CGA / EWC

Fitness to practise banner
Canllaw arfer da: Defnyddio cyfryngau cymdeithasol yn gyfrifol
Canllaw arfer da: Defnyddio cyfryngau cymdeithasol yn gyfrifol

Lawrlwytho  Canllaw arfer da: Defnyddio cyfryngau cymdeithasol yn gyfrifol

Cyflwyniad

Mae cyfryngau cymdeithasol yn fodd i bobl gysylltu a rhannu gwybodaeth ar-lein. Maen nhw’n caniatáu i ddefnyddwyr greu a rhannu cynnwys, rhyngweithio ag eraill trwy sylwadau a negeseuon, a chael gwybod beth mae pobl eraill yn ei wneud. Mae’r term yn cynnwys gwefannau ac apiau, yn ogystal â negeseuon e-bost, negeseuon testun, a negeseua gwib.

Er bod cyfryngau cymdeithasol yn gallu darparu buddion addysgol niferus i gofrestreion a dysgwyr, mae’n faes lle y ceir risgiau sylweddol hefyd. Nod y canllaw hwn yw eich helpu i wneud y penderfyniadau iawn wrth ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol, a gwella’ch gallu i aros yn gysylltiedig ac yn ddiogel ar-lein.

Nid canllawiau rheoleiddiol na gorfodol mo’r rhain. Cynhwyswyd senarios i’ch helpu i feddwl am rai o’r materion a allai godi a’u harchwilio, a sut gallai ein cyngor fod yn berthnasol. Rydym hefyd wedi cynnwys enghreifftiau o arferion annerbyniol lle mae’n amlwg y croeswyd ffiniau proffesiynol.

Y Cod

Mae holl gofrestreion Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) yn ddarostyngedig i’r Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol (y Cod) sy’n amlinellu’r egwyddorion ymddygiad ac ymarfer da allweddol a ddisgwylir ganddynt. Dylid darllen y canllaw hwn ar y cyd â’r Cod.

Yr egwyddorion a’r disgwyliadau yn y Cod sy’n cyfeirio at gyfryngau cymdeithasol yw:

1. Cyfrifoldeb Personol a Phroffesiynol

Mae cofrestreion:

1.1 yn cydnabod eu cyfrifoldeb personol fel model rôl a ffigur cyhoeddus, i gynnal ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd yn y proffesiynau addysg, a hynny yn y gweithle a thu allan iddo
1.2 yn cynnal perthnasau gyda dysgwyr a phobl ifanc mewn modd proffesiynol, drwy:

  • defnyddio pob math o ddull cyfathrebu mewn modd priodol a chyfrifol, yn arbennig y cyfryngau cymdeithasol
  • cynnal ffiniau proffesiynol

2. Unplygrwydd Proffesiynol

Mae cofrestreion:

2.1 yn atebol am eu hymddygiad a’u cymhwysedd proffesiynol

Mae’r Cod yn bwynt cyfeirio pwysig. Meddyliwch am y pum egwyddor allweddol a’r disgwyliadau maen nhw’n eu gosod arnoch. Bydd y Cod yn eich helpu i wneud y penderfyniadau iawn pan fyddwch yn wynebu’r heriau yr ymdrinnir â nhw yn y canllaw hwn.

Mae’r Cod ar gael ar ein gwefan.

Defnyddio cyfryngau cymdeithasol heddiw: peryglon a maglau

Mae’r ffordd y mae plant, pobl ifanc, ac oedolion yn dysgu wedi newid yn sylweddol yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Nid yw cyfryngau cymdeithasol, fel offeryn cyfathrebu, erioed wedi bod mor berthnasol. Does dim amheuaeth y buont o fudd i nifer sylweddol o ddysgwyr, pobl ifanc, a chofrestreion yn ystod y pandemig COVID-19. Wedi dweud hynny, mae heriau’n wynebu cofrestreion o hyd.

Yr her fwyaf cyffredin yw bod cyswllt ar-lein yn gallu annog deialog anffurfiol, a chymylu’r ffiniau rhwng bywyd cyhoeddus a phreifat. Mae’n rhaid i chi gofio nad yw’r safonau a ddisgwylir gennych fel cofrestrai CGA yn newid pan fyddwch ar-lein.

Gall ymddygiad ar-lein arwain at weithredu sifil neu droseddol hefyd, ac mae deddfau hawlfraint a difenwi’n berthnasol o hyd.

Ystyriwch y ffeithiau preifatrwydd a chyfrinachedd canlynol:

  • pan fyddwch yn postio, byddwch wedi colli rheolaeth ar y wybodaeth/data rydych wedi’i rannu
  • mae unrhyw bostiad, sylw, neges, neu weithred wedi’i rannu’n/rhannu’n barhaol
  • gellir tynnu sgrin lun o’ch postiadau, eu copïo, eu rhannu, a’u hadalw, hyd yn oed os ydynt wedi’u dileu
  • mae eitemau sydd wedi’u dileu yn aros ar weinyddion
  • mae chwilotwyr pwerus yn casglu a storio ein data, nid ydych yn gwybod beth sy’n cael ei adalw, ei weld, na’i archifo
  • nid oes y fath beth â phreifatrwydd llwyr, nac anhysbysrwydd
  • gallai cyflogwyr, rhieni, dysgwyr, a phobl ifanc chwilio am eich cyfrifon cyfryngau cymdeithasol
  • gallai unrhyw un eich recordio, hyd yn oed yn y gwaith
  • mae’n rhwydd torri cyfrinachedd heb sylweddoli, gallai sylwadau ar wahân gael eu cyfuno i adnabod dysgwr, person ifanc, neu riant

Cynyddu eich ymwybyddiaeth gyffredinol

I’ch helpu i ddeall sut mae defnyddio cyfryngau cymdeithasol yn gallu bwrw amheuaeth ar eich proffesiynoldeb, fe’ch atgoffwn o egwyddorion sylfaenol defnydd cyfrifol isod. Dylai’r pwyntiau cyngor pwysig canlynol eich helpu i wneud y penderfyniadau iawn, a’ch amddiffyn o ddydd i ddydd.

Meddyliwch cyn postio unrhyw beth, gwneud sylwadau ar unrhyw beth, neu ymuno ag unrhyw beth ar-lein.

Gweithredwch yn gyfrifol:

  • mae’r hyn rydych chi’n ei rannu’n adlewyrchu arnoch chi, eich cyflogwr, a’ch proffesiwn
  • byddwch yn ymwybodol bod pobl eraill yn gallu tynnu sgrin lun o’ch postiadau, eu rhannu, a’u copïo
  • amddiffynnwch eich enw da proffesiynol, meddyliwch am eich delwedd ar-lein

Byddwch yn ofalus gyda phwy neu beth rydych chi’n cysylltu ar-lein:

  • gwnewch yn siŵr fod eich gwybodaeth a’ch data personol yn ddiogel, byddwch yn ofalus beth rydych chi’n ei rannu
  • peidiwch â derbyn ceisiadau cyfeillgarwch neu geisiadau i ddilyn gan ddysgwyr/pobl ifanc, na rhannu unrhyw ddata cyswllt personol
  • peidiwch â thrafod dysgwyr, pobl ifanc, rhieni, cydweithwyr, rheolwyr, na’ch gweithle
    Peidiwch â bod yn hunanfodlon:
  • defnyddiwch osodiadau preifatrwydd a diogelwch ar eich cyfrifon cyfryngau cymdeithasol ar-lein, a gwiriwch nhw’n rheolaidd
  • peidiwch â rhannu cyfrineiriau na dyfeisiau
  • archwiliwch eich presenoldeb cyfryngau cymdeithasol, olrheiniwch ble mae’ch data

Dilynwch y canllawiau, maen nhw yno i’ch amddiffyn:

  • cydymffurfiwch â pholisïau cyflogwyr, gweithdrefnau, a’r Cod
  • defnyddiwch sianeli cyfathrebu swyddogol yn unig, cadwch gyfrifon personol a phroffesiynol ar wahân
  • gwnewch yn siŵr eich bod yn deall manteision ac anfanteision y cymwysiadau rydych chi’n penderfynu eu defnyddio

Gofynnwch i’ch hun a fyddech yn fodlon petai’r cynnwys rydych chi ar fin ei bostio’n cael ei rannu’n eang yn gyhoeddus, fel y gallai gael ei weld gan unrhyw un, gan gynnwys eich cyflogwr a phobl nad ydych chi’n eu hadnabod?

Os ‘na’, mae’n adeg dda i feddwl yn ofalus iawn am ein canllawiau uchod.

Os byddwch yn gwneud camgymeriad ar-lein, ceisiwch gyngor a chymorth cyn gynted â phosibl gan eich rheolwr llinell, undeb llafur, neu o leiaf rywun rydych yn ymddiried ynddo. Yn aml, gall ymyrraeth gynnar fod yn amhrisiadwy.

Gan fod pob proffesiwn yn destun mwy o graffu ar-lein erbyn hyn, nawr yw’r amser i feddwl yn ofalus am eich ymddygiad ar-lein.

Torri Cod CGA

Mae’r isod yn enghreifftiau o achosion lle mae cofrestreion (o’r holl gategorïau cofrestreion) wedi bod yn destun achos disgyblu CGA o ganlyniad i ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol yn amhriodol a/neu’n annoeth.

Ym mhob achos, torrwyd y Cod yn glir a rhoddwyd ystod o gosbau disgyblu i’r cofrestreion, gan gynnwys, mewn rhai achosion, eu gwahardd rhag ymarfer yn y gweithlu addysg yn y dyfodol.

Roedd cofrestrai wedi:

  • postio delweddau pornograffig ohono’i hun ar ei gyfrif Twitter personol
  • ymwneud â pherthynas rywiol â dysgwr a ddechreuodd gyda chyfathrebu trwy ffôn symudol a negeseuon testun â chynnwys rhywiol
  • gwneud sylwadau ar bostiadau grŵp Facebook a oedd yn cynnwys elfen grefyddol sarhaus
  • dangos ei wefan gwerthu teganau rhyw ei hun i’w fyfyrwyr
  • anfon cyfres o negeseuon rhywiol cignoeth at berson ifanc trwy Facebook a Skype, gyda’r bwriad o gael perthynas
  • cael ei ddal â channoedd o ddelweddau anweddus wedi’u lawrlwytho ar ei gyfrifiadur gwaith
  • postio sylwadau amhriodol ynglŷn ag yfed a phartïon gyda nifer o ddysgwyr fel ‘ffrindiau’ ar Facebook
  • cael sylw helaeth yn y wasg pan gafodd y wasg afael ar ffotograffau a chlipiau fideo amhriodol a bostiwyd ar-lein yn flaenorol
  • defnyddio cyfrif eBay i werthu nwyddau ffug yn anghyfreithlon
  • aildrydar, a thrwy hynny, gwneud sylw sarhaus ynglŷn â dioddefwr trosedd ddifrifol, a chafodd ei erlyn am yr aildrydariad hwnnw wedi hynny
  • esgus bod yn berson ifanc ar-lein a gwneud adroddiad anwir am gamdriniaeth i linell gymorth elusen ynglŷn ag uwch aelod o staff

Cymorth ychwanegol

Rydym yn cynnig cyflwyniadau sy’n canolbwyntio ar briodoldeb i ymarfer a defnydd cyfrifol o gyfryngau cymdeithasol. Os hoffech chi neu’ch cyflogwr drefnu un yn y gweithle, cysylltwch â ni.