwyo gan Rwydwaith BAMEed Cymru a Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth.  

Proffesiynoldeb ar waith

Mae’r canllaw hwn yn amlygu pwysigrwydd proffesiynoldeb fel cofrestrai gyda CGA a’ch ymrwymiad i gynnal ffydd a hyder y cyhoedd yn eich sector.  

Bod yn agored ac yn onest fel gweithiwr proffesiynol addysg

Nod y canllaw hwn yw helpu i godi eich ymwybyddiaeth a’ch dealltwriaeth o feysydd allweddol eich bywyd proffesiynol a phersonol lle y mae disgwyl i chi fod yn agored ac yn onest.  

Perthnasoedd gwaith cadarnhaol

Er eich bod yn treulio’r rhan fwyaf o’ch amser, gofal a sylw ar feithrin perthnasoedd gwaith cadarnhaol â dysgwyr, mae’r un mor bwysig meithrin perthnasoedd gwaith da â chydweithwyr.  

Ffiniau proffesiynol gyda dysgwyr

Dylai’r ffordd rydych chi’n uniaethu â dysgwyr gynnwys cydbwysedd gofalus rhwng ymgysylltu proffesiynol a phellter proffesiynol wrth ddelio â dysgwyr. Ond mae’n bosibl croesi’r ffiniau diffiniedig yn ddiarwybod. Sut rydych chi’n cynnal y cydbwysedd hwn.

Defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol yn gyfrifol

Gall y cyfryngau cymdeithasol gynnig llawer o fuddion i chi fel ymarferydd addysg. Fodd bynnag, mae canlyniadau difrifol iawn posibl os cânt eu defnyddio’n ddidaro. Mae’r canllaw hwn yn eich helpu i’w hosgoi.  

Profi, asesu, cynnal arholiadau, a goruchwylio

Mae’r canllaw hwn yn ymwneud â rheoli eich cyfrifoldeb i ymddwyn yn onest wrth fesur cynnydd dysgwyr.  

‘Cyffwrdd priodol’, trin, ac atal

Mae cyffwrdd â dysgwyr yn briodol, a’u trin a’u hatal yn briodol yn angenrheidiol a chymesur, weithiau, yn y gweithle. Ond weithiau, gall pethau fynd o le. Mae’r canllaw hwn yn eich helpu i wneud y penderfyniad gorau ar gyfer sefyllfa.  

Hyfforddiant

Rydym yn cynnig sesiynau hyfforddiant sy’n canolbwyntio ar y Cod, ar briodoldeb i ymarfer ac ar y canllawiau ymarfer da hyn. Os hoffech chi neu eich cyflogwr drefnu sesiwn, anfonwch e-bost at Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld..