CGA / EWC

Accreditation banner
Prosiect Gwaith Ieuenctid Datgysylltiedig Brymbo, yn cynnwys Mainc Dickies
Prosiect Gwaith Ieuenctid Datgysylltiedig Brymbo, yn cynnwys Mainc Dickies

Quality Mark Logo All 3 LevelsSefydliad: Gwasanaeth Ieuenctid Wrecsam

Darpariaeth: Prosiect Gwaith Ieuenctid Datgysylltiedig Brymbo, yn cynnwys Mainc Dickies

Person cyswllt: Richard Thomas

Mae tîm Datgysylltiedig Brymbo yn gweithredu dan Gytundeb Lefel Gwasanaeth rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Chyngor Cymuned Brymbo. Nod y prosiect yw cynorthwyo pobl ifanc trwy ymyrraeth gwaith ieuenctid, gan ddatblygu gwasanaethau lle gall pobl ifanc gyfarfod a chymdeithasu’n rheolaidd.

Mae pobl ifanc wedi chwarae rhan ganolog yn y gwaith o gyflawni’r rhaglen ym Mrymbo. Datblygodd “Mainc Dickies” oherwydd bod y bobl ifanc wedi gofyn am le i siarad yn gyfrinachol â’r staff. Datblygodd y fainc yn naturiol – mae’n fainc mewn parc a “fabwysiadwyd” gan y bobl ifanc yn ymyl y man chwaraeon amlddefnydd yn y gymuned. Os oes angen cymorth neu sgwrs gyfrinachol ar bobl ifanc, maen nhw’n eistedd ar y fainc ac mae’r gweithwyr yn gwybod bod angen iddynt gamu i mewn.

Mae Mainc Dickies yn caniatáu i bobl ifanc ofyn am gymorth, hyd yn oed os nad ydynt eisiau gofyn amdano yn arbennig. Weithiau mae angen ychydig o gymorth ar y bobl ifanc a dydyn nhw ddim eisiau gofyn amdano’n agored. Hefyd, pan fydd pobl ifanc gyda’u grŵp o gyfoedion, efallai na fyddan nhw eisiau i bawb gymryd rhan yn y sgwrs. Mae mainc Dickies yn ddigon agos i’r man chwarae amlddefnydd i staff beidio â chael eu hynysu, ond yn ddigon pell i ffwrdd i hwyluso sgyrsiau cyfrinachol.

Mae mainc Dickies yn rhan ganolog o gyflenwi gwasanaethau ieuenctid ym Mrymbo, ac yn ganolbwynt o’r ddarpariaeth yn yr ardal..

Mae mainc Dickies yn caniatáu i bobl ifanc drafod unrhyw faterion sy’n effeithio arnynt. Mae’n cynnig digon o breifatrwydd ar gyfer sgyrsiau cyfrinachol, yn ogystal â chynnal y cysyniad o barhau i fod yn rhan o grŵp mwy o faint. Mae pobl ifanc (fel sy’n wir am ddarpariaeth mewn adeilad) yn rhydd i drafod unrhyw faterion sy’n effeithio arnynt, ac mae’n caniatáu i aelodau o’r staff gynnig arweiniad/cymorth, a’u cyfeirio at wasanaethau eraill os oes angen.

Mae mainc Dickies wedi bod yn fuddiol wrth ddarparu tystiolaeth y gall pobl ifanc ymaddasu i amrywiaeth o ddulliau gwaith ieuenctid ac wrth ymdrin â nifer o faterion pwysig sy’n effeithio ar bobl ifanc.

Mae mainc Dickies wedi cynnig y cyfle i bobl ifanc gael cymorth ar nifer o faterion gan gynnwys…

  • Iechyd rhywiol a chyngor
  • Gwybodaeth am gamddefnyddio cyffuriau/ sylweddau
  • Unigrwydd ac Ynysigrwydd
  • Pryderon o bob math ynghylch COVID, gan gynnwys profedigaeth.
  • Weithiau caiff taflenni eu gadael ar fainc Dickies wedi i bobl ifanc ofyn am wybodaeth yr hoffent ei darllen ar eu pennau eu hunain.

Bydd mainc Dickies yn parhau cyhyd â bod ei hangen, ac yn goroesi cyhyd â’r bartneriaeth

I gael mwy o wybodaeth, anfonwch neges e-bost at neu ewch i:

https://www.facebook.com/centralwrexhamyouthservices/

https://twitter.com/youngwrexham?lang=en

https://twitter.com/wrexhamsenedd?lang=en

Screenshot 2021 07 14 160459   wrexham cbc 500x500 thumb