CGA / EWC

Fitness to practise banner
Canllaw arfer da: Proffesiynoldeb wrth ymarfer
Canllaw arfer da: Proffesiynoldeb wrth ymarfer

Lawrlwytho  Canllaw arfer da: Proffesiynoldeb wrth ymarfer

Cyflwyniad

Proffesiynoldeb yw’r ymddygiad a ddisgwylir gan unigolyn proffesiynol. Mae’n disgrifio’r rhinweddau sy’n ofynnol gan y rhai sydd wedi’u hyfforddi ac sydd â’r sgiliau i gyflawni rolau penodol, nid dim ond o fewn y rolau penodol hynny, ond mewn cymdeithas yn gyffredinol.

Pan ddaethoch yn ymarferydd ym maes addysg yng Nghymru, gwnaethoch ymrwymiad i fod yn broffesiynol ym mhopeth rydych chi’n ei wneud a thrwy hynny, cyfrannu at gynnal ffydd a hyder y cyhoedd yn eich proffesiwn.

Nod y canllaw hwn yw helpu i gynyddu eich ymwybyddiaeth a’ch dealltwriaeth o feysydd allweddol sy’n ymwneud â phroffesiynoldeb yn eich bywyd proffesiynol a phersonol.

Nid canllawiau rheoleiddiol na gorfodol mo’r rhain. Cynhwyswyd senarios i’ch helpu i feddwl am rai o’r materion a allai godi a’u harchwilio, a sut gallai ein cyngor fod yn berthnasol. Rydym hefyd wedi cynnwys enghreifftiau o arferion annerbyniol lle mae’n amlwg y croeswyd ffiniau proffesiynol.

Y Cod

Mae holl gofrestreion Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) yn ddarostyngedig i’r Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol (y Cod) sy’n amlinellu’r egwyddorion ymddygiad ac ymarfer da allweddol a ddisgwylir ganddynt. Dylid darllen y canllaw hwn ar y cyd â’r Cod.

Mae’r holl egwyddorion a disgwyliadau yn y Cod yn berthnasol i broffesiynoldeb wrth ymarfer. Fodd bynnag, amlygwn y canlynol yn arbennig yn y canllaw hwn:

1. Cyfrifoldeb Personol a Phroffesiynol

Mae cofrestreion:

1.1 yn cydnabod eu cyfrifoldeb personol fel model rôl a ffigur cyhoeddus, i gynnal ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd yn y proffesiynau addysg, a hynny yn y gweithle a thu allan iddo
1.2 yn cynnal perthnasau gyda dysgwyr a phobl ifanc mewn modd proffesiynol
1.3 yn ymgysylltu â dysgwyr a phobl ifanc i annog hyder, grymuso, datblygiad addysgol a datblygiad personol
1.4 yn meddu ar ddyletswydd gofal dros ddiogelwch dysgwyr a phobl ifanc a’u llesiant corfforol, cymdeithasol, moesol, ac addysgol
1.5 yn ymwybodol o’u cyfrifoldeb personol dros iechyd, diogelwch a llesiant cydweithwyr, a throstyn nhw eu hunain
1.6 yn dangos ymrwymiad at gydraddoldeb ac amrywiaeth

2. Unplygrwydd Proffesiynol

Mae cofrestreion:

2.1 yn atebol am eu hymddygiad a’u cymhwysedd proffesiynol
2.2 yn ymddwyn yn onest, a chydag unplygrwydd

3. Cydweithio

Mae cofrestreion:

3.1 yn parchu, yn cynorthwyo, ac yn cydweithio gyda chydweithwyr, dysgwyr, pobl ifanc ac eraill i gyflawni’r deilliannau dysgu gorau
3.2 yn rhannu profiad a gwybodaeth i helpu eu hunain ac ymarferwyr eraill i ddatblygu a chynnal ymarfer gorau
3.4 yn cyfathrebu mewn modd priodol ac effeithiol gyda phob un sy’n gysylltiedig ag addysgu dysgwyr a phobl ifanc

4. Gwybodaeth a Dealltwriaeth Broffesiynol

Mae cofrestreion:

4.4 lle y bo angen, yn ceisio cymorth, cyngor, ac arweiniad, ac yn agored i adborth, gan ymateb iddo mewn modd cadarnhaol ac adeiladol

5. Dysgu Proffesiynol

Mae cofrestreion:

5.1 yn dangos ymrwymiad cyffredin i’w dysgu proffesiynol parhaus drwy fyfyrio am eu hymarfer a’i werthuso, gan sicrhau bod eu gwybodaeth a’u sgiliau proffesiynol yn gyfoes, a chymryd camau i wella’u hymarfer lle y bo angen

Mae’r Cod yn bwynt cyfeirio pwysig. Meddyliwch am y pum egwyddor allweddol a’r disgwyliadau maen nhw’n eu gosod arnoch. Bydd y Cod yn eich helpu i wneud y penderfyniadau iawn pan fyddwch yn wynebu’r heriau yr ymdrinnir â nhw yn y canllaw hwn.

Mae’r Cod ar gael ar ein gwefan.

Beth yw proffesiynoldeb wrth ymarfer?

Mae proffesiynoldeb yn eich ymarfer yn ymwneud â myfyrio ar eich gwerthoedd, moesau, a moeseg personol a phroffesiynol, a meddu ar yr hyder i wneud dyfarniadau cadarn, penderfyniadau gwybodus, ac ymddwyn yn briodol fel gweithiwr proffesiynol, a hynny weithiau mewn amgylchiadau heriol.

Chi sy’n gyfrifol am gynnal eich ymddygiad a’ch ymarfer proffesiynol eich hun ac mae hunanfyfyrio parhaus yn ganolog i gynnal eich proffesiynoldeb.

Mae llawer o nodweddion pwysig yn cyfrannu at broffesiynoldeb wrth ymarfer. Mae’r rhain yn cynnwys y canlynol, nad ydynt yn annibynnol ar ei gilydd:

Mae bod yn onest a dangos uniondeb yn golygu:

  • cadw’ch gair fel gweithiwr proffesiynol, ymddiriedir yn llwyr ynoch
  • peidio â pheryglu eich gwerthoedd
  • gwneud y peth iawn, hyd yn oed os yw hynny’n fwy anodd
  • bod yn atebol
  • bod yn ostyngedig, cyfaddef pan fyddwch wedi gwneud camgymeriad, neu angen cymorth a bod yn barod i ddysgu gan eraill
  • eich cynrychioli’ch hun yn onest ac yn gywir pan fyddwch, er enghraifft, yn gwneud cais am swydd neu’n rhyngweithio â’ch rheoleiddiwr
  • deall bod y cyhoedd yn ymddiried yn fawr ynoch fel gweithiwr addysgol proffesiynol, a chydnabod bod y cyhoedd, yn gyfnewid am hynny, yn disgwyl i chi weithredu â lefelau uchel o uniondeb, y tu mewn a’r tu allan i’r gwaith

Mae bod yn fodel rôl da yn golygu:

  • bodloni disgwyliadau trwy ddangos yn glir sut beth yw proffesiynoldeb wrth ymarfer ac arwain trwy esiampl
  • meddu ar god moesol a moesegol clir
  • deall bod yr hyn rydych chi’n ei ddweud a’i wneud yn eich bywyd preifat yn dylanwadu ar farn pobl amdanoch chi a’ch proffesiwn
  • dangos ymddygiadau ac agweddau cadarnhaol tuag at gydraddoldeb, amrywiaeth, a chynhwysiant
  • cefnogi cydweithwyr, dysgwyr, a phobl ifanc
  • dathlu llwyddiant personol a llwyddiant pobl eraill, a thrin pobl eraill â pharch
  • rhoi adborth ystyrlon ac adeiladol i bobl eraill
  • meddu ar ostyngeiddrwydd a pharodrwydd i gyfaddef camgymeriadau
  • datblygu pobl eraill a chefnogi pobl sydd mewn rolau uwch
  • adrodd am bryderon mewn modd proffesiynol os ydych yn credu nad yw pethau’n iawn
  • bod yn ddeallgar ac yn amyneddgar gyda’r rhai sy’n newydd i’ch proffesiwn neu sy’n dysgu sgiliau newydd

Mae bod yn ymarferydd myfyriol yn golygu:

  • meddu ar ymrwymiad personol i ddatblygu a gwella’ch sgiliau fel ymarferydd a’r wybodaeth arbenigol sy’n angenrheidiol i lwyddo yn eich rôl
  • cadw’ch gwybodaeth a’ch hyfforddiant yn gyfredol, fel y gallwch barhau i ddarparu’r profiadau dysgu gorau posibl
  • rhannu a lledaenu ymarfer wedi’i lywio gan dystiolaeth
  • chi sy’n gyfrifol am eich proffesiynoldeb ac ni ddylech fyth rhoi’r gorau i:
    • ddysgu
    • myfyrio
    • ceisio gwella

Mae bod yn hyderus ac yn gymwys yn eich proffesiynoldeb yn golygu:

  • er bod adegau anodd ym mhob proffesiwn, ac adegau pan allai eich hyder simsanu, cofiwch eich bod yn rhan o broffesiwn yr ymddiriedir ynddo sy’n eich cefnogi
  • bod yn ddibynadwy a chyflawni’r hyn a ddisgwylir gennych
  • rheoli disgwyliadau, peidio â gwneud esgusodion, a chanolbwyntio ar ddod o hyd i ddatrysiadau os bydd pethau’n mynd o chwith

Torri’r Cod

Mae’r isod yn enghreifftiau o achosion lle mae cofrestreion (o’r holl gategorïau cofrestreion) wedi methu â dangos proffesiynoldeb wrth ymarfer i raddau sylweddol pan oedd yn ofynnol, a buont yn destun achos disgyblu CGA o ganlyniad.

Ym mhob achos, torrwyd y Cod yn glir a rhoddwyd ystod o gosbau disgyblu i’r cofrestreion, gan gynnwys, mewn rhai achosion, eu gwahardd rhag ymarfer yn y gweithlu addysg yn y dyfodol.

Roedd cofrestrai wedi:

  • bwlio ac aflonyddu cydweithiwr trwy wneud sylwadau rhywiol o flaen cydweithwyr eraill a dysgwyr, a gyfiawnhawyd fel “cellwair yn unig”
  • ymddwyn mewn ffordd amhroffesiynol tuag at gydweithwyr, a oedd yn cynnwys colli ei dymer, gweiddi, a rhegi at staff, gwneud sylwadau bychanol a rhywiol
  • bwlio a bygwth staff yn gysylltiedig â pherfformiad yr ysgol yn y profion llythrennedd a rhifedd cenedlaethol
  • cyflawni gweithredoedd twyllodrus â gwaith dysgwyr a cheisio beio a chysylltu cydweithwyr eraill
  • methu dilyn cyfarwyddiadau rheolwyr, ceisio camarwain cydweithwyr, a rhoi gwybodaeth anghywir am ddysgwyr. Yn ogystal, ni chymerodd ran mewn cynllunio, cadw cofnodion, cynnydd dysgwyr, a gweithredodd yn anonest o ran gwaith dysgwyr
  • peledu dysgwr â negeseuon testun personol, galwadau, a negeseuon lluniau a oedd yn cynnwys sylwadau rhywiol ac amhriodol
  • gweithredu fel ‘cyfrinachwr’ i ddysgwr iau nag 16 oed a, phan sefydlwyd dibyniaeth emosiynol, dechreuodd berthynas rywiol
  • anfon neges e-bost ddifrïol at ddarpar gyflogwr ar ôl iddo fod yn aflwyddiannus mewn cyfweliad am swydd
  • rhannu gwybodaeth bersonol â dysgwr a thrafod dysgwyr eraill yn ogystal â chydweithwyr tra oedd yn cynnal perthynas rywiol, yn aml yng nghartref y cofrestrai ei hun
  • prynu alcohol i ddysgwyr a chyfnewid nifer fawr o negeseuon amhriodol â nhw trwy ystod o gymwysiadau cyfryngau cymdeithasol, gan ddweud wrthynt bob amser i’w dileu nhw
  • ymweld â dysgwr a’i rieni yn ei gartref sawl gwaith heb unrhyw reswm dilys nac awdurdod. Diben hyn oedd ennill eu hymddiriedaeth ac fel modd o allu datblygu perthynas â’r dysgwr
  • cymdeithasu â dysgwyr (yn ystafell wely dysgwr) ac yfed alcohol gyda nhw yn ystod taith addysgol

Cymorth ychwanegol

Rydym yn cynnig cyflwyniadau sy’n canolbwyntio ar briodoldeb i ymarfer. Os hoffech chi neu’ch cyflogwr drefnu un yn y gweithle, cysylltwch â ni.